Yr ydw i wedi cael wythnos gyfan lawr ymhlith y Jacs (pobl Abertawe) yn Abertawe, cawson ni (Marilyn a finnau) digonedd o heulwen braf a dim ond ambell smotyn o law. I fod yn fanwl cywir roedden ni'n aros ym Mae Caswell ac yn wneud y pethau twristaidd arferol. Felly mi wnaethon ni ymweld â Chaffi Verdis yn y Mwmblws ar fore Dydd Sul a mynd i weld ffilm 'Robin Hood' yn ystod y prynhawn. Ar ddydd Llun aethon ni i Ddinbych y Pysgod, wedyn ar ddydd Mawrth mi wnaethon ni ymweld â'r Gerddi Botaneg Genedlaethol ger Cross Hands, roedd criw o blant Urdd Gobaith Cymru yno er mwyn cyhoeddi neges Ewyllys Da'r Urdd i'r Byd. Wrth i ni fynd i mewn dyna oedd Hywel Gwynfryn yn dod allan a chawson ni sgwrs fer. Ar ddydd Mercher mi wnes i ymweld ag Oriel Glyn Vivian a hefyd Amgueddfa'r Glannau. Hefyd aethon ni am dro o gwmpas Bae Oxwich a hefyd am dro arall ar hyd clogwyni ger 3 Cliffs Bay. Digon i gadw ni'n brysur. Ar ben hynny es i i sawl digwyddiad Cymraeg ar fy mhen fy hun sef cyfarfod Cyd yn Nhŷ Tawe, menter Iaith Abertawe. Hefyd mi wnes i gwrdd â hen bos fi, Dai Pryer a'r cadeirydd Menter Iaith Abertawe (Huw Dylan Owen) sy'n ffrind am beint cyflym. Yn olaf ar nos Wener aethon ni i barti i aelodau Plaid Cymru (na ddw i ddim yn aelod o'r Blaid!). Cafodd y parti ei gynnal i ddathlu gwaith aelodau lleol y blaid yn ystod yr etholiad cyffredinol. Roedd aelodau o'r band gwerinol Cymraeg Yr Alltud yn chwarae, hynny yw Dylan, Chris a Jacob, eu perfformiad nhw ar noson y parti yn lawer gwell na pherfformiad y blaid ar noson yr etholiad!
Ar nos Lun daeth ffrind, sef Pegi, draw am bryd o fwyd yn ein 'fflat' ni, a chawson ni sawl bryd eraill yn y ddinas. Govindas amser cinio Dydd Iau, Il Padrinos ar Wind Street ar nos Wener, mae'na ddigonedd o leoedd bwyta yn Abertawe mae'n siŵr.
Roeddwn aros mewn apartment ym Mae Caswell efo balconi a ffenestri dwbl enfawr. Felly cawson ni olygfa fendigedig dros y bae. Roedd hefyd ogof ar ochr dde i'r bae. Pan oedd hi'n glir roedd hi'n bosib gweld Dyfnaint a Rhostir Exmoor ar y gorwel. Sawl tro gyda'r nos ac yn ystod y prynhawn wnes i weld y fferri newydd yn teithio draw i Iwerddon.
Yn bendant mi fydden ni'n dod yn ôl i Fae Caswell.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
5 comments:
Hyfryd ! Hyfryd ! Roeddech chi'ch dau yn lwcus iawn efo'r tywydd. Dw i'n hoffi dy luniau.
Dw i'n genfigennus iawn.
Verdi's - neis iawn - gawsoch chi hyfen ia neu fwyd Eidaleg?
Ro, do cawson ni dywydd braf iawn. Chris, naddo! Mi ges i dim ond paned o goffi.
Dyma ardal dwi wedi esgeuluso ers dyddiau fy mhlentyndod, ond mae'n hen amser i mi ddychweled! diolch am y lluniau :)
Post a Comment