Monday, 24 November 2014
Malcolm Bennett 1944-2013
Ces i dipyn o fraw ar nos Iau wrth glywed, yn hwyr las, bod hen gyfaill i mi wedi marw dros ddeunaw mis yn ôl. Doedden ni ddim wedi bod mewn cyswllt am sbel, ond am gyfnod maith roedd Malcolm Bennett yn aelod o'n grŵp Cerddwyr Radicalaidd (Red Rambles) a oedd yn weithredol rhwng 1994 a 2004 yn ardal y Peak. Roedd Malcolm (Malc i'w gyfeillion) wedi symud i Swydd Derby o ardal Reading i fyw mewn Commune yn Milford, nes ymlaen, ar ôl i'r commune chwalu yn gyfeillgar, roedd o a'i deulu yn parhau i fyw yn ardal Belper. Roedd Malc yn 'Hippie' go iawn yn null y chwedegau, hynny yw yn credu mewn bywyd amgen, yn defnyddio tipyn bach o ganabis, ac yn mwynhau byw. Roedd o hefyd yn grefftwr dawnus, yn gerflunwyr ben i gamp ac yn gallu creu a chwarae offerynnau cerddorol. Roedd o'n cadw lotment o fath wrth ochr y gartref teuluol oedd yn gynhyrchiol iawn ond hefyd yn rhyw fath o oriel celf ar gyfer ei weithiau cerflunio. Sawl tro yng nghwmni Malcolm mi wnes i gerdded mewn rhannau gwahanol o ardal y Peak mewn hindda a glaw. Roedd ganddo fo bob tro rhywbeth diddorol i'w dweud hyd yn oed os oedd o'n ymestyn y gwirionedd ar adegau. Ac ar ben y ffaith ei fod o'n gerflunydd da roedd o'n ddyn handi go iawn a dw i'n cofio gweld y gwaith adeiladu wnaeth o yn ei dy ei hunan. Roedd lle tan arbennig o gerrig efo maen glo arbennig yng nghanol y bwa, roedd Malcolm wedi darganfod bricsen leol efo'r gair Belper wedi’i stampio arno, a dyna beth oedd y maen glo perffaith i'r pentan. Gwych. Yn 2008 roedd Malcolm yn hapus i gymryd rhan mewn prosiect ffilmio fideo ar gyfer gwefan 'Anarchist Voices Video Project', (gwelir https://www.youtube.com/watch?v=uP1boeYGr7M&list=UUldSU6_0rW6YMH1_7OT1KTg ) prosiect oedd yn rhoi llwyfan i anarchwyr o wahanol fathau son am eu bywydau, prosiectau a beth oedd anarchiaeth yn golygu iddyn nhw. Roedd ei gyfraniad yn ddiddorol ond wrth edrych arno rŵan dw i'n sicr mi fydda i'n gweld eisiau Malcolm. Malcolm Bennet 1944-2013. Heddwch i'w lwch.
Saturday, 27 September 2014
Parti dathlu Siop Llyfrau Scarthin yn 40 oed!
Cawson ni noson hwylus yng nghwmni perchennog, staff a chwsmeriaid siop llyfr hynotaf yng nghanolbarth Lloegr, Prydain a'r byd sef Siop Llyfrau Scarthin, Cromford, Swydd Derby. Mae'r siop yn dathlu 40 oed eleni. Cafodd y siop ei sefydlu yn 1974 gan Dave Mitchell. Mae o dal wrth y llwy efo cymorth ei deulu a chriw o weithwyr ffyddlon a llu o gwsmeriaid teyrngar.
