Thursday, 20 March 2014

Lotta Continua!

Mewn ffordd mae hi'n fraint, cael mynediad i lenyddiaeth gwlad a diwylliant arall, ond mewn ffordd arall mae hi'n rhywbeth anghyfforddus. Hynny yw cael gweld sut mae pobl eraill yn edrych arnoch a chael clywed eu beirniadaethau o'ch cydwladwyr a diwylliant o safbwynt anghyfarwydd. Pan oeddwn uniaith Saesneg yr oeddwn ddarllen gweithiau am hanes a syniadaeth gwleidyddiaeth asgell chwith, gan gynnwys gweithiau clasurol hen anarchwyr megis Kropotkin a Maletesta ac ysgrifenwyr mwy cyfoes fel Colin Ward. Ar ôl i mi ddod yn siaradwyr Cymraeg ac yn medru darllen yr iaith honno mi wnes i ddechrau ar y daith hir o ddarllen nofelau, a gweithiau hanes a syniadaeth wleidyddol y Cymry. A dyna'r ing. Wrth ddarllen gwaith pobl gyfoes mae'n bosib ymateb, weithiau trwy sgwrsio a thrafod yn uniongyrchol efo'r awduron. Ces i sawl sgwrs efo Colin Ward dros y blynyddoedd wyneb i wyneb ac weithiau trwy lythyr. Ond wrth ddarllen clasuron weddol ddiweddar Cymraeg dw i wedi darganfod fy mod wedi colli'r cyfle i gwrdd â rhai o'r bobl yma. Pe bawn i wedi cael fy magu fel Cymro falle mi fyswn i wedi cael y cyfle i gwrdd â'r bobl yma. Ond mae hi’n rhy hwyr. Dw i'n cael darllen eu geiriau ond does dim modd cael sgwrs efo nhw. Mae'r dialog yn un ffordd, dw i'n gallu clywed, neu yn hytrach darllen eu geiriau, ond 'sdim cyfle ymateb. Dyna'r golled. Er mor werthfawr yw darllen geiriau RS Saunders, DJ Williams, Lewis Valentine, R S Thomas a sawl arall sy bellach wedi gadael y fuchedd yma sdim cyfle ymateb. Sdim cyfle chwaith cael dweud wrthon bod y frwydr dros yr iaith a'r diwylliant yn parhau. Dim cyfle i ddangos iddyn nhw bod eu gwaith nhw wedi dwyn ffrwyth yn y canrif yma, ond er gwaethaf hynny mae'r peryg i'r iaith yn parhau. Ond i ddyfynnu'r Eidalwyr Lotta Continua! I'r Gad!

Saturday, 15 March 2014

Chwibdaith i Fanceinion


Mi godais yn gynnar y bore'ma i yrru i fynnyn i Buxton er mwyn dal y trên, hynny yw'r trên i Fanceinion. Dyma ein trefniant parc a rheid answyddogol. Roeddwn ddarllen wrth deithio, hynny yw darllen llyfr bach gan R. S. Thomas sef Flwyddyn yn Llyn a chafodd ei gyhoeddi yn 1990. Diddorol oedd darllen sylwebai craff y bardd am dywydd, tymhorau a bywyd gwyllt Pen Llyn. Wrth i mi edrych ar y dirwedd oedd yn pasio ffenestr y tren roedd ôl effaith y gaeaf gwyntog a garw i'w weld yn glir. Nifer sylweddol o goed wedi cwympo, ac mewn pentrefi roedd ambell lech a phanel ffens wedi cael eu chwythu i ffordd. Wrth adael Buxton welais Foncath yn hedfan, dau ŵydd, digon o ddefaid ac oen newydd y gwanwyn. Hefyd welais sawl asgwrn cefn a sgerbwd defaid a fethodd goroesi'r gaeaf. Mae bywyd yn y bryniau uchel yn gallu bod yn anodd i fywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm gyda'i gilydd. Ar ôl cyrraedd gorsaf tren Picadili roedd hi'n ddigon hawdd cerdded yr hanner milltir i Oriel Celf Manceinion ble oeddwn gwrdd â nifer o ddysgwyr a
Chymry alltud yng nghaffi'r oriel. Roedd 6 ohonom i gyd gan gynnwys Mared sy wedi symud o Aberystwyth yn ddiweddar i dde Swydd Efrog. Cawson ni sgwrs ddifyr am ddwy awr. Ar ôl ffarwelio mi wnes i grwydro o amgylch yr Oriel sy'n cynnwys nifer o luniau olew o wahanol gyfnodau gan gynnwys sawl gan Awgwstws John a Gwen John. Wrth gerdded yn ôl i dal y tren i Buxton roedd arwyddion amlwg o ddinas enfawr fodern sef miloedd o bobl yn siopau ac yn mwynhau mynd ar olwyn fawr fel y London Eye sy wedi cael ei osod dros dro yng nghanol Gerddi Picadili. Rhyfedd o fyd.

