Friday, 24 June 2016
Ufferendwm Ewrop
Dw i heb sgwennu'r blog yma ers tipyn. Mae'r bywyd wedi mynd ymlaen fel arfer, gwaith, pethe Cymraeg, wythnos wych o wyliau ym Mhenllyn ym Mis Mehefin, a rŵan dw i ar fin mynd draw i Ddolgellau am wythnos mewn Ysgol Haf. Ar wahân i wella rhywfaint ar fy Nghymraeg mae'n cynnig y cyfle i drafod y sefyllfa wleidyddol bresennol efo fy ffrindiau. Yn fy marn i mae canlyniad y refferendwm am yr Undeb Ewropeaidd wedi esgor ar amser argyfyngus i'r rhai fel fi sy'n credu mewn cydweithrediad rhyngwladol, heddwch, goddefgarwch a chyfeillgarwch i bobl mewn difri angen sy'n edrych i ni am gymorth a lloches.
Roedd yr ymgyrch adael wedi gwenwyno gan hilgwn fel Britain First a mudiadau gwarthus fel UKIP. Dw i'n alaru bod cymaint o'n cydwladwyr wedi cael eu dylanwadu gan y wasg adain de megis Y Sun, Mail, Express et al.
Os bydd canlyniadau economaidd drwg mi fydd nifer fawr o'r bobl a wnaeth pleidleisio i adael yr EU yn difaru nes ymlaen. Efallai bydd yr Alban yn ennill eu hannibyniaeth, beth fydd fawd Cymru? Cael eu llyncu yn derfynol gan Loegr ac yn dod 'Gorllewin Lloegr'? Pwy a ŵyr?
Subscribe to:
Posts (Atom)