Mi es i draw i Buxton am dair awr heddiw. Roedd ffair llyfrau ymlaen yn yr Ystafell Ymgynnull, felly o'n i deimlo felly pori o amgylch ambell stondin llyfr yn chwilota am fargeniau. Er mawr syndod i mi ddes i ar draws hen gopïau o'r cylchgrawn myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth o'r 50 degau sef Y Ddraig o dymer y Grawys 1955. Mae hi'n gylchgrawn dwyieithog efo cyfartaledd o dudalennau yn y ddwy iaith. Y diweddar Hywel Teifi Edwards oedd un o'r cyfranwyr. Hefyd roedd erthygl hynod o ddiddorol dan y pennawd 'Lle'r Gymraeg Mewn Cymdeithas Ddwyieithog gan Brenda Williams. Tybed os ydy hi dal ar dir byw?
Doeddwn i ddim mor ffodus efo'r tywydd roedd hi'n pistyllio glaw yn Buxton ac felly roedd rhaid swatio o dan yr ymbarél i gyrraedd nôl yn fy ngar yn ddigon sych!
Monday, 27 August 2012
Wednesday, 15 August 2012
Eisteddfod Bro Morgannwg 2012
Yr wythnos ddiweddar o'n i'n mwynhau dogn go dda o Gymreictod ar faes yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg. Mi wnes i deithio o Loegr i Gymru ar y Sul efo fy nghyfaill o ardal Chesterfield, sef Martin. Ar ôl croesi'r Môr Hafren oedd dipyn o amser sbâr felly mi wnaethon ni gipio ar y cyfle i ymweld ag Amgueddfa Gwerin Cymru yn Sant Ffagan. Roedd hi'n braf cael crwydro'r safle, ond doedd dim digon o amser 'da ni, cwta tair awr, mewn gwirionedd, a doedd hi ddim yn ddigon i weld y cyfan.
Wedyn aethon ni ymlaen i'n Westy wrth ochr Maes Awyr Caerdydd. Roedden ni'n aros o fewn 5 milltir i'r maes ac roedd hi'n ddigon hawdd mynd ar faes yr Eisteddfod bob diwrnod rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener. Doedd Martin dim wedi ymweld â'r brifwyl o'r blaen felly mi wnes i fy norau glas i dangos tipyn bach o bob dim oedd ar gael.
Ar wahân i lenwi rôl fel tywysydd answyddogol i Martin roedd gen i fach o waith i'w wneud ar faes D sef cymryd rhan mewn cyflwyniad 'Clebran y tu hwnt i Gymru' sesiwn am ddysgwyr y tu allan i Gymru, nid yn unig yn Lloegr ond hefyd yn y Wladfa.
Eleni roedd sawl newid i'w gweld ar y maes. Dim ond un safle bwyd, dim ond 2500 o seddi yn y Pafiliwn, dim ond un llwyfan perfformio ar gyfer bandiau a pherfformwyr eraill wrth ochr yr ardal bwyd. Ond er gwaethaf hyn roedd hi'n Eisteddfod dda. Un peth newydd da oedd y Maes Gwyrdd efo nifer o stondinau mewn Yurtiau o faint gwahanol gan gynnwys un Yurt enfawr. Roedd hefyd Tipi go iawn a nifer o brosiectau gwahanol fel y prosiect adeiladu cwch Celtiaid. Ar ran y tywydd yr oedd tipyn bach o law ar Ddydd Llun a'r dydd Mawrth ond roedd gweddill yr wythnos yn sych ac yn boeth.
Yn bendant yr oedd digonedd o bethau i dangos i Martin. Stondinau, siopau lyfrau, Peth wmbredd o gystadlaethau cerddorol a clasurol, adrodd, canu, gweld ffrindiau (Wiliam o Lundain i enwi dim ond un) ayyb. Mi wnaethon ni weld darlith ym Maes D am Iolo Morgannwg, aethon ni i weld cyfarfod lansio mudiad lobio dros yr iaith o'r
enw 'dyfodol', hefyd mi wnaethon ni wrando ar Leanne Wood, arweinyddes newydd Plaid Cymru. Roedd hi'n trafodi ar ei gweledigaeth hi am ddyfodol Cymru.
