Sunday, 26 August 2018

Gwanwyn a Haf 2018


Mae misoedd wedi mynd heibio ers i mi sgwennu pwt ar gyfer y dyddiadur yma.
    Ym Mis Bach roedd hi’n  fwyn iawn a ches i benwythnos yng Ngogledd Cymru er mwyn  ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd ar daith cerdded ger Cerrigydrudion. Taith diddorol o ddyffryn dros bryniau i gapel ble oedd carreg bedd  Owain Myfyr yn cael ei cadw. Cafodd y garreg bedd eu ‘achub’ o fynwent mewn eglwys yn ddwyrain Llundain a chafodd ei bomio yn ystod y blitz.


    Ym mis Mawrth cawson ni wythnosau o dywydd oer iawn yn Belper ar ôl ymweliad ‘bwystfil y dwyrain’  hynny yw  ffrynt oer o Siberia. Ar wahân i anghyfleustra'r eira a thymheredd isel roedd rhaid gohirio cinio dydd gŵyl Dewi Cymdeithas Nottingham, digwyddiad ble yr oeddwn i fod i siarad fel y gŵr gwadd. Mi wnes i sgwennu darlith fach, ac yr oeddwn i i gael ail gyfle i’w traddodi pan aeth Cymry Nottingham ati i aildrefnu’r cinio ym mis Ebrill ond ar yr ail ddyddiad mi es i yn swp sâl a methu mynd am yr ail-dro. Chwarae teg i Howell Price a Gwynne Davies a wnaeth darllen fy narlith yn uwch i’r Cymry oedd yn y cinio.
     Yn hwyr ym Mis Mawrth mi es i draw i Langollen ar gyfer cynhadledd Plaid Cymru,  gynhadledd gyntaf i mi. Mi wnes i aros mewn gwely a brecwast ble oedd pobl eraill o’r blaid yn aros a ches  i sgwrs  Cymraeg diddorol dros frecwast cyn mynd i wrando ar areithiau gwahanol y tu mewn i adeilad yr Eisteddfod Ryngwladol.
 Ar ôl tywydd oer mis Mawrth daeth haul ar y bryn, ac erbyn mis Mai roedd y tywydd yn ddigon dymunol. Aeth Marilyn a finnau draw i Sir Benfro am wythnos o wyliau mewn bwythyn o’r enw ‘Casa Mia’ ger Strumble Head. Roedd hi’n bosib gweld goleudy Strumble Head o’r bwythyn a chawson ni wythnos wych yn crwydro’r ardal. Ambell daith cerdded ar hyd traethau, ymweliad i eglwys gadeiriol Tŷ Dewi .

Bob bore a bob nos yr oedden ni’n gallu gweld y fferi Stena Line yn gadael porthladd Abergwaun ary ffordd draw i Iwerddon.  Gyda nos roedd hi’n dawel iawn a dim llygredd golau felly yr oedden ni’n gallu gweld y llwybr llaethog uwch ein pennau. Roedd hi’n braf hefyd gweld gwenoliaid y bondo, y wennol du a’r wennol.

