Penwythnos yn Swydd Derby Er gwaetha rhagolygon y tywydd penderfynais fynd am dro bore dydd Sadwrn. I ddechrau mi es i i ben Alport Hill i edrych i'r gorllewin ac i gerdded o amgylch y safle. Roedd hi'n wyntog iawn wrth feddwl taw mis Awst yw hi, mi ges i gip dros y dyffryn ond doedd hi ddim yn bosib gweld y Wrekin na'r Long Mynd. Pan ddaeth cawod drom o law wnes i gilio i'r gar i wrando ar Radio Cymru ac i ddarllen cylchgronau’r penwythnos. Wedyn mi es i draw i Middleton Top i gerdded ar draws y rhostir yno sy'n edrych allan dros olygfeydd trawiadol i'r gogledd, dwyrain de a gorllewin. Doedd prin enaid byw ar y tir uchel ond diogon o ddefaid. Ar ran y prosiect darllen, ar hyn o bryd dw i hanner ffordd trwy lyfr gan Arwel Little am Lewis Valentine. Cyfrol hynod o ddiddorol. Gyda'r nos mi ges i dipyn o hwyl ar ôl derbyn gwahoddiad yn gynharach yn yr wythnos i siarad fel gŵr gwadd i Glwb Carafán Cymru yn ystod eu hymweliad i ardal Tansley. Roedd 28 yn bresennol yn nhafarn y Royal Oak, Tansley. Ar ôl cinio blasus yr oeddwn i'n gallu rhoi darlun iddyn nhw o'r holl bethau Cymraeg a Chymreig sy'n mynd ymlaen yn Derby a Nottingham, yn enwedig gweithgareddau’r Cylch Dysgwyr Derby. Wrth gwrs mae'r 'byd' Cymraeg yn un fach, ac roedd sawl un o'r criw efo cysylltiadau a Chymry alltud y canolbarth. Yr oedd Dydd Sul lawer lai cyffrous efo gwaith cynnal a chadw yn galw, sef ailbeintio to concrid y sied bricsen allanol.
Sunday, 18 August 2013
Penwythnos yn Swydd Derby

Sunday, 11 August 2013
Plas Penucha, Sodom a'r Eisteddfod
Yr ydw i newydd ddychwelyd ar ôl treulio saith noson yn ardal Caerwys. Oeddwn aros mewn bwthyn ym Mhlas Penucha, Caerwys ac yn teithio o amgylch y gogledd yn ymweld â ffrindiau ac wrth gwrs maes y brifwyl.
Wrth gyrraedd y plas wnaethon ni basio arwydd ffordd a oedd yn anelu at bentref o'r enw Sodom! Diolch byth doedd dim son Gomorah!
Plas Pen Ucha’ oedd cartref un o enwogion yr ardal sef Thomas Jones o Ddinbych 1756 -1820 emynydd, awdur a golygydd Y Drysorfa. Mae perchennog presennol Plas Pen Ucha’ yn ddisgynnydd iddo fo. Ar ôl cyrraedd Caerwys ar y prynhawn Sadwrn aethon ni i weld Dinbych ac i grwydro o amgylch y dref hanesyddol. Roedd yr olygfa o'r lawnt o flaen y castell yn wych ac yr oedd pafiliwn pinc yr Eisteddfod i'w weld ar ochr draw'r dyffryn. Cawson ni gip ar dafarn y Guildhall, lleoliad
sawl un o gigiau Cymdeithas yr iaith.
Ar y Dydd Sul aethon ni draw i Sir Fôn i weld ein ffrindiau Marianne a Jerry am ginio. Roedd hi'n glawio felly ar ôl pryd o fwyd blasus aethon ni i Oriel Môn yn Llangefni i weld arddangosfa am Kyffin Williams yn Fenis. Diddorol oedd gweld llun enfawr o Fenis gan Canaletto a sawl llun arall ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Ar y Dydd Llun aethon ni i oriel Celf a chrefft Rhuthun i weld yr arddangosfa o gelf gyfoes wedi'i ysbrydoli gan Edward Pugh arlunydd ac awdur Cambria Depicta. Roedden ni hefyd yn cwrdd â'n ffrindiau Martin a Rebeca o ardal Chesterfield. Mae Martin wedi pasio ei arholiad canolradd Cymraeg fel ail iaith i oedolion. Llongyfarchiadau mawr iddo
fo. Nos Lun oedd ein hymweliad cyntaf i'r maes. Yr oedden ni wedi prynu tocynnau i weld y Noson Lawen efo nifer fawr o enwogion y byd canu Cymraeg megis Hogia'r Wyddfa, Trebor Edwards a Thara Bethan.