Erbyn diwedd dydd Gwener roedden ni wedi gweld llwyth o bethau ac wedi siarad â nifer fawr o ffrindiau hen a newydd. Roedden ni wedi blino yn llawn ac yn barod i deithio nôl dros y ffin ac ar draws canolbarth Lloegr er mwyn cyrraedd ein cartrefi. Rŵan dw i'n edrych ymlaen at Eisteddfod Dinbych!
Wedyn aethon ni ymlaen i'n Westy wrth ochr Maes Awyr Caerdydd. Roedden ni'n aros o fewn 5 milltir i'r maes ac roedd hi'n ddigon hawdd mynd ar faes yr Eisteddfod bob diwrnod rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener. Doedd Martin dim wedi ymweld â'r brifwyl o'r blaen felly mi wnes i fy norau glas i dangos tipyn bach o bob dim oedd ar gael.
Eleni roedd sawl newid i'w gweld ar y maes. Dim ond un safle bwyd, dim ond 2500 o seddi yn y Pafiliwn, dim ond un llwyfan perfformio ar gyfer bandiau a pherfformwyr eraill wrth ochr yr ardal bwyd. Ond er gwaethaf hyn roedd hi'n Eisteddfod dda. Un peth newydd da oedd y Maes Gwyrdd efo nifer o stondinau mewn Yurtiau o faint gwahanol gan gynnwys un Yurt enfawr. Roedd hefyd Tipi go iawn a nifer o brosiectau gwahanol fel y prosiect adeiladu cwch Celtiaid. Ar ran y tywydd yr oedd tipyn bach o law ar Ddydd Llun a'r dydd Mawrth ond roedd gweddill yr wythnos yn sych ac yn boeth.
Yn bendant yr oedd digonedd o bethau i dangos i Martin. Stondinau, siopau lyfrau, Peth wmbredd o gystadlaethau cerddorol a clasurol, adrodd, canu, gweld ffrindiau (Wiliam o Lundain i enwi dim ond un) ayyb. Mi wnaethon ni weld darlith ym Maes D am Iolo Morgannwg, aethon ni i weld cyfarfod lansio mudiad lobio dros yr iaith o'r
Erbyn diwedd dydd Gwener roedden ni wedi gweld llwyth o bethau ac wedi siarad â nifer fawr o ffrindiau hen a newydd. Roedden ni wedi blino yn llawn ac yn barod i deithio nôl dros y ffin ac ar draws canolbarth Lloegr er mwyn cyrraedd ein cartrefi. Rŵan dw i'n edrych ymlaen at Eisteddfod Dinbych!
Saturday, 30 June 2012
Wythnos ym Mhenllyn
Mi gafodd M. a finnau wythnos wych yn aros yn ardal Rhydyclafdy ym Mhenllyn. Roedd hi'n wythnos gymdeithasol iawn oherwydd wnaethon ni ymweld â nifer o'n cyfeillion sef Marianne a Gerry o Sir Fôn, Joella o Gaerdydd a chyn bos M sy bellach yn byw yng Nghricieth.
Roedd digon o amser i gerdded ar hyd traeth Porth Neigwl, a hefyd i ymweld ag Abersoch, Llanbedrog, Plas Glyn-y-Weddw, Mynytho, Porthmadog a Phwllheli.Ar y dydd Mawrth wnaethon ni gwrdd â Joella a’i chariad er mwyn cerdded i fyny’r Eifl, neu i fod yn fanwl gywir 'Tre'r Ceiri' sef hen Fryngaer ger Llithfaen. Roedd golygfeydd gwych o fynyddoedd Yr Eiri, Sir Fôn i'r gogledd, pen llyn i gyd a draw dros y for Iwerddon, Bryniau Wicklow.
Mi wnes i hel llyfrau ail law yn y siopau elusennol o amgylch Pwllheli ac mi ges i gryn dipyn o lwyddiant. Felly mae'na 7 o lyfr yn aros i'w darllen ar fy silffoedd.