Mae arwyddair y siop yn ddweud ei fod yno er mwyn darparu ar gyfer 'y mwyafrif o leiafrifoedd'. Mae hi'n wir oherwydd eu bod chi'n medru dod o hyd i unrhyw bwnc bron, yn y byd. Mae'r siop yn gwerthu cyfuniad o lyfrau newydd sbon, llyfrau ail-law a llyfrau hynafol. Ar ben hyn mae'na gaffi yng nghefn y siop sy'n gweini bwydydd a chacenni cartrefol. Bob hyn a hyn mae'r siop yn cynnal digwyddiadau yn y cafe fell llaawsiadau llyfrau ac ambell 'Cafe Pholosophique'. Mae gwefan y siop yn dangos y cyfan. http://www.scarthinbooks.com
Roedd y parti neithiwr yn llawn o bobl, nifer ohonynt mewn gwisg o'r saithdegau. Fel pob parti da roedd diodydd a bwydydd bach ond campwaith y noson oedd y gacen pen-blwydd.
Diolch yn fawr Dave a'i deulu! Ni fysai bywyd deallusol Swydd Derby yr un heb gyfraniad Siop Scarthin.
Roedd y parti neithiwr yn llawn o bobl, nifer ohonynt mewn gwisg o'r saithdegau. Fel pob parti da roedd diodydd a bwydydd bach ond campwaith y noson oedd y gacen pen-blwydd.Diolch yn fawr Dave a'i deulu! Ni fysai bywyd deallusol Swydd Derby yr un heb gyfraniad Siop Scarthin.
Monday, 22 September 2014
Taro deg yn Derby!
Roedd pobl wedi dod o bell, sef Huddersfield, Chesterfield, Solihull Newport yn Swydd Amwythig, Nottingham a nifer o leoedd agos megis Belper, Nottingham, Alfreton a Derby. Mi fydd Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn parhau efo cyfres o weithdy misol tan Fis Mehefin. Mae'na groeso i ddysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf.
Yn ddiweddar y mis yma mi fydda i'n mynd i weld Cymry Nottingham yn y Bore Coffi Popeth yn Gymraeg a mis nesa mi fydd taith gerdded Cymraeg ar Sadwrn 25 o Hydref 10.30 y bore o faes parcio Middleton Top Engine House, ger Matlock.
Roedd hi'n braf cael gweld cymaint o ddysgwyr brwd fore Sadwrn diweddar a dyn ni'n edrych ymlaen at weld nifer ohonynt eto! Daliwch ati!
Saturday, 20 September 2014
Penwythnos yn ardal Dolgellau
Mi ges i benwythnos hyfryd iawn yn ddiweddar yn mynd a'r rhieni draw i ardal Dolgellau. Cawson ni dwy noson yng Ngwesty Gwernan ar ochr Cader Idris i Ddolgellau. Wnaethon ni adael Tarporley ar fore Gwener yn anelu am Langollen i ddechrau le cawson ni daith gerdded hyd y bont hynafol uwchben yr afon Dyfrdwy. Wedyn wnaethon ni yrru i'r Bala i gael coffi yn y caffi drws nesa i siop Awen Meirion ac wedyn ymweliad cyflym i archfarchnad Sbâr i brynu cynhwysion picnic.
Cawson ni bicnic bach neis ar lan Llyn Tegid cyn cyrraedd Dolgellau yn gynnar yn y prynhawn. Ar ôl gadael ein bagiau yn y gwesty aethon ni am daith car i Benmaen-pwll i weld Gwesty'r George a'r bont dal. Ac yna ar ôl panad aethon ni ymlaen i weld y llynnoedd islaw Cader Idris. Roedd y golygfeydd yn hydrefol ond hyfryd.
Mi oedd y pryd o fwyd yn y Gwernan gyda'r nos yn flasus ac mi oedden ni wedi plesio efo safon y llety.
Ar y dydd Sadwrn aethon ni am daith car arall i Fairbourne, Dolgellau ac yn ôl i Ddolgellau mewn pryd i gael cinio yn y Sosban. Doedd dim lle i ni ar y llawr is, felly aethon ni lan y grisiau i stafell oedd arfer bod yn Llys i'r Goron. Roedd gwaith plaster ar yn wal yn cyhoeddi'r dyddiad 1606. Cawson ni ginio swmpus cyn mynd yn ôl ' Westy Gwernan i eistedd ar fainc y tu allan i'r llety yn edrych ar draw'r llyn pysgota.
Ar yr ail noson penderfynon ni mynd i chwilio am dŷ bwyta lleol ac yn y pendraw cawson ni bryd o fwyd yn y Little Chef lleol.
