Monday, 15 October 2012
Y Prosiect Darllen 2012
Wrth gwrs dyw'r prosiect darllen dim wedi dod i ben eto. Dw i dal wrthi'n ceisio darllen llyfr Cymraeg / Cymreig bob mis. Mae'na gymysgedd go iawn o lyfrau ar y rhestr hyd yn hyn eleni sef
Nofelau
Traed Oer - Mari Emlyn
Pwll Ynfyd - Alun Cobb
Tair Rheol Anhrefn - Daniel Davies
Atsain y Tonnau - John Gwynne
Un diwrnod yn yr Eisteddfod - Robin Llywelyn
Afallon - Robat Gruffudd
Gofiant
'Kate Roberts' - Alan Llwyd,
Hunangofiant
O Ddyfri - Dafydd Wigley,
Dyddiadur
Mynd i'r Gwrych - y diweddaf Hafina Clwyd,
Sylwebaeth am Gymru gyfoes
The Phenomena of Welshness - Siôn Jobbin,
Bred of Heaven - Jasper Rees.
Adloniant ysgafn
Hiwmor John Ogwen
Ar hyn o bryd mae gen i sawl llyfr ar y gweill megis Llen Gwerin gan T Llew Jones, Hoff Gerddi Cymru a dw i ar fin dechrau darllen mae Pawb yn Cyfri. Ar ben hyn i gyd dwi'n darllen sawl cylchgrawn a phapur yn wythnosol megis Y Cymro, Golwg, pethau misol megis Barn ac ambell hen bethau ail law fel dw i'n dod ar eu traws ar fy nheithiau.
Monday, 1 October 2012
Friday, 7 September 2012
Haf Bach Mihangel Southwell
Ar ôl y clebran, coffi a chacennau aeth Martin a finnau am sbec o amgylch y Minster. Mae hi'n adeilad hardd nid annhebyg o ran maint i Dŷ Dewi ac fel y gadeirlan hon wedi'i lleoli yng nghanol cefn gwlad yn hytrach na ddinas. Mae hi'n lle hanesyddol efo digon o gerfluniau gwreiddiol wedi ail osod mewn lleoliadau diddorol. Mae'na gaffi derbyniol iawn ar y safle ac ar ôl grwydro am dipyn cawson ni ginio blasus iawn.
Mae hi'n dipyn o daith i Southwell o Belper ac roeddwn ddiolchgar iawn am gael defnyddio'r teclyn bach satnav i ddarganfod y ffordd adref. Diolch yn fawr iawn i Margot Davies am ei lletygarwch.
Monday, 27 August 2012
Chwibdaith i Buxton
Mi es i draw i Buxton am dair awr heddiw. Roedd ffair llyfrau ymlaen yn yr Ystafell Ymgynnull, felly o'n i deimlo felly pori o amgylch ambell stondin llyfr yn chwilota am fargeniau. Er mawr syndod i mi ddes i ar draws hen gopïau o'r cylchgrawn myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth o'r 50 degau sef Y Ddraig o dymer y Grawys 1955. Mae hi'n gylchgrawn dwyieithog efo cyfartaledd o dudalennau yn y ddwy iaith. Y diweddar Hywel Teifi Edwards oedd un o'r cyfranwyr. Hefyd roedd erthygl hynod o ddiddorol dan y pennawd 'Lle'r Gymraeg Mewn Cymdeithas Ddwyieithog gan Brenda Williams. Tybed os ydy hi dal ar dir byw?
Doeddwn i ddim mor ffodus efo'r tywydd roedd hi'n pistyllio glaw yn Buxton ac felly roedd rhaid swatio o dan yr ymbarél i gyrraedd nôl yn fy ngar yn ddigon sych!
Doeddwn i ddim mor ffodus efo'r tywydd roedd hi'n pistyllio glaw yn Buxton ac felly roedd rhaid swatio o dan yr ymbarél i gyrraedd nôl yn fy ngar yn ddigon sych!
Wednesday, 15 August 2012
Eisteddfod Bro Morgannwg 2012
Yr wythnos ddiweddar o'n i'n mwynhau dogn go dda o Gymreictod ar faes yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg. Mi wnes i deithio o Loegr i Gymru ar y Sul efo fy nghyfaill o ardal Chesterfield, sef Martin. Ar ôl croesi'r Môr Hafren oedd dipyn o amser sbâr felly mi wnaethon ni gipio ar y cyfle i ymweld ag Amgueddfa Gwerin Cymru yn Sant Ffagan. Roedd hi'n braf cael crwydro'r safle, ond doedd dim digon o amser 'da ni, cwta tair awr, mewn gwirionedd, a doedd hi ddim yn ddigon i weld y cyfan.