Arhoswn ni mewn 'bwythyn' o'r enw 'Tŷ Paul', ac i ddweud y gwir roedd hi'n gyfforddus a chlyd. Mi wnes i fachu ar y cyfle i orffen darllen Bywyd Kate Roberts a sawl cylchgrawn oedd wedi aros am sbel heb ei darllen.
Cawson ni dywydd braf o'r Dydd Sul tan y Dydd Iau pan ddaeth y glaw. Daethon ni yn ôl i Swydd Derby ar y dydd Sadwrn yn barod i ddychwelyd i'r drefn arferol.
Roedd digon o amser i gerdded ar hyd traeth Porth Neigwl, a hefyd i ymweld ag Abersoch, Llanbedrog, Plas Glyn-y-Weddw, Mynytho, Porthmadog a Phwllheli.Ar y dydd Mawrth wnaethon ni gwrdd â Joella a’i chariad er mwyn cerdded i fyny’r Eifl, neu i fod yn fanwl gywir 'Tre'r Ceiri' sef hen Fryngaer ger Llithfaen. Roedd golygfeydd gwych o fynyddoedd Yr Eiri, Sir Fôn i'r gogledd, pen llyn i gyd a draw dros y for Iwerddon, Bryniau Wicklow.Arhoswn ni mewn 'bwythyn' o'r enw 'Tŷ Paul', ac i ddweud y gwir roedd hi'n gyfforddus a chlyd. Mi wnes i fachu ar y cyfle i orffen darllen Bywyd Kate Roberts a sawl cylchgrawn oedd wedi aros am sbel heb ei darllen.
Cawson ni dywydd braf o'r Dydd Sul tan y Dydd Iau pan ddaeth y glaw. Daethon ni yn ôl i Swydd Derby ar y dydd Sadwrn yn barod i ddychwelyd i'r drefn arferol.
Tuesday, 5 June 2012
Cylch Meini, olion Rhufeinig a Cheltiaid cyfoes
Cawson ni dipyn o hwyl heddiw, Marilyn a fi, yn mynd am dro yn ardal y Peak efo ein ffrind Martin y dysgwr Cymraeg o Glay Cross.
I ddechrau aethon ni o amgylch rhostir Stanton, ble mae olion o oes y cerrig sef cylch Meini'r Nine Maidens a sawl tŷ crwn yma ac acw ar ben y rhostir. Ar wahân i'r hen olion o oes y cerrig roedd pethau wedi'i gadael ymhlith canghennau’r coed gan baganaidd a Cheltiaid cyfoes, pethau megis cylch efo croes yn ei ganol i gyd wedi creu gan plethi brigyn at ei gilydd. Efallai pobl yn wersyllfa adeg Calan Mai neu Galan Gaeaf oedd yn gyfrifol. Roedd digon o bobl o gwmpas ac roedden ni'n lwcus ar ran y tywydd. Wedyn aethon ni draw i gaffi Siop llyfrau Scarthins yng Nghromford i gael rhywbeth bach i fwyta cyn mynd allan eto i fynd i weld hen bwll plwm o amser y Rhufeiniad yn ardal y Via Gellia a hefyd i weld pwll plwm arall o'r 19 canrif sef the Good Luck Mine. Ar ôl dringo i fyny’r dyffryn i weld y pwll ac yn ôl roedd y tywydd wedi troi ac roedd glaw man yn disgyn, felly daethon ni adref i gael panad a darn mawr o gacen.
