Saturday, 15 October 2011
Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2011
Cafodd dros 30 o bobl amser gwych yn y 7fed Ysgol Undydd Derby. Roedd bobl wedi dod ynghyd o Stoke, Walsall, Chesterfield, Sheffield, Nottingham, Belper a Derby.
Rhaid diolch i'r tiwtoriaid Elin ac Eileen, i wirfoddolwyr Nottingham a hefyd i griw'r gegin.
Mae'r gobaith yw bydd mwy o bobl yn cael eu tynnu at weithgareddau Cymraeg lleol sef y dosbarthiadau yn Derby a Belper a'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol yn Nottingham. Mae'na groeso i bawb!
Friday, 7 October 2011
Ymweliad criw teledu Tinopolis
Cawson ni amser hwylus iawn yn ystod cyfarfod Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham heddiw. Roedd'na reswm arbennig am hyn, megis ymweliad criw o Lanelli ar gyfer Wedi 3 / Wedi 7 i recordio darn i'r rhaglen. Roedd llond tŷ o Gymry Nottingham yno i groesawu Rhodri a'r tîm. Cafodd nifer fawr o aelodau eu cyfweld ac ar ddiwedd y bore wnaethon ni ganu'r emyn Calon Lan. Mae'n debyg mi fydd y darn yn cael ei defnyddio yn ystod wythnos nesa (Dydd Mawrth). Siŵr o fod mi fydd nifer o Gymdeithas Nottingham yn gwylio efo mwy o ddiddordeb nag arfer. Diolch i Dawn a'i theulu hi am y croeso arbennig o gynnes a hefyd am y bwyd a chacennau blasus.
Saturday, 1 October 2011
Band y cyfle olaf
Cawson ni dipyn o hwyl neithiwr. Roedd Elin, gyfaill agos a thiwtor Cymraeg, ffliwt, piano ac arweinydd côr bechgyn lleol wedi trefnu i'r côr perfformio mewn cyngerdd codi arian dros ganolfan cymunedol Strutt yn Belper. Yn anffodus oherwydd problemau wna i ddim yn son amdano rwan yn y pendraw doedd y côr bechgyn dim ar gael wedi'r cyfan ar y noson, dyna ni felly, yn camu'r bwlch ar fyr rybudd, ond fel band y cyfle olaf yn hytrach na'r Derwentydd ymddangosom.
Monday, 26 September 2011
Cythral o Dân
Dyma lyfr gan Arwel Vittle sy'n olrhain hanes Tân Penyberth yn 1936 a hynt a helynt y tri oedd yn bennau cyfrifol sef Lewis Valentine, Saunders Lweis and DJ Williams. Does fawr neb o dras Sais fel fi sy wedi clywed amdanyn nhw pan oeddwn yn yr ysgol. Hanes Brenhinoedd Lloegr a hanes Lloegr oedd prif gynnwys ein gwersi hanes ni. Felly braf yw darllen y llyfr 'ma sy'n cyflwyno cefndir i'r digwyddiadau ac amgylchiadau'r achos llys a chyfnod treuliodd y tri yng Ngharchardy Wormwood Scrubs.Efallai bod yn deg dweud eich bod chi'n gallu olrhain gwreiddiau dull protestiadau presennol Cymdeithas yr Iaith nol i’r Tân yn Llyn.
Friday, 23 September 2011
Tymor newydd
Mae Mis Medi wedi dod ac mi fydd gweithgareddau’r Cylch y Dysgwyr Cymraeg Derby yn ail ddechrau rŵan, felly mae'r cyfarfod wythnosol yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Strydd Sant Heledd, Derby yn ail dechrau ar fore Dydd Mawrth o hyn ymlaen. Ar ben hynny mi fydd Gweithdy Cymraeg yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar Ddydd Sadwrn bob Mis tan fis Mehefin. Mae'r Ysgol Undydd Cymraeg Derby yn digwydd ar Sadwrn 15 o Hydref. Hefyd mi fydd ambell daith Gerdded Cymraeg yn ardal y Peak.
Hefyd mi fydd Cyfarfod Bore Coffi 'Popeth yn Gymraeg' yn parhau'n Nottingham ar fore Dydd Gwener gyntaf pob mis. Mae'na groeso bob tro i ddarpur dysgwyr a Chymry Cymraeg alltud sy eisiau ein helpu ni.
Hefyd mi fydd Cyfarfod Bore Coffi 'Popeth yn Gymraeg' yn parhau'n Nottingham ar fore Dydd Gwener gyntaf pob mis. Mae'na groeso bob tro i ddarpur dysgwyr a Chymry Cymraeg alltud sy eisiau ein helpu ni.
Saturday, 20 August 2011
Wythnos ym Mhenllyn
Dw i newydd gyrraedd yn ôl ar ôl treulio 6 noson yn ardal Tudweiliog yn wersyllfa. Roedd y tywydd yn weddol dda ond yn oer dros nos ar wahân i Nos Mawrth a oedd yn wlyb ac yn wyntog!