Wednesday, 5 March 2014

Teithiau a cholledion

Penwythnos diwethaf mi aeth Marilyn a finnau i fyny i Breston i nôl fy chwaer anabl ar gyfer ymweliad i Tarporley i weld ei rhieni. Roedd hynny yn rhoi'r cyfle i mi i bicio draw i Wrecsam bore dydd Sadwrn i brynu cylchgronau a llyfrau o Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl ac wedyn i dreulio dwy awr yn sgwrsio efo'r dysgwyr a Chymry sy'n mynychu'r Sesiwn Siarad yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt.


Roedd tua 15 o bobl yno a chawson ni amser diddorol yn trafod hyn a'r llall. Ond toc wedi hanner dydd roedd rhaid i mi fynd yn ôl dros y ffin. Yn ddiweddar dw i ddim wedi cael digon o amser sbâr i wneud popeth dw i eisiau gwneud ar ran y Gymraeg, pethau megis ymuno a cherddwyr Cymdeithas Edward Llwyd neu dreulio amser yn mynychu digwyddiadau diwylliannol, ond daw haul ar y bryn cyn bo hir. Dw i wedi cynllunio mynd i Gymru sawl tro dros yr haf i gael y 'dos' blynyddol o'r Gymraeg a Chymreictod.

Bu farw fy modryb Margeurite Mills yn Jersey ym mis Chwefror ac wedyn pan oedd yn aros yn Tarporley dros y Sul cyrhaeddodd rhagor o newyddion trist, hynny oedd un arall o'm modrybedd wedi marw yn sydyn, modryb Clare Whittaker a oedd yn byw yn Hwlffordd. Dyma'r ail farwolaeth yn y teulu ers Nadolig. Roeddwn hoff iawn ohoni hi, ond y golled fwyaf yw'r golled i'r teulu agos sef ei gwr a'i phlant. Heddwch i lwch y ddwy ohonyn nhw.

Monday, 27 January 2014

Teyrnged i hen gyfaill



Wnes i ddechrau'r flwyddyn efo'r newyddion trist fy mod i wedi colli un o'n hen gyfeillion. Bu farw Mike Hamilton ar fore 31 o Ragfyr yn 65 oed yn dilyn cyfnod hir a chreulon o salwch. Yr oedd y ddau ohonom wedi bod yn gyfeillion ers 1993 pan ddaeth Mike i ymuno a'r grŵp cerddwyr radical 'Red Rambles' yn ardal y Peak. Ar ôl hyn wnaeth y ddau ohonom yn cydweithio ar nifer fawr o brosiectau, digwyddiadau a chyhoeddiadau.


Roedd Red Rambles yn para am y cyfnod rhwng 1993 tan ddiwedd 1999 ac yr oedden ni fel grŵp yn cerdded ar draws Swydd Derby a rhannau o ganolbarth Lloegr gan gynnwys lleoedd megis Kinder Scout, y Roaches, Derwent Edge, Lathkill Dale a llawer mwy. Daeth Mike ar y rhan mwyaf o'r teithiau gerdded misol hyn. Ar ben hynny wnaeth Mike cydweithio efo fi yn cynhyrchu bron iawn 40 rhifyn o gylchlythyr misol EMAB ar gyfer anarchwyr a phobl radical ardal Derby a Nottingham. Roedd Mike yn ddyn ymarferol a llwyddodd creu safle rhandiroedd cymunedol yn Loughborough. Roedd o'n lledaenu'r neges bod hi'n bosib creu byd amgen i'r byd presennol ble mae grym y wladwriaeth a chyfalafiaeth yn rheoli popeth, roedd Mike am greu byd amgen ble mae gwerthoedd megis cyfiawnder cymdeithasol a heddwch yn teyrnasu. Roedd o'n feddylgar, teyrngar a gwir gyfaill. 



Roedd diwrnod angladd Mike yn glir ond yn oer. Roedd awyr las uwchben claddfa naturiol sy'n sefyll ochr Burton on the Wold ger Loughborough. Daeth dros bumdeg o bobl i dalu teyrnged olaf i ddyn oedd yn wir wedi cyfrannu i'w gymuned. Roedd y 'gwasanaeth' yn cofio holl bethau yr oedd Mike wedi gwneud dros y blynyddoedd ar gyfer ei gymuned, ei deulu a'i daliadau anarchydd. Mi fydd colled mawr ar ei ôl o. Heddwch i'w llwch.