Wedyn aethon ni ymlaen i'n Westy wrth ochr Maes Awyr Caerdydd. Roedden ni'n aros o fewn 5 milltir i'r maes ac roedd hi'n ddigon hawdd mynd ar faes yr Eisteddfod bob diwrnod rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener. Doedd Martin dim wedi ymweld â'r brifwyl o'r blaen felly mi wnes i fy norau glas i dangos tipyn bach o bob dim oedd ar gael.
Ar wahân i lenwi rôl fel tywysydd answyddogol i Martin roedd gen i fach o waith i'w wneud ar faes D sef cymryd rhan mewn cyflwyniad 'Clebran y tu hwnt i Gymru' sesiwn am ddysgwyr y tu allan i Gymru, nid yn unig yn Lloegr ond hefyd yn y Wladfa.
Eleni roedd sawl newid i'w gweld ar y maes. Dim ond un safle bwyd, dim ond 2500 o seddi yn y Pafiliwn, dim ond un llwyfan perfformio ar gyfer bandiau a pherfformwyr eraill wrth ochr yr ardal bwyd. Ond er gwaethaf hyn roedd hi'n Eisteddfod dda. Un peth newydd da oedd y Maes Gwyrdd efo nifer o stondinau mewn Yurtiau o faint gwahanol gan gynnwys un Yurt enfawr. Roedd hefyd Tipi go iawn a nifer o brosiectau gwahanol fel y prosiect adeiladu cwch Celtiaid. Ar ran y tywydd yr oedd tipyn bach o law ar Ddydd Llun a'r dydd Mawrth ond roedd gweddill yr wythnos yn sych ac yn boeth.
Yn bendant yr oedd digonedd o bethau i dangos i Martin. Stondinau, siopau lyfrau, Peth wmbredd o gystadlaethau cerddorol a clasurol, adrodd, canu, gweld ffrindiau (Wiliam o Lundain i enwi dim ond un) ayyb. Mi wnaethon ni weld darlith ym Maes D am Iolo Morgannwg, aethon ni i weld cyfarfod lansio mudiad lobio dros yr iaith o'r
enw 'dyfodol', hefyd mi wnaethon ni wrando ar Leanne Wood, arweinyddes newydd Plaid Cymru. Roedd hi'n trafodi ar ei gweledigaeth hi am ddyfodol Cymru.
Erbyn diwedd dydd Gwener roedden ni wedi gweld llwyth o bethau ac wedi siarad â nifer fawr o ffrindiau hen a newydd. Roedden ni wedi blino yn llawn ac yn barod i deithio nôl dros y ffin ac ar draws canolbarth Lloegr er mwyn cyrraedd ein cartrefi. Rŵan dw i'n edrych ymlaen at Eisteddfod Dinbych!
Wedyn aethon ni ymlaen i'n Westy wrth ochr Maes Awyr Caerdydd. Roedden ni'n aros o fewn 5 milltir i'r maes ac roedd hi'n ddigon hawdd mynd ar faes yr Eisteddfod bob diwrnod rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener. Doedd Martin dim wedi ymweld â'r brifwyl o'r blaen felly mi wnes i fy norau glas i dangos tipyn bach o bob dim oedd ar gael.
Eleni roedd sawl newid i'w gweld ar y maes. Dim ond un safle bwyd, dim ond 2500 o seddi yn y Pafiliwn, dim ond un llwyfan perfformio ar gyfer bandiau a pherfformwyr eraill wrth ochr yr ardal bwyd. Ond er gwaethaf hyn roedd hi'n Eisteddfod dda. Un peth newydd da oedd y Maes Gwyrdd efo nifer o stondinau mewn Yurtiau o faint gwahanol gan gynnwys un Yurt enfawr. Roedd hefyd Tipi go iawn a nifer o brosiectau gwahanol fel y prosiect adeiladu cwch Celtiaid. Ar ran y tywydd yr oedd tipyn bach o law ar Ddydd Llun a'r dydd Mawrth ond roedd gweddill yr wythnos yn sych ac yn boeth.
Yn bendant yr oedd digonedd o bethau i dangos i Martin. Stondinau, siopau lyfrau, Peth wmbredd o gystadlaethau cerddorol a clasurol, adrodd, canu, gweld ffrindiau (Wiliam o Lundain i enwi dim ond un) ayyb. Mi wnaethon ni weld darlith ym Maes D am Iolo Morgannwg, aethon ni i weld cyfarfod lansio mudiad lobio dros yr iaith o'r
Erbyn diwedd dydd Gwener roedden ni wedi gweld llwyth o bethau ac wedi siarad â nifer fawr o ffrindiau hen a newydd. Roedden ni wedi blino yn llawn ac yn barod i deithio nôl dros y ffin ac ar draws canolbarth Lloegr er mwyn cyrraedd ein cartrefi. Rŵan dw i'n edrych ymlaen at Eisteddfod Dinbych!