Aethon ni i Solfa, i Aberteifi, Abergwaun, i Drefdraeth a’r Parrog. Ar un diwrnod arbennig aethon ni i mewn i’r wlad i weld y Tafarn Sinc ger Rosebush ac ymlaen i’r Preseli a chofeb Waldo. Wrth gerdded o amgylch y gofeb clywon ni’r Gog yn canu yn y pellter. Ar ddiwedd yr wythnos cawson ni daith car dymunol i fyny i Aberystwyth. Ces i’r  cyfle i ymweld â ffair llyfrau Cymraeg yn y Morlan a phrynais sawl cyfrol Cymraeg tra oedd Marilyn yn torheulo ar y traeth.
Ar un penwythnos ym mis Mehefin aethon ni am dro o amgylch Rhostir Stanton ger Bakewell ac unwaith eto clywon ni'r gog yn canu. A’r tro ma roedd hi’n agos iawn, mor agos yr oedden ni’n gallu recordio’r sŵn ar ffon ddeallus Marilyn.
    Wedyn ym mis Mehefin yr oeddwn i’n gweithio yn Bakewell fel arfer ond yna, ar ddechrau mis Gorffennaf daeth y daith flynyddol i Ddolgellau ar gyfer yr Ysgol Haf. Ches i dipyn o siom bod rhai o’n ffrindiau yn absennol (Lyn, Miri a Ray) ond  roedd ein grŵp bach ni o dan ofal Rhiain Bebb yn gyfeillgar a chawson ni sgyrsiau diddorol.  
Adref eto am sbel fach ac wedyn yn syth yn ôl i Gymru a Dolgellau (eto)  ar gyfer penwythnos y Sesiwn Fawr. Wnaethon ni (M a fi)  aros mewn gwely a brecwast (Tŷ Seren) yng nghanol y dref. Doedd dim rhaid defnyddio’r car am y penwythnos ac yr oedd hi’n bosib cerdded i bobman. Welon ni nifer fawr o berfformwyr gwych gan gynnwys grŵp dawns o Wlad y Basg, grŵp o Ogledd Cymru ‘Tacla’, Gwilym Rhys Bowen, the Welsh Whisperer, Bwncath a sawl un arall. Ces i sgwrs efo fy hen ffrind Dylan Hugh Owen ac wrth gwrs wnaethon ni weld Karen a Crispin. Roedd y bobl eraill yn y llety yn Gymry Cymraeg a chawson ni benwythnos gwych.
   Wedyn roedd rhaid aros 4 wythnos eto cyn mynd  i lawr i Gaerdydd. Roedd hi’n daith digon hawdd (3 awr a hanner) ar hyd yr A38, yr M6/M5 a’r M50. Roedden ni wedi bwcio’r llety blwyddyn yn ôl, sef Travel Lodge ger yr Atlantic Wharf, hynny yw  taith cerdded 5 muned o’r bae a’r maes. Cawson ni wythnos hollol gwych fel y canlyn:
Pnawn Sul
Mi aethon ni ar y pnawn Sul i’r Ty Gwerin i wrando ar Eve Goodman  roedd hi’n wych a mi brynais ei CD wedyn. Gyda’r nos welon ni gyngerdd gan Al Lewis a’i band yn Nhy Gwerin. Roedd hi’n llawn dop. Poeth iawn ond yn gyfan gwbl gwych, doedd dim golau wrth iddi nosi felly wnaeth pawb defnyddio eu ffonau symudol i roi golau i’r perfformwyr. 
Dydd Llun
Ar y dydd Llun mi es i weld y lle Celf ac wedyn i wrando ar ddarlith yn y Cynulliad, y cyntaf am dechnoleg ddigidol a’r Gymraeg. Wedyn  mi es i i’r babell llen i wrando ar ddarlleniad o gerddi gan ffoaduriaid ( Hen Wlad fy nhadau?)  yn cael ei darllen gan Ifor Ap Glyn. Sesiwn gwych. Wedyn i’r Tŷ Gwerin i wrando ar Gwenan Gibbard yn canu’r Delyn a chanu detholiad o ganeuon o archif Meredydd Evans. Cawson ni glywed  perfformiad gan gerddorfa Ukelele Caerdydd. Gwych. Tipyn o’r gystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol. Mi welais i Malcolm yn Croeso Caerdydd (Maes D eleni). Hefyd welon Dewi ar stondin Cymru a’r Byd am sgwrs.
Hefyd aethon ni i’r eglwys Norwyaidd i wrando ar gyngerdd piano clasurol. Hyfryd. 
Gyda’r nos mi es i i’r ‘Swper Stomp’ ac yr oedd hynny yn ddoniol, hwyl ac yn gyfan gwbl wych. 
Es i i ddim i’r Coroni ond enillodd Catrin Dafydd y goron.
Dydd Mawrth
Ar y dydd Mawrth welon ni sawl cystadleuaeth yng Nghanolfan y Mileniwm, canu unawdydd i ferched a bechgyn, perfformiad gitâr glasurol, sgwrs yn y Llannerch Gudd rhwng Christine James a Catrin Dafydd, wedyn yng Nghanolfan y Mileniwm canu gwerin, canu cerdd dant  a llefaru. Gyda’r nos  aethon ni i weld Bob Delyn ar lwyfan y maes.
Dydd Mercher
Ar  ddydd Mercher aethon ni i Ganolfan y Mileniwm am ran fwyaf o’r dydd. Cawson ni sgwrs efo Maureen a’i ŵr, a hefyd Viv ac Enid. Mi welais Martin, Kathy a’i ffrind yn Croeso Cymru, hefyd Alun (brawd Llinos o Alfreton. Mi fydd o’n dod i Derby fel tiwtor ym Mis Hydref ar gyfer yr ysgol undydd.) Roedd Cystadluaethau yn cynnwys y corau ieuenctid ac oedden nhw’n wych.

Nos Fercher wnaethon ni gwrdd â ffrind yn Nhafarn y Waterguard, ac wedyn aeth a fo am  bryd o fwyd cyn mynd i’r Tŷ Gwerin i wrando ar  Lowri Evans,  a Siân James (Golwg Newydd ar y Noson Lawen).
Dydd Iau
Aethon ni ar y bws dwr o gei’r forforwyn i gerddi Bute, y Castell, y siopau cyn dod yn ôl i’r Bae am ail-hanner y prynhawn,  mi wnes i grwydro’r stondinau a gweld y dorf yn croesawi’r beiciwr Gareth Tomos a wnaeth ennill y ‘tour de France’. Yn y nos aethon ni i weld  cyngerdd gyda’r nos ‘Pendefig’. Roedd y cyngerdd yn anhygoel.
Dydd Gwener
Roedd rhaid i mi fynd i’r adeilad ‘Profiad Dr Who’ ble oedd  seremoni’r Orsedd yn cael ei chynnal ar gyfer fy urddo i’r Orsedd. Roedd rhaid i ni wisgo yn ein gwisg ac aros mewn stafell cyn y seremoni. Roedd tua 40 ohonon ni yn cael ein hurddo. Roedd Vaughan Rodric golygydd gwleidyddiaeth y BBC yn eistedd ar fy ochr, ond roedd nifer o bobl mawr BBC / S4C a bywyd cyhoeddus yn cael eu hurddo.

