Yr ydw i newydd ddod yn ôl i Belper ar ôl treulio’r penwythnos yn Abertawe. Mi wnes i yrru i lawr yr A38, M42, M5 a'r M4 yr holl ffordd, taith hir a blinedig ond roedd hi'n werth
yr ymdrech oherwydd ces i amser gwych yn ymweld â hen ffrindiau, bwyta, gweld gig wych, sef Chwibdaith hen Fran a'r Tebot Piws yn y Milkwood Jam. Erbyn diwedd y noson roedd pawb yn morio canu!Mi wnes i gerdded o amgylch Abertawe yn tynnu lluniau o'r anghorfeydd a rhannau eraill o'r ddinas. 
Sunday, 29 March 2009
Ymweliad i Abertawe, Mawrth 2009
Sunday, 22 February 2009
Ymweliad i Nottingham a Chymru
Ymweliad i Nottingham cyn mynd dros y ffin i Gymru
Yr ydw i wedi bod yn brysur yn y gwaith ers sbel, felly doedd dim cyfle i sgwennu dim byd am amser maith ond yn diweddar mi ges i ddigon o amser i bicio draw i Nottingham ar gyfer Cyfarfod Bore Coffi Cymry Nottingham. Cawson ni groeso haul a chynnes yn Nhŷ Dilys a Dafydd yn Wollaton ar fore Dydd Gwener 19 o Chwefror. Yn bresennol oedd Dilys a Dafydd, Gwynne, Gwladys, Howell, Heulwen, Beryl, Beti, Siriol, Audrey, Jonathan, a Viv. Fel arfer roedd dewis eang o ddiodydd, cacennau a bisgedi. Mi fydd y cyfarfod nesa yn Nhŷ Gwynne a Marilyn Davies ar y 6ed o Fawrth.
Yn syth wedyn wnes i yrru draw i Swydd Caer, i Nantwich i ddechrau, ble roeddwn gerdded o amgylch canol y dre i wneud tipyn bach o siopa cyn symud ymlaen i Tarporley. Drannoeth es i draw i ardal bryniau Clwyd i ymuno a changen Gogledd Ddwyrain Cymru Cymdeithas Edward Llwyd ar daith Cerdded 6 milltir. Cafodd y daith ei arwain gan Dafydd ac Alwena Williams, roedd tua 25 o bobl yn bresennol ar y daith, aethon ni i fyny bryniau lleol gan gynnwys bryn efo mast a safle darlledu teledu ar ei ben lle cafodd brotest ei chynnal yn y saithdegau gan Gymdeithas Yr i
aith. Roeddwn ddigon lwcus ar Ddydd Sadwrn i gael tywydd sych a heulog. Ces i sawl sgwrs ddiddorol iawn, a roedd nifer o bethau diddorol i'w weld sef cyffylau gwerdd. Roedd sawl allt serth i ddringo ond yr oedd yr ymdrech yn werth ei wneud oherwydd yr oedd golygfeydd bendi
gedig o'r copa. Ar ôl y daith gyrrais i draw i'r Wyddgrug i ymweld â cherflun Daniel Owen a Siop Y Siswrn cyn troi am Tarporley i aros dros nos yn Nhŷ fy rhieni cyn dychweled dros Glawdd Offa ar y Sul. Mae gen i sawl peth arall ar y gweill, sef ymweliad mis nesa i Abertawe i weld gig Chwibdaith Hen Fran ac yn Mis Ebrill tridiau yn Aberystwyth yn Neuadd Pantycelyn ar gyfer digwyddiad o'r enw Dehongli Cymru. Dw i'n methu aros!
Sunday, 28 September 2008
Haf bach Mihangel
Yr ydw i wedi cael pythefnos diddorol. Penwythnos yn ôl (19eg o Fedi) aeth y wraig a fi i sesiwn yn nhafarn 'Y Barley Mow' ar gyfer y sesiwn nos Wener.
