Tuesday, 5 June 2012

Cylch Meini, olion Rhufeinig a Cheltiaid cyfoes

Cawson ni dipyn o hwyl heddiw, Marilyn a fi, yn mynd am dro yn ardal y Peak efo ein ffrind Martin y dysgwr Cymraeg o Glay Cross.I ddechrau aethon ni o amgylch rhostir Stanton, ble mae olion o oes y cerrig sef cylch Meini'r Nine Maidens a sawl tŷ crwn yma ac acw ar ben y rhostir. Ar wahân i'r hen olion o oes y cerrig roedd pethau wedi'i gadael ymhlith canghennau’r coed gan baganaidd a Cheltiaid cyfoes, pethau megis cylch efo croes yn ei ganol i gyd wedi creu gan plethi brigyn at ei gilydd. Efallai pobl yn wersyllfa adeg Calan Mai neu Galan Gaeaf oedd yn gyfrifol. Roedd digon o bobl o gwmpas ac roedden ni'n lwcus ar ran y tywydd. Wedyn aethon ni draw i gaffi Siop llyfrau Scarthins yng Nghromford i gael rhywbeth bach i fwyta cyn mynd allan eto i fynd i weld hen bwll plwm o amser y Rhufeiniad yn ardal y Via Gellia a hefyd i weld pwll plwm arall o'r 19 canrif sef the Good Luck Mine. Ar ôl dringo i fyny’r dyffryn i weld y pwll ac yn ôl roedd y tywydd wedi troi ac roedd glaw man yn disgyn, felly daethon ni adref i gael panad a darn mawr o gacen.

Monday, 28 May 2012

Ymweliad i Jersey

Yr ydw i wedi dod adref ar ôl truelio wythnos draw ar ynys Jersey yng nghwmni fy annwyl wraig a'm rhieni. Yr oedden ni'n aros mewn gwesty o'r enw Millbrook House Hotel ar gyrion
St Helier, prif dref yr ynys. Cawson ni penwythnos gwyl i ddechrau ond erbyn Dydd Llun roedd y tywydd wedi troi ac ar ol dydd Mawrth redd hi'n crasboeth.
Mae'r rhieni digon bregus erbyn hyn a dim yn gallu cerdded yn bell felly roedden ni'n treulio’r wythnos yn mynd o un olygfa i'r llall ac o un caffi/tŷ bwyta i'r llall. Mi gafodd M. a finnau rhai teithio cerdded ar draethau gyda'r nos a hefyd bach o gyfle i siopa yn St.Helier.
Roedd nifer fawr o ymwelwyr o wlad Ffrainc yno ac roedd cryn dipyn o'r iaith Ffrangeg i'w glywed ar y strydoedd. Roedd hi'n yn eironig braidd oherwydd doedd dim o'r iaith leol, (Ffrangeg yr ynys /patois) i'w glywed o gwbl. Mae mewnlifiad o Bobl iaith Saesneg dros y 150 mlwydd diweddaf wedi difetha’r iaith frodorol dim ond enwau pentrefi, enwau lle a cherrig beddi sy ar ôl i ddangos bod Ffrangeg yr ynys oedd yr iaith i'r mwyafrif yr ynyswyr cyn 1900.
Mae'r ynys yn lle digon diddorol, mae gan St Helier hen farchnad liwgar efo cynnyrch lleol a marchnad bwyd mor ar wahân. Mae'na sawl porthladd bach i longau'r pysgotwyr a hefyd digon o olion y cyfnod chwerw1940-1945 pan oedd byddin yr Almaenwyr wedi meddiannu’r ynys.
Mae gan fy Mam, a chafodd ei geni a'i magu ar yr ynys ambell hanes trist am y cyfnod 1940-45. Roedd bwyd yn brin iawn ar yr ynys, yn enwedig rhwng 1944 a 1945 ac roedd rhaid iddi hi deithio'r ynys ar gefn beic yn chwilio ymhlith ffermwyr y cefn gwlad ar gyfer bwyd megis gwenith, llaeth a llysiau ar gyfer ei phlant hi, Roedd llongau'r Groes Goch yn achub bywydau'r ynyswyr trwy ddod a chyflenwad bwyd yn y cyfnod hwn. Peth gwarthus am y cyfnod oedd cipio rhai pobl o dras Iddewig o'r ynys gan yr Almaenwyr a'i hel draw i wersyllfa'r Natsïaid ble wnaeth farw sawl unigolyn anffodus o'r ynys.
Roedd y daith adref ar awyren Jet yn ddiddorol hefyd wrth adael roedden ni'n medru gweld yr ynys i gyd a Sark a Guernsey. Wedyn wrth i ni groesi i'r D.U. roedd hi'n bosib gweld Dyfnaint, Cernyw, a rhan fwyaf o Gymru gan gynnwys Abertawe, y Cymoedd, Sir Benfro, Ceredigion a hyd yn oed pen llyn. Wrth i mi weld y gorwel tua’r gorllewin mi wnes i weld yr wyddfa. Dim yn aml mae rhywun yn gweld cymaint mewn taith o 50 muned!




