
Roedd nifer fawr o ymwelwyr o wlad Ffrainc yno ac roedd cryn dipyn o'r iaith Ffrangeg i'w glywed ar y strydoedd. Roedd hi'n yn eironig braidd oherwydd doedd

Mae'r ynys yn lle digon diddorol, mae gan St Helier hen farchnad liwgar efo cynnyrch lleol a marchnad bwyd mor ar wahân. Mae'na sawl porthladd bach i longau'r pysgotwyr a hefyd digon o olion y cyfnod chwerw1940-1945 pan oedd byddin yr Almaenwyr wedi meddiannu’r ynys.
Mae gan fy Mam, a chafodd ei geni a'i magu ar yr ynys ambell hanes trist am y cyfnod 1940-45. Roedd bwyd yn brin iawn ar yr ynys, yn enwedig rhwng 1944 a 1945 ac roedd rhaid iddi hi deithio'r ynys ar gefn beic yn chwilio ymhlith
ffermwyr y cefn gwlad ar gyfer bwyd megis gwenith, llaeth a llysiau ar gyfer ei phlant hi, Roedd llongau'r Groes Goch yn achub bywydau'r ynyswyr trwy ddod a chyflenwad bwyd yn y cyfnod hwn. Peth gwarthus am y cyfnod oedd cipio rhai pobl o dras Iddewig o'r ynys gan yr Almaenwyr a'i hel draw i wersyllfa'r Natsïaid ble wnaeth farw sawl unigolyn anffodus o'r ynys.

Roedd y
daith adref ar awyren Jet yn ddiddorol hefyd wrth adael roedden ni'n medru gweld yr ynys i gyd a Sark a Guernsey. Wedyn wrth i ni groesi i'r D.U. roedd hi'n bosib gweld Dyfnaint, Cernyw, a rhan fwyaf o Gymru gan gynnwys Abertawe, y Cymoedd, Sir Benfro, Ceredigion a hyd yn oed pen llyn. Wrth i mi weld y gorwel tua’r gorllewin mi wnes i weld yr wyddfa. Dim yn aml mae rhywun yn gweld cymaint mewn taith o 50 muned!