I ddechrau aethon ni o amgylch rhostir Stanton, ble mae olion o oes y cerrig sef cylch Meini'r Nine Maidens a sawl tŷ crwn yma ac acw ar ben y rhostir. Ar wahân i'r hen olion o oes y cerrig roedd pethau wedi'i gadael ymhlith canghennau’r coed gan baganaidd a Cheltiaid cyfoes, pethau megis cylch efo croes yn ei ganol i gyd wedi creu gan plethi brigyn at ei gilydd. Efallai pobl yn wersyllfa adeg Calan Mai neu Galan Gaeaf oedd yn gyfrifol. Roedd digon o bobl o gwmpas ac roedden ni'n lwcus ar ran y tywydd. Wedyn aethon ni draw i gaffi Siop llyfrau Scarthins yng Nghromford i gael rhywbeth bach i fwyta cyn mynd allan eto i fynd i weld hen bwll plwm o amser y Rhufeiniad yn ardal y Via Gellia a hefyd i weld pwll plwm arall o'r 19 canrif sef the Good Luck Mine. Ar ôl dringo i fyny’r dyffryn i weld y pwll ac yn ôl roedd y tywydd wedi troi ac roedd glaw man yn disgyn, felly daethon ni adref i gael panad a darn mawr o gacen.Monday, 28 May 2012
Ymweliad i Jersey
Yr ydw i wedi dod adref ar ôl truelio wythnos draw ar ynys Jersey yng nghwmni fy annwyl wraig a'm rhieni. Yr oedden ni'n aros mewn gwesty o'r enw Millbrook House Hotel ar gyrion
St Helier, prif dref yr ynys. Cawson ni penwythnos gwyl i ddechrau ond erbyn Dydd Llun roedd y tywydd wedi troi ac ar ol dydd Mawrth redd hi'n crasboeth.
Mae'r rhieni digon bregus erbyn hyn a dim yn gallu cerdded yn bell felly roedden ni'n treulio’r wythnos yn mynd o un olygfa i'r llall ac o un caffi/tŷ bwyta i'r llall. Mi gafodd M. a finnau rhai teithio cerdded ar draethau gyda'r nos a hefyd bach o gyfle i siopa yn St.Helier.
Roedd nifer fawr o ymwelwyr o wlad Ffrainc yno ac roedd cryn dipyn o'r iaith Ffrangeg i'w glywed ar y strydoedd. Roedd hi'n yn eironig braidd oherwydd doedd
dim o'r iaith leol, (Ffrangeg yr ynys /patois) i'w glywed o gwbl. Mae mewnlifiad o Bobl iaith Saesneg dros y 150 mlwydd diweddaf wedi difetha’r iaith frodorol dim ond enwau pentrefi, enwau lle a cherrig beddi sy ar ôl i ddangos bod Ffrangeg yr ynys oedd yr iaith i'r mwyafrif yr ynyswyr cyn 1900.
Mae'r ynys yn lle digon diddorol, mae gan St Helier hen farchnad liwgar efo cynnyrch lleol a marchnad bwyd mor ar wahân. Mae'na sawl porthladd bach i longau'r pysgotwyr a hefyd digon o olion y cyfnod chwerw1940-1945 pan oedd byddin yr Almaenwyr wedi meddiannu’r ynys.
St Helier, prif dref yr ynys. Cawson ni penwythnos gwyl i ddechrau ond erbyn Dydd Llun roedd y tywydd wedi troi ac ar ol dydd Mawrth redd hi'n crasboeth.Roedd nifer fawr o ymwelwyr o wlad Ffrainc yno ac roedd cryn dipyn o'r iaith Ffrangeg i'w glywed ar y strydoedd. Roedd hi'n yn eironig braidd oherwydd doedd
dim o'r iaith leol, (Ffrangeg yr ynys /patois) i'w glywed o gwbl. Mae mewnlifiad o Bobl iaith Saesneg dros y 150 mlwydd diweddaf wedi difetha’r iaith frodorol dim ond enwau pentrefi, enwau lle a cherrig beddi sy ar ôl i ddangos bod Ffrangeg yr ynys oedd yr iaith i'r mwyafrif yr ynyswyr cyn 1900.Mae'r ynys yn lle digon diddorol, mae gan St Helier hen farchnad liwgar efo cynnyrch lleol a marchnad bwyd mor ar wahân. Mae'na sawl porthladd bach i longau'r pysgotwyr a hefyd digon o olion y cyfnod chwerw1940-1945 pan oedd byddin yr Almaenwyr wedi meddiannu’r ynys.
Mae gan fy Mam, a chafodd ei geni a'i magu ar yr ynys ambell hanes trist am y cyfnod 1940-45. Roedd bwyd yn brin iawn ar yr ynys, yn enwedig rhwng 1944 a 1945 ac roedd rhaid iddi hi deithio'r ynys ar gefn beic yn chwilio ymhlith
ffermwyr y cefn gwlad ar gyfer bwyd megis gwenith, llaeth a llysiau ar gyfer ei phlant hi, Roedd llongau'r Groes Goch yn achub bywydau'r ynyswyr trwy ddod a chyflenwad bwyd yn y cyfnod hwn. Peth gwarthus am y cyfnod oedd cipio rhai pobl o dras Iddewig o'r ynys gan yr Almaenwyr a'i hel draw i wersyllfa'r Natsïaid ble wnaeth farw sawl unigolyn anffodus o'r ynys.

