Ces i hwyl yn ardal Wrexham y penwythnos yma wrth ymweld â Sesiwn siarad mewn caffi yng Nghanolf
an Garddio Holt. Roedd wyth yn bresennol a chawson ni amser braf am dair awr yn siarad am hyn a llall. Wedyn es i ymlaen i Siop Y Siswrn yn y farchnad yn Wrexham cyn troi am adre dros dro, sef Tarporley.

Yno es i i farbeciw'r gymdeithas rhandir, ond och a gwae, mi wnes i fwyta gormod o bethau, felly nes i ddioddefa yn ystod y nos, ond gwell i mi beidio cwyno, dim ond un person sydd ar fai, sef fi! Bellach dw i'n ôl yn Belper ac yn cadw at fara sych a dŵr oer am heddiw o leia’!