Wednesday, 2 September 2015

Diwedd haf



Dyw hi ddim wedi bod yn boeth iawn yr haf yma ond er gwaethaf hynny yr ydw i wedi cael sawl gŵyl braf draw yng Nghymru.

Ym mis Mehefin treuliais wythnos efo fy annwyl wraig draw yng nghyffiniau Pwllheli, wedyn ar ôl 'mond wythnos nol yn y gwaith yr oeddwn i'n mwynhau wythnos arall yn aros yn Llanfachreth ar fferm Ystum Gwadnaeth efo Krispin a Karen tra oeddwn i'n mynychu Ysgol Haf Cymraeg Dolgellau. Uchel bwnt yr haf wrth gwrs oedd Eisteddfod Meifod.

 Ces i amser gwych yn mynd o stondin i stondin, cyngerdd a chyfarfod, cwrdd â nifer fawr o gyfeillion a phopeth trwy’r Gymraeg. Roedd y ddarpariaeth cerddoriaeth yn wych, yn arbennig y digwyddiadau oedd yn cael ei chynnal yn Nhŷ Gwerin, grwpiau a phobl megis Calan, Bob Delyn a'r Ebillion, Dafydd Iwan, Gwyneth Glyn a pherfformwyr eraill. Roedd noson y stomp Cerdd Dant yn wych, penillion doniol os braidd yn las o ran iaith.

Dw i wedi bod yn Eisteddfodwr brwd byth ers 'Steddfod Dinbych yn 2001.

Dyma un o gyfleoedd gorau i 'foddi' yn y Gymraeg ac i anghofio am siarad Saesneg am wythnos. Trwy fynychu'r 'Steddfod yn flynyddol dw i wedi ymweld ag ardaloedd o Gymru ni faswn i byth wedi gweld oni bai am yr Eisteddfod.

Felly hir oes i'r Brifwyl!

Wrth gwrs mae diwedd yr Haf yn golygu fy mod i'n wynebu misoedd tywyll yr Hydref a Gaeaf yn ôl yn y gwaith, ond ar yr ochr da mi fydd y 'pethe' Cymraeg lleol yn ailddechrau. Pethe megis y bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol yn Nottingham, y gweithdai Cymraeg misol yn Derby, ein hysgol Cymraeg blynyddol ac ambell daith gerdded a digwyddiad cymdeithasol mewn Cymraeg. Unwaith dyn ni wedi cyrraedd dydd Calan mi fyddwn i'n dechrau edrych ymlaen at yr Eisteddfod nesa. Felly ymlaen i'r Fenni.

Sunday, 21 June 2015

Wythnos ym Mhenllyn


Dyma ni heddiw ar ddiwrnod 'hirddydd haf', ac wedi dod adref ar ôl treulio wythnos gyfan ym Mhenllyn. Roedd hi'n gymysg o ran tywydd efo rhai dyddiau heulog ac ambell un cymylog efo dipyn o law.
Er gwaethaf hynny mi lwyddon ni ymweld â nifer fawr o lefydd megis, Caernarfon, Criccieth, Pwllheli, Lanbedrog, Aberdaron, Nefyn, Llanfair PG a Llangefni yn Sir Fon.












Ar ran atyniadau twristaidd ymwelon ni a Phlas Gilyn y Weddw efo ein ffrindiau Dafydd a Jane o Fae Colwyn i weld arddangosfa o luniau sy'n dathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia. Roedd hi'n wych efo lluniau gan Delyth Llwyd Evans de Jones (1915-1986) o Batagonia. Hefyd aethon ni i weld Plas yn Rhiw a'i gerddi wrth ochr Porth Neigwl. Mi wnaethon ni cerdded i ben Tre'r Ceiri ac wedi (yn y car) i lawr i Gaffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn.
Wrth gyrraedd Pen Llyn mi wnes i brynu copi o Lanw Llyn er mwyn gweld  beth oedd yn mynd ymlaen ymhlith y Cymry Cymraeg. Felly dyna fi, ar y nos Sul cyntaf, yn mynd ar fy nen fy hunan i wrando ar Gymanfa Ganu yng Nghapel y Traeth, Criccieth efo Trystan Lewis yn arwain. Roedd y canu yn hyfryd ond oedran y gynulleidfa ar y cyfan rhwng 60 a 85. Trist dweud ond ni fydd y traddodiad yma yn para yn hir. Ar y nos Llun mi es i i Lansiad llyfr (Pam Na Fu Cymru) yng nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr. Cafodd darlith am gynnwys y llyfr gan yr awdur (Simon Brooks), ambell sgwrs ddiddorol, panad ac wrth gwrs roedd rhaid i mi brynu’r llyfr.
Ar y nos Fawrth ces i sgwrs efo Aran Jones (un o sylfaenwyr cwmni SSIW) a'i ffrindiau yn Nhafarn y Twnti, Rhydyclafdy. Ar nos Fercher aeth Marilyn a finnau i sesiwn Panad a gemau yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Braf gweld y dysgwyr lleol. Nifer ohonynt wedi symud i'r ardal o rannau gwahanol o Loegr a thu hwnt.
Ar y dydd Gwener ymwelon ni a'r Amgueddfa Forol yn Nefyn. Roedd hi'n arddangosfa benigamp, ac yr oedd y cerrig beddau yn y fynwent hynod o ddiddorol hefyd efo lluniau graffiti o longau hwylio o'r oes a fu.