Yr oeddwn i'n awyddus i fynd ar y maes y diwrnod wedyn. Roedd gen i raglen lawn o ddarlithoedd, cystadlaethau a chyfarfodydd yr oeddwn i wedi nodi ar Raglen y Dydd.
Ar y dydd Gwener cawson dipyn o frêc o'r brifwyl trwy fynd i Ros a Llandudno i weld y môr a'i donnau. Cyn dod yn ôl i'r maes ar gyfer cystadlaethau’r nos. Welon ni gorau cymysg ( Côr CF1, Côrdydd, ac eraill) wedyn corau yn cystadlu yn canu caneuon gwerin a hefyd cystadleuaeth corau adrodd. Wnaethon ni benderfynu gadael y pafiliwn i weld cyngerdd olaf y band enwog Edward H Dafis. Rhaid oedd pum mil o bobl yn gwrando wrth y brif lwyfan perfformio.
Felly cawson ni wythnos wych, ac yr oedden ni'n ddigon hapus i droi am adref bore dydd Sadwrn.
Wrth gyrraedd y plas wnaethon ni basio arwydd ffordd a oedd yn anelu at bentref o'r enw Sodom! Diolch byth doedd dim son Gomorah!
Plas Pen Ucha’ oedd cartref un o enwogion yr ardal sef Thomas Jones o Ddinbych 1756 -1820 emynydd, awdur a golygydd Y Drysorfa. Mae perchennog presennol Plas Pen Ucha’ yn ddisgynnydd iddo fo. Ar ôl cyrraedd Caerwys ar y prynhawn Sadwrn aethon ni i weld Dinbych ac i grwydro o amgylch y dref hanesyddol. Roedd yr olygfa o'r lawnt o flaen y castell yn wych ac yr oedd pafiliwn pinc yr Eisteddfod i'w weld ar ochr draw'r dyffryn. Cawson ni gip ar dafarn y Guildhall, lleoliad
sawl un o gigiau Cymdeithas yr iaith.
Ar y Dydd Sul aethon ni draw i Sir Fôn i weld ein ffrindiau Marianne a Jerry am ginio. Roedd hi'n glawio felly ar ôl pryd o fwyd blasus aethon ni i Oriel Môn yn Llangefni i weld arddangosfa am Kyffin Williams yn Fenis. Diddorol oedd gweld llun enfawr o Fenis gan Canaletto a sawl llun arall ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Ar y Dydd Llun aethon ni i oriel Celf a chrefft Rhuthun i weld yr arddangosfa o gelf gyfoes wedi'i ysbrydoli gan Edward Pugh arlunydd ac awdur Cambria Depicta. Roedden ni hefyd yn cwrdd â'n ffrindiau Martin a Rebeca o ardal Chesterfield. Mae Martin wedi pasio ei arholiad canolradd Cymraeg fel ail iaith i oedolion. Llongyfarchiadau mawr iddo
fo. Nos Lun oedd ein hymweliad cyntaf i'r maes. Yr oedden ni wedi prynu tocynnau i weld y Noson Lawen efo nifer fawr o enwogion y byd canu Cymraeg megis Hogia'r Wyddfa, Trebor Edwards a Thara Bethan.
Yr oeddwn i'n awyddus i fynd ar y maes y diwrnod wedyn. Roedd gen i raglen lawn o ddarlithoedd, cystadlaethau a chyfarfodydd yr oeddwn i wedi nodi ar Raglen y Dydd.
Y peth cyntaf oedd sesiwn sgwrs ddiddorol yn y Babell Len yng nghwmni 5 o fardd plant, sef Myrddin Ap Dafydd, Gwyneth Glyn, Dewi Puws, Eirug Salisbury ac Aneirin Caradog. Wedyn mi es i draw i rai o ragbrofion delyn yn y Pagoda. Yn ystod pnawn Lun mi es i i wrando ar sgwrs rhwng Mike Parker, (awdur Neighbours from Hell) a Simon Thirsk (awdur Not Quite white). Roedd Bethan Gwanas yn cadeirio'r sgwrs ddiddorol.
