

Roedd y gwesty bach yn gysgod bryn lleol ac roedd golygfeydd gwych o'm cwmpas.
Ar ôl y dosbarth roedd digon o amser i bicio draw i'r Trallwng er mwyn ymweld â'r siop Cymraeg lleol sef 'Pethau Powys'. Mae'r Trallwng yn hen dref farchnad weledig ond mae'ma arwyddion bod'na dipyn o bres a buddsoddiadau yn digwydd efo adeilad Marchnad da-byw newydd ac ambell siop a chaffi

Y penwythnos gynt mi wnes i ymweld â chronfa dwr Carsington efo fy ngwraig a'm ffrind. Roedd hi'n oer ond yn braf. Wrth gwrs mae Carsington yn lle addas i ddigwyddiadau awyr agored efo digon o le i'r Genedlaethol hyd yn oed. Beth sy'n ddiddorol yw'r faith bod'na Gylch Meini Modern ar safle Carsington. Mae'r cylch yn cynnwys maen mawr yn y canol efo arwydd yr Orsedd. Felly beth amdani? Dyma gyfle euraidd i'r brifwyl cymreigio canolbarth Lloegr!