Saturday 30 June 2012

Wythnos ym Mhenllyn

Mi gafodd M. a finnau wythnos wych yn aros yn ardal Rhydyclafdy ym Mhenllyn. Roedd hi'n wythnos gymdeithasol iawn oherwydd wnaethon ni ymweld â nifer o'n cyfeillion sef Marianne a Gerry o Sir Fôn, Joella o Gaerdydd a chyn bos M sy bellach yn byw yng Nghricieth.

Roedd digon o amser i gerdded ar hyd traeth Porth Neigwl, a hefyd i ymweld ag Abersoch, Llanbedrog, Plas Glyn-y-Weddw, Mynytho, Porthmadog a Phwllheli.Ar y dydd Mawrth wnaethon ni gwrdd â Joella a’i chariad er mwyn cerdded i fyny’r Eifl, neu i fod yn fanwl gywir 'Tre'r Ceiri' sef hen Fryngaer ger Llithfaen. Roedd golygfeydd gwych o fynyddoedd Yr Eiri, Sir Fôn i'r gogledd, pen llyn i gyd a draw dros y for Iwerddon, Bryniau Wicklow.
Mi wnes i hel llyfrau ail law yn y siopau elusennol o amgylch Pwllheli ac mi ges i gryn dipyn o lwyddiant. Felly mae'na 7 o lyfr yn aros i'w darllen ar fy silffoedd.

Arhoswn ni mewn 'bwythyn' o'r enw 'Tŷ Paul', ac i ddweud y gwir roedd hi'n gyfforddus a chlyd. Mi wnes i fachu ar y cyfle i orffen darllen Bywyd Kate Roberts a sawl cylchgrawn oedd wedi aros am sbel heb ei darllen.

Cawson ni dywydd braf o'r Dydd Sul tan y Dydd Iau pan ddaeth y glaw. Daethon ni yn ôl i Swydd Derby ar y dydd Sadwrn yn barod i ddychwelyd i'r drefn arferol.

Tuesday 5 June 2012

Cylch Meini, olion Rhufeinig a Cheltiaid cyfoes

Cawson ni dipyn o hwyl heddiw, Marilyn a fi, yn mynd am dro yn ardal y Peak efo ein ffrind Martin y dysgwr Cymraeg o Glay Cross.I ddechrau aethon ni o amgylch rhostir Stanton, ble mae olion o oes y cerrig sef cylch Meini'r Nine Maidens a sawl tŷ crwn yma ac acw ar ben y rhostir. Ar wahân i'r hen olion o oes y cerrig roedd pethau wedi'i gadael ymhlith canghennau’r coed gan baganaidd a Cheltiaid cyfoes, pethau megis cylch efo croes yn ei ganol i gyd wedi creu gan plethi brigyn at ei gilydd. Efallai pobl yn wersyllfa adeg Calan Mai neu Galan Gaeaf oedd yn gyfrifol. Roedd digon o bobl o gwmpas ac roedden ni'n lwcus ar ran y tywydd. Wedyn aethon ni draw i gaffi Siop llyfrau Scarthins yng Nghromford i gael rhywbeth bach i fwyta cyn mynd allan eto i fynd i weld hen bwll plwm o amser y Rhufeiniad yn ardal y Via Gellia a hefyd i weld pwll plwm arall o'r 19 canrif sef the Good Luck Mine. Ar ôl dringo i fyny’r dyffryn i weld y pwll ac yn ôl roedd y tywydd wedi troi ac roedd glaw man yn disgyn, felly daethon ni adref i gael panad a darn mawr o gacen.