Uchel bwnt dydd llun oedd parti SSIW ger y llwyfan perfformio bach. Roedd tua 20 aelodau a chefnogwyr yn mwynhau diodydd a sgwrs yn yr heulwen. Diolch pawb!
Y diwrnod wedyn, Dydd Mawrth, mi aethon ni i weld sawl cystadleuaeth yn y Pafiliwn megis y Rhuban Glas
Offerynnol ( Delyn, Soddgrwth a phiano). Wedyn cystadleuaeth monolog ac yna Unawd Gymraeg. Yn syth ar ôl cinio ym Maes D mi es i draw i'r Neuadd Dawns i wrando ar sesiwn y Grŵp Gorchwyl a gorffen sy wedi ei sefydlu gan y llywodraeth i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod. Mi ges i gyfle i godi sylw am bwysigrwydd yr Eisteddfod fel modd i gymathu dysgwyr yr iaith i'r byd Cymraeg. Wedyn mi es i ymlaen i weld Lansiad 'Ffrindiaith' sef cynllun i ddod a siaradwyr a dysgwyr at ei gilydd.
Roedd Dydd Iau'r diwrnod llawn olaf i ni ar y maes. Mi wnaethon ni gwrdd â Chymry Nottingham ar y maes, sef Steffan, Gwynne, Viv a Howell a'i wraig a chwaer. Aeth y dynion i weld darlith goffa Hywel Teifi Edwards. Roedd Meredid Hopwood yn trafod Waldo Williams. Gwych o beth.
Pnawn iau mi es i i weld Corau Merched yn y pafiliwn ac wedyn draw i ddigwyddiad sef Derbyniad Undeb Cymru a'r Byd. Roedd Rhian Bebb yn perfformio ar y delyn dair rhes ac roedd lawer o Gymry o bedwar ban byd.
Ces i gyfle i wrando dipyn ar Dafydd Iwan yn perfformio ym Maes D cyn mynd draw i gwrdd â'n wraig, ffrindiau Martin, Rebeca a William 'Co-op' gynt o Flaenau Ffestiniog ond bellach o Lundain. Cawson ni ambell gwydraidd o win coch ac roedd pawb yn mwynhau.Ar y dydd Gwener cawson dipyn o frêc o'r brifwyl trwy fynd i Ros a Llandudno i weld y môr a'i donnau. Cyn dod yn ôl i'r maes ar gyfer cystadlaethau’r nos. Welon ni gorau cymysg ( Côr CF1, Côrdydd, ac eraill) wedyn corau yn cystadlu yn canu caneuon gwerin a hefyd cystadleuaeth corau adrodd. Wnaethon ni benderfynu gadael y pafiliwn i weld cyngerdd olaf y band enwog Edward H Dafis. Rhaid oedd pum mil o bobl yn gwrando wrth y brif lwyfan perfformio.
Felly cawson ni wythnos wych, ac yr oedden ni'n ddigon hapus i droi am adref bore dydd Sadwrn.
Monday, 15 July 2013
Diwrnod braf yn Belper

Cynhaliwyd Gŵyl Bwyd Belper 2013 dros y penwythnos diweddar. Roedd y tywydd yn hyfryd ac roedd nifer o ddigwyddiadau yn digwydd ochr wrth ochr i'r Ŵyl. Ar nos Sadwrn roedd cyngerdd rhad ac am ddim yn Eglwys Iesu Grist. Daeth dau gôr, sef Côr Meibion Chapel-en-le-frith a Chôr Meibion Derwent, at ei gilydd i ddiddani’r gynulleidfa. Wnaeth Côr Chapel-en-le-frith hyd yn oed canu Ar hyd y nos, efo'r bennod gyntaf yn y Gymraeg.Ar y dydd Sul cafodd Stryd Fawr Belper ei gau, ac roedd y lle yn llawn stondinau bwyd a chynnyrch lleol a sawl mil o bobl.
