parhau i ddarparu ystod eang o weithgareddau diddorol i'n aelodaeth.
Bore dydd Sadwrn 10fed o Ragfyr yr oedd 11 o bobl yn y gweithdy Cymraeg yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yn Derby a chawson ni amser da yn chwarae'r fersiwn Cymraeg o'r gemau bwrdd Monopoli a Scrabble. Wedyn ar fore Dydd Sul wnaeth 5 ohonon ni'n mynd am dro ar hyd glannau'r afon Derwent rodd hi'n braf i ddechrau ond erbyn yr ail hanner o'r daith roedd hi'n bwrw glaw yn drwm iawn. Ond er gwaetha’r tywydd gwlyb roedd hi'n daith bleserus efo golygfeydd da o'r dyffryn. Roedd asyn a'i ebol mewn cae wrth ochr y llwybr, golygfa digon Nadoligaidd.
2 comments:
Nadolig Llawen i tithau hefyd Jon.
Dwi newydd darganfod fersiwn ar-lein o Scrabble Cymraeg (ar ol cael fy ysbrydoli i chwilio am y ffasiwn peth gan dy flog di!) sydd ar gael ar Wabble.org
Fasai'n syniad da setio gem i fyny fel arbrawf ella..? mae'n posib wneud gem parhau am ddyddiau neu wythnosau dwi'n meddwl, ond mae angen rhywun i chwarae yn eu erbyn i'w wneud dwi'n credu.
hwyl am y tro, Neil
Dyna syniad da. Mi faswn i'n fodlon cymryd rhan.
Post a Comment