Wel mi ges i dipyn o hwyl dros y penwythnos diweddar. Mi wnes i weld ffrindiau yn ardal Bradford ar ddydd Llun. Ar fore dydd Mawrth mi es i i gyfarfod Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby sy'n cael ei gynnal yn Nhy Cwrdd y Crynwyr yng nghanol Derby dim yn bell o'r Eglwys Gadeiriol Derby. (gwelir www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com ). Roedd dim ond pump ohonon ni yno'r wythnos yma. Mae'r grŵp wedi bod yn darllen Te yn y Grug gan Kate Roberts. Mae hi'n dipyn o her i'r grŵp gan fod y grŵp wedi dysgu iaith y de pan oedden nhw yn Nosbarth WEA Delyth Neill.
Ar un adeg roeddwn i'n arfer gweithio yng nghanol Nottingham yn rhedeg Clwb Swydd yng Nghapel yr Undodiaid. Roedd hi'n brofiad diddorol, ac yr oeddwn i'n cwrdd â phob math o bobl.Yfory mi fydd y wraig a finnau'n mynd i ymweld â Chronfa Dŵr Carsington, sy wastad yn hwyl. Mae 'na awyrgylch dda yno bob tro dan ni'n mynd efo bobl yn cerdded, canwio, hwylio ac yn mwynhau'r awyr iaich. Wel, dyna'r cwbl am rawn.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Da iawn Jonathan, diolch yn fawr. Gobeithio'r bydda i'n gallu siarad fel iawn na fe yn fuan. Mae e'n neis iawn iawn i gwrdd â dysgwyr eraill.
Post a Comment