Monday 15 October 2012


Y Prosiect Darllen 2012
Wrth gwrs dyw'r prosiect darllen dim wedi dod i ben eto. Dw i dal wrthi'n ceisio darllen llyfr Cymraeg / Cymreig bob mis. Mae'na gymysgedd go iawn o lyfrau ar y rhestr hyd yn hyn eleni sef
Nofelau
Traed Oer - Mari Emlyn
Pwll Ynfyd - Alun Cobb
Tair Rheol Anhrefn - Daniel Davies
Atsain y Tonnau - John Gwynne
Un diwrnod yn yr Eisteddfod - Robin Llywelyn
Afallon - Robat Gruffudd
Gofiant
'Kate Roberts' - Alan Llwyd,
Hunangofiant
O Ddyfri - Dafydd Wigley,
Dyddiadur
Mynd i'r Gwrych - y diweddaf Hafina Clwyd,
Sylwebaeth am Gymru gyfoes 
The Phenomena of Welshness - Siôn Jobbin,
Bred of Heaven - Jasper Rees.
Adloniant ysgafn
Hiwmor John Ogwen

Ar hyn o bryd mae gen i sawl llyfr ar y gweill megis Llen Gwerin gan T Llew Jones, Hoff Gerddi Cymru a dw i ar fin dechrau darllen mae Pawb yn Cyfri. Ar ben hyn i gyd dwi'n darllen sawl cylchgrawn a phapur yn wythnosol megis Y Cymro, Golwg, pethau misol megis Barn ac ambell hen bethau ail law fel dw i'n dod ar eu traws ar fy nheithiau.

Monday 1 October 2012


Mi ges i benwythnos hynod o brysur ers dydd Iau. Yn gyntaf, yn syth ar ôl gwaith mi wnes i yrru draw i Tarporley. Felly roedd hi'n 7 o'r gloch yr hwyr cyn i mi gyrraedd. Y bore wedyn gyrrais i i Samlesbury, ger Preston i nôl fy chwaer anabl (Anne). Roedd hi'n treulio'r penwythnos yn Tarporley fel mae hi'n wneud bob mis. Yn ystod y prynhawn mi aethon ni (fy nhad, ac Anne) draw i Holt, pentref bach ar y ffin dros y bont o Farndon pentref bach ar ochr Lloegr i'r bont sy'n croesi’r Afon Dyfrdwy rhwng y ddau bentref. Cawson ni baned a chacen yng nghaffi canolfan Garddio Bellis cyn mynd adref.


Ar Ddydd Sadwrn mi ges i ddiwrnod i'r brenin. Hynny yw, mi wnes i ymuno a changen gogledd ddwyrain Cymru Cymdeithas Edward Llwyd ar ymweliad i hen Lys Llywelyn Mawr a Llywelyn yr Olaf yn Abergwyngregyn. Enw presennol yr adeilad
 yw 'Pen bryn' ond yn amser y tywysogion Cymreig Garth Celyn roedd yr enw ar y Llys. Mae'na dipyn o ddadl rhwng carfan o bobl sy'n credu bod digon o dystiolaeth i gyhoeddi yn swyddogol bod y safle yn hen bencadlys a chartref i'r tywysogion a'r 'awdurdodau' hanes yng Nghymru sy dal i feddwl bod 'Garth Celyn' ar ryw safle arall. Gyda llaw 'Celyn' yn yr achos yma yn enw hen arweinydd y Cymry yn y 6ed canrif yn hytrach na llwyn 'celyn'.

Ar ol ymweliad i'r tŷ, gan gynnwys cael dringo i fyny’r twr aethon ni ymlaen i weld olion castell mot a bailey. Yn olaf, wnaeth y grŵp rhannu ceir i fynd i weld rhaeadr yn y dyffryn uwchben Abergwyngregyn, ar ol y holl law diweddar roedd y rhaeadr yn llifo yn ei holl ogoniant. ( Gwelir fideo  http://www.youtube.com/watch?v=zQ3Nr3hm5Qk&feature=youtu.be ). Roedd golygfeydd hyfryd o'r mynyddoedd a hefyd i lawr y dyffryn ar draws afon Menai i Sir Fôn. Roedd digon o amser ar ôl i daith i mi bicio draw i Landudno er mwyn ymweld â siop Trystan Lewis i gael ambell gylchgrawn a llyfr Cymraeg. Ar y Sul mi ges i ymlacio yn y bore cyn mynd ac Anne i Samlesbury a gyrru yn ôl i Belper. Dw i wedi amcangyfrif fy mod i wedi gyrru tipyn bach dros 500 milltiroedd ers dydd Iau.