Saturday, 30 June 2012
Wythnos ym Mhenllyn
Mi gafodd M. a finnau wythnos wych yn aros yn ardal Rhydyclafdy ym Mhenllyn. Roedd hi'n wythnos gymdeithasol iawn oherwydd wnaethon ni ymweld â nifer o'n cyfeillion sef Marianne a Gerry o Sir Fôn, Joella o Gaerdydd a chyn bos M sy bellach yn byw yng Nghricieth.
Roedd digon o amser i gerdded ar hyd traeth Porth Neigwl, a hefyd i ymweld ag Abersoch, Llanbedrog, Plas Glyn-y-Weddw, Mynytho, Porthmadog a Phwllheli.Ar y dydd Mawrth wnaethon ni gwrdd â Joella a’i chariad er mwyn cerdded i fyny’r Eifl, neu i fod yn fanwl gywir 'Tre'r Ceiri' sef hen Fryngaer ger Llithfaen. Roedd golygfeydd gwych o fynyddoedd Yr Eiri, Sir Fôn i'r gogledd, pen llyn i gyd a draw dros y for Iwerddon, Bryniau Wicklow.
Mi wnes i hel llyfrau ail law yn y siopau elusennol o amgylch Pwllheli ac mi ges i gryn dipyn o lwyddiant. Felly mae'na 7 o lyfr yn aros i'w darllen ar fy silffoedd.
Arhoswn ni mewn 'bwythyn' o'r enw 'Tŷ Paul', ac i ddweud y gwir roedd hi'n gyfforddus a chlyd. Mi wnes i fachu ar y cyfle i orffen darllen Bywyd Kate Roberts a sawl cylchgrawn oedd wedi aros am sbel heb ei darllen.
Cawson ni dywydd braf o'r Dydd Sul tan y Dydd Iau pan ddaeth y glaw. Daethon ni yn ôl i Swydd Derby ar y dydd Sadwrn yn barod i ddychwelyd i'r drefn arferol.
Roedd digon o amser i gerdded ar hyd traeth Porth Neigwl, a hefyd i ymweld ag Abersoch, Llanbedrog, Plas Glyn-y-Weddw, Mynytho, Porthmadog a Phwllheli.Ar y dydd Mawrth wnaethon ni gwrdd â Joella a’i chariad er mwyn cerdded i fyny’r Eifl, neu i fod yn fanwl gywir 'Tre'r Ceiri' sef hen Fryngaer ger Llithfaen. Roedd golygfeydd gwych o fynyddoedd Yr Eiri, Sir Fôn i'r gogledd, pen llyn i gyd a draw dros y for Iwerddon, Bryniau Wicklow.Arhoswn ni mewn 'bwythyn' o'r enw 'Tŷ Paul', ac i ddweud y gwir roedd hi'n gyfforddus a chlyd. Mi wnes i fachu ar y cyfle i orffen darllen Bywyd Kate Roberts a sawl cylchgrawn oedd wedi aros am sbel heb ei darllen.
Cawson ni dywydd braf o'r Dydd Sul tan y Dydd Iau pan ddaeth y glaw. Daethon ni yn ôl i Swydd Derby ar y dydd Sadwrn yn barod i ddychwelyd i'r drefn arferol.
Tuesday, 5 June 2012
Cylch Meini, olion Rhufeinig a Cheltiaid cyfoes
Cawson ni dipyn o hwyl heddiw, Marilyn a fi, yn mynd am dro yn ardal y Peak efo ein ffrind Martin y dysgwr Cymraeg o Glay Cross.
I ddechrau aethon ni o amgylch rhostir Stanton, ble mae olion o oes y cerrig sef cylch Meini'r Nine Maidens a sawl tŷ crwn yma ac acw ar ben y rhostir. Ar wahân i'r hen olion o oes y cerrig roedd pethau wedi'i gadael ymhlith canghennau’r coed gan baganaidd a Cheltiaid cyfoes, pethau megis cylch efo croes yn ei ganol i gyd wedi creu gan plethi brigyn at ei gilydd. Efallai pobl yn wersyllfa adeg Calan Mai neu Galan Gaeaf oedd yn gyfrifol. Roedd digon o bobl o gwmpas ac roedden ni'n lwcus ar ran y tywydd. Wedyn aethon ni draw i gaffi Siop llyfrau Scarthins yng Nghromford i gael rhywbeth bach i fwyta cyn mynd allan eto i fynd i weld hen bwll plwm o amser y Rhufeiniad yn ardal y Via Gellia a hefyd i weld pwll plwm arall o'r 19 canrif sef the Good Luck Mine. Ar ôl dringo i fyny’r dyffryn i weld y pwll ac yn ôl roedd y tywydd wedi troi ac roedd glaw man yn disgyn, felly daethon ni adref i gael panad a darn mawr o gacen.

Subscribe to:
Posts (Atom)

c.jpg)