Saturday, 19 February 2011

Gweithdy Cymraeg Derby 19-2-11


Cawson ni Weithdy llwyddiannus iawn yn Nhŷ Cwrdd Y Crynwyr y bore'ma. Roedd 'na griw o 11 ohonon ni gan gynnwys aelod newydd sef Caryl o Swydd Caerlŷr gynt o Borthaethwy, Sir Fon. Teithiau a gwyliau yng Nghymru oedd pwnc sgwrs y grŵp profiadol. Wnaeth pawb yn y grŵp adrodd profiadau teithio o gwmpas y Wlad gan ddefnyddio map. Ar y bwrdd arall dan arweinydd tiwtor Elin Meriman wnaeth grŵp y dechreuwyr chwarae gemau iaith ac wedyn dysgu deialog rhwng dau berson.
Mi fydd y gweithdy nesa yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 19 o Fawrth.

Monday, 14 February 2011

Taith cerdded yn y glaw

Ces i amser braf yng nghwmni fy nghyfaill Colin wrth gerdded ar hyd Camlas Cromford o Orsaf Trên Whatstandwell hyd at dwnnel Camlas Cromford. Rhaid dweud roedd hi'n bwrw glaw yn gyson trwy'r daith ond diolch i gotiau glaw go dda roedden ni'n ddigon sych er gwaetha'r tywydd.
Roedd golwg llym ar y wlad sy heb ei deffro'n iawn eto ar ôl y gaeaf.
Doedd dim grifft i'w weld a doedd dim arwydd eto o'r perthi'n blaguro.
Roedd olion yr hen gamlas o ddiddordeb sef y pwll wrth ochr y twnnel lle'r oedd y cychod yn arfer cael ei droi o'i gwmpas. Hefyd roedd y twnnel yn ddiddorol, roedd 'na lwybr ceffyl trwy'r twnnel er mwyn i'r ceffylau tynnu'r hen gychod trwy'r bryn. Roedd golwg drwg ar un darn o'r wal y tu fewn i'r twnnel a dw i'n amau bod y twnnel yn troi yn beryglus, mae'na dwnnel arall ar y hen gamlas yma sy wedi hen dymchwel.
Ar ôl awr a hanner roeddwn hapus i fynd adre am baned a darn go drwchus o gacen sinsir, cyn ymlacio ar y soffa yn darllen 'Lladd Duw' gan Dewi Prysor, nofel cyn tywyll a thwnnel Camlas Cromford.

Monday, 7 February 2011

Trip bach sydyn i Gymru

Mi gawson ni drip bach sydyn i Tarporley a Chymru'r penwythnos yma.
Roedd rhaid i ni deithio ar ôl iddi hi nosi oherwydd doeddwn i ddim yn gallu osgoi gweithio pnawn Dydd Gwener, ond er gwaetha hynny roedden ni wedi cyrraedd Tarporley erbyn hanner awr wedi saith. Roedd hi'n dipyn o daith oherwydd yr holl wynt a glaw. Beth bynnag roedd hi'n braf cael eistedd yn gynnes yn Nhŷ clyd fy rhieni.
Y bore wedyn ar ôl brecwast cynnar wnaethon ni bicio dros y ffin a'r afon Dyfrdwy i Holt. Yno yng Nghaffi Canolfan Garddio Bellis treulion ni dair awr yn sgwrsio efo rhai dysgwyr a Chymry Cymraeg yn y sesiwn Sadwrn Siarad misol.
Wedyn aeth M a fi draw i Wrecsam i Farchnad y Bobl er mwyn ymweld â Siop y Siswrn. Yr oeddwn i'n gobeithio gwneud mwy o siopa wedyn ond roedd hi'n bwrw go ddrwm, felly mi wnes i benderfynu troi am adref.
Ar y Sul, aethon ni am dro yn Tarporley, pentref braf. Roedd'na Sêl Cist Car dan do yn Neuadd y pentref ac mi wnes i brynu pump LP Cymraeg am bunt dyna chi gwerth arian.