Roedd hi'n wych efo digon o gerddorion fel arfer gan gynnwys pobl yn chwarea fidl, accordion, Melodeon, gitâr, bodhran a chwibanau. Gweler clip fideo. Yn ystod y nos nesa roedd y wraig a finnau'n perfformio efo ein band dawns gwerin, sef 'Tight Squeeze' mewn parti dathlu
pen-blwydd priodas ffrind yn Attenborough. Yn nol yn y gwaith dw i wedi bod yn teithio o gwmpas cefn gwlad a phentrefi Swydd Derby yn ymweld â gwirfoddolwyr sy'n helpu rhedeg cymdeithasau gwirfoddol bychain sy'n gweithredu yn y trydydd sector, gwaith digon dymunol ar y cyfan. Ar ddydd Gwener yr wythnos yma roeddwn i'n paratoi pob math o beth (arwyddion, ffurflenni cofrestru, bwyd, ac yn y blaen) ar gyfer yr Ysgol Undydd Cymraeg Derby.
Eleni roedden ni'n cynnal yr ysgol am y bedwaredd tro. Fel arfer roedd Elin Merriman yn athrawes i'r dechreuwyr pur, tra roedd Eileen Walker yn arwain y dosbarth canolradd. Roedd y dosbarth profiadol yn cael tri sesiwn gwahanol, sef Viv Harris yn son am idiomau Cymraeg, Beti Potter yn siarad am ardal ei magwraeth hi, sef dyffryn Conwy. Gan gynnwys gwirfoddolwyr ac athrawon roedd 33 ohonon ni'n bresennol. Niferoedd digon iachus faswn i'n dweud. Ar ôl cinio aeth y grŵp profiadol i drafod sut i hybu'r Gymraeg ymhlith dysgwyr a Chymry Cymraeg yr ochr yma i Glawdd Offa. Mae'n ymddangos bod'na sawl peth da ar y gweill. Mae'r dosbarthiadau WEA Cymraeg lleol wedi ailddechrau efo dosbarth i ddechreuwyr ac un arall i bobl ganolradd, mae'na si ar led am grŵp gwerthfawrogi barddoniaeth. Mae Elin Merriman yn gobeithio dechrau gweithdai misol dros benwythnosau ar gyfer dysgwyr yr iaith Cymraeg sy'n dysgu ar eu pennau eu hunan neu sy'n methu mynd i ddosbarth nos yn ystod yr wythnos. Hefyd roedd dipyn o drafod am ddechrau cyfarfod cymdeithasol misol mewn tafarndai yn yr ardal ar gyfer dysgwyr profiadol iawn a'r Cymry Cymraeg alltud.
Heddiw es i i gopa 'Alport Height' i ymlacio dipyn cyn paratoi am wythnos arall yn y gwaith. Roedd hi'n glir iawn i'r gogledd ac roeddwn i'n gallu gweld Kinder Scout ar y gorwel, peth braf iawn yw ymlacio ar ben bryn yng nghanol canolbarth Lloegr ar bnawn braf haf bach Mihangel fel heddiw!
Monday, 15 September 2008
Pethau Bychain Dewi Sant
Yn y cyfamser roedd gen i ddigon o amser i fynd am dro bach yn fy nghar i gopa bryn lleol o'r enw Alport Height ac wedyn i hen safle hanesyddol sef 'Middleton Top Engine House'. Roedd digonedd o olygfeydd braf fel ti'n gallu gweld o'r lluniau. Pan on i'n edrych tuag at y gorllewin roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gallu gweld y 'Long Mynd' a'r Wrekin sy'n bron iawn yng Nghymru fach. Dyna peth braf!
Monday, 18 August 2008
Tegeingl 2008
Tegeingl 2008
Uchel bwnt yr wythnos, heb amheuaeth, oedd ein hymweliad i Ŵyl Cerddoriaeth Gwerin Tegeingl 2008. Yr wyddgrug. Cawson ni (Marilyn a finnau) wledd o berfformwyr, artistiaid, grwpiau, sesiynau a chanu.
Aethon ni draw ar y dydd Gwener yn ein car bach glas o Belper i Ashbourne ac wedyn ar draws tir uchel Ardal y Peak i Leek ac ymlaen i Congleton cyn teithio i Tarporley. Roedd golygfey
dd gwych o'r bryniau uwchben Leek, sef Y Roches, enw sy'n tarddu o'r gair Ffrengig Normanaidd am greigiau. Roedd golwg braf hefyd dros Swydd
Caer, Castell Beston yn sefyll yng nghanol y tir, a thu hwnt ar y gorwel ac yn aneglur yn y niwl, mynyddoedd Cymru fel Moel Famau a'r ucheldir o gwmpas.