Ces i'r cyfle i ymweld â nifer fawr o leoedd. Ar y Dydd Sul mi wnes i ddringo i ben Tre'r Ceiri sef
hen Fryn Gaer Geltaidd enfawr. Mae 'na dai crwn ar ei ben ac roedd golygfa odidog ar draws Pen Llyn. Pnawn Sul gyrrais lawr i Nant Gwrtheyrn, doeddwn i ddim wedi bod yno ers 2008 a bellach mae'r lle wedi newid efo caffi mwy o faint, siop, amgueddfa fach a maes parcio newydd sbon. Mae'r ffordd i lawr yn fwy diogel rŵan efo rwystrau diogelwch i arbed chi rhag gyrru dros y diben ar ochr y ffordd!
Dydd Llun es i i ymweld â'm ffrindiau Colin ac Arabella ym Mhwllheli, ces i ginio blasus efo nhw ac wedyn taith cerdded ar hyd y traeth. Ond mae'n newyddion trist, hynny yw eu
hen gi nhw (Tich) yn sâl iawn.
Ar y dydd Mawrth i ddechrau mi wnes i ymeld ag Eglwys Beuno Sant ym Mistyll, mae hi'n hen eglwys heb trydan neu pethau modern o gwbl, wedyn mi es i i hen dy Kate Roberts sef Cae'r Gors. Roedd hi'n amgueddfa ddiddorol dros ben efo ffilm dogfen am ei bywyd hi. Yn y prynhawn mi wnes i ymweld â'r amgueddfa llechi yn
Llanberis, yn y noswaith wnes i weld machlud yr haul hyfryd dros y môr, ac roedd mynyddoedd Wicklow yn glir ar y gorwel.
Dydd Iau ro’n i'n gobeithio mynd a'm ffrind Marianne i fyny’r Wyddfa ar y trên, ond cawson ni siom pan gyrhaeddon ni i'r orsaf achos roedd pob sedd wedi bwcio am y diwrnod cyfan, felly aethon ni am ginio yn Llanberis cyn
mynd mewn cwch rhwyfo ar y llyn. Roedd hi'n brofiad gwahnnol cael gweld yr Wyddfa o ganol Llyn padarn, wedyn aethon ni am dro i Gastell Dolbadarn, doeddwn i ddim wedi bod yno or blaen. Ar y dydd Iau ces i Chwibdaith o gwmpas Sir Fôn yn dechrau efo daith cerdded ar hyd rhan o Afon Menai ger y Sw Mor cyn mynd ymlaen i draeth Llanddwyn ger Niwbwrch, Es i ymlaen i'r Ynys i weld bythynnod y Peilotiaid. Nos Iau es i i Nefyn am lansiad llyfr ac i wrando ar ddarlith am Fenywod oedd yn berchennog Llongau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dydd Gwener ar ôl wythnos flinedig des i adref yn falch o gael byw mewn tŷ unwaith eto!
Monday, 8 August 2011
Wythnos braf yn y Brifwyl
Mi ges i wythnos braf draw yn Wrecsam yn yr Eisteddfod. Roeddwn i yno o ddydd Llun tan ddiwedd Dydd Gwener. Ces i wlydd o gerddoriaeth, corau, adrodd, ddramâu, llenyddiaeth, cyfarfodydd gwleidyddol a sgwrs ymhlith Cymry Cymraeg a dysgwyr ardal Wrecsam. Roedd gen
i ran fach i'w chwarae hefyd, sef gwneud cyflwyniad ar y cyd efo Neil Wyn Jones ar brynhawn dydd Mercher am y rai sy'n dysgu'r Gymraeg y tu allan i Gymru. Daeth tuo 22 o bobl i'r digwyddiad.
Yn ystod yr wythnos mi es i i ddarlith yn y Babell llen am gerddi T H Parry Williams oedd yn ddiddorol iawn.Wrth gwrs mae'r Eisteddfod yn rhoi'r cyfle i wario llawer iawn o bres ar lyfrau a pob math o beth Cymreig a Chymraeg a des i yn ôl efo llond bag o bethau i'w darllen. Roedd nifer enfawr o stondinau ar y maes efo gwybodaeth am gyrsiau, sefydliadau gwahanol a mudiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac ieithyddol fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Hefyd roedd nifer o brotestiadu'n digwydd dros yr wythnos. Daeth nifer o ddysgwyr Derby i'r maes ar y dydd Mercher gan gynnwys Clive, Allan, Ray ac ar y dydd Gwener daeth criw o Gymdeithas Cymry Nottingham sef Gwynne a'i Wraig Marilyn, ei fab Gareth a'i wraig, Howell a'i wraig. Mi wnes i gymryd y cyfle i ddosbarthu taflenni am ein gweithgareddau ni (sef Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby a Menter Iaith Lloegr ) o gwmpas Maes D. Roedd Maes D yn llawn bwrlwm cystadlu, sgyrsiau a stondinau. Roedd Maes D hefyd yn lle perffaith am baned a chael eistedd i lawr am orffwys ar ôl cerdded o amgylch yr Eisteddfod! Tra oeddwn ar y maes mi wnes i weld nifer fawr o hen ffrindiau o Gymru a hefyd nifer o ffrindiau ymhlith dysgwyr o rannau gwahanol o Gymru. Diolch i chi i gyd am y croeso twymgalon.

Subscribe to:
Posts (Atom)
c.jpg)