Monday, 6 April 2015

Pennant Melangell


Dros benwythnos olaf mis Mawrth mi aethon ni draw i Tarporley er mwyn ymweld â'n rhieni. Roedd fy nhad wedi mynegi dymuniad i ymweld â'r eglwys hynafol, ddiarffordd Pennant Melangell. Doeddwn i ddim wedi bod yno o'r blaen, wrth edrych ar fapiau'r Arolwg Ordnans o'n i'n gallu gweld ei fod o'n daith hir ar ffyrdd bychain troellog trwy ardal fynyddig i'r
gorllewin o Groesoswallt a dim yn bell o dref fach Llanrhaeadr-ym-mochnant. Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod o'n daith addas i deithwyr wan (fel fy Mam a'n annwyl wraig Marilyn) felly mi es i yno efo fy nhad yn unig. Yr oedd o wedi bod yno o'r blaen, ond i ddweud y gwir doedd o ddim wir yn cofio'r ardal yn iawn. Rodd hi'n daith hir, roedd hi'n bwrw glaw yn drwm am hanner cyntaf y daith. Roedd rhaid i ni stopio ar y ffordd i gael hoe fach mewn tafarn o'r enw 'The New Inn' ac wedyn ymlaen trwy Lanrhaeadr-ym-mochnant, wedyn Pen-y-bont-fawr hyd at Bennant Melangell. Roedd y ffyrdd yn mynd yn llai ac yn llai wrth i ni ddod yn agos at yr eglwys ac yr oedd dwr ym mhobman ac ar draws y ffordd. Wrth edrych i fyny at y mynyddoedd o amgylch y dyffryn rodd y nentydd yn edrych fel rhaeadrau yn tasgu i lawr.

Doedd neb o gwmpas pan gyrhaeddon ni at y maes parcio wrth ymyl yr eglwys ond yr oedd y drws ar agor ac aethon ni i mewn am 40 munud yn crwydro o amgylch yr addoldy ac yn syllu ar y gweithiau celf megis lluniau, cerfluniau ac yn y man canolig sefyll y Greirfa ac i'r ochr draw cell y bedd. Mae eglwys Pennant Melangell wedi bod yn gyrchfan Pererinion ers canrifoedd, ar un ochr i'r Greirfa man na nifer i ganhwyllau bach yn llosgi ac mi wnes i gynna un arall i gofio am hen ffrindiau ac aelodau o'r teulu sy wedi gadael ni. Roedd yr eglwys yn oer iawn, felly ar ôl 40 wnaethon ni adael a mynd yn ôl i Lanrhaeadr-ym-mochnant i gael panad a brechdan sglodion yng nghaffi 'Y Gegin Fach' (lle braf efo bwyd syml cartrefol blasus, perchnogion a staff croesawgar sy'n medru'r iaith). Aethon ni nol wedyn i Tarporley i gael swper ac i ymlacio o flaen yr hen deledu. Diwrnod da.

 

Tuesday, 17 March 2015

Unwaith eto yng Nghymru annwyl.