Uchel bwnt yr wythnos, heb amheuaeth, oedd ein hymweliad i Ŵyl Cerddoriaeth Gwerin Tegeingl 2008. Yr wyddgrug. Cawson ni (Marilyn a finnau) wledd o berfformwyr, artistiaid, grwpiau, sesiynau a chanu.
Aethon ni draw ar y dydd Gwener yn ein car bach glas o Belper i Ashbourne ac wedyn ar draws tir uchel Ardal y Peak i Leek ac ymlaen i Congleton cyn teithio i Tarporley. Roedd golygfey
Ar ôl cyrraedd Yr Wyddgrug aethon ni yn syth i safle Clwb Rygbi'r Wyddgrug er mwyn ymuno a'r hwyl a sbri. Wnaethon ni fynd yn syth i'r sesiwn offerynnol am awr a hanner. Roedd nifer da o gerddorion lleol a bell yn dod at ei gilydd i fwynhau chwarae amrywiaeth o alawon Cymreig a Phrydeinig. Daeth Jack Shuttleworth delyn binc o Coventry. Mi wnes i ddod a Melodeon, Chwiban D fawr a fach. Syth ar ôl y sesiwn aethon ni draw i'r babell fawr ar gyfer cyngerdd nos Wener efo Fernhill yn serennu. Roedden nhw wych enwedig Ceri Matthews ar y gitâr a'r ffliwt.
Roedd twmpath y noson gyntaf yn dechrau rhy hwyr i ni. Ar ôl taith 40 muned roedden ni yn ein gwelâu erbyn 1.00 o'r gloch.
Felly, trannoeth cawson ni 'lie-in' cyn brecwast mawr ac wedyn cyrraedd y maes erbyn hanner dydd mewn pryd i ymuno a sesiwn offerynnol arall. Er gwaetha tywydd wyntog prynhawn Sadwrn cawson ni hwyl efo grwpiau dawnswyr o Iwerddon, côr lleol Côr Y Pentan ac artistiaid fel Jez Lowe, Siân James a Chyngerdd Nos efo Jez Lowe ac wedyn Crasdant yn serennu. Roedd y twmpath wedyn yn wych. Diolch i bawb a wnaeth trefnu'r Ŵyl. Yn bendant yr ydyn ni eisiau dod yn ôl ar gyfer Gŵyl Tegeingl 2009.
Roedd twmpath y noson gyntaf yn dechrau rhy hwyr i ni. Ar ôl taith 40 muned roedden ni yn ein gwelâu erbyn 1.00 o'r gloch.
Felly, trannoeth cawson ni 'lie-in' cyn brecwast mawr ac wedyn cyrraedd y maes erbyn hanner dydd mewn pryd i ymuno a sesiwn offerynnol arall. Er gwaetha tywydd wyntog prynhawn Sadwrn cawson ni hwyl efo grwpiau dawnswyr o Iwerddon, côr lleol Côr Y Pentan ac artistiaid fel Jez Lowe, Siân James a Chyngerdd Nos efo Jez Lowe ac wedyn Crasdant yn serennu. Roedd y twmpath wedyn yn wych. Diolch i bawb a wnaeth trefnu'r Ŵyl. Yn bendant yr ydyn ni eisiau dod yn ôl ar gyfer Gŵyl Tegeingl 2009.