Aethon ni nol i Tarporley trwy'r Bala ond roedd digon o amser i alw mewn i weld Capel grug ger Corwen ac i ymweld â Siop bwyd Stad Grug.
Roedd hi'n benwythnos neis mewn ardal hyfryd.
Friday, 15 August 2014
Gwyliau haf yng Nghymru rhan 2
Unwaith
eto yng Nghymru annwyl! Wel
dyma fi'n ôl yn Lloegr i fod yn fanwl gywir ar ôl pum noson a chwe diwrnod yn
ardal Llanelli ar gyfer yr Eisteddfod. Rhaid dweud roedd hi'n dipyn o daith i
lawr yn y car ar ddydd Sul penwythnos cyntaf yr Ŵyl. Mi wnaeth y daith para am
bum awr a hanner. Hen digon, ac roedd rhaid i mi e'i thorri hi i gysgu ar ôl
croesi'r ffin. Mi ges i hwyl ar y nos Sul oherwydd roedd ddrama wedi cael ei
llwyfannu gan Gymdeithas yr Iaith yn y
Tomas Arms, sef 'Dynes a hanner gyda Rhian Morgan & Llio Sulyn. Roedd hi'n
wych a phawb yn chwerthin yn braf. Wrth gwrs yr oeddwn i wedi paratoi amserlen
personnel ar gyfer y pum diwrnod wedyn, ond er fy mod i wedi cynllunio yn
ofalus ofer yw'r ymdrech. Bob tro yr wyt ti wedi cyrraedd y maes ti'n sicr i
gwrdd â hon a hon a chael sgwrs hir cyn sylweddoli
bod y drysau wedi cau ar gyfer y digwyddiad yr oeddech chi yn anelu amdano.
Er
gwaetha hyn, mi wnes i lwyddo i weld
ambell gystadleuaeth ar fore dydd Llun yn y Pafiliwn, megis cystadleuaeth unawd Cerdd Dant ac unawd canu gwerin cyn mynd i'r Babell Lên i wrando ar Emyr Davies
yn siarad am T H Parry Williams ac wedyn Mererid Hopwood yn sgwrsio am Lyfr Du
Caerfyrddin.
Wedyn
mi wnes i dreulio'r prynhawn yn crwydro’r maes ac yn ymweld â maes D. Mi wnes i gwrdd â'n hen
fos, Dai Pryer o Fenter Iaith Abertawe.
Mae Dai bellach yn gweithio i'r Urdd yng Nghaerfyrddin.
Bore
Dydd Mawrth mi wnes i ddechrau ym Maes D am banad a sgwrs cyn mynd i'r Pafiliwn
am dipyn, wedyn ymlaen i'r Cwt Ddrama am un o’r gloch i wylio'r Sgript Slam,
sef tair drama wahanol gan awduron
newydd ac wedyn cael clywed barn tri arbenigwr yn dadansoddi’r dramáu cyn pleidleisio i
benderfynu’r enillydd. Roedd safon pob un yn wych. Wedyn cinio ym maes D a mwy
byth o grwydro'r maes. Y nos Fawrth mi
wnes i fynd ac Eileen Walker o Fradford i drio cael mynediad i'r ddrama Cymraeg
yn y theatr yn Llanelli, ond och a gwae (i ni) doedd dim seddi ar ôl am yr
wythnos gyfan!