Roedd y
daith adref ar awyren Jet yn ddiddorol hefyd wrth adael roedden ni'n medru gweld yr ynys i gyd a Sark a Guernsey. Wedyn wrth i ni groesi i'r D.U. roedd hi'n bosib gweld Dyfnaint, Cernyw, a rhan fwyaf o Gymru gan gynnwys Abertawe, y Cymoedd, Sir Benfro, Ceredigion a hyd yn oed pen llyn. Wrth i mi weld y gorwel tua’r gorllewin mi wnes i weld yr wyddfa. Dim yn aml mae rhywun yn gweld cymaint mewn taith o 50 muned!

Saturday, 5 May 2012
Ble mae'r Gwanwyn?
Ar ôl mwynhau tywydd braf ym Mis Mawrth mae hi wedi bod yn siom mawr gweld tywydd mor wael trwy Fis Ebrill. O’n i’n gobeithio dechrau gweithio o ddifrif ar yr ardd cefn ond ar wahân i balu un o’r gwely llysiau a thorri’r lawnt dwywaith prin fod gen i gyfle i wneud gwaith yn yr ardd o gwbl.
Yn y gwaith yn Bakewell dw i wedi gweld nifer o wenoliaid yn hedfan o gwmpas siediau'r farchnad gwartheg, ac yng nghanol yr afon ger y bont troed roedd par o iâr ddŵr yn codi nyth bach twt ar ben graig ond och a gwae mae llifogydd Mis Ebrill wedi sgubo’r nyth i ebargofiant.
Ddoe, roeddwn yn Nottingham yn mwynhau cyfarfod misol y Bore Coffi Popeth yn Gymraeg, dwedodd un o’r gwragedd ffyddlon ei bod hi wedi bod yn gweddïo am law, felly gofynnais iddi hi ddechrau gweddïo am haul, dw i’n mynd ar wyliau i’r ynys Jersey ym Mis Mai ac wedyn i Garn Madryn ym Mhenllyn ym Mis Mehefin a dw i eisiau cael gadael yr ymbarél gartref!
Friday, 6 April 2012
Y Prosiect Darllen

Er gwaetha’r ffaith fy mod i wedi bod yn eitha' prysur ers y flwyddyn newydd yr ydw i wedi cael digon o amser i barhau efo'r prosiect darllen. Hyd yn hyn eleni dw i wedi gorffen 4 o lyfrau, sef tair nofel gan gynnwys Traed Oer gan Mari Emlyn, Pwll Ynfyd gan Alun Cob a'r Tair Rheol Anhrefn gan Daniel Davies. Y tair nofel yn ddarllenadwy iawn. Yr un cyntaf yn adrodd hanes athrawes piano 40 oed yn cymryd golwg dros eu bywyd hi a hen berthynas a wnaeth farw yn ystod y rhyfel byd cyntaf, y ddwy nofel arall yw rhyw fath o nofel antur/droseddol. Y llyfr arall fy mod i wedi cwblhau darllen yw The Phenomenon of Welshness gan Siôn Jobbins, sy'n gasgliad o erthyglau o'r cylchgrawn The Cambrian. Maen nhw'n ddigon diddorol, ond yr oeddwn i'n anghytuno yn llwyr efo asesiad adain dde braidd o'r maes economaidd le mae'r awdur yn mynnu bod y dyfodol yn Conservative. Twt lol.
Ar hyn o bryd mae gen i 3 o lyfr ar y gweill, sef Kate: cofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd, Atsain y Tonnau gan John Gwynne a'r llyfr diweddaf gan Mihangel Morgan sef Kate Roberts a'r Ystlum. Mi wna i adrodd yn ôl am rheiny nes ymlaen yn y flwyddyn.

Subscribe to:
Posts (Atom)

c.jpg)