Sunday, 12 May 2013
Ymwelydd o China
Cawson ni weithdy diddorol iawn ddoe. Daeth dysgwr newydd sy'n byw yn Leicester. Mae Edward Yi He wedi byw yn dde Cymru am 5 mlynedd yn gweithio ym Mhorth Talbot cyn symud i Leicester. Wnaeth o ddysgu'r Gymraeg pan oedd o'n byw yng Nghymru. Chwarae teg i Edward mae o'n siarad yn dda iawn. Cawson ni sgwrs ddifyr yn ystod y gweithdy am y Wasg Cymraeg.
Ar ôl y Gweithdy mi es i am dro o amgylch Derby efo Martin (dysgwr o Clay Cross) cyn mynd draw i Nottingham ar gyfer y prynhawn. Yr oedden ni wedi cael gwahoddiad i gartref Viv Harris sy'n byw yn West Bridgford i chware Scrabble Cymraeg. Dydd llawn o siarad Cymraeg.
Sunday, 14 April 2013
Gŵyl Canu Gwerin Hairpin Hullabaloo
Mi ges i amser braf ddoe, yn y bore cawson ni ein gweithdy Cymraeg misol, ond roedd hi'n dipyn o siom bod dim ond pedwar oedd yno. Mae'n debyg bod un person oedd wedi dod o Sheffield ond wedyn methodd dod o hyd i ni.
Yn y prynhawn mi aeth Marilyn a fi i Ŵyl Canu Gwerin yng Nghanolfan Celf y Fleet, Belper i weld grwpiau megis 'Mills a Chimneys', 'Pilgrims Progress' a 'Jez Lowe a'r Bad Pennies'.
Roedd Jez Lowe a'i band yn arbennig o dda. Yn perfformio sawl cân o'r 80au fel 'Coal Town Days', cân a oedd yn ymateb i ymosod llwyodraeth Thatcher ar y Glowyr ac undebau. Roedd cytgan y cân yn drawiadol ac yn dweud cyfrolau. 'Away they're liars and they're cheats!' ymateb gonest sy hefyd yn cael eu mynegi am Thatcher yn y dyddiau ers ei marwolaeth hi.
Mae Jez Lowe wedi sgwennu nifer fawr o ganeuon gwych yn son am y diwydiant glo, caneuon fel 'Black diamonds' a 'Small Coals'.
Does gan y papurau Llundeinig, ac arweinyddiaeth y pleidiau Gwleidyddol mawr yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, dim clem sut effaith cafodd newidiadau Llwyodraeth Thatcher ar ardaloedd glo fel y Cymoedd, Swydd Nottingham, Swydd Efrog, Swydd Durham, yr Alban. Hefyd does ganddynt ddim syniad am yr effaith drwg ar gymunedau a chymdeithas oedd cael gwared mor gyflym ar hen ddiwydiannau dur a haearn. Canlyniad eu polisïau twp a hunanol yw tranc y wlad. Does ganddynt ddim syniad a dydyn nhw dim yn malu dim. Rhag eu cywilydd.
Friday, 5 April 2013
Gwynt traed y meirw
Mi ges i ( a'r annwyl wraig) daith cerdded bleserus o amgylch cronfa dwr Carsington ar ddydd Gwener y Groglith mewn cwmni ein ffrind Colin. Roedd gwynt traed y meirw yn chwythu o'r dwyrain ond roedd digon o fywyd gwyllt i'w gweld ar y twr a hyd yn oed o dan gwt gwylio'r adar lle oedd llygoden fawr yn m
Ar wahân i'r adar ar y dŵr, roedd ambell gwch hwylio, pobl ddewr yn fy marn i.
Heddiw dw i wedi bod draw yn Nottingham yng nghwmni Cymry alltud Nottingham. Diolch i Dawn Parry Sawdon am y croeso. Roedd 9 ohonon ni'n mwynhau sgwrs, clonc a chaffi. Mae
Wednesday, 3 April 2013
Ian Duncan Smith A.S. a budd daliadau
Mae Ian Duncan Smith AS wedi datgan yn Nhŷ Cyffredin ei fod o'n gallu goroesi ar 53 o bunnau'r wythnos. Gawn ni weld os ydy o'n fodlon cadw at ei air. Hoffwn i weld cystadleuaeth teledu fatha 'I'm an MP get me out of here'. Dw i'n gallu dychmygu Ian a rhai o'i gyd aelodau toriad yn cystadlu am y wobr. Mi fydd hi'n ddiddorol cael gweld sut fasen nhw'n gwario, beth eu bod nhw'n bwyta. Ond efallai taw rhai o'r cathod tewion yn gallu ymdopi heb fwyta o gwbl am gyfnod hir. Fasa hi'n deg rhoi caniatâd i Weinidog Eric Pickles cymryd rhan? Mond yn gofyn.