Wedyn mi es i a Marilyn  a’n chwaer am bryd o fwyd i ddathlu (pizza yn y Pizza Express). Yn y prynhawn mi es i nôl i’r orsedd i ymwisgo ar gyfer seremoni’r cadeirio. Roedden ni’n ymdeithio i Ganolfan y Mileniwm ac yr oedd torfeydd o bobl yn gwylio a thynnu lluniau a sawl criw teledu. Roedd hi’n brofiad a hanner eistedd fel rhan o’r orsedd ar y llwyfan yn gwylio Gruffudd Owain yn cael ei gadeirio. Yn y noswaith aeth M a fi yn ôl i’r pafiliwn i wylio  cystadleuaeth y corau cymysg i gyd ac yr oedden nhw’n  wych. 
Dydd Sadwrn
Ein diwrnod llawn olaf yn yr Eisteddfod.
Ac unwaith eto mi wnaethon ni dreulio rhan fwyaf o’r dydd yn y pafiliwn yn gwylio cystadlaethau gwahanol megis  dawns gwerin, y rhuban glas, y corau meibion (Pont ar Ddulais wnaeth ennill!). Gyda’r nos aethon ni i weld Bob Delyn yn perfformio yn y Tŷ Gwerin, llawn dop ac yn boeth.
Dyna oedd diwedd yr eisteddfod i ni. Y Bore wedyn aethon ni am frecwast i dafarn Wetherspoons ac am dro bach o amgylch y maes wrth i bobl dechrau clirio’r stondinau. Yno pacio’r car a’r daeth  3awr  hanner nol i Belper.


Sunday, 7 January 2018

Nadolig 2017 a Blwyddyn Newydd 2018




Mi ges i amser braf dros Fis Rhagfyr, Nadolig, Dydd Calan a dechrau'r flwyddyn newydd.
Ym mis Rhagfyr mi es i a Marilyn draw i Nottingham ar ddydd Mercher 13deg ar gyfer parti Nadolig Cymdeithas

Nottingham. Cawson ni noson hwyliog efo digonedd o berfformio gan Gôr Gwawr, Gwynne Davies a Viv Harris, Stephan Green a nifer eraill o'r gymdeithas, Cafodd Marilyn a fi amser da yn canu'r gitâr a'r Melodeon.
Yn anffodus cafodd y gwasanaeth carolau ei ohirio oherwydd tywydd drwg a doedd hi ddim yn bosib i ni fynd i'r ail ddyddiad.


Mi es i am dro ar ucheldir Alderwasley yn yr eira yng nghanol Mis Rhagfyr, ac yr oedd hi'n brydferth ond mor oer â'r Arctig!
Cyn Nadolig roedd Marilyn a finnau yn sâl efo anwyd ond wrth lwc yr oedden ni wedi gwella erbyn Nadolig.
Aethon ni draw i swydd Caer i dreulio Nadolig efo'r teulu cyn dod yn ôl am wythnos gyfan o ymlacio o flaen y tan, gwylio ffilmiau a darllen.
Mi es i am dro arall ar o Nadolig o amgylch Rhostir Stanton ger Bakewell, unwaith eto roedd eira ar y tir, ac yr oedd hi'n hynod oer.
Ar ddiwrnod olaf y flwyddyn aethon ni am dro efo ffrindiau o Gylch Dysgwyr Cymraeg Derby ar hyd yr High Peak Trail ac wedyn cawson ni bryd o fwyd blasus a diodydd yn Nhafarn Y Cwch, Cromford.
Ddoe, penwythnos cyntaf 2018 cawson ni gweithdy Cymraeg prysur efo 20 o bobl yn bresennol. Dyna beth yw blwyddyn newydd dda!



Monday, 6 November 2017

Shuttingsloe ar ddydd Sul 5-11-17



Mi gawson ni, sef Marilyn fy ngwraig annwyl a finnau, diwrnod pleserus yn cerdded yn ardal Wildboarclough ac i fyny i gopa Shuttingsloe ar ddydd Sul 5-11-17.
Roedd hi'n ddiwrnod clir ond oer. Roedd hi'n bosib gweld yn bell, a ches i gipolwg o 'Cefn Mawr' tu draw i Wrecsam ar y gorwel trwy’r niwl. Doedd hi ddim yn bosib gweld Moel Famau na'r Wrekin a Long Mynd yn anffodus, ond yr oedd Peckforton a Beston i'w weld yng nghanol Swydd Caer. Roedd dysgl telesgop radio Jodrall Bank yn syllu yn syth i fyny at y nef.