Yr ydw i wedi bod yn brysur ers mis Chwefror. Mae cryn dipyn o bwysau yn y gwaith a hefyd dw i wedi ymweld â Tarporley a Chymry. Roedd y daith i Tarporley yn digwydd yn ystod ail hanner mis Byr er mewn mynd a'n chwaer o Breston i weld Mam a Dad am benwythnos. Roedd hi'n hapus i weld nhw ar ôl colli cyfle i weld nhw yn gynharach yn y flwyddyn oherwydd eira trwm. Tra oedd Anne yn aros efo'n rhieni oeddwn i'n gallu picio draw i Wrecsam ar y dydd Sadwrn i ymweld â Siop y Siswrn a Watersons i wario pres a thocyn llyfr Nadolig. Mi wnes i brynu tri pheth sef Cam i'r Gorffennol gan Rhys Mwyn, Gynnau glan a Beibl budur gan Harri Parri a Chymry'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Gwynne Jenkins. Erbyn hyn dw i wedi gorffen llyfr Harri Parri, yn hanner ffordd trwy lyfr Rhys Mwyn ac yr ydw i wedi dechrau ar lyfr Gwynne Jenkins. Cawson ni dipyn o antur
pythefnos yn ôl pan ddaeth criw teledu Tinopolis o Lanelli i ffilmio eitem ar gyfer Heno a Bore Da: dal ati. Cafodd 4 ohonon ni ein cyfweld ac yr oedd eitem fer ar Heno Nos Fawrth 11 o Fawrth ac eitem 5 muned ar raglen Bore Da. Mae'n braf cael dipyn o sylw ar S4C i'r grŵp. Penwythnos diweddaf (dydd Gwener 13 Mawrth) mi es i draw i ardal Llanrwst am ddwy noon. Mi wnes i weld ffrind yn Llandudno ar y nos Wener am sgwrs a chinio, wedyn ar y dydd Sadwrn mi wnes i ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd i gerdded o Gae'n y Coed ar hyd afon Llugwy i Fetws-y-coed. Roedd hi'n daith fer ond yr oedd y tir dan draed yn arw. Ond roedd hi'n werth yr ymdrech, roedd golygfeydd hyfryd o'r rhaeadr ac afon i'w gweld ac yr oedd y cwmni yn ddiddorol. Ar ôl y daith mi es i ymweld â ffrind newydd sy'n ffarmwraig o ardal Eglwys Fach sy'n byw ar dir uchel uwchben dyffryn Conwy. Roedd copaon y Carneddau i'w gweld o dan hetiau gwyn, yn niwlog yn y pellter. Lle braf ond siŵr o fod yn anodd tu hwnt yn ystod tywydd oer y gaeaf. Ar y dydd Sul roedd digon o amser i bicio draw i Hen Golwyn i weld hen ffrind yno (Dafydd a'i wraig Jane) cyn troi'r car yn ôl tuag at y dwyrain a Chlawdd Offa am y daith adref. Ond dw i ddim yn digalon, dw i'n mynd i ymweld a grwp o ddysgwyr SSIW ym Manceinion penwythnos nesa ac yn mynd i weld eglwys Pennant Melangell cyn bo hir yng nghwmni fy nhad.

Monday, 5 January 2015

Nadolig a Dydd Calan


Mi ges i amser braf dros fis Rhagfyr a'r Nadolig. Roedd y dathlu yn dechrau yn eithaf cynnar efo cyfarfod Nadolig Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby ar yr 6ed o Ragfyr ac yn fuan wedyn Parti Nadolig Cymdeithas Cymry Nottingham ar nos Fercher 10fed o Ragfyr. Roedd rhestr hir o berfformwyr ar gyfer y parti, mewn gwirionedd yr oedd y parti'n debyg i noson Lawen, a chwarae teg roedd Marilyn a finnau yn wneud tipyn bach wrth chwarae Sua Gân a Migildi Magildi ar gitâr a Melodeon. Roedd sgets Viv Harris a Gwynne Davies a'r criw yn ddoniol iawn, ac roedd Côr Gwawr yn wych.
Pnawn Sul wedyn yr oedd Gwasanaeth Carolau Dwyieithog a pharti te wedyn. Mi aeth Marilyn a fi draw i Tarporley i weld fy rhieni'r penwythnos cyn Nadolig felly eleni am y tro cyntaf ers blynyddoedd yr oedden ni'n treulio'r Ŵyl yma yn Belper. Cawson ni digon o bethau i'w wneud, daeth chwaer a thad Marilyn (sef Shirley a Brian) draw ar ddydd Dolig i ginio, ar ôl bwyta roedd hi'n hyfryd swatio o flaen tan agored a chwarae Scrabl. (Marilyn wnaeth ennill!) Ar ddydd San Steffan aeth Marilyn a fi am dro o amgylch y 'Chevin' sef bryn lleol (sylwir ar yr enw, mae Chevin yn ffurf Seisnig o 'r gair o'r hen Gymraeg 'Cefn') yn y bore, ac wedyn gyda nos aethon ni i weld ffilm Yr Hobbit yn sinema Y Ritz. Wrth i ni gerdded adref roedd hi'n bwrw eira yn drwm. Ar y nos Fawrth rhwng Dolig a Nos Calan aethon ni i sesiwn cerddoriaeth gwerin yn nhafarn The Old Oak yn Horsley Woodhouse, roedd tua 12 o gerddorion yn cymryd rhan, dw i'n hoff iawn o gymryd rhan mewn sesiynau o'r fath. Mi es i am sawl taith gerdded yn ystod yr ŵyl gan gynnwys taith cerdded yn yr eira ar hyd camlas Cromford, taith cerdded efo fy ffrind Colin ar ben rhostir Middleton Top yn yr eira, roedd hi'n oer iawn ar yr ucheldir efo golygfeydd gaeafol iawn.
Ar ddydd Calan roedd grŵp bach (sef fi, Marilyn, Howell, Barrie, Martin a Rebecca) o aelodau Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn mynd am dro o Whatstandwell i High Peak Junction ac yn ôl ar hyd camlas Cromford. Pnawn dydd Calan aethon ni i barti pen-blwydd Gwynne Davies yn Nottingham ac yr oedd tua 25 o bobl yno. Wnaeth Marilyn a fi chwarae cerddoriaeth ar y gitâr a Melodeon ac wedyn roedd Gwynne yn canu unawdydd a chôr Gwawr yn canu ffensiwn o Foliannwn. Roedd hi'n barti hyfryd. Y peth olaf i ni wneud dros dolig oedd mynd i Fore Coffi Popeth yn Gymraeg yn nhŷ Viv Harris yn West Bridgford, roedd 13 o bobl yno yn sgwrsio yn braf ac yn mywnheu lletygarwch Viv. Diolch yn fawr i bawb am Nadolig hwylus dros ben.