Friday, 22 March 2013
Gwanwyn gaeafol
Mae hi’n hen ystrydeb bod pobl ym Mhrydain yn hoff iawn o siarad am y tywydd. Mewn gwirionedd does dim syndod am hynny, mae’r tywydd yn yr ynysoedd yma mor gyfnewidiadol. Y llynedd roedd mis Mawrth yn anarferol o gynnes ac eleni mae hi wedi bob yn anarferol o oer.
Y bore ‘ma pan wnes i ddeffro roedd haenen drwchus o eira ar draws y tir ac roedd hi dal i fwrw eira am dipyn o amser. Beth bynnag roedd hi’n ddigon drwg i achosi sefydliadau lleol i ganslo cyfarfodydd di-rif. Felly mi wnes i hefyd aros adref ond diolch i dechnoleg gwybodaeth gyfoes yr o’n i’n gallu gweithio o’m cartref. Mi ges i ddiwrnod digon clyd ond och a gwae does dim math moethusrwydd ar gael i’r bywyd gwyllt ac adar yn yr ardd.
Yn gynnar y bore’ma wnaeth fy annwyl Marilyn llenwi blychau bwyd yr adar yn yr ardd cefn ond erbyn heno mae'r blychau'n hanner wag eto. Mae’r adar wedi bod yn brysur trwy’r dydd yn bwydo a does dim syndod achos maen nhw’n wynebu noson oer, wlyb ac yn angheuol i rai ohonynt. Nid ydw i'r unig un sy’n aros yn eiddgar am y gwanwyn.
Y bore ‘ma pan wnes i ddeffro roedd haenen drwchus o eira ar draws y tir ac roedd hi dal i fwrw eira am dipyn o amser. Beth bynnag roedd hi’n ddigon drwg i achosi sefydliadau lleol i ganslo cyfarfodydd di-rif. Felly mi wnes i hefyd aros adref ond diolch i dechnoleg gwybodaeth gyfoes yr o’n i’n gallu gweithio o’m cartref. Mi ges i ddiwrnod digon clyd ond och a gwae does dim math moethusrwydd ar gael i’r bywyd gwyllt ac adar yn yr ardd.
Yn gynnar y bore’ma wnaeth fy annwyl Marilyn llenwi blychau bwyd yr adar yn yr ardd cefn ond erbyn heno mae'r blychau'n hanner wag eto. Mae’r adar wedi bod yn brysur trwy’r dydd yn bwydo a does dim syndod achos maen nhw’n wynebu noson oer, wlyb ac yn angheuol i rai ohonynt. Nid ydw i'r unig un sy’n aros yn eiddgar am y gwanwyn.
Friday, 1 March 2013
Hir oes i'r chwyldro
Y bore'ma pan o'n i'n ymweld a Derby wnes i weld dau beth sy wedi tanlinellir holl anghyfiawnder cymdeithasol sy wedi dod yn sgil polisïau llywodraethau’r 35 mlynedd ddiweddaraf.
Yn gyntaf wnes i weld cyn tenant i mi, o'r cyfnod pan o'n i'n gweithio fel Swyddog Tai yn rhoi cymorth i bobl a oedd wedi cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol lleol. Roedd y gŵr bonheddig yma yn dioddef o amwysterau dysgu a ddim wedi ymdopi efo bywyd yn dda iawn nac yn gallu cynnal swydd. Ers i mi ei weld y tro diweddaf, 6 mlynedd yn ôl, mae o bellach wedi colli ei braich de o ganlyniad i gancr. Rŵan mae o'n byw mewn fflat efo cymorth warden preswyl, ond mae'r cyngor lleol ar fin diddymu’r cymorth hyn. Ar ben hynny mae'r gŵr o dan bwysau gan y DWP i fynd yn ôl i'r gwaith. Dyma siampl berffaith o'r gwaith diafoledig sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Codi bwganod am bobl yn cam-drin y gyfundrefn lles ac yn gorfod pobl i drio gweithio sy wir ddim yn gallu gweithio. Yn wir ddyn ni'n ôl i'r gwerthoedd Fictorianaidd oedd y bondigrybwyll Mrs Thatcher yn arddel sef rhagfarnu a cham-drin pobl dlawd, pobl anabl a phobl di-rym pan mae'r cathod tewion yn y ddinas yn Llundain yn bocedi taliadau bonus o filiynau o bunnoedd.