Bore
dydd Mercher mi wnes i dreulio dipyn o amser yn y Pafiliwn a ches i sgwrs efo
'Maureen' sef ffrind i Wiliam. Wedyn ymlaen i'r Babell Lên i wrando ar sgwrs
rhwng Beti George a Hywel Gwynfryn ynglŷn â'r Llyfr mae Hywel wedi sgwennu am y
ddau gomedïwr. Am 2 o'r gloch roedd rhaid i mi bicio draw i faes D i weld
Joella Price yn cystadlu am deitl Dysgwr y Flwyddyn. Roedd Joella yn aelod rheolaidd
o gyfarfodydd Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham am y tair blynedd yr oedd
hi'n astudio yn Nottingham. Roedd Joella wedi dod a gwisg nyrsio a oedd yn
dangos y bathodyn wedi gwneud yn
frodwaith 'Iaith Gwaith' sy’n dangos i'r
cleifion, ei bod hi, fel nyrs, yn medru'r Gymraeg. Mi wnes i weld Howell Price
a'i wraig ond dim ond am eiliadau ym Maes D. Wedyn mi wnes i weld digwyddiad ym
mhabell ‘Platiad' ar gyfer gwasanaeth gofal Cymraeg newydd. Roedd cyn cadeirydd Menter Iaith
Abertawe (Hugh Dylan Owen) yn cymryd rhan. Chawson ni sgwrs dros banad am dipyn
yn trafod gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth yr iaith.
Yno
ymlaen i grwydro'r maes unwaith eto. Mi wnes i weld Noson Lawen Trac yn Nhŷ
Gwerin (sef yr Ywrt mawr) cyn mynd nôl i'r Stafell yn y Travel Lodge yn Penllegaer ar gyrion Abertawe, ble oeddwn i'n
aros. Llety sylfaenol a dim gwasanaeth S4C ar y teledu. Gwarthus.
Ar fore
Iau, roedd y bysiau wedi mynd erbyn i mi gyrraedd Maes Parcio 3 ac roedd rhaid i mi aros am 40
muned am y bws nesa. Pan oeddwn i'n aros
mi wnes i glywed cyfweliad ar Radio Cymru efo Dylan Owen yn siarad â Joella Price
am ei champ yn ennill y gystadleuaeth. Mi wnes i gwrdd â Martin ar y maes. Y
peth
Ar y
diwrnod olaf mi wnes i dreulio'r bore efo Martin yn y Lolfa
Yr
oeddwn i wedi cael wythnos brysur, ond ar ôl dod adref mae hi wastad bach yn drist. Mae'na dueddiad gen i i ddioddef o'r felyn ar ôl i mi ddod adref o'r
Eisteddfod. Ond gwellhad i hyn yw mynd ar y cyfrifiadur i fwcio'r llety ar
gyfer Meifod 2015. Do mi wnes i fwcio wythnos mewn bwthyn yn
Llanrhaeadr-ym-mochnant. Methu aros.
Monday, 7 July 2014
Gwyliau Haf yng Nghymru rhan 1
Yr ydw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael sawl wythnos yn yr hen Wlad yr haf yma. Yn gyntaf mi wnes i dreulio wythnos yn aros yn ardal Pwllheli efo fy annwyl wraig Marilyn. Am y drydedd flwyddyn yn ddilynol dyn ni wedi aros yn Nhŷ Paul ger Rhyd-y-Clafdy. Mi wnaethon ni gyrraedd ar bnawn Sul yr 8fed o Fehefin. Ar ôl dadbacio aethon ni am dro ar hyd y lonydd cul yn yr heulwen at eglwys wledig leol Llanfihangel. Tro diweddaf yr oedden ni yno doedd neb o amgylch y lle. Y tro'ma wrth i ni grwydro yn y fynwent daeth dyn o'r eglwys i ofyn i ni beth yr oedden ni'n gwneud. Roedd o'n defnyddio'r eglwys fel stiwdio celf. Doedd o ddim yn siarad yr hen iaith ond roedd ganddo fo ddiddordeb yn y cerrig beddi a'r eiriau sy wedi cerfio arnynt.
