Dyn ni ddim wedi cael gaeaf go iawn eleni, prin oedd y dyddiau yn Swydd Derby ble oedd eira yn disgyn, ond mae ambell ddiwrnod oer wedi bod fel heddiw.
Heddiw aeth fy annwyl wraig a fi am dro o amgylch rhostir Stanton yng nghwmni ein cyfaill Martin.
Mae Martin wedi dod yn rhugl yn yr iaith Gymraeg ar ôl dim ond 4 blynedd o ddysgu. Eleni mi fydd hi'n 5 mlynedd ers iddo fo
dechrau dysgu'r hen iaith. Mae hi bron iawn 19 mlynedd ers i mi ddechrau ar y daith yn ôl yn 1998.
Gan fod fy ngwraig hefyd yn medru cryn dipyn o'r hen iaith roedd y rhan mwyaf o'm sgwrs ar y daith y bore'ma yn y Gymraeg.
Wnaethon ddechrau'r daith o'r llefydd parcio wrth ochr yr heol ar ochr gogleddol y rhostir.
Mae'r llwybr yn dringo yn ara' deg i fyny heibio hen chwarel ac maen uchel o'r enw 'Cork stone', wedyn yng nghanol y rhostir mae'na
golofn triongl, a'r ucheldir yn sefyll tua 1500 o droedfeddi uwchben lefel y môr. O'r safle hwnnw mae hi'n bosib edrych i'r gogledd ble mae Bakewell yn gorwedd yng nghanol dyffryn Wye neu i'r de i weld Darley Dale a Matlock yn nyffryn Derwent.
Ar ôl gadael y golofn triongl wnaethon ni gerdded trwy goedwig bedwen, roedd ambell un wedi marw ac yr oedd ffwng yn tyfu arnynt. Wedyn aethon ni i'r cylch meini cyn-hanesyddol.
Mae diddordeb y paganaidd fodern i'w weld yno efo nifer o gynigion i'r duwiau yn hongion oddi wrth ganghennau'r coed yno.
Mae enw Saesneg am y cylch sef y 'Nine Ladies' sy'n adlewyrchu hen goel bod naw o fenywod wedi cael eu troi i garreg am gosb ar ôl cael eu dal yn dawnsio ar y Sul. Cosb braf yn eithafol dwedwn i.
Wedyn mae'r daith yn arwain yn ôl trwy’r goedwig tuag at y mynediad ar ochr gogleddol y rhostir. Doedd dim lawer o arwyddion bod y gwanwyn yn dod. Roedd y gwynt yn oer ac yn tarddu o'r dwyrain. Doedd dim arwydd o flaguro ar y llus. Roedd tipyn bach o gynffon oen yn dechrau agor ond mae gafael y gaeaf dal i'w gweld. Gaeaf a gallu bod yn ormod i rai creadur wrth weld sgerbwd defaid ar y tir.
Mae pawb yn aros yn eiddgar am y gwanwyn. Ar ôl gorffen ein taith gerdded, aethon ni i gaffi siop llyfrau Scarthin yn Cromford am ginio blasus a sgwrs ddiddorol. Gwobr dda i gerddwyr blinedig a newynog.
No comments:
Post a Comment