Sunday, 30 January 2011

Diwrnod i'r Brenin

Cawson ni (Marilyn a finnau) ddiwrnod i'r brenin yn cerdded bryniau a dyffrynnoedd rhostir Swydd Caer ger Leek efo a'n gyfaill Colin. Mae'na ddarn o Swydd Caer, debyg o ran siâp i fraich, sy'n ymestyn i'r ucheldir Ardal y Peak dim yn bell o dafarn Y Gath a'r Ffidl uwchben Buxton, ac o fewn y darn o dir yma mae bryn Shuttingsloe yn sefyll.
Gadawon ni'r car mewn pentref bach o'r enw 'Wildboarclough' yn y dyffryn wrth droed Shuttingsloe' sy'n 1687 troedfeddi uwchben lefel y môr. Dyw hi ddim yn fryn enfawr ond mae hi'n sefyll ar ochr gorllewinol ucheldir ardal y peak, ac felly mae'r golygfeydd ar draws tir gwastad Swydd Caer yn drawiadol. Pan mae'r tywydd yn ddigon clir mae hi'n bosib gweld Moel Famau ar y gorwel a mynyddoedd eraill gogledd Ddwyrain Cymru. Yn anffodus doedd hi ddim digon clir ar Ddydd Sadwrn i weld Cymru ond wnaethon ni weld Jodrell Bank, y telesgop radio enwog ar y tir gwastad tu draw i Macclesfield.
Roedd hi'n waith caled cerdded i fynni’r bryn ond cawson ni seibiant ar y copa a digon o amser i gael paned a rhywbeth i fwyta. Roedd hi'n ddiwrnod oer iawn efo ia ar raeadr y nentydd a phyllau dwr a hyd yn oed pibonwy yn hongian oddi wrth blanhigion rhedyn oedd yn tyfu mewn mannau cysgodol. Wedyn aethon ni ymlaen ar draws rhostir mawnog i goedwig Macclesfield ac wedyn yn ôl lawr y cwm i'r man cychwyn. Wedyn wnaethon ni deithio'n ôl ar draws y Peak i siop llyfrau Scarthin yn Cromford ble cawson ni ginio bach hwyr, sef cawl cartrefol a bara cartrefol hyfryd. Diwrnod gwych.

Sunday, 23 January 2011

Pererindod i Eglwys Lud

Aeth Marilyn a fi am dro ddoe, sef Bore Dydd Sadwrn, draw i'r Roches, ger Leek er mwyn i ni ymweld ag Eglwys Lud. Dydy Eglwys Lud dim yn Eglwys go iawn ond yn nodwedd yn y dirwedd ger y Roaches. Hollt yn y tir yw Eglwys Lud, rhyw fath o dwll, sef ceunant neu hafn yn y tir, sy wedi cael ei achosi miloedd o flynyddoedd yn ôl , efallai gan ddaeargryn anferthol.


Ond y dyddiau yma, hollt dwfn yn y daer yw hi, tua dau gan lath o hyd a rhwng dwy lath a phump llath ar draws yn dibynnu ble yn union yr ydych chi'n sefyll o fewn yr 'Eglwys'. Mae'r ddwy ochr wedi gorchuddio gan fwsogl, rhedyn, a phlanhigion. Uwchben y cyfan mae coed yn tyfu. Yn y gaeaf mae'r golau yn cyrraedd gwaelod y twll, ond yn ystod yr haf efo dail ar y coed mae hi'n dywyll iawn.
Er mwyn cyrraedd Eglwys Lud roedd rhaid i ni yrru ar hyd lôn gul cefn gwlad er mwyn cyrraedd Roach End. Wedyn wnaethon ni dechrau cerdded ar hyd rhostir ble oedd gwynt main o'r gogledd ddwyrain yn chwythu. Roedd hi'n sych ond yn oer efo niwl trwchus yn cuddio Swydd Caer a Chymru. I'r Gogledd roedd un o dyrau amddiffyniad rhyfel niwclear yn sefyll yng nghanol y niwl yn edrych fel Twr y Dewin Sauron o'r stori Arglwydd y Modrwyau gan Tolkein. Yn aml yn y gorffennol dw i wedi bod yn gallu gweld mynyddoedd Gogledd Ddwyrain Cymru o'r Roaches, Moel Famau er enghraifft, ond ar fore Sadwrn dim ond niwl a chymyl is oedd o fewn golwg. Ar ôl cerdded ar hyn y crib mae rhaid i chi droi i'r dwyrain a disgyn i lawr allt i mewn i goedwig a dilyn llwybr mwdlyd cyn cyrraedd mynediad i'r 'Eglwys'. Wrth i ni ddisgyn i lawr y grisiau roeddwn weld pibonwy uwch ein pennau ar y creigiau a phlanhigion. Yn ôl y sôn roedd 'Eglwys' Lud yn cael ei defnyddio yn y 17eg a 18fed canrif gan yr anghydffurfwyr cynnar er mwyn addoli cyn iddyn nhw gael addoli yn gyfreithlon. Doedd neb yn addoli yno ar ddydd Sadwrn!
Ar ôl ymweld â'r 'Eglwys' cerddon ni'n ôl i'r car ac wedyn i gaffi lleol am ginio poeth i gynhesu ar ôl oerfel y bore!