Erbyn bore dydd Llun roedd y tywydd wedi tro ac yr oedd hi'n bwrw glaw. Felly es i i bori yn siopau Pwllheli. Ro'n i'n chwilota am lyfrau Cymraeg ail-law. Pan oeddwn i'n cerdded strydoedd Pwllheli mi wnaeth Marilyn aros yn nhŷ Paul a darllen. Yn y prynhawn aethon ni i Blas Glyn-y-Weddw i weld y lluniau yno ac i gerdded rhan o lwybrau'r arfordir. Roedd golygfeydd o'r clogwynau gerllaw yn drawiadol. Cawson ni baned wedyn yng nghaffi'r Plas cyn mynd 'adref' i'r bwthyn am swper. Ar fore dydd Mawrth aethon ni i siopau ym Mhorthmadog, roedd Marilyn yn hapus iawn i siopa yn 'Kerfoots' tra yr oeddwn i'n ymweld â’r siop Cymraeg a nifer o siopau elusennol yn chwilota eto am lyfrau Cymraeg. Ar ôl swper mi es i i sesiwn 'plygu' papur bro leol sef 'Llanw Llyn', roedd tua ugain o bobl yno ac yr oedden ni'n rhoi 2600 o
gopïau at ei gilydd. Roedd Martyn Croydon yno, sef enillydd cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2013. Wnaeth o dynnu llun o ohoni i wrthi yn plygu'r papur.
Roedd hi'n ddiwrnod braf dydd Mercher felly penderfynon ni fynd i weld canolfan Y Felyn Uchaf ger Aberdaron, mae nifer o dai crwn wedi cael ei adeiladu efo mwd, cerrig lleol a tho gwyllt yn null yr hen Geltiaid. Mae'na un digon mawr i 35 o bobl cael eistedd. Mae'na sesiynau dweud stori yn cael ei gynnal yno. Yn y prynhawn aethon ni ymlaen i Aberdaron. Cawson ni ginio yn y Gegin Fawr, ac wedyn ymweliad i ganolfan o enw Porth y Swnt, sy'n olrhain hanes yr ardal. Wedyn aethon ni am banad i westy uwchben y traeth a hefyd i weld eglwys lle oedd R S Thomas yn ficer. Yn y noswaith aethon ni am bryd o fwyd yn nhŷ hen fos Marilyn sy wedi ymddeol o Buxton i fyw yng Nghricieth, roedd hi'n noson hwyr erbyn i ni gyrraedd yn ôl yn Nhŷ Paul.
Roedd hi dal yn gynnes braf ar y dydd Iau felly aethon ni i gerdded i fyny Tre'r Ceiri'r uwch ben Llithfaen. Roedd hi'n fendigedig ar ben y fryngaer ac mi wnaethon ni gwrdd â Chymraes leol a'i gwr o Seland Newydd. Cafodd Marilyn llosg haul ar ei thalcen! Gyda'r nos mi es i am beint efo Aran Jones SSIW a'i ffrindia yn nhafarn Y Twnti.
Ar fore dydd Gwener aethon ni unwaith eto i Borthmadog i siopau unwaith eto, ond hefyd aethon ni i weld oriel celf yno cyn mynd ymlaen i Bwllheli i weld hen ffrind i mi sy'n byw mewn tŷ ger y traeth.
Ar ddydd Sadwrn roedd hi'n amser i fynd yn ôl i Loegr ond ar y ffordd adref mi aethon ni i Oriel Môn yn Llangefni am ginio efo ein ffrindiau Marianne a Gerry a hefyd i edrych ar y lluniau yn yr oriel. Mae lluniau Cyffin Williams yno'n wych. Wnaethon ni gyrraedd yn ôl yn Belper yn hwyr, blinedig ac yn hiraethu am Gymru!
Doedd dim rhaid i mi aros yn rhy hir cyn dod yn ôl i Gymru. Dydd Sul 29 o Fehefin a dyma fi yn gyrru
unwaith eto tuag at y gorllewin, y tro'ma i Ddolgellau i aros ar fferm ger Llanfachreth. Roeddwn i aros yno efo ffrind (Martin) o Glay Cross a hefyd efo'r perchenogion Karen a'i gwr Crispin. Mae'r ddau ohonynt yn dysgu'r Gymraeg. Roedd Martin a Karen yn yr un dosbarth a fi o dan diwtor Rhian Bebb. Ar y noson gyntaf aethon ni am dro o amgylch y fferm 100 erw. Mae Karen a Crispin yn magu Alpacod ar y fferm ac yn marchnata’r gwlân yn lleol. Mae tua 50 o'r Alpacod ar y fferm.