Saturday, 5 May 2012

Ble mae'r Gwanwyn?


Ar ôl mwynhau tywydd braf ym Mis Mawrth mae hi wedi bod yn siom mawr gweld tywydd mor wael trwy Fis Ebrill. O’n i’n gobeithio dechrau gweithio o ddifrif ar yr ardd cefn ond ar wahân i balu un o’r gwely llysiau a thorri’r lawnt dwywaith prin fod gen i gyfle i wneud gwaith yn yr ardd o gwbl.

   Yn y gwaith yn Bakewell dw i wedi gweld nifer o wenoliaid yn hedfan o gwmpas siediau'r farchnad gwartheg, ac yng nghanol yr afon ger y bont troed roedd par o iâr ddŵr yn codi nyth bach twt ar ben graig ond och a gwae mae llifogydd Mis Ebrill wedi sgubo’r nyth i ebargofiant.
   Ddoe, roeddwn yn Nottingham yn mwynhau cyfarfod misol y Bore Coffi Popeth yn Gymraeg, dwedodd un o’r gwragedd ffyddlon ei bod hi wedi bod yn gweddïo am law, felly gofynnais iddi hi ddechrau gweddïo am haul, dw i’n mynd ar wyliau i’r ynys Jersey ym Mis Mai ac wedyn i Garn Madryn ym Mhenllyn ym Mis Mehefin a dw i eisiau cael gadael yr ymbarél gartref!

Friday, 6 April 2012

Y Prosiect Darllen




Er gwaetha’r ffaith fy mod i wedi bod yn eitha' prysur ers y flwyddyn newydd yr ydw i wedi cael digon o amser i barhau efo'r prosiect darllen. Hyd yn hyn eleni dw i wedi gorffen 4 o lyfrau, sef tair nofel gan gynnwys Traed Oer gan Mari Emlyn, Pwll Ynfyd gan Alun Cob a'r Tair Rheol Anhrefn gan Daniel Davies. Y tair nofel yn ddarllenadwy iawn. Yr un cyntaf yn adrodd hanes athrawes piano 40 oed yn cymryd golwg dros eu bywyd hi a hen berthynas a wnaeth farw yn ystod y rhyfel byd cyntaf, y ddwy nofel arall yw rhyw fath o nofel antur/droseddol. Y llyfr arall fy mod i wedi cwblhau darllen yw The Phenomenon of Welshness gan Siôn Jobbins, sy'n gasgliad o erthyglau o'r cylchgrawn The Cambrian. Maen nhw'n ddigon diddorol, ond yr oeddwn i'n anghytuno yn llwyr efo asesiad adain dde braidd o'r maes economaidd le mae'r awdur yn mynnu bod y dyfodol yn Conservative. Twt lol.
Ar hyn o bryd mae gen i 3 o lyfr ar y gweill, sef Kate: cofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd, Atsain y Tonnau gan John Gwynne a'r llyfr diweddaf gan Mihangel Morgan sef Kate Roberts a'r Ystlum. Mi wna i adrodd yn ôl am rheiny nes ymlaen yn y flwyddyn.