Roedd hi'n wlyb iawn dan draed ac yr oedd y ddringfa i fyny i Shuttingsloe yn serth a gwaith caled i'r hen goesau. Roedd gwynt cryf ac oer o'r gogledd pan gyrhaeddon ni'r copa. Cawson ni cinio sydyn yn cysgodi rhag y gwynt ar ochr deheuol y bryn cyn cerdded ymlaen i lawr at y crib lledan sy'n arwain i'r gogledd ar draws hen blanced drwchus o fawn, ac i lawer i'r dyffryn tawel a hyfryd sy'n arwain yn ôl i'r maes parcio.
Gwelon ni 'Cwyd y Ser' ar y glaswellt, oedd yn syndod oherwydd o'n i'n meddwl dim ond yr y gwanwyn a haf mae hynny yn digwydd, ond efallai fi sy'n anghywir.
Beth bynnag roedd hi'n daith gerdded fendigedig.




Sunday, 29 October 2017

Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2017




Ysgol Undydd Cymraeg Derby a Chylch Dysgwyr Cymraeg Derby



Cafodd Ysgol Undydd Cymraeg Derby  ei chynnal ar Sdawrn 28 o Hydref gan Gylch Dysgwyr Cymraeg Derby (CDCD). Mae'r digwyddiad yn tynnu pobl o nifer fawr o drefi ar draws canolbarth Lloegr a thu hwnt! Eleni daeth 38 o bobl at ei gilydd o Derby, Nottingham, Sheffield, Congleton, Clay Cross, Belper, Lichfield, Stafford a Birmingham.

Mae 3 dosbarth, sef dechreuwyr, canolradd a profiadol ar gyfer dysgwyr rhugl a Chymry Cymraeg alltud.  Mae presenoldeb stondin Awen Meirion wedi ychwanegu at naws Cymraeg a Chymreig y diwrnod. 
Diolch yn fawr iawn i'r tiwtoriad (Elin, Eileen, Howell a Meirion) a hefyd i griw y gegin (Marilyn a Shirley) am ddarparu bwyd blasus a the a choffi tryw'r dydd! Diolch hefyd i Gwyn o Awen Meirion am ddo draw o'r Bala!

Mae CDCD yn cynnal gweithdy Cymraeg misol trwy'r flwyddyn, fel arfer rhwng 15 a 20 o bobl yn dod i'r gweithdy. Ar wahân i hynny mae nosweithiau Sgwrs a pheint  yn Nhafarn Yr Hop, Belper unwaith y mis, ac ambell daith Gerdded Cymraeg yn ardal y Copaon.

Mae gan CDCD gwefan (www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com) efo manylion rhaglen y grŵp. Mae croeso  cynnes i ymwelwyr.

Mae'r grwp CDCD hefyd yn cyhoeddi 'Papur Bro' o'r enw 'Llais y Derwent' pob tri mis. Mae'na wefan ar gyfer Llais y Derwent' ble mae hi'n bosib darllen ôl gopïau o 'Lais y Derwent' yn rhad ac am ddim fel ffeiliau pdf. Mae  dolen i safle Llais y Derwent  ar wefan CDCD. Mae 'Llais' fel arfer yn 12 o dudalennau ac yn gynnwys erthyglau gan ddysgwyr a Chymry alltud ar bob math o bwnc. Ar dudalen cefn 'Llais' mae rhestr o fanylion cyswllt ar gyfer grwpia a dosbarthiadau yn Lloegr. Erbyn hyn mae dros 30 grwpiau ar draws Lloegr

Mae hanes CDCD yn mynd yn ôl i ddosbarth Cymraeg Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a dechreuodd  yng Ngholeg Cymunedol Derby ( Tŷ Sant Heledd) yn 1998. Doedd y gwersi dim yn mynd ymlaen dros dymor yr haf, felly wnaeth y grŵp dechrau cwrdd heb diwtor er mwyn ymarfer ac wrth fynd ymlaen aeth y grŵp yn annibynnol pan ddaeth y gwersi efo Cymdeithas Addysg y Gweithwyr i ben.

Mae dysgwyr Derby yn magu cysylltiadau efo dysgwyr yng Nghymru ac ar draws Lloegr trwy ddefnyddio Facebook. Mae CDCDwedi dechrau grwp Facebook o'r enw Menter Iaith Lloegr a bellach mae dros fil o aelodau, ac mae digwyddiad o rannau gwahanol o Loegr yn cael eu hysbysebu ar y grwp.

Sunday, 30 October 2016

Digwyddiadau'r Hydref.


