Mae aelodau Tŷ’r Cyffredin yn San Steffan ar fin cynnal dadl i benderfynu a ydy'r llu awyr Prydain Fawr i ddechrau ymosod ar ardal o Syria sy o dan reolaeth ISIS. Dyw canlyniad y bleidlais yn Llundain dim yn anodd rhagweld, mae David Cameron wedi datgan yn barod dyw e ddim am gynnal y ddadl a'r bleidlais oni bai ei fod e'n mynd i ennill. Mae ennill pleidlais yn y Tŷ Cyffredin yn ddigon hawdd iddo fe, peth arall yw 'ennill' yn Syria.
Mae nifer o arbenigwyr wedi datgan bod ISIS yn fudiad 'gorila', hynny yw mae'n nhw cuddio ymhlith sifiliad a phobl ddiniwed, os daw byddinoedd estron i mewn i Syria mi fydd milwyr ISIS yn diflannu. Fel mae'r rhyfel hir yn Afghanistan wedi profi, dyw hi dim yn beth bach i drechi fyddin o'r fath.
Mae gwledydd y gorllewin wedi ymosod sawl tro o'r blaen ar wledydd yn Affrica a'r dwyrain canol megis Libya, Afghanistan ac Iraq. Mae gan Brydain, Ffranc ac America hanes cywilyddus o ymosod ym mhumdegau'r ganrif diweddaf, hynny yw 'coup' yn Iran a wnaeth dymchwel llywodraeth ddemocrataidd, coup a daeth Shah Iran i rym. Hefyd wnaeth Brydain a Ffrainc ymosod ar yr Aifft yn 1956 er mwyn ailfeddianu camlas Suez.
Ar wahân i'r miloedd o bobl ddiniwed sy'n mynd i farw o dan fomiau'r RAF, canlyniad go iawn i fynd i ryfel bydd mwy o derfysg ar strydoedd Prydain, mwy o aelodau yn heidio i ISIS ac ymestyn hyd yr amser cyn i heddwch dychwelyd i'r byd. Ar wahân i ISIS dim ond y gwerthwyr arfau bydd yn dathlu.
Tuesday, 1 December 2015
Friday, 2 October 2015
Tymor newydd
Mae mis Medi wedi dod i ben a dyna ni ar ddechrau mis Hydref yn barod.
Wednesday, 2 September 2015
Diwedd haf
Dyw hi ddim wedi bod yn boeth iawn yr haf yma ond er gwaethaf hynny yr ydw i wedi cael sawl gŵyl braf draw yng Nghymru.
Ym mis Mehefin treuliais wythnos efo fy annwyl wraig draw yng nghyffiniau Pwllheli, wedyn ar ôl 'mond wythnos nol yn y gwaith yr oeddwn i'n mwynhau wythnos arall yn aros yn Llanfachreth ar fferm Ystum Gwadnaeth efo Krispin a Karen tra oeddwn i'n mynychu Ysgol Haf Cymraeg Dolgellau. Uchel bwnt yr haf wrth gwrs oedd Eisteddfod Meifod.
Dw i wedi bod yn Eisteddfodwr brwd byth ers 'Steddfod Dinbych yn 2001.
Dyma un o gyfleoedd gorau i 'foddi' yn y Gymraeg ac i anghofio am siarad Saesneg am wythnos. Trwy fynychu'r 'Steddfod yn flynyddol dw i wedi ymweld ag ardaloedd o Gymru ni faswn i byth wedi gweld oni bai am yr Eisteddfod.Felly hir oes i'r Brifwyl!
Wrth gwrs mae diwedd yr Haf yn golygu fy mod i'n wynebu misoedd tywyll yr Hydref a Gaeaf yn ôl yn y gwaith, ond ar yr ochr da mi fydd y 'pethe' Cymraeg lleol yn ailddechrau. Pethe megis y bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol yn Nottingham, y gweithdai Cymraeg misol yn Derby, ein hysgol Cymraeg blynyddol ac ambell daith gerdded a digwyddiad cymdeithasol mewn Cymraeg. Unwaith dyn ni wedi cyrraedd dydd Calan mi fyddwn i'n dechrau edrych ymlaen at yr Eisteddfod nesa. Felly ymlaen i'r Fenni.
