Cynhaliwyd Cystadleuaeth Scrabble Dysgwyr Cymraeg a Chymry alltud Cymry yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Derby ar Sadwrn 9 o Chwefror. Daeth timau o de Cymru, Stratford upon Avon, Nottingham, Belper, Derby, Chesterfield ac Alfreton at ei gilydd ar gyfer rownd cyn derfynol â rownd derfynol. Roedd y cystadlu yn frwd ond yn gyfeillgar ac yn y pen draw tîm Cymry Nottingham enillodd. Viv Harris a Dafydd Hughes wnaeth derbyn y wobr gyntaf sef tlws a llyfr am dir ac arfordir Cymru. Aeth yr ail wobr i Sue Davies o Stratford ac aeth y drydedd wobr i Martin Coleman o ardal Chesterfield. Roedd hi'n braf cael bobl o'r canolbarth a De Cymru yma heddiw ac yr ydyn ni'n bwriadu cynnal y gystadleuaeth unwaith eto blwyddyn nesa. Diolch i'r timau am gymryd rhan ac i Bob Neill am greu'r tlws celfydd iawn.
Mae Bob Neill yn arlunydd dawnus iawn sy'n creu lluniau gan ddefnyddio'r dull 'pyrography'. Cafodd Bob ei addysg ym Mangor yn y Coleg Normal cyn gweithio fel athro yn Lloegr. Erbyn hyn mae Bob wedi ymddeol ac yn gweithio fel arlunydd.