Dw i wedi cael sawl profiad pleserus dros wythnosau mis Medi a Mis Hydref. Cafodd Marilyn a finnau  penwythnos gwych draw yn Aberystwyth yn aros yn Westy bach Yr Hafod. Diolch i John Evans am y croeso. Ymwelon ni a nifer o dai bwytai a siopau, a finnau yn prynu nifer o lyfrau o'r siopau llyfrau ail-law megis Oxfam a Siop Llyfrau Ystwyth. Roedd Marchnad y Ffermwyr ymlaen ar y bore Sadwrn a phrynais i sawl eitem blasus. Ar y ffordd i Aberystwyth wnaethon ni aros yn nhŷ fy mam yn Tarporley ac wedyn ar y dydd Gwener aethon ni dros  y ffin i Gymru.  Aethon ni trwy'r Bala a chawson ni dipyn o syndod wrth weld  cyfaill o East Dereham (John Maynard Archer) wrth ochr y maes parcio. Wedyn cawson ni banad yn fflat wyliau Andrew Brown o Lundain. Ar y ffordd adref o Aberystwyth yr  oedd lliwiau hydrefol hyfryd ar dail y coed yn enwedig wrth i ni yrru trwy Gorris.

Dyn ni hefyd wedi ail gipio yn mynd i sesiynau Cerddoriaeth Gwerin, ac ar nos Fawrth wythnos ddiwethaf yr oedden ni'n cael hwyl yn canu ein hoffer cerddorol (Melodeon, Gitâr, a Chwibanau) yng nghwmni criw dawnus o gyd cerddorion yn Nhafarn yr Old Oak yn Horsley Woodhouse. Mae'r sesiwn yn cael ei chynnal  yno ar y nos Fawrth olaf yn fisol.
Yr ydyn ni wedi cael y cyfle i gynnig croeso i 'Stev' Gymro sy'n lletya yn ein hardal dros dro pan mae o'n gweithio. Felly ces i ymwelydd i ginio nos Iau pythefnos yn ôl a sgwrs hwyliog, ac eto ar nos Iau'r wythnos yma, ond y tro 'ma wnaeth Martin Coleman ymuno a ni. Yr oedden ni wedi bwriadu cwrdd yn Yr Husrt Arms, ond wnaeth stev sylwi bod y lle ar gau, felly newidion ni'r trefniant i gwrdd yn nhafarn arall (Pen y frenhines, Belper) yr oedden ni wedi bod yn siarad gyda'n gilydd am ddau awyr pan ddaeth dyn oedd wedi bod  yn eistedd ar ochr draw i'r stafell draw ac yn dweud 'Mae'n braf clywed yr iaith yn cael ei siarad yma'! Dyna beth oedd dipyn o 'serendipity'.


Dros y misoedd diweddaf ddyn ni wedi bod yn gwneud  y gwaith hysbyseb a gwaith paratoi ar gyfer ein digwyddiad mawr blynyddol, sef Ysgol, Undydd Cymraeg Derby. Cawson ni ddim ein siomi. Daeth 46 o bobl ynghyd gan gynnwys y tiwtoriaid, gwirfoddolwyr a'r holl ddysgwyr. Daeth pobl o Langollen, Wrecsam, Birmingham, Congleton, Middlewich, Utoxeter, Huddersfield, Sheffield, Nottingham, Clay Cross, Lichfield, Belper a Derby. Diolch yn arbennig i Gwyn a daeth a stondin llyfra ar ran siop Awen Meirion  o'r Bala a hefyd i Mailyn a Shirley am eu gwaith holl  bwysig yn y gegin. Mae hi'n dipyn o gamp bwydo 46 o bobl! 


Dyn ni'n diolchgar tu hwnt i Gymdeithas Cymry Nottingham am eu cefnogaeth. DIolch i Viv Harris, Enid Davies a Howell Price am arwain  sesiynau yn y grwp profiadol.

Mae'r rhaglen gweithdy misol Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby wedi'i drefnu tan Fis Mehefin 2017 a'r gwersi Cymraeg wythnosol wedi ailddechrau o dan ofal trefnydd Glen Mulliner a'r tiwtor gweithgar Elin Heron. Mae'r   'pethe'  yn fyw ac yn iach yn Swydd Derby.

Friday, 24 June 2016

Ufferendwm Ewrop


Dw i heb sgwennu'r blog yma ers tipyn. Mae'r bywyd  wedi mynd ymlaen fel arfer, gwaith, pethe Cymraeg, wythnos wych o wyliau ym Mhenllyn ym Mis Mehefin, a rŵan dw i ar fin mynd draw i Ddolgellau am  wythnos  mewn Ysgol Haf. Ar wahân i wella rhywfaint ar fy Nghymraeg mae'n cynnig y cyfle  i drafod y sefyllfa wleidyddol bresennol efo fy ffrindiau. Yn fy marn i mae canlyniad y refferendwm am yr Undeb Ewropeaidd wedi esgor ar  amser argyfyngus i'r rhai fel fi sy'n credu mewn cydweithrediad rhyngwladol, heddwch, goddefgarwch a chyfeillgarwch i bobl mewn difri angen sy'n edrych i ni am gymorth a lloches.
Roedd yr ymgyrch adael wedi gwenwyno gan hilgwn fel Britain First a mudiadau gwarthus fel UKIP. Dw i'n alaru bod cymaint o'n cydwladwyr wedi cael eu dylanwadu gan y wasg adain de megis Y Sun, Mail, Express et al.
Os bydd canlyniadau economaidd  drwg mi fydd nifer fawr o'r bobl a wnaeth pleidleisio i adael yr EU yn difaru  nes ymlaen. Efallai bydd yr Alban yn  ennill eu hannibyniaeth, beth fydd fawd Cymru? Cael eu llyncu yn derfynol gan Loegr ac yn dod 'Gorllewin Lloegr'? Pwy a ŵyr?