Roedd y gerddi yng nghanol y dref wedi meddiannu gan stondinau megis siop 'Sound Bites' o Derby sy'n gwerthu bwydydd figan a llysieuol. Hefyd roedd llwyfan perfformio yng nghanol y gerddi, a llwyfan arall y tu ôl i dafarn Yr Alarch Du.
Felly cawson ni bwyd blasus a hefyd cryn dipyn o flas ar y gerddoriaeth byw a oedd yn cael ei berfformio. Mi faswn i roi marciau deg allan o ddeg i'r grŵp 'Jiggery Folkery' a oedd yn perfformio
cymysgydd o ganeuon gwerin a hen ffefrynnau megis can Iwan MacColl 'Dirty Old Town'.
Friday, 12 July 2013
Traffig Trwm Dydd Gwener
Traffig trwm dydd Gwener. Mae hi wedi bod yn boeth iawn heddiw, a dim lawer o draffig ar yr heol sy'n arwain i fyny’r allt tuag at ein tŷ ni, ond y bora 'ma welais gwmwl mawr o fwg du yn dod agosâ at ein cartref, a dyna beth oedd yn ei hachosi, sef tri pheiriant ager yn straffaglu i fyny’r bryn.
Saturday, 6 July 2013
Wythnos braf yn yr Ysgol Haf
Yr ydw i newydd ddychwelyd o Gymru ar ôl treulio wythnos mewn wersyllfa ar gyrion Dolgellau.
Yr oeddwn i'n aros yn Nolgellau er mwyn mynd i'r Ysgol Haf yno, sy'n cael ei chynnal yng Ngholeg Meirion Dwyfor.
Roedd tua 50 o bobl ar y cwrs gan gynnwys nifer o wynebau cyfarwydd. Yr oedd dim ond 4 ohonon ni yn y dosbarth Meistroli, ond cawson ni digon i'w wneud efo sgyrsiau, ymarferion a chymorth dawnus oddi wrth y tiwtor Sandra.
Yr oeddwn i'n aros mewn pabell ar wersyllfa Dolgun Uchaf ger y little Chef. Roedd fy nghyfaill Martin wedi cyrraedd ychydig o fy mlaen i, felly ces i help llaw wrth godi fy mhabell pnawn dydd Sul (30 Mehefin) yn y glaw.
Wedyn aethon ni i ymweld â dysgwraig lleol (Karen) yn ei ffermdy Ystumgadnaeth ger Llanfachreth. Cawson ni bryd o fwyd blasus (Chilli a bara cartref), roedd hi'n noson hwylus iawn. Mae gŵr a phlant Karen wedi dysgu'r Gymraeg hefyd ac mae mam-yng-nghyfraith Karen hefyd wrthi yn dysgu'r iaith felly roedd y cwrs yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg.
Y bore wedyn aethon ni i'r Coleg am ddiwrnod cyntaf y cwrs, ac yn y prynhawn aethon ni am dro o amgylch 'Precipace Walk' efo Karen. Crispin a Sarah Hottle, y ferch o Portsmouth a enillodd ar raglen Cariad at Iaith eleni.
Roedd dydd Mawrth yn wlyb iawn, felly gyda'r nos aeth Martin a fi i dafarn y Cross Foxes ar y ffordd i Fachynlleth er mwyn fanteisio ar gyfleuster y dafarn, sef cadeiriau cyfforddus, gwres a thipyn bach o gwrw.
Dydd Mercher ar ôl diwrnod arall ar y cwrs aeth tri ohonon, Ray, Martin a finnau, draw i glwb Golff y Bala ar gyfer noson Gwylwyr S4C. Roedd tua 100 o bobl yn bresennol a chawson ni noson ddifyr yn trafod rhaglenni S4C, yn gwrando ar berfformiad gwych gan Gôr Merched Bala a chawson ambell banad, brechdan a theisen. Roedd y noson yn brofiad gwych i 'r 3 ohonon ni fel dysgwyr! Diolch yn fawr i S4C am y cyfle!
Ar ddydd Iau aeth Martin a fi draw i'r Abermo i weld y môr ac i siopau. Mi wnes i brynu copi ail-law o'r nofel Tan ar y Comin gan T Llew Jones. Bob dydd yn ystod yr wythnos yr oedd stondin llyfrau yn y Coleg efo Gwynne, Siop llyfrau Awel Meirion. Mi wnes i brynu nofel a llyfr am yr ieithoedd Celtaidd.
