Sunday, 28 September 2008

Haf bach Mihangel

Yr ydw i wedi cael pythefnos diddorol. Penwythnos yn ôl (19eg o Fedi) aeth y wraig a fi i sesiwn yn nhafarn 'Y Barley Mow' ar gyfer y sesiwn nos Wener.
Roedd hi'n wych efo digon o gerddorion fel arfer gan gynnwys pobl yn chwarea fidl, accordion, Melodeon, gitâr, bodhran a chwibanau. Gweler clip fideo. Yn ystod y nos nesa roedd y wraig a finnau'n perfformio efo ein band dawns gwerin, sef 'Tight Squeeze' mewn parti dathlu
pen-blwydd priodas ffrind yn Attenborough. Yn nol yn y gwaith dw i wedi bod yn teithio o gwmpas cefn gwlad a phentrefi Swydd Derby yn ymweld â gwirfoddolwyr sy'n helpu rhedeg cymdeithasau gwirfoddol bychain sy'n gweithredu yn y trydydd sector, gwaith digon dymunol ar y cyfan. Ar ddydd Gwener yr wythnos yma roeddwn i'n paratoi pob math o beth (arwyddion, ffurflenni cofrestru, bwyd, ac yn y blaen) ar gyfer yr Ysgol Undydd Cymraeg Derby.
Eleni roedden ni'n cynnal yr ysgol am y bedwaredd tro. Fel arfer roedd Elin Merriman yn athrawes i'r dechreuwyr pur, tra roedd Eileen Walker yn arwain y dosbarth canolradd. Roedd y dosbarth profiadol yn cael tri sesiwn gwahanol, sef Viv Harris yn son am idiomau Cymraeg, Beti Potter yn siarad am ardal ei magwraeth hi, sef dyffryn Conwy. Gan gynnwys gwirfoddolwyr ac athrawon roedd 33 ohonon ni'n bresennol. Niferoedd digon iachus faswn i'n dweud. Ar ôl cinio aeth y grŵp profiadol i drafod sut i hybu'r Gymraeg ymhlith dysgwyr a Chymry Cymraeg yr ochr yma i Glawdd Offa. Mae'n ymddangos bod'na sawl peth da ar y gweill. Mae'r dosbarthiadau WEA Cymraeg lleol wedi ailddechrau efo dosbarth i ddechreuwyr ac un arall i bobl ganolradd, mae'na si ar led am grŵp gwerthfawrogi barddoniaeth. Mae Elin Merriman yn gobeithio dechrau gweithdai misol dros benwythnosau ar gyfer dysgwyr yr iaith Cymraeg sy'n dysgu ar eu pennau eu hunan neu sy'n methu mynd i ddosbarth nos yn ystod yr wythnos. Hefyd roedd dipyn o drafod am ddechrau cyfarfod cymdeithasol misol mewn tafarndai yn yr ardal ar gyfer dysgwyr profiadol iawn a'r Cymry Cymraeg alltud.

Heddiw es i i gopa 'Alport Height' i ymlacio dipyn cyn paratoi am wythnos arall yn y gwaith. Roedd hi'n glir iawn i'r gogledd ac roeddwn i'n gallu gweld Kinder Scout ar y gorwel, peth braf iawn yw ymlacio ar ben bryn yng nghanol canolbarth Lloegr ar bnawn braf haf bach Mihangel fel heddiw!

Monday, 15 September 2008

Pethau Bychain Dewi Sant

Wel dyna ni yn ol ym Melper am sawl blyddyn. Mae hi'n dref digon dymunol pan dydy hi ddim bwrw glaw. Mae'r amser wedi hedfan ers fy mhennod diweddaf, bron iawn fis cyfan i ddweud y gwir. Does dim esgus, dw i ddim wedi bod i ffordd heb son am fynd i Gymru. Ond pethau bychain Dewi Sant wedi cymryd fy amser i gyd, sef gwaith, gwaith tŷ, gwaith garddio ac yn y blaen. Ond mi ddaw haul i'r bryn cyn bo hir gobeithio achos mae gen i benwythnos hir yng Nghymru wedi trefnu, a dwi'n methu aros. Mi fydd hi'n newid o'r gwaith a'r glaw tragwyddol. Mae'na bethau arall ar y gweill hefyd achos dan ni (y wraig a finnau) wedi derbyn gwahoddiad i ddod a'r hen fand cerddoriaeth gwerin allan am dro arall. Roedd y band wedi ymddeol sawl blwyddyn yn ôl ond mae ffrind i ni wedi erfyn arnon ni i berfformio mewn parti dathlu pen-blwydd priodas. Felly roedd rhaid cytuno am un sioe olaf un, ond dw i'n cydymdeimlo efo’r gynulleidfa druan sy'n mynd i wrando ar y fath band, ond os ydyn nhw i gyd wedi meddwi mi fydd popeth yn iawn!
Yn y cyfamser roedd gen i ddigon o amser i fynd am dro bach yn fy nghar i gopa bryn lleol o'r enw Alport Height ac wedyn i hen safle hanesyddol sef 'Middleton Top Engine House'. Roedd digonedd o olygfeydd braf fel ti'n gallu gweld o'r lluniau. Pan on i'n edrych tuag at y gorllewin roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gallu gweld y 'Long Mynd' a'r Wrekin sy'n bron iawn yng Nghymru fach. Dyna peth braf!