Sunday, 21 June 2015
Wythnos ym Mhenllyn
Dyma ni heddiw ar ddiwrnod 'hirddydd haf', ac wedi dod adref ar ôl treulio wythnos gyfan ym Mhenllyn. Roedd hi'n gymysg o ran tywydd efo rhai dyddiau heulog ac ambell un cymylog efo dipyn o law.
Er gwaethaf hynny mi lwyddon ni ymweld â nifer fawr o lefydd megis, Caernarfon, Criccieth, Pwllheli, Lanbedrog, Aberdaron, Nefyn, Llanfair PG a Llangefni yn Sir Fon.
Ar ran atyniadau twristaidd ymwelon ni a Phlas Gilyn y Weddw efo ein ffrindiau Dafydd a Jane o Fae Colwyn i weld arddangosfa o luniau sy'n dathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia. Roedd hi'n wych efo lluniau gan Delyth Llwyd Evans de Jones (1915-1986) o Batagonia. Hefyd aethon ni i weld Plas yn Rhiw a'i gerddi wrth ochr Porth Neigwl. Mi wnaethon ni cerdded i ben Tre'r Ceiri ac wedi (yn y car) i lawr i Gaffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn.

Wrth gyrraedd Pen Llyn mi wnes i brynu copi o Lanw Llyn er mwyn gweld beth oedd yn mynd ymlaen ymhlith y Cymry Cymraeg. Felly dyna fi, ar y nos Sul cyntaf, yn mynd ar fy nen fy hunan i wrando ar Gymanfa Ganu yng Nghapel y Traeth, Criccieth efo Trystan Lewis yn arwain. Roedd y canu yn hyfryd ond oedran y gynulleidfa ar y cyfan rhwng 60 a 85. Trist dweud ond ni fydd y traddodiad yma yn para yn hir. Ar y nos Llun mi es i i Lansiad llyfr (Pam Na Fu Cymru) yng nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr. Cafodd darlith am gynnwys y llyfr gan yr awdur (Simon Brooks), ambell sgwrs ddiddorol, panad ac wrth gwrs roedd rhaid i mi brynu’r llyfr.Ar y nos Fawrth ces i sgwrs efo Aran Jones (un o sylfaenwyr cwmni SSIW) a'i ffrindiau yn Nhafarn y Twnti, Rhydyclafdy. Ar nos Fercher aeth Marilyn a finnau i sesiwn Panad a gemau yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Braf gweld y dysgwyr lleol. Nifer ohonynt wedi symud i'r ardal o rannau gwahanol o Loegr a thu hwnt.
Ar y dydd Gwener ymwelon ni a'r Amgueddfa Forol yn Nefyn. Roedd hi'n arddangosfa benigamp, ac yr oedd y cerrig beddau yn y fynwent hynod o ddiddorol hefyd efo lluniau graffiti o longau hwylio o'r oes a fu.
Monday, 6 April 2015
Pennant Melangell
Dros benwythnos olaf mis Mawrth mi aethon ni draw i Tarporley er mwyn ymweld â'n rhieni. Roedd fy nhad wedi mynegi dymuniad i ymweld â'r eglwys hynafol, ddiarffordd Pennant Melangell. Doeddwn i ddim wedi bod yno o'r blaen, wrth edrych ar fapiau'r Arolwg Ordnans o'n i'n gallu gweld ei fod o'n daith hir ar ffyrdd bychain troellog trwy ardal fynyddig i'r gorllewin o Groesoswallt a dim yn bell o dref fach Llanrhaeadr-ym-mochnant. Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod o'n daith addas i deithwyr wan (fel fy Mam a'n annwyl wraig Marilyn) felly mi es i yno efo fy nhad yn unig. Yr oedd o wedi bod yno o'r blaen, ond i ddweud y gwir doedd o ddim wir yn cofio'r ardal yn iawn. Rodd hi'n daith hir, roedd hi'n bwrw glaw yn drwm am hanner cyntaf y daith. Roedd rhaid i ni stopio ar y ffordd i gael hoe fach mewn tafarn o'r enw 'The New Inn' ac wedyn ymlaen trwy Lanrhaeadr-ym-mochnant, wedyn Pen-y-bont-fawr hyd at Bennant Melangell. Roedd y ffyrdd yn mynd yn llai ac yn llai wrth i ni ddod yn agos at yr eglwys ac yr oedd dwr ym mhobman ac ar draws y ffordd. Wrth edrych i fyny at y mynyddoedd o amgylch y dyffryn rodd y nentydd yn edrych fel rhaeadrau yn tasgu i lawr.