Roedd digon o amser sbâr i wneud cryn dipyn o ddarllen gan gynnwys Golwg, y nofel Blasu, ac ambell peth lleol megis papur bro Y Cyfnod.
Yn ystod nos Wener aethon ni draw i Faentwrog i ymweld â'r Oakley Arms ac i gwrdd â Karen a dysgwyr eraill. Cawson ni sgwrs ddifyr efo 4 o bobl o Ben Llyn hefyd.
Bore dydd Sadwrn, ar ôl codi yn gynnar mi wes i adael am 8 o'r gloch. Mi wnes i bicio i mewn i siop Awen Meirion yn y Bala i brynu anrheg i'n wraig annwyl, wedyn mi wnes i ymweld â dysgwyr yn y sesiwn Sadwrn Siarad yng nghanolfan garddio Bellis yn Holt. Roedd hi'n boeth iawn ar y daith yn ôl i Belper a bellach dwi wedi blino yn llwyr, ond ces i goblyn o wythnos draw yng Nghymru fach! Diolch i Sandra'r tiwtor, ac i'r trefnydd a thiwtoriaid eraill.
Sunday, 23 June 2013
Pori mewn siopau elusennol.
Dw i newydd ddychwelyd i Belper ar ôl treulio wythnos yng Nghymru fach. Ar wahân i fwynhau ambell ymweliad i drefi megis Porthmadog, Pwllheli a Chriccieth, roedd digon o amser i ni ddringo Tre'r Ceiri ac i ymweld â Nant Gwrtheyrn, ac i ymweld â Gwinllan Pant Du ger y Groeslon ar gyfer pryd o fwyd efo Nora Jones o Dalysarn. Diolch Nora!
Ond roedd hi'n braf hefyd i gael y cyfle i bori silffoedd siopau elusennol yn chwilota am lyfrau Cymraeg ail law. Felly wrth ddod adref i Belper roedd fy magiau yn drwm. Roedd ambell lyfr newydd sbon sef y nofel Blasu (wedi prynu o Balas Print, Caernarfon) a 'Rhint y Gelaets a'r Grug' (wedi prynu o siop Llen Llyn, Pwllheli), ond y rhan mwyaf oedd yn ail law megis Cofio Eirug, gol. Emyr Llewelyn Gruffudd, Symudliw gan Annes Glynn, Cymru ar Werth gan Penri Jones, Dim Heddwch gan Lyn Ebenezer, Y llosgi gan Robat Gruffudd, Rhwng Dau Fyd gan Bethan Phillips, Valentine gan Arwel Vittle. Roedd y prisiau yn amrywio o 75c i £2 ar gyfer y llyfrau ail law ac wrth gwrs mi wnes i dalu'r pris llawn ar gyfer y ddau lyfr newydd sbon.
Roedd hi'n braf hefyd cael y cyfle i ddarllen cylchgronau yn boeth o'r wasg wrth iddyn nhw gael ei gyhoeddi. Bellach mae gen i ddigon o ddefnydd darllen am 3 mis!
Sunday, 12 May 2013
Ymwelydd o China
Cawson ni weithdy diddorol iawn ddoe. Daeth dysgwr newydd sy'n byw yn Leicester. Mae Edward Yi He wedi byw yn dde Cymru am 5 mlynedd yn gweithio ym Mhorth Talbot cyn symud i Leicester. Wnaeth o ddysgu'r Gymraeg pan oedd o'n byw yng Nghymru. Chwarae teg i Edward mae o'n siarad yn dda iawn. Cawson ni sgwrs ddifyr yn ystod y gweithdy am y Wasg Cymraeg.
Ar ôl y Gweithdy mi es i am dro o amgylch Derby efo Martin (dysgwr o Clay Cross) cyn mynd draw i Nottingham ar gyfer y prynhawn. Yr oedden ni wedi cael gwahoddiad i gartref Viv Harris sy'n byw yn West Bridgford i chware Scrabble Cymraeg. Dydd llawn o siarad Cymraeg.
Subscribe to:
Posts (Atom)

c.jpg)