Wedyn wrth i mi gerdded nôl i'm car ar ôl cael fy negeseuon o'r dref mi wnes i weld car efo rhifau plât Cymru arno wedi'i barcio o flaen tŷ digon cyffredin. Wn i ddim os oedd y perchennog yn dod o Gymru neu yn Gymro neu Gymraes Cymraeg ond roedd 'na siawns go dda ei fod o / ei bod hi. Tebyg mae'r car yn berchen i un o filoedd o Gymry sy wedi gorfod gadael Cymru er mwyn cael swyddi. Does dim digon o fuddsoddi mewn ardaloedd tlawd Prydain. Mae'r cymunedau yn edwino a’r iaith yn gadael y fro Cymraeg efo'r bobl ifanc.Dyma agwedd arall o'r anghyfiawnder cymdeithasol sy ar droed ar hyn o bryd. Er gwaethaf holl rethreg am y Gymdeithas Fawr, mae'r rhan fwyaf o'r cyfoeth Brydain yn cael ei ganoli yn Llundain a'r de-ddwyrain o Loegr. Wfft i weddill y wlad, wfft i'r hen ardaloedd diwydiannol boed yng Ngogledd a chanolbarth Lloegr, yr Alban neu Gymru. Dw i'n diogon hen i gofio'r Llwyodraeth Thatcher wrthi yn dinistrio (yn ddi-angen!) yr holl byllau glo a'r diwydiannau trwm. Y cyfiawnhad ar y pryd oedd gwasgu chwyddiant allan o'r system economaidd, roedd hyn yn bropaganda ac yn gelwydd noeth. Y gwir reswm oedd dial ar y NUM a hefyd i ddinistrio grym economaidd pob rhan arall o'r DU er mwyn rhoi'r holl rym economaidd yn nwylo'r crachach, y ddinas a'r Blaid Tori. Pan ddaeth Tony Blair i rym, roedd y dasg wedi'i wneud ac roedd gormod o ofyn ar y Blaid Llafur i wrth wneud y newidiadau hyn. Roedd cyflogaeth yn dod yn ôl, ond dim ond trwy dyfu maint gwasanaethau a'r biwrocrataidd. Felly nôl at Lywodraeth Tori diafoledig arall efo Cameron ac unwaith eto pobl gyffredin yn cael eu targedu efo polisïau'r toriadau.
Mae Bancwyr wedi achosi'r crisis economaidd ond pobl gyffredin a phobl ar fudd daliadau yn talu'r gost. Mae Cameron yn dweud does dim arian ar ôl. Celwydd noeth eto. Mae digon i hel y fyddin allan i Afghanistan, mae digon i wario 25 billion ar Drident. Beth ddylai'r llywodraeth wneud yn tynnu mas o Drident, tynnu mas o ryfeloedd drud dramor a defnyddio’r pres i gynnal a chadw'r gwasanaethau lles a'r budd daliadau i bobl anabl.
Mi fydd yr hen ddynes Thatcher yn gadael y byd yma cyn bo hir. Piti garw ni fydd ei syniadau hunllefus yn mynd gyda hi.
Monday, 18 February 2013
Taith Cerdded yn ardal Caergwrle
Mi ges i benwythnos hir, blinedig ond hwylus draw yn Swydd Caer a Chymru. Pan oeddwn i i ffordd mi ges i'r cyfle i ymuno a'r aelodau Cymdeithas Edward Llwyd ar daith cerdded yn

ardal Caergwrle. Roedd tua 25 o bobl ar y daith ac mi ges i groeso cyfeillgar. Oherwydd yr holl law sy wedidisgyn yr wythnos flaenorol doedd hi ddim yn bosib mynd ar hyd glannau'r afon Alyn fel oedd y cynllun gwreiddiol. Yn lle hynny aethon ni i fyny Castell Caergwrle i ddechrau, ac wedyn ar hyd y bryniau cyfagos. Roedd hi'n peth dringo ond yr oedd hi'n werth yr ymdrych. Roedd golygfeydd hyfryd o'r ardal a hefyd golygfeydd dros Swydd Caer a Swydd Amwythig i'r de. Roedd hi'n bosib gweld Castell Beeston, a bryniau Peckforton yn Swydd Caer, a hefyd y Wrekin a'r Long Mynd yn Swydd Amwythig. Cawson ni amser cinio ar ben y bryniau ac
wedyn aethon ni yn ôl lawr i'r dyffryn ac ar draws Pont Pynfarch hynafol ar gyfer hen lwybrau masnachol
a oedd yn mynd o Gaergwrle i Gaer. Roedd'na fronfraith yn canu uwchben yr afon ac yn gynharach ar y daith clywon ni cnocell y coed wrth ei waith ond welon ni mohono fo. Yn anffodus does dim llawer o bobl erbyn hyn yn ardal Caergwrle sy'n siarad yr hen iaith ond mae'na ambell carrig efo geiriau cymraeg.
Ar y Sul yr oedd digon o amser sbâr er mwyn i mi ymuno a'r Sesiwn Siarad sy'n digwydd bob mis yn lolfa Gwesty Ramada yn Wrecsam. Roedd 12 o bobl y rhan mwyaf yn ddysgwyr lleol efo ambell diwtor a Chymraes. Cawson ni sgwrs difyr a mi fydda i'n mynd yn ôl yn bendant!
Subscribe to:
Posts (Atom)


c.jpg)