Wnaethon ni gerdded i ben ucha’r fferm ac yr oedd y golygfeydd yn hyfryd o'r Gadair Idris yn yr heulwen. Roedd yr awyr tu hwnt i'r mynydd yn las las. Wnaeth Karen gogio i ni bob nos, bwyd blasus cartrefol - diolch o galon iddi!
Roedd 50 o bobl ar y cwrs ac yr oedd y gwersi yn ddiddorol ac yn dysgu pethau newydd i mi.
Nos Lun a dyma Martin, 'Lyn', sef mam yng nghyfraith Karen, a finnau'n ymweld ag Eglwys Llanfachreth. Roedden ni wedi cael yr allwedd oddi wrth Gymraes leol sy'n cadw golwg dros yr eglwys. Mae hi'n eglwys
sy'n mynd yn ôl i amser y Normaniaid, roedd hi'n hen ac yn bert ar holl gerrig beddi yn Gymraeg wrth gwrs.
Dydd Mawrth ar ôl y gwersi aeth Martin a fi i weld Maggie, sy'n ffrind i mi yn yr ardal. Roedd hi'n arfer dod ar y cwrs ond yn bellach yn gweithio mewn ysgol Cymraeg lleol. Roedd hi'n noson hwylus yn y 'Last Inn' yn Abermo yn sgwrsio ac yn gwrando ar gerddoriaeth byw yn y dafarn.
Ar y nos Fercher aethon ni am dro i fyny’r bryn y tu ôl i'r fferm. Sdim enw ar gyfer y bryn ar fap, ond mae'na gaer hynafol yno a thyllau
rhyfedd wedi cerfio yn y graig yno.
Ar y nos Iau aethon ni i sesiwn sgwrs mewn tafarn lleol o'r enw 'Ty'n y groes'. Daeth Rhian Bebb a'i thelyn i ganu ac i arwain sesiwn canu'n Gymraeg - roedd hi'n wych a thua 12 ohonon ni'n ganu yno!
Diwrnod olaf y cwrs, sy wastad yn drist, ond cawson ni hwyl cyn i ni ymgynnull ar gyfer llun ffoto y cwrs. Mi wnes i aros tan fore Dydd Sadwrn cyn teithio yn ôl i Loegr. Roedd digon o amser i bicio i mewn i siop llyfrau Awen Meirion i brynu copi o 'Raglen y Dydd' ar gyfer Eisteddfod Llanelli ac i gael sgwrs a phanad efo Gwynne, sef rheolwr y siop. Yno ymlaen i ardal Wrecsam i sesiwn sgwrs Cymraeg yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt efo Ro Ralph a dysgwyr Wrecsam ac wedyn unwaith eto dyma fi'n gadael Cymru y tu ôl i mi wrth groesi'r ffin am fis arall yn Lloegr. Mis Awst yw'r ymweliad nesa i Eisteddfod Llanelli. Methu aros.

Monday, 2 June 2014
Taith gerdded ar hyd dyffryn Dove
Mi ges i ddiwrnod braf yn cerdded a'n cyfeillion Martin ac Adrian ar hyd rhan o ddyffryn Dove ger Hartington. Mi wnaethon ni ymweld â Chastell Pilsbury cyn symud ymlaen at gerrig camu sy'n galluogi pobl i groesi afon Dove o ochr Swydd Derby i ochr Swydd Stafford.
Ar hyd y ffordd gwelon ni Boncath yn cael ei phlagio gan Frain, hefyd gwelon ni Glochdar y cerrig, gwenoliaid, y wennol du a gwennol y bondo. Roedd hi'n boeth ac mi wnes i gael tipyn bach o liw haul er fy mod i wedi gwisgo het ac eli haul. Ar ôl y daith aethon ni am banad a chacenni mewn caffi yn Hartington. Diwrnod gwych. Gobeithio mi fydd mwy o ddysgwyr a Chymry alltud yr ardal yn ymuno a ni ar y daith nesa. Gwelir gwefan ein grwp am fanylion pellach. www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com
Subscribe to:
Posts (Atom)

c.jpg)