Yr ydw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael sawl wythnos yn yr hen Wlad yr haf yma. Yn gyntaf mi wnes i dreulio wythnos yn aros yn ardal Pwllheli efo fy annwyl wraig Marilyn. Am y drydedd flwyddyn yn ddilynol dyn ni wedi aros yn Nhŷ Paul ger Rhyd-y-Clafdy. Mi wnaethon ni gyrraedd ar bnawn Sul yr 8fed o Fehefin. Ar ôl dadbacio aethon ni am dro ar hyd y lonydd cul yn yr heulwen at eglwys wledig leol Llanfihangel. Tro diweddaf yr oedden ni yno doedd neb o amgylch y lle. Y tro'ma wrth i ni grwydro yn y fynwent daeth dyn o'r eglwys i ofyn i ni beth yr oedden ni'n gwneud. Roedd o'n defnyddio'r eglwys fel stiwdio celf. Doedd o ddim yn siarad yr hen iaith ond roedd ganddo fo ddiddordeb yn y cerrig beddi a'r eiriau sy wedi cerfio arnynt.
Erbyn bore dydd Llun roedd y tywydd wedi tro ac yr oedd hi'n bwrw glaw. Felly es i i bori yn siopau Pwllheli. Ro'n i'n chwilota am lyfrau Cymraeg ail-law. Pan oeddwn i'n cerdded strydoedd Pwllheli mi wnaeth Marilyn aros yn nhŷ Paul a darllen. Yn y prynhawn aethon ni i Blas Glyn-y-Weddw i weld y lluniau yno ac i gerdded rhan o lwybrau'r arfordir. Roedd golygfeydd o'r clogwynau gerllaw yn drawiadol. Cawson ni baned wedyn yng nghaffi'r Plas cyn mynd 'adref' i'r bwthyn am swper. Ar fore dydd Mawrth aethon ni i siopau ym Mhorthmadog, roedd Marilyn yn hapus iawn i siopa yn 'Kerfoots' tra yr oeddwn i'n ymweld â’r siop Cymraeg a nifer o siopau elusennol yn chwilota eto am lyfrau Cymraeg. Ar ôl swper mi es i i sesiwn 'plygu' papur bro leol sef 'Llanw Llyn', roedd tua ugain o bobl yno ac yr oedden ni'n rhoi 2600 o
gopïau at ei gilydd. Roedd Martyn Croydon yno, sef enillydd cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2013. Wnaeth o dynnu llun o ohoni i wrthi yn plygu'r papur.
Roedd hi'n ddiwrnod braf dydd Mercher felly penderfynon ni fynd i weld canolfan Y Felyn Uchaf ger Aberdaron, mae nifer o dai crwn wedi cael ei adeiladu efo mwd, cerrig lleol a tho gwyllt yn null yr hen Geltiaid. Mae'na un digon mawr i 35 o bobl cael eistedd. Mae'na sesiynau dweud stori yn cael ei gynnal yno. Yn y prynhawn aethon ni ymlaen i Aberdaron. Cawson ni ginio yn y Gegin Fawr, ac wedyn ymweliad i ganolfan o enw Porth y Swnt, sy'n olrhain hanes yr ardal. Wedyn aethon ni am banad i westy uwchben y traeth a hefyd i weld eglwys lle oedd R S Thomas yn ficer. Yn y noswaith aethon ni am bryd o fwyd yn nhŷ hen fos Marilyn sy wedi ymddeol o Buxton i fyw yng Nghricieth, roedd hi'n noson hwyr erbyn i ni gyrraedd yn ôl yn Nhŷ Paul.
Roedd hi dal yn gynnes braf ar y dydd Iau felly aethon ni i gerdded i fyny Tre'r Ceiri'r uwch ben Llithfaen. Roedd hi'n fendigedig ar ben y fryngaer ac mi wnaethon ni gwrdd â Chymraes leol a'i gwr o Seland Newydd. Cafodd Marilyn llosg haul ar ei thalcen! Gyda'r nos mi es i am beint efo Aran Jones SSIW a'i ffrindia yn nhafarn Y Twnti.
Ar fore dydd Gwener aethon ni unwaith eto i Borthmadog i siopau unwaith eto, ond hefyd aethon ni i weld oriel celf yno cyn mynd ymlaen i Bwllheli i weld hen ffrind i mi sy'n byw mewn tŷ ger y traeth.
Ar ddydd Sadwrn roedd hi'n amser i fynd yn ôl i Loegr ond ar y ffordd adref mi aethon ni i Oriel Môn yn Llangefni am ginio efo ein ffrindiau Marianne a Gerry a hefyd i edrych ar y lluniau yn yr oriel. Mae lluniau Cyffin Williams yno'n wych. Wnaethon ni gyrraedd yn ôl yn Belper yn hwyr, blinedig ac yn hiraethu am Gymru!