Doedd neb o gwmpas pan gyrhaeddon ni at y maes parcio wrth ymyl yr eglwys ond yr oedd y drws ar agor ac aethon ni i mewn am 40 munud yn crwydro o amgylch yr addoldy ac yn syllu ar y gweithiau celf megis lluniau, cerfluniau ac yn y man canolig sefyll y Greirfa ac i'r ochr draw cell y bedd. Mae eglwys Pennant Melangell wedi bod yn gyrchfan Pererinion ers canrifoedd, ar un ochr i'r Greirfa man na nifer i ganhwyllau bach yn llosgi ac mi wnes i gynna un arall i gofio am hen ffrindiau ac aelodau o'r teulu sy wedi gadael ni. Roedd yr eglwys yn oer iawn, felly ar ôl 40 wnaethon ni adael a mynd yn ôl i Lanrhaeadr-ym-mochnant i gael panad a brechdan sglodion yng nghaffi 'Y Gegin Fach' (lle braf efo bwyd syml cartrefol blasus, perchnogion a staff croesawgar sy'n medru'r iaith). Aethon ni nol wedyn i Tarporley i gael swper ac i ymlacio o flaen yr hen deledu. Diwrnod da.
Tuesday, 17 March 2015
Unwaith eto yng Nghymru annwyl.
Yr ydw i wedi bod yn brysur ers mis Chwefror. Mae cryn dipyn o bwysau yn y gwaith a hefyd dw i wedi ymweld â Tarporley a Chymry. Roedd y daith i Tarporley yn digwydd yn ystod ail hanner mis Byr er mewn mynd a'n chwaer o Breston i weld Mam a Dad am benwythnos. Roedd hi'n hapus i weld nhw ar ôl colli cyfle i weld nhw yn gynharach yn y flwyddyn oherwydd eira trwm. Tra oedd Anne yn aros efo'n rhieni oeddwn i'n gallu picio draw i Wrecsam ar y dydd Sadwrn i ymweld â Siop y Siswrn a Watersons i wario pres a thocyn llyfr Nadolig. Mi wnes i brynu tri pheth sef Cam i'r Gorffennol gan Rhys Mwyn, Gynnau glan a Beibl budur gan Harri Parri a Chymry'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Gwynne Jenkins. Erbyn hyn dw i wedi gorffen llyfr Harri Parri, yn hanner ffordd trwy lyfr Rhys Mwyn ac yr ydw i wedi dechrau ar lyfr Gwynne Jenkins.