Monday, 26 March 2012

Ymweliad i Swydd Caer a Wrecsam

Mi ges i benwythnos brysur iawn y penwythnos yma. Dydd Gwener diweddaf roedd rhaid i fi deithio draw i Tarporley er mwyn ymweld â'n rhieni. Felly, wnes i adael y tŷ yn gynnar sef 8.15 y bore er mwyn cyrraedd mewn pryd i fynd a nhw i Nantwich am ginio a siopau. Bore Sadwrn es i draw i Wrecsam ar gyfer cwrs Enwau Lleoedd efo Siôn Aled Own. Roedd tua 9 o bobl yno gan gynnwys Siôn Aled y tiwtor. Tra oeddwn yn Wrecsam dros amser cinio wnes i fachu ar y cyfle i fynd i Siop Y Siswrn yn Farchnad y Bobl a hefyd i siop llyfr Waterstones. Roeddwn awyddus iawn i wario tocynnau llyfrau ges i fel anrheg Nadolig oddi wrth fy mrawd. Felly brynais i sawl llyfr Cymraeg er mwyn cael diogon o ddefnydd darllen Cymraeg nol yn Belper.
Ar ddydd Sul nes i fynd a'n dad i'w randir cyn dod yn ôl i Belper ar ôl cinio.
Heddiw dw i wedi mynd am dro i fynny Shutingsloe efo fy nghyfaill Martin. Mae Martin wedi bod yn dysgu'r Gymraeg ers 2011 ac yn wneud yn hynod o dda. Felly cawson ni sgwrs yn Gymraeg y rhan mwyaf o'r amser. Ar ol y daith Cerdded aethon ni am baned a chacen yng nghaffi Siop Llyfrau Scarthin yn Cromford.


Friday, 2 March 2012

Cinio Dydd Gŵyl Dewi Cymdeithas Cymry Nottingham 2012

Cynhaliwyd Cinio Dydd Gŵyl Dewi Cymdeithas Cymry Nottingham neithiwr yn stafelloedd Belgrave yng nghanol Nottingham. Roedd 81 o bobl yn bresennol gan gynnwys Cymraes a chafodd ei geni yn Ne America ond sydd wedi byw yn Nottingham ers 1932 ac yn aelod o'r Gymdeithas Cymry am 80 mlynedd! Hefyd roedd Lewis Jones mab ieuangu teulu Ty'n y Baich a'i ferch Bronwen ar ein bwrdd ni. Yn ogystal roedd hi'n braf cael sgwrsio efo Gwynne Davies, ei wraig a'u mab. Roedd y bwyd yn flasus, y cwmni yn ddifyr a chawson ni wledd o ganu gan Gôr y Wawr a Heather Thomas unawdydd ifanc a dawnus lleol.
Cafodd cyfrol o ysgrifau gan wahanol aelodau o'r Gymdeithas eu lansio yn ystod y noson. Mae'r gyfrol wedi cael ei golygu gan Howell Price, cyn Llywydd y Gymdeithas ac aelod selog o'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol. Mae Howell yn cystadlu yn gyson yn yr Eisteddfod ac wedi cael sawl sylw yn y llyfr beirniadai sy'n cael ei gyhoeddi bod blwyddyn ar ôl yr Eisteddfod.
Dyma oedd y tro cyntaf i mi ymweld â Chinio Dydd Gŵyl Dewi'r Gymdeithas ac nid fydd hi'r olaf un dw i'n siŵr. Diolch i bawb a wnaeth cyfrannu i'r noson lwyddiannus.



Friday, 10 February 2012

Taith Cerdded yn yr Eira

Ar ôl dechreuad cymedrol i'r gaeaf yn ôl ym Mis Rhagfyr roedd hi'n dipyn o sioc cael tywydd mor oer ym Mis Chwefror. Er gwaetha hynny aeth Marilyn a finnau am dro heddiw yn ardal Rhostir Middleton. Dechreuon ni o faes parcio Middleton Top engine hose cyn cerdded i fyny i'r rhostir ac wedyn ar draws y bryn i edrych i lawr ar gwm lleol o'r enw'r Via Gellia. Wedyn cerddon ni i lawr trwy hen fuarth fferm at lwybr y High peak Trail. Doedd fawr neb o gwmpas. Erbyn 1 o'r gloch yr oedden ni'n barod am ginio, felly ffordd a ni i gaffi Siop Llyfrau Scarthin yng Nghromford. Cawson ni gawl blasus cyn dod adref.