Doedd dim rhaid i mi aros yn rhy hir cyn dod yn ôl i Gymru. Dydd Sul 29 o Fehefin a dyma fi yn gyrru
unwaith eto tuag at y gorllewin, y tro'ma i Ddolgellau i aros ar fferm ger Llanfachreth. Roeddwn i aros yno efo ffrind (Martin) o Glay Cross a hefyd efo'r perchenogion Karen a'i gwr Crispin. Mae'r ddau ohonynt yn dysgu'r Gymraeg. Roedd Martin a Karen yn yr un dosbarth a fi o dan diwtor Rhian Bebb. Ar y noson gyntaf aethon ni am dro o amgylch y fferm 100 erw. Mae Karen a Crispin yn magu Alpacod ar y fferm ac yn marchnata’r gwlân yn lleol. Mae tua 50 o'r Alpacod ar y fferm.
Wnaethon ni gerdded i ben ucha’r fferm ac yr oedd y golygfeydd yn hyfryd o'r Gadair Idris yn yr heulwen. Roedd yr awyr tu hwnt i'r mynydd yn las las. Wnaeth Karen gogio i ni bob nos, bwyd blasus cartrefol - diolch o galon iddi!
Roedd 50 o bobl ar y cwrs ac yr oedd y gwersi yn ddiddorol ac yn dysgu pethau newydd i mi.
Nos Lun a dyma Martin, 'Lyn', sef mam yng nghyfraith Karen, a finnau'n ymweld ag Eglwys Llanfachreth. Roedden ni wedi cael yr allwedd oddi wrth Gymraes leol sy'n cadw golwg dros yr eglwys. Mae hi'n eglwys
sy'n mynd yn ôl i amser y Normaniaid, roedd hi'n hen ac yn bert ar holl gerrig beddi yn Gymraeg wrth gwrs.
Dydd Mawrth ar ôl y gwersi aeth Martin a fi i weld Maggie, sy'n ffrind i mi yn yr ardal. Roedd hi'n arfer dod ar y cwrs ond yn bellach yn gweithio mewn ysgol Cymraeg lleol. Roedd hi'n noson hwylus yn y 'Last Inn' yn Abermo yn sgwrsio ac yn gwrando ar gerddoriaeth byw yn y dafarn.
Ar y nos Fercher aethon ni am dro i fyny’r bryn y tu ôl i'r fferm. Sdim enw ar gyfer y bryn ar fap, ond mae'na gaer hynafol yno a thyllau
rhyfedd wedi cerfio yn y graig yno.
Ar y nos Iau aethon ni i sesiwn sgwrs mewn tafarn lleol o'r enw 'Ty'n y groes'. Daeth Rhian Bebb a'i thelyn i ganu ac i arwain sesiwn canu'n Gymraeg - roedd hi'n wych a thua 12 ohonon ni'n ganu yno!
Diwrnod olaf y cwrs, sy wastad yn drist, ond cawson ni hwyl cyn i ni ymgynnull ar gyfer llun ffoto y cwrs. Mi wnes i aros tan fore Dydd Sadwrn cyn teithio yn ôl i Loegr. Roedd digon o amser i bicio i mewn i siop llyfrau Awen Meirion i brynu copi o 'Raglen y Dydd' ar gyfer Eisteddfod Llanelli ac i gael sgwrs a phanad efo Gwynne, sef rheolwr y siop. Yno ymlaen i ardal Wrecsam i sesiwn sgwrs Cymraeg yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt efo Ro Ralph a dysgwyr Wrecsam ac wedyn unwaith eto dyma fi'n gadael Cymru y tu ôl i mi wrth groesi'r ffin am fis arall yn Lloegr. Mis Awst yw'r ymweliad nesa i Eisteddfod Llanelli. Methu aros.
Monday, 7 July 2014
Monday, 2 June 2014
Taith gerdded ar hyd dyffryn Dove
Mi ges i ddiwrnod braf yn cerdded a'n cyfeillion Martin ac Adrian ar hyd rhan o ddyffryn Dove ger Hartington. Mi wnaethon ni ymweld â Chastell Pilsbury cyn symud ymlaen at gerrig camu sy'n galluogi pobl i groesi afon Dove o ochr Swydd Derby i ochr Swydd Stafford.
Ar hyd y ffordd gwelon ni Boncath yn cael ei phlagio gan Frain, hefyd gwelon ni Glochdar y cerrig, gwenoliaid, y wennol du a gwennol y bondo. Roedd hi'n boeth ac mi wnes i gael tipyn bach o liw haul er fy mod i wedi gwisgo het ac eli haul. Ar ôl y daith aethon ni am banad a chacenni mewn caffi yn Hartington. Diwrnod gwych. Gobeithio mi fydd mwy o ddysgwyr a Chymry alltud yr ardal yn ymuno a ni ar y daith nesa. Gwelir gwefan ein grwp am fanylion pellach. www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com
Sunday, 11 May 2014
Hwyl ddiniwed neu fygythiad i ieithoedd Ewrop?
