

Wrth fynedfa'r eglwys roedd stondin bach efo taflenni mewn sawl iaith dramor a oedd yn son am hanes y lle. Roeddwn synnu i weld fersiwn Cymraeg yno hefyd. 
Ar y Sul aethon ni a Brian (tad Marilyn) a Shirley (chwaer Marilyn) i weld Gŵyl Wledig Chatsworth. Mae hi'n sioe go fawr a dw i'n sicr bod dros 10,000 o bobl wedi bod yn bresennol. Roedd pob math o bethau, bandiau Pibau Albanaidd, marchogaeth Ceffylau, cystadlaethau Cŵn,
treialon cŵn defaid, tanio drylliau, saethau bwy a saeth, pebyll crefftau a phebyll bwyd. Mi ges i sgwrs fer efo dyn o Sir Fôn a oedd yn gweithio ar stondin Tofac, ac roedd sawl cwmni bwyd arall o Gymru.
Roedd y tywydd yn gynnes heb ddifferyn o law, diolch byth. Felly ar ôl diwrnod hir 'ar y maes' wnaethon ni droi am adref tua hanner awr wedi chwech i dreulio gweddill y noswaith ar y ffôn efo William o Lundain a Ro o Wrecsam.

Ar y Sul aethon ni a Brian (tad Marilyn) a Shirley (chwaer Marilyn) i weld Gŵyl Wledig Chatsworth. Mae hi'n sioe go fawr a dw i'n sicr bod dros 10,000 o bobl wedi bod yn bresennol. Roedd pob math o bethau, bandiau Pibau Albanaidd, marchogaeth Ceffylau, cystadlaethau Cŵn,


No comments:
Post a Comment