Ces i hwyl yn ardal Wrexham y penwythnos yma wrth ymweld â Sesiwn siarad mewn caffi yng Nghanolfan Garddio Holt. Roedd wyth yn bresennol a chawson ni amser braf am dair awr yn siarad am hyn a llall. Wedyn es i ymlaen i Siop Y Siswrn yn y farchnad yn Wrexham cyn troi am adre dros dro, sef Tarporley.
Yno es i i farbeciw'r gymdeithas rhandir, ond och a gwae, mi wnes i fwyta gormod o bethau, felly nes i ddioddefa yn ystod y nos, ond gwell i mi beidio cwyno, dim ond un person sydd ar fai, sef fi! Bellach dw i'n ôl yn Belper ac yn cadw at fara sych a dŵr oer am heddiw o leia’!
3 comments:
Roedd gen i syndod mawr wrth edrych dros y caffi a dy weld di yn eistedd wrth un o'r byrddau. Roedd y sgwrs yn ddiddorol iawn ddydd Sadwrn diwethaf, a gobeithio byddi di'n gallu dod y tro nesaf, neu i'r caffi yn Alyn Waters, taset ti yn yr ardal yma ar y 19eg o Orffennaf.
Sdim obeith i mi fod yn bressenol tro nesa, ond efallai ym Mis Medi.
Beth bynnag, roedd hi'nbraf cwrdd a Michelle ac Aled.
Perthynas Fred Dibnah sy'n gwneud y barbiciw siwr o fod.
Post a Comment