Yr oeddwn i'n gwylio rhan helaeth o gystadleuaeth Eurovision neithiwr. Does gen i ddim lawer o amser fel arfer ar gyfer y fath cachi rwtsh. Neithiwr roedd hi'n drawiadol iawn bod y rhan mwyaf o'r cystadleuwyr yn canu yn Saesneg. Wn i ddim os ydy hyn o ganlyniad i ddymuniadau'r grwpiau i fanteisio ar farchnad cerddoriaeth byd eang Eingl-Americanaidd neu ryw reswm arall anhysbys. Ta beth, pan ddaeth hi amser i'r canlyniadau cael eu hadrodd o 36 wledydd gwahanol ar draws Ewrop dim ond cynrychiolydd Ffranc wnaeth adrodd yn ôl yn ei mamiaith. Pawb eraill, ie PAWB! wedi adrodd y canlyniadau trwy'r Saesneg. Efallai dydy hyn dim o bwys mewn cystadleuaeth ffordd a hi fel Eurovision ond yr oeddwn i'n difaru bod y cyfle i glywed ieithoedd gwahanol Ewrop wedi cael ei cholli. Mae hi'n gwestiwn dwys a ydy dylanwad y diwydiant adloniant Eingl-Americanaidd yn mynd i arwain at dranc prif ieithoedd Ewrop heb son am ieithoedd llai a lleiafrifol y byd. Felly ydy Eurovision yn hwyl ddiniwed neu fygythiad go iawn i ieithoedd Ewrop? Mond yn gofyn.
Monday, 28 April 2014
Diwrnod i'r brenin
Mi gawson ni ( y wraig a fi) ddiwrnod i'r brenin ddoe. Roedd hi'n ddigon dymunol ar ran y tywydd a phenderfynom fynd i weld coedwig leol ger Ambergate lle mae nifer enfawr o gylchau'r gog mewn blodau a chryn dipyn o 'Ransomes' sef garlic wyllt.
Ar ôl ymweld â'r goedwig aethon ni ar hyd rhan dawel o gamlas Cromford. Yr oedden ni'n gobeithio gweld neidr y gwair ond doedd dim un i'w gweld ond roedd sawl peth arall diddorol. Pethau megis penbyliaid wrth y mil yn nofio o dan y dŵr, adar y dŵr megis Cwtiar ac Iâr Dwr yn adeiladu nythod.
Hefyd welom 2 Ddraenogyn dŵr croyw. Wrth gerdded ar hyd y gamlas welom hen dai oedd wedi cael eu hadeiladu ar yr un pryd a'r gamlas. Mae'r gamlas yn chwarchodfa natur bwysig a noddfa i'r rhai ohonom sy eisiau dianc o'r prysurdeb y byd.
Ar ôl ein taith cerdded aethon ni i fyny i Erddi Rhododendron Lea am banad a chacen a thaith arall o amgylch y gerddi prydferth. Mi fydd diwrnod cerddoriaeth yn y gerddi ym mis Mehefin efo nifer o gerddorion gwerin yn dod i chwarae alawon traddodiadol.
Ac ar ôl dod adref aeth ati i dorri'r lawnt, bellach mae'r ardd cefn yn edrych yn dwt ac yn daclus, y peth nesa i wneud rŵan ydy paratoi'r gwely llysieuol ar gyfer sawl planhigyn courgette ac ambell blanhigyn ffa dringo.
Thursday, 20 March 2014
Lotta Continua!