Monday, 15 December 2014

Mi ges i amser braf efo Cymry Nottingham ar nos Fercher rhaid bod dros 40 yn bresennol yn y Parti Nadolig. Roedd digon o fwyd a 15 perfformiadau gan wahanol bobl gan gynnwys Côr Wawr yn canu yn arbennig a Beryl yn adrodd rhan o'r gerdd y Pibydd brith. Diolch am noson arbennig. Roedd y Gymdeithas hefyd yn cynnal gwasanaeth carolau dwyieithog prynhawn Sul 14-12-15 drueni doedd dim mwy o ddysgwyr lleol yn bresennol ar gyfer gwasanaeth hyfryd. Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i bawb!

Monday, 24 November 2014

Malcolm Bennett 1944-2013

Ces i dipyn o fraw ar nos Iau wrth glywed, yn hwyr las, bod hen gyfaill i mi wedi marw dros ddeunaw mis yn ôl. Doedden ni ddim wedi bod mewn cyswllt am sbel, ond am gyfnod maith roedd Malcolm Bennett yn aelod o'n grŵp Cerddwyr Radicalaidd (Red Rambles) a oedd yn weithredol rhwng 1994 a 2004 yn ardal y Peak. Roedd Malcolm (Malc i'w gyfeillion) wedi symud i Swydd Derby o ardal Reading i fyw mewn Commune yn Milford, nes ymlaen, ar ôl i'r commune chwalu yn gyfeillgar, roedd o a'i deulu yn parhau i fyw yn ardal Belper. Roedd Malc yn 'Hippie' go iawn yn null y chwedegau, hynny yw yn credu mewn bywyd amgen, yn defnyddio tipyn bach o ganabis, ac yn mwynhau byw. Roedd o hefyd yn grefftwr dawnus, yn gerflunwyr ben i gamp ac yn gallu creu a chwarae offerynnau cerddorol. Roedd o'n cadw lotment o fath wrth ochr y gartref teuluol oedd yn gynhyrchiol iawn ond hefyd yn rhyw fath o oriel celf ar gyfer ei weithiau cerflunio. Sawl tro yng nghwmni Malcolm mi wnes i gerdded mewn rhannau gwahanol o ardal y Peak mewn hindda a glaw. Roedd ganddo fo bob tro rhywbeth diddorol i'w dweud hyd yn oed os oedd o'n ymestyn y gwirionedd ar adegau. Ac ar ben y ffaith ei fod o'n gerflunydd da roedd o'n ddyn handi go iawn a dw i'n cofio gweld y gwaith adeiladu wnaeth o yn ei dy ei hunan. Roedd lle tan arbennig o gerrig efo maen glo arbennig yng nghanol y bwa, roedd Malcolm wedi darganfod bricsen leol efo'r gair Belper wedi’i stampio arno, a dyna beth oedd y maen glo perffaith i'r pentan. Gwych. Yn 2008 roedd Malcolm yn hapus i gymryd rhan mewn prosiect ffilmio fideo ar gyfer gwefan 'Anarchist Voices Video Project', (gwelir https://www.youtube.com/watch?v=uP1boeYGr7M&list=UUldSU6_0rW6YMH1_7OT1KTg ) prosiect oedd yn rhoi llwyfan i anarchwyr o wahanol fathau son am eu bywydau, prosiectau a beth oedd anarchiaeth yn golygu iddyn nhw. Roedd ei gyfraniad yn ddiddorol ond wrth edrych arno rŵan dw i'n sicr mi fydda i'n gweld eisiau Malcolm. Malcolm Bennet 1944-2013. Heddwch i'w lwch.