Saturday, 27 February 2016

Rhostir Stanton


Dyn ni ddim wedi cael gaeaf go iawn eleni, prin oedd y dyddiau yn Swydd Derby ble oedd eira yn disgyn, ond mae ambell ddiwrnod oer wedi bod fel heddiw.
Heddiw aeth fy annwyl wraig a fi am dro o amgylch rhostir Stanton yng nghwmni ein cyfaill Martin.
Mae Martin wedi dod yn rhugl yn yr iaith Gymraeg ar ôl dim ond 4 blynedd o ddysgu. Eleni mi fydd hi'n 5 mlynedd ers iddo fo
dechrau dysgu'r hen iaith. Mae hi bron iawn 19 mlynedd ers i mi ddechrau ar y daith yn ôl  yn 1998.
Gan fod fy ngwraig hefyd yn medru cryn dipyn o'r hen iaith roedd y rhan mwyaf o'm sgwrs ar y daith y bore'ma yn y Gymraeg.
Wnaethon ddechrau'r daith o'r llefydd parcio wrth ochr yr heol ar ochr gogleddol y rhostir.
Mae'r llwybr yn dringo yn ara' deg i fyny heibio hen chwarel ac maen uchel o'r enw 'Cork stone', wedyn yng nghanol y rhostir mae'na
golofn triongl, a'r ucheldir yn sefyll tua 1500 o droedfeddi uwchben lefel y môr. O'r safle hwnnw mae hi'n bosib edrych i'r gogledd ble mae Bakewell yn gorwedd yng nghanol dyffryn Wye neu i'r de i weld Darley Dale a Matlock yn nyffryn Derwent.
Ym mhellach i'r gogledd orllewin mae hi'n bosib gweld Axe Edge ac i'r gogledd ddwyrain  mae hi'n bosib gweld yr 'Edges' ger Hathersage a Stanage. Mewn gaeaf caled mae hi'n bosib gweld eira ar ben Kinder Scout ond dim ond grug sy ar ben y copaon heddiw.
Ar ôl  gadael y golofn triongl wnaethon ni gerdded trwy goedwig bedwen, roedd ambell un wedi marw ac yr oedd ffwng yn tyfu arnynt. Wedyn aethon ni i'r cylch meini cyn-hanesyddol.
Mae diddordeb y paganaidd fodern i'w weld yno efo nifer o gynigion i'r duwiau yn hongion oddi wrth ganghennau'r coed yno.

Mae enw  Saesneg am y cylch sef y 'Nine Ladies' sy'n adlewyrchu hen goel bod  naw o fenywod  wedi cael eu troi i garreg am gosb ar ôl  cael eu dal yn dawnsio ar y Sul. Cosb braf yn eithafol dwedwn i.
Ar ôl  gadael y cylch cerddon ni trwy'r goedwig tuag at dwr Iarll Llwyd (Earl Greys Tower), sy'n sefyll ar ochr dwyreiniol y rhostir. Cafodd y twr ei adeiladu, mae'n debyg, i ddathlu'r ail ddeddf diwygio’r bleidlais a wnaeth pasio yn 1832 efo cefnogaeth yr ail Iarll Llwyd.
Wedyn mae'r daith yn arwain yn ôl  trwy’r goedwig tuag at y mynediad ar ochr gogleddol y rhostir. Doedd dim lawer o arwyddion bod y gwanwyn yn dod. Roedd y gwynt yn oer ac yn tarddu o'r dwyrain. Doedd dim arwydd o flaguro ar y llus. Roedd tipyn bach o gynffon oen yn dechrau agor ond mae gafael y gaeaf dal i'w gweld. Gaeaf a gallu bod yn ormod i rai creadur wrth weld  sgerbwd defaid ar y tir. 
Mae pawb yn aros yn eiddgar am y gwanwyn.  Ar ôl gorffen ein taith gerdded, aethon ni i gaffi siop llyfrau Scarthin yn Cromford am ginio blasus a sgwrs ddiddorol. Gwobr dda i gerddwyr blinedig a newynog. 

Friday, 4 December 2015

Pethe Nadoligaidd Cymraeg a Chymreig yng nghanolbarth Lloegr



Cawson ni fore Coffi hwylus dros ben yn Nhŷ Kathryn a Sam yn Keyworth, Nottingham ar fore dydd Gwener 4ydd o Ragfyr. Roedd 14 yn bresennol a wnaeth pawb mwynhau'r te, coffi, cacenni a sgwrs frwd.

