Dw i wedi cael sawl profiad pleserus dros wythnosau mis Medi a Mis Hydref. Cafodd Marilyn a finnau penwythnos gwych draw yn Aberystwyth yn aros yn Westy bach Yr Hafod. Diolch i John Evans am y croeso. Ymwelon ni a nifer o dai bwytai a siopau, a finnau yn prynu nifer o lyfrau o'r siopau llyfrau ail-law megis Oxfam a Siop Llyfrau Ystwyth. Roedd Marchnad y Ffermwyr ymlaen ar y bore Sadwrn a phrynais i sawl eitem blasus. Ar y ffordd i Aberystwyth wnaethon ni aros yn nhŷ fy mam yn Tarporley ac wedyn ar y dydd Gwener aethon ni dros y ffin i Gymru. Aethon ni trwy'r Bala a chawson ni dipyn o syndod wrth weld cyfaill o East Dereham (John Maynard Archer) wrth ochr y maes parcio. Wedyn cawson ni banad yn fflat wyliau Andrew Brown o Lundain. Ar y ffordd adref o Aberystwyth yr oedd lliwiau hydrefol hyfryd ar dail y coed yn enwedig wrth i ni yrru trwy Gorris.
Dyn ni hefyd wedi ail gipio yn mynd i sesiynau Cerddoriaeth Gwerin, ac ar nos Fawrth wythnos ddiwethaf yr oedden ni'n cael hwyl yn canu ein hoffer cerddorol (Melodeon, Gitâr, a Chwibanau) yng nghwmni criw dawnus o gyd cerddorion yn Nhafarn yr Old Oak yn Horsley Woodhouse. Mae'r sesiwn yn cael ei chynnal yno ar y nos Fawrth olaf yn fisol.
Yr ydyn ni wedi cael y cyfle i gynnig croeso i 'Stev' Gymro sy'n lletya yn ein hardal dros dro pan mae o'n gweithio. Felly ces i ymwelydd i ginio nos Iau pythefnos yn ôl a sgwrs hwyliog, ac eto ar nos Iau'r wythnos yma, ond y tro 'ma wnaeth Martin Coleman ymuno a ni. Yr oedden ni wedi bwriadu cwrdd yn Yr Husrt Arms, ond wnaeth stev sylwi bod y lle ar gau, felly newidion ni'r trefniant i gwrdd yn nhafarn arall (Pen y frenhines, Belper) yr oedden ni wedi bod yn siarad gyda'n gilydd am ddau awyr pan ddaeth dyn oedd wedi bod yn eistedd ar ochr draw i'r stafell draw ac yn dweud 'Mae'n braf clywed yr iaith yn cael ei siarad yma'! Dyna beth oedd dipyn o 'serendipity'.
Dros y misoedd diweddaf ddyn ni wedi bod yn gwneud y gwaith hysbyseb a gwaith paratoi ar gyfer ein digwyddiad mawr blynyddol, sef Ysgol, Undydd Cymraeg Derby. Cawson ni ddim ein siomi. Daeth 46 o bobl ynghyd gan gynnwys y tiwtoriaid, gwirfoddolwyr a'r holl ddysgwyr. Daeth pobl o Langollen, Wrecsam, Birmingham, Congleton, Middlewich, Utoxeter, Huddersfield, Sheffield, Nottingham, Clay Cross, Lichfield, Belper a Derby. Diolch yn arbennig i Gwyn a daeth a stondin llyfra ar ran siop Awen Meirion o'r Bala a hefyd i Mailyn a Shirley am eu gwaith holl bwysig yn y gegin. Mae hi'n dipyn o gamp bwydo 46 o bobl!
Dyn ni'n diolchgar tu hwnt i Gymdeithas Cymry Nottingham am eu cefnogaeth. DIolch i Viv Harris, Enid Davies a Howell Price am arwain sesiynau yn y grwp profiadol.
Mae'r rhaglen gweithdy misol Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby wedi'i drefnu tan Fis Mehefin 2017 a'r gwersi Cymraeg wythnosol wedi ailddechrau o dan ofal trefnydd Glen Mulliner a'r tiwtor gweithgar Elin Heron. Mae'r 'pethe' yn fyw ac yn iach yn Swydd Derby.