Monday, 11 August 2008
Hanner Eisteddfod 2008
Mi wnes i ddechrau swydd newydd yn Bakewell ar ddydd Gwener 1af Awst, felly roedd rhaid i mi fod yn fodlon efo gwylio’r digwyddiadau’r penwythnos cyntaf yr Eisteddfod a'r dydd Llun a Dydd Mawrth cyntaf ar S4C. Mi es i i lawr i Gaerdydd ar gyfer ail hanner yr wythnos ar ddydd Mercher. Roedd y daith digon hawdd gan nad oedd gormod o gerbydau ar y brif ffordd. Wnaethon ni, sef Marilyn a finnau, aros mewn gwely a brecwast yn Llanilltud Fawr am bedair noson. Cyn mynd i'r eisteddfod roedd rhaid picio draw i draeth Llanilltud er mwyn cael gweld Mor Hafren. Ar y bore wedyn roedd hi'n digon haws dal trên i Gaerdydd er mwyn cyrraedd maes Yr eisteddfod. Er gwaetha glaw trwm ar y dydd Sadwrn olaf rhaid i mi ddweud taw ar y cyfan cawson ni amser digon braf. Un peth gwych ar ddydd Llun oedd buddugoliaeth Telynau Cwm Dderwent yn y gystadleuaeth Werinol. Gwelir http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2008/sites/canlyniadau/canlyniad1 a http://www.thelittlewelshshop.co.uk/. Mi wnes i gwrdd â llwyth o hen gyfeillion, sef cyn cydweithwyr o Fenter Iaith Abertawe, a ffrindiau di-ri o wahanol cyrsiau Cymraeg dros y blynyddoedd, fel Malcolm o Gwmgaer sy wedi rhannu sawl Cwrs ‘Dehongli-Cymru' yn Aberystwyth, William Thomas ( llun ar y dde, mae William yn sefyll yn y canol) sy'n dod o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol, ond sy wedi byw yn Llu
ndain am dros 40 mlynydd. Beth bynnag roedd safon y canu corawl yn yr Eisteddfod cystal ag erioed. Pan o’n i’n yno ges i air bach efo fy ffrind Padi, gwelir fideo islaw. Wnes i gymryd y gyfle i brynnu sawl crys-t Cymraeg ar stondin Cowbois, gan gynnwys ' Trafferth Mewn Tafarn'. Mi ges i gyfle i wrando ar ddarn o Ddyddiadur y dyn dŵad gan Dafydd Hughes yn y babell Llen, a hefyd i wrando ar ddarlith am grefft y Cyfarwyddwr bore dydd Iau ym Mhabell y Cymdeithasau.Rŵan ydw i wedi cyrraedd Swydd Derby yn ddiogel ac yn edrych ymlaen yn barod at yr Eisteddfod nesa, sef Y Bala 2009, gan obeithio cael cystal amser yno, ond heb y holl law.
Mae'na un stori bach arall, sef bod Siriol Colley, Llywydd Cymdeithas Cymry Nottingham wedi sgwennu erthygl yn rhif 47 o'r cylchgrawn Golwg. Gwelir http://www.golwg.com/
Friday, 25 July 2008
Maen braf yn yr haf
Mae gen i dipyn o gasgliad o Offerynnau o'r fath fy hunan. Sef Dau Felodeon un o'r Almaen a'r llall o'r Eidal. Mae gen i lwyth o Chwibanau Ceiniog, ond maen nhw'n costio dipyn yn fwy na cheiniog y dyddiad yma. Mae gen i dair Chwiban fawr ( 'd' isel )sy wedi costio dros £60 yr un. Hefyd mae gennyn ni dri Bhodhran o safonau gwahanol, gitar a fidl.
Y llynedd, ac yn y Gwanwyn eleni pan o'n i'n gweithio i Fenter Iaith yn Abertawe roedd hi'n rhan o'n ddyletswydd fi i drefnu gweithgareddau, felly mi wnes i drefnu sesiynau. . Mi ges i hwyl enfawr yn gwrando ar Gerddorion talentog iawn yn canu ac yn chwarae offerynnau fel y pibgorn, yn enwedig pobl fel Huw Dylan Owen
Heno yr ydyn ni'n mynd i sesiwn yn Nhafarn Y Barley Mow. Ym Mis Awst ar ôl yr Eisteddfod yr ydyn ni'n bwriadu mynd i Ŵyl Cerddoriaeth Gwerin ger Yr Wyddgrug. (Gwelir http://www.mrsackroyd.com/Tegeingl.htm ) Gawn ni weld os bydd y tywydd poeth hafaidd yn parhau neu beidio.
Subscribe to:
Posts (Atom)
c.jpg)