Monday, 2 December 2013

Defnydd darllen 2013

Mae diwedd y flwyddyn yn agosáu, ac yr ydw i wedi bod yn edrych nôl dros y llyfrau yr ydw wedi darllen eleni. Mae 'r rhestr yn cynnwys nofelau megis Cyw Haul, Cyw Dol, Cracio, Cyw Melyn y Fall, Trafaelog, Tocyn i'r Nefoedd. Llyfrau gwleidyddol megis I'r Gad, Pa Beth aethoch chi allan i'w achub, The Phenomenon of Welshness, a chofiannau megis Cofio Eurig , Hanes Gwanes a Valentine ar ben hynny dw i dal i ddarllen y Cymro yn wythnosol, Barn yn fisol ac ambell gopi o Golwg, Y Pentan a'r Herald Cymraeg diolch i'm ffrind yn y gogledd sy'n hel tudalennau Yr Herald Cymraeg ata i drwy'r post brenhinol. Mae'r Cymro a'r Herald Cymraeg yn cael ei basio ymlaen at ddarllenwyr eraill yn yr ardal yma. Gobeithio bydd yr hen Santa yn dod ac ambell docyn llyfr i mi fel anrheg Nadolig ac mi fydd y prosiect darllen yn mynd yn ei flaen yn ystod 2014!

Wednesday, 20 November 2013

Llais Y Derwent: papur bro i ddysgwyr a Chymry alltud canolbarth Lloegr

Mae'r rhifyn Gaeaf Llais y Derwent bellach wedi cael ei gyhoeddi. Cafodd y papur ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2005, ac ers hynny mae nifer go da o rifau wedi ymddangos. I ddechrau dim ond 4 tudalen oedd gan y 'Llais', erbyn hyn mae 'r papur wedi tyfu i 6 o dudalen. Mae'r bobl sy'n ysgrifennu i'r 'Llais' yn byw ar draws canolbarth Lloegr o Norfolk i Sir Henffordd, ac yn cynnwys pobl sy'n byw yn Nottingham, Derby a nifer o'r trefi a phentrefi. Os oes gynnoch chi rywbeth i'w dweud neu rywbeth i hysbysebu gadewch i ni wybod! Mae nifer o'r hen gopïau ar gael ar y we fel ffeiliau 'pdf' ar wefan Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby, gwelir www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com

Sunday, 27 October 2013

Gwirfoddolwyr Canolbarth Lloegr dros yr iaith Gymraeg


Dros gyfnod eitha’ hir mae grwpiau dysgwyr canolbarth Lloegr wedi derbyn dipyn o sylw mewn cylchgronau ac ar radio/teledu yng Nghymru. Mae'na nifer o wirfoddolwyr selog tu ôl i'r gwaith sy'n cael ei wneud.
Mae dau ddosbarth Cymraeg wythnosol sy'n cael ei drefnu yn Belper yn ganlyniad i waith caled gan Glen Mulliner. Bore Sul y penwythnos yma roedd Glen yn rhedeg stondin y dosbarth Cymraeg mewn diwrnod agored yng nghanolfan Strutt Belper.

Unwaith y mis mae'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg yn cael ei gynnal yn Nottingham. Mae'r bore coffi yn llwyddiannus iawn efo 10-15 o bobl yn dod fel arfer, ond y gŵr sy tu ôl i ffyniant y digwyddiad misol yw Viv Harris, oherwydd Viv Harris, gynt o Ynys y Bwl, sy'n trefnu rota misol y boreau coffi.
Mae'r grŵp ymarfer wythnosol sy'n cael ei rhedeg yn Derby gan DWLC yn gyfrifoldeb Allan Child, sy'n gofalu bod y canolfan ar agor, bod te/coffi a bisgedi ar gael, a hefyd, pan fo angen bod cyflenwad newydd o lyfrau Cymraeg ar gael i'r grŵp cael darllen.
Unwaith y mis yn Nhafarn the Assembly Rooms, Solihul mae'na nifer o ddysgwyr SSIW yn ymgynnull o dan arweiniad Cymro alltud o Gaerdydd, sef Aled James.
Steve Clement yw'r enw'r gŵr bonheddig sy'n arwain dosbarth Cymraeg yr U3A yn Sheffield, ac Eileen Walker sy tu ôl i Glwb Clebran Bradford. Hir oes i ymdrechion y bobl weithgar yma. Diolch iddynt.