Friday, 16 October 2009

Y 'pethau' yn Nottingham a Derby

Roedd cryn dipyn o Gymraeg i'w glywed o gwmpas Nottingham a Derby dros benwythnos yr ail i bedwerydd o Hydref. Yn gyntaf ar ddydd Gwener 2-10-09 daeth 12 o Gymry Cymraeg a dysgwyr profiadol at ei gilydd yn Chilwell, Nottingham ar gyfer y cyfarfod misol 'Bore Coffi -Popeth yn Gymraeg'. Mae'r cyfarfodydd misol yn mynd o nerth i nerth ac y tro 'ma roedd 3 o bobl newydd ymhlith y rhai presennol.
Wedyn ar ddydd Sadwrn (3-10-09) cafodd Ysgol Undydd Cymraeg Derby ei gynnal am y pumed flwyddyn yn olynol. Daeth 44 o bobl at ei gilydd yng Nghanolfan Cymunedol Chester Green, Derby gan gynnwys 36 o ddysgwyr, 2 o athrawes a 6 o wirfoddolwyr Cymry Cymraeg yr ardal. Mae'r diwrnod yn hwb enfawr i'r rhai sy'n dysgu'r iaith Gymraeg yng Nghanolbarth Lloegr. Fel arfer does fawr ddim o gyfleodd i'r dysgwyr yma i ymarfer, ond o leiaf ar ddiwrnod yr Ysgol mae'na gyfle go iawn i glywed ac i ddefnyddio'r hen iaith!
Mae'r nifer sy'n mynychu’r Ysgol Undydd eleni wedi cynyddu, yn rhannol oherwydd mae dau aelod lleol o'r gwefan 'Say Something in Welsh' ( www.saysomethinginwelsh.com/home/ ) wedi ymuno'r Ysgol Undydd am y tro cyntaf . Mae'r Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby wedi derbyn cefnogaeth yn y gorffennol oddi wrth grwpiau fel CYD a hefyd o Fentrau Iaith wahanol yng Nghymru. Yn awr mae'r Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby eisiau ymestyn eu cysylltiadau efo dysgwyr a grwpiau yng Nghymru. Mi ddylen nhw gysylltu trwy fynd at wefan www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/
Ces i dipyn o hwyl y penwythnos diweddaf. Es i draw i Tarporley ac wedyn ar ddydd Sadwrn mi nes i ymuno a'n gyfaill Dafydd Morgan o Fae Colwyn am daith cerdded efo grŵp cerddwyr papur bro'r Pentan. Aethon ni i Drefrhiw am daith cerdded tua 4 milltir o amgylch coedwigoedd lleol. Roedd y criw yn groesawgar iawn ac roedd y golygfeydd ar y daith yn arbennig o dda. Ar ddiwedd y daith wnaethon ni gerdded heibio ffermdy efo pont hynafol pren bron iawn wedi disgyn i'r nant. Diolch byth roedd'na bont fodern dros y Nant hefyd!


1 comment:

Viv said...

Diolch o galon Jonathan am lun ein bore coffi ar dy blog 'ma. Da oedd gweld Lewis Jones yn y gornel a Joella Price mor bert ar y dde, dau o'r tri aelod newydd! Mae Lewis yn berson arbennig, un o dri brawd dall teulu Evan a Rebecca Jones fferm Tynybraich Dinas Mawddwy. Ac mae'r tri ohonynt sydd wedi gorfoleddu dros bob rhwystr yn eu ffyrdd. Rhaid pawb ddarllen 'O! tyn y gorchudd' gan nith Lewis sef Angharad Price.