Mewn ffordd mae hi'n fraint, cael mynediad i lenyddiaeth gwlad a diwylliant arall, ond mewn ffordd arall mae hi'n rhywbeth anghyfforddus. Hynny yw cael gweld sut mae pobl eraill yn edrych arnoch a chael clywed eu beirniadaethau o'ch cydwladwyr a diwylliant o safbwynt anghyfarwydd. Pan oeddwn uniaith Saesneg yr oeddwn ddarllen gweithiau am hanes a syniadaeth gwleidyddiaeth asgell chwith, gan gynnwys gweithiau clasurol hen anarchwyr megis Kropotkin a Maletesta ac ysgrifenwyr mwy cyfoes fel Colin Ward. Ar ôl i mi ddod yn siaradwyr Cymraeg ac yn medru darllen yr iaith honno mi wnes i ddechrau ar y daith hir o ddarllen nofelau, a gweithiau hanes a syniadaeth wleidyddol y Cymry. A dyna'r ing. Wrth ddarllen gwaith pobl gyfoes mae'n bosib ymateb, weithiau trwy sgwrsio a thrafod yn uniongyrchol efo'r awduron. Ces i sawl sgwrs efo Colin Ward dros y blynyddoedd wyneb i wyneb ac weithiau trwy lythyr. Ond wrth ddarllen clasuron weddol ddiweddar Cymraeg dw i wedi darganfod fy mod wedi colli'r cyfle i gwrdd â rhai o'r bobl yma. Pe bawn i wedi cael fy magu fel Cymro falle mi fyswn i wedi cael y cyfle i gwrdd â'r bobl yma. Ond mae hi’n rhy hwyr. Dw i'n cael darllen eu geiriau ond does dim modd cael sgwrs efo nhw. Mae'r dialog yn un ffordd, dw i'n gallu clywed, neu yn hytrach darllen eu geiriau, ond 'sdim cyfle ymateb. Dyna'r golled. Er mor werthfawr yw darllen geiriau RS Saunders, DJ Williams, Lewis Valentine, R S Thomas a sawl arall sy bellach wedi gadael y fuchedd yma sdim cyfle ymateb. Sdim cyfle chwaith cael dweud wrthon bod y frwydr dros yr iaith a'r diwylliant yn parhau. Dim cyfle i ddangos iddyn nhw bod eu gwaith nhw wedi dwyn ffrwyth yn y canrif yma, ond er gwaethaf hynny mae'r peryg i'r iaith yn parhau. Ond i ddyfynnu'r Eidalwyr Lotta Continua! I'r Gad!
Saturday, 15 March 2014
Chwibdaith i Fanceinion
Wednesday, 5 March 2014
Teithiau a cholledion
Penwythnos diwethaf mi aeth Marilyn a finnau i fyny i Breston i nôl fy chwaer anabl ar gyfer ymweliad i Tarporley i weld ei rhieni. Roedd hynny yn rhoi'r cyfle i mi i bicio draw i Wrecsam bore dydd Sadwrn i brynu cylchgronau a llyfrau o Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl ac wedyn i dreulio dwy awr yn sgwrsio efo'r dysgwyr a Chymry sy'n mynychu'r Sesiwn Siarad yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt.
Roedd tua 15 o bobl yno a chawson ni amser diddorol yn trafod hyn a'r llall. Ond toc wedi hanner dydd roedd rhaid i mi fynd yn ôl dros y ffin. Yn ddiweddar dw i ddim wedi cael digon o amser sbâr i wneud popeth dw i eisiau gwneud ar ran y Gymraeg, pethau megis ymuno a cherddwyr Cymdeithas Edward Llwyd neu dreulio amser yn mynychu digwyddiadau diwylliannol, ond daw haul ar y bryn cyn bo hir. Dw i wedi cynllunio mynd i Gymru sawl tro dros yr haf i gael y 'dos' blynyddol o'r Gymraeg a Chymreictod.
Bu farw fy modryb Margeurite Mills yn Jersey ym mis Chwefror ac wedyn pan oedd yn aros yn Tarporley dros y Sul cyrhaeddodd rhagor o newyddion trist, hynny oedd un arall o'm modrybedd wedi marw yn sydyn, modryb Clare Whittaker a oedd yn byw yn Hwlffordd. Dyma'r ail farwolaeth yn y teulu ers Nadolig. Roeddwn hoff iawn ohoni hi, ond y golled fwyaf yw'r golled i'r teulu agos sef ei gwr a'i phlant. Heddwch i lwch y ddwy ohonyn nhw.
Roedd tua 15 o bobl yno a chawson ni amser diddorol yn trafod hyn a'r llall. Ond toc wedi hanner dydd roedd rhaid i mi fynd yn ôl dros y ffin. Yn ddiweddar dw i ddim wedi cael digon o amser sbâr i wneud popeth dw i eisiau gwneud ar ran y Gymraeg, pethau megis ymuno a cherddwyr Cymdeithas Edward Llwyd neu dreulio amser yn mynychu digwyddiadau diwylliannol, ond daw haul ar y bryn cyn bo hir. Dw i wedi cynllunio mynd i Gymru sawl tro dros yr haf i gael y 'dos' blynyddol o'r Gymraeg a Chymreictod.
Bu farw fy modryb Margeurite Mills yn Jersey ym mis Chwefror ac wedyn pan oedd yn aros yn Tarporley dros y Sul cyrhaeddodd rhagor o newyddion trist, hynny oedd un arall o'm modrybedd wedi marw yn sydyn, modryb Clare Whittaker a oedd yn byw yn Hwlffordd. Dyma'r ail farwolaeth yn y teulu ers Nadolig. Roeddwn hoff iawn ohoni hi, ond y golled fwyaf yw'r golled i'r teulu agos sef ei gwr a'i phlant. Heddwch i lwch y ddwy ohonyn nhw.
Subscribe to:
Posts (Atom)















c.jpg)