Mi fydd Cymry Nottingham yn cynnal eu parti Nadolig ar nos Fercher 9fed o Ragfyr yn neuadd eglwys Sant Andrew, canol Nottingham tra mae'r Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn cynnal eu gweithdy Nadolig ar Sadwrn 12 o Ragfyr yn nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Stryd Sant Helen, Derby a hefyd mi fydd taith Gerdded Cymraeg yn cael ei chynnal ar ddydd Calan am 11 o'r gloch y bore o safle canolfan ymwelwyr Cronfa Dwr Carsington. Er y ffaith dyw aelodau dim yn byw yng Nghymru mae digon o gyfleoedd i ymarfer siarad a gwrando ar yr hen iaith yn Swydd Derby a Nottingham.

Tuesday, 1 December 2015

Gweithred ffôl yn San Steffan.

Mae aelodau Tŷ’r Cyffredin yn San Steffan ar fin cynnal dadl i benderfynu a ydy'r llu awyr Prydain Fawr i ddechrau ymosod ar ardal o Syria sy o dan reolaeth ISIS. Dyw canlyniad y bleidlais yn Llundain dim yn anodd rhagweld, mae David Cameron wedi datgan yn barod dyw e ddim am gynnal y ddadl a'r bleidlais oni bai ei fod e'n mynd i ennill. Mae ennill pleidlais yn y Tŷ Cyffredin yn ddigon hawdd iddo fe, peth arall yw 'ennill' yn Syria.

Mae nifer o arbenigwyr wedi datgan bod ISIS yn fudiad 'gorila', hynny yw mae'n nhw cuddio ymhlith sifiliad a phobl ddiniwed, os daw byddinoedd estron i mewn i Syria mi fydd milwyr ISIS yn diflannu. Fel mae'r rhyfel hir yn Afghanistan wedi profi, dyw hi dim yn beth bach i drechi fyddin o'r fath.

Mae gwledydd y gorllewin wedi ymosod sawl tro o'r blaen ar wledydd yn Affrica a'r dwyrain canol megis Libya, Afghanistan ac Iraq. Mae gan Brydain, Ffranc ac America hanes cywilyddus o ymosod ym mhumdegau'r ganrif diweddaf, hynny yw 'coup' yn Iran a wnaeth dymchwel llywodraeth ddemocrataidd, coup a daeth Shah Iran i rym. Hefyd wnaeth Brydain a Ffrainc ymosod ar yr Aifft yn 1956 er mwyn ailfeddianu camlas Suez.

Ar wahân i'r miloedd o bobl ddiniwed sy'n mynd i farw o dan fomiau'r RAF, canlyniad go iawn i fynd i ryfel bydd mwy o derfysg ar strydoedd Prydain, mwy o aelodau yn heidio i ISIS ac ymestyn hyd yr amser cyn i heddwch dychwelyd i'r byd. Ar wahân i ISIS dim ond y gwerthwyr arfau bydd yn dathlu.

Friday, 2 October 2015

Tymor newydd



Mae mis Medi wedi dod i ben a dyna ni ar ddechrau mis Hydref yn barod.
Yma yn nyffryn Derwent mae'r pethau wedi ailddechrau o ddifri. Mae Glen Mulliner(trefnydd) ac Elin Merriman (tiwtor) dosbarth Cymraeg Belper yng nghanolfan Cymunedol Strutt (hen ysgol ramadeg Strutt) wedi llwyddo i dynnu 17 o bobl frwd i'r dosbarth Cymraeg newydd. Llongyfarchiadau mawr iddynt. Roedd Ysgol Cymraeg Undydd Derby ar Sadwrn 26 o Fedi yn llwyddiant ysgubol efo 42 o bobl yn bresennol. Yr oedden ni'n lwcus dros ben i gael tiwtor gward a bardd Aled Lewis Evans o Wrecsam i ddod i roi sesiynau am ei farddoniaeth a llyfrau. Rhaid diolch hefyd ein tiwtoriaid arferol sef Elin Merriman ac Eileen Walker. Cawson ni amser braf ac yr ydyn ni i gyd wedi mwynhau canu'r anthem genedlaethol ar ddiwedd y dydd. Ar ran y Gymraeg y tu allan i'r dosbarth mae Cymdeithas Cymry Nottingham wedi cyhoeddi eu rhaglen am 2015 -2016 ac mi fydd Bore Coffi misol 'Popeth yn Gymraeg' yn parhau. Roedd bore coffi heddiw ( 2ail o Hydref) yn hwylus iawn yn nhŷ Beryl ( Pant-y-Cyno) draw yn Long Eaton efo 11 ohonon ni yn mwynhau'r diodydd a chacennau.  Mi fydd mwy o deithiau gerdded Gymraeg yn cael eu trefnu nes ymlaen. Mae gynnon ni obeithion i gynnal 'Noson Llawen' mewn tafarn lleol ynystod 2016, mi fydd mwy o fanylion nes ymlaen am hynny, ond mae manylion presennol am weithgareddau efo DWLC ar gael ar wefan y grwp. ( www.derbywelshlearnerscircle.blogspot .com ) neu ar dudalen Facebook 'Menter Iaith Lloegr'.