Cawson ni dipyn o antur
pythefnos yn ôl pan ddaeth criw teledu Tinopolis o Lanelli i ffilmio eitem ar gyfer Heno a Bore Da: dal ati. Cafodd 4 ohonon ni ein cyfweld ac yr oedd eitem fer ar Heno Nos Fawrth 11 o Fawrth ac eitem 5 muned ar raglen Bore Da. Mae'n braf cael dipyn o sylw ar S4C i'r grŵp. Penwythnos diweddaf (dydd Gwener 13 Mawrth) mi es i draw i ardal Llanrwst am ddwy noon. Mi wnes i weld ffrind yn Llandudno ar y nos Wener am sgwrs a chinio, wedyn ar y dydd Sadwrn mi wnes i ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd i gerdded o Gae'n y Coed ar hyd afon Llugwy i Fetws-y-coed. Roedd hi'n daith fer ond yr oedd y tir dan draed yn arw. Ond roedd hi'n werth yr ymdrech, roedd golygfeydd hyfryd o'r rhaeadr ac afon i'w gweld ac yr oedd y cwmni yn ddiddorol. Ar ôl y daith mi es i ymweld â ffrind newydd sy'n ffarmwraig o ardal Eglwys Fach sy'n byw ar dir uchel uwchben dyffryn Conwy. Roedd copaon y Carneddau i'w gweld o dan hetiau gwyn, yn niwlog yn y pellter. Lle braf ond siŵr o fod yn anodd tu hwnt yn ystod tywydd oer y gaeaf. Ar y dydd Sul roedd digon o amser i bicio draw i Hen Golwyn i weld hen ffrind yno (Dafydd a'i wraig Jane) cyn troi'r car yn ôl tuag at y dwyrain a Chlawdd Offa am y daith adref. Ond dw i ddim yn digalon, dw i'n mynd i ymweld a grwp o ddysgwyr SSIW ym Manceinion penwythnos nesa ac yn mynd i weld eglwys Pennant Melangell cyn bo hir yng nghwmni fy nhad.
pythefnos yn ôl pan ddaeth criw teledu Tinopolis o Lanelli i ffilmio eitem ar gyfer Heno a Bore Da: dal ati. Cafodd 4 ohonon ni ein cyfweld ac yr oedd eitem fer ar Heno Nos Fawrth 11 o Fawrth ac eitem 5 muned ar raglen Bore Da. Mae'n braf cael dipyn o sylw ar S4C i'r grŵp. Penwythnos diweddaf (dydd Gwener 13 Mawrth) mi es i draw i ardal Llanrwst am ddwy noon. Mi wnes i weld ffrind yn Llandudno ar y nos Wener am sgwrs a chinio, wedyn ar y dydd Sadwrn mi wnes i ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd i gerdded o Gae'n y Coed ar hyd afon Llugwy i Fetws-y-coed. Roedd hi'n daith fer ond yr oedd y tir dan draed yn arw. Ond roedd hi'n werth yr ymdrech, roedd golygfeydd hyfryd o'r rhaeadr ac afon i'w gweld ac yr oedd y cwmni yn ddiddorol. Ar ôl y daith mi es i ymweld â ffrind newydd sy'n ffarmwraig o ardal Eglwys Fach sy'n byw ar dir uchel uwchben dyffryn Conwy. Roedd copaon y Carneddau i'w gweld o dan hetiau gwyn, yn niwlog yn y pellter. Lle braf ond siŵr o fod yn anodd tu hwnt yn ystod tywydd oer y gaeaf. Ar y dydd Sul roedd digon o amser i bicio draw i Hen Golwyn i weld hen ffrind yno (Dafydd a'i wraig Jane) cyn troi'r car yn ôl tuag at y dwyrain a Chlawdd Offa am y daith adref. Ond dw i ddim yn digalon, dw i'n mynd i ymweld a grwp o ddysgwyr SSIW ym Manceinion penwythnos nesa ac yn mynd i weld eglwys Pennant Melangell cyn bo hir yng nghwmni fy nhad.
Monday, 5 January 2015
Nadolig a Dydd Calan
Mi ges i amser braf dros fis Rhagfyr a'r Nadolig. Roedd y dathlu yn dechrau yn eithaf cynnar efo cyfarfod Nadolig Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby ar yr 6ed o Ragfyr ac yn fuan wedyn Parti Nadolig Cymdeithas Cymry Nottingham ar nos Fercher 10fed o Ragfyr. Roedd rhestr hir o berfformwyr ar gyfer y parti, mewn gwirionedd yr oedd y parti'n debyg i noson Lawen, a chwarae teg roedd Marilyn a finnau yn wneud tipyn bach wrth chwarae Sua Gân a Migildi Magildi ar gitâr a Melodeon. Roedd sgets Viv Harris a Gwynne Davies a'r criw yn ddoniol iawn, ac roedd Côr Gwawr yn wych.
Subscribe to:
Posts (Atom)




c.jpg)