Sunday, 16 January 2011

Gweithgareddau'r penwythnos


Mi ges i benwythnos eitha' da'r penwythnos yma. Ar nos Wener wnaethon ni ymlacio o blaen y teledu i wylio'r ffilm Avatar. Rhaid dweud bod y plot yn debyg i nofel ffuglen gwyddoniaeth 'The Word for world is Forest' gan Ursula Leguin. Hefyd roedd rhai elfennau yn atgoffa fi o ffilmiau megis 'Apocalyps Nawr' a 'Dances with Wolves'. Ar y cyfan roedd hi'n adloniant da ond dim yn ffilm efo ystyr dyfwn iawn.
Ar Fore Sadwrn cawson y cyntaf o'r gweithdy Cymraeg Derby eleni. Roedd 11 o bobl yno gan gynnwys tiwtor Elin Merriman. Mae'n debyg bod digon o alw am weithdy o'r fath, o leiaf unwaith y Mis.
Yn ystod y prynhawn mi wnes i ddefnyddio'r We a safle we Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg i wrando yn fyw i Gyfarfod y Gymdeithas ym Mhlanau Ffestiniog yn erbyn cwtogiadau'r Llywodraeth, roedd 4 o bobl yn siarad ar y llwyfan a wnaeth plant o ysgol leol yn canu. Roedd hi'n ddiddorol cael gweld rhywbeth mor gymdeithasol yn fyw ar y we o Gymru.
Gyda'r Nos aeth Marilyn a fi draw i Gaffi Siop Llyfrau Scarthin yn Cromford er mwyn gwrando ar sgwrs gan Evan Rutherford mewn digwyddiad achlysurol o'r enw Cafe Philosophique. Mae'r rhain wedi dod o Ffrainc yn wreiddiol, yn y bôn maen nhw'n 'seminar' ble mae rhywun yn trafod pwnc i nifer bach o bobl, ac wedyn cael trafodaeth, diodydd a bwyd. Heno dyn ni'n gobeithio mynd i sesiwn alawon gwerin yn Nhafarn 'Y Cliff' yng Nghrich.


Monday, 13 December 2010

Wythnos o ddathlu Nadoligaidd























Cafodd dysgwyr yr hen iaith yn ardal Derby a Nottingham sawl cyfle'r wythnos yma i ddefnyddio eu Cymraeg nhw.
Ar nos Iau 9fed o Ragfyr cafodd dysgwyr Belper Parti 'Dolig efo diodydd, bwyd Nadoligaidd (diolch Glen!) a sesiwn dysgu caneuon gwerin a charolau Cymraeg a Chymreig. Ar fore dydd Sadwrn y 10fed o Ragfyr cynhaliwyd Gweithdy Cymraeg Derby olaf 2010, ond roedd hi'n Weithdy da efo 10 o bobl yn bresennol, unwaith eto cafodd sawl carol ei ganu yn ystod y sesiwn olaf. Mi fydd Gweithdy cyntaf 2011 ar fore Dydd Sadwrn 15 o Ionawr, mae'r manylion ar safle Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby (gwelir www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com ).
Uchel bwnt yr wythnos heb amheuaf oedd Gwasanaeth Carolau Dwyieithog Cymdeithas Cymry Nottingham ar bnawn Sul 12fed o Ragfyr. Roedd hi'n braf gweld wynebau cyfarwydd ag wynebau newydd yno (Croeso i Catrin a hefyd i Jenny Ireland a'i mam.).
Cawson ni wledd o ganu, yn enwedig ymdrechion 'Parti Gwawr' ac wedyn cawson ni wledd o ddanteithion Nadolig. Nadolig Llawen i bawb!