 

Wednesday, 2 September 2015

Diwedd haf



Dyw hi ddim wedi bod yn boeth iawn yr haf yma ond er gwaethaf hynny yr ydw i wedi cael sawl gŵyl braf draw yng Nghymru.

Ym mis Mehefin treuliais wythnos efo fy annwyl wraig draw yng nghyffiniau Pwllheli, wedyn ar ôl 'mond wythnos nol yn y gwaith yr oeddwn i'n mwynhau wythnos arall yn aros yn Llanfachreth ar fferm Ystum Gwadnaeth efo Krispin a Karen tra oeddwn i'n mynychu Ysgol Haf Cymraeg Dolgellau. Uchel bwnt yr haf wrth gwrs oedd Eisteddfod Meifod.

 Ces i amser gwych yn mynd o stondin i stondin, cyngerdd a chyfarfod, cwrdd â nifer fawr o gyfeillion a phopeth trwy’r Gymraeg. Roedd y ddarpariaeth cerddoriaeth yn wych, yn arbennig y digwyddiadau oedd yn cael ei chynnal yn Nhŷ Gwerin, grwpiau a phobl megis Calan, Bob Delyn a'r Ebillion, Dafydd Iwan, Gwyneth Glyn a pherfformwyr eraill. Roedd noson y stomp Cerdd Dant yn wych, penillion doniol os braidd yn las o ran iaith.

Dw i wedi bod yn Eisteddfodwr brwd byth ers 'Steddfod Dinbych yn 2001.

Dyma un o gyfleoedd gorau i 'foddi' yn y Gymraeg ac i anghofio am siarad Saesneg am wythnos. Trwy fynychu'r 'Steddfod yn flynyddol dw i wedi ymweld ag ardaloedd o Gymru ni faswn i byth wedi gweld oni bai am yr Eisteddfod.

Felly hir oes i'r Brifwyl!

Wrth gwrs mae diwedd yr Haf yn golygu fy mod i'n wynebu misoedd tywyll yr Hydref a Gaeaf yn ôl yn y gwaith, ond ar yr ochr da mi fydd y 'pethe' Cymraeg lleol yn ailddechrau. Pethe megis y bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol yn Nottingham, y gweithdai Cymraeg misol yn Derby, ein hysgol Cymraeg blynyddol ac ambell daith gerdded a digwyddiad cymdeithasol mewn Cymraeg. Unwaith dyn ni wedi cyrraedd dydd Calan mi fyddwn i'n dechrau edrych ymlaen at yr Eisteddfod nesa. Felly ymlaen i'r Fenni.

Sunday, 21 June 2015

Wythnos ym Mhenllyn


Dyma ni heddiw ar ddiwrnod 'hirddydd haf', ac wedi dod adref ar ôl treulio wythnos gyfan ym Mhenllyn. Roedd hi'n gymysg o ran tywydd efo rhai dyddiau heulog ac ambell un cymylog efo dipyn o law.
Er gwaethaf hynny mi lwyddon ni ymweld â nifer fawr o lefydd megis, Caernarfon, Criccieth, Pwllheli, Lanbedrog, Aberdaron, Nefyn, Llanfair PG a Llangefni yn Sir Fon.












Ar ran atyniadau twristaidd ymwelon ni a Phlas Gilyn y Weddw efo ein ffrindiau Dafydd a Jane o Fae Colwyn i weld arddangosfa o luniau sy'n dathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia. Roedd hi'n wych efo lluniau gan Delyth Llwyd Evans de Jones (1915-1986) o Batagonia. Hefyd aethon ni i weld Plas yn Rhiw a'i gerddi wrth ochr Porth Neigwl. Mi wnaethon ni cerdded i ben Tre'r Ceiri ac wedi (yn y car) i lawr i Gaffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn.
Wrth gyrraedd Pen Llyn mi wnes i brynu copi o Lanw Llyn er mwyn gweld  beth oedd yn mynd ymlaen ymhlith y Cymry Cymraeg. Felly dyna fi, ar y nos Sul cyntaf, yn mynd ar fy nen fy hunan i wrando ar Gymanfa Ganu yng Nghapel y Traeth, Criccieth efo Trystan Lewis yn arwain. Roedd y canu yn hyfryd ond oedran y gynulleidfa ar y cyfan rhwng 60 a 85. Trist dweud ond ni fydd y traddodiad yma yn para yn hir. Ar y nos Llun mi es i i Lansiad llyfr (Pam Na Fu Cymru) yng nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr. Cafodd darlith am gynnwys y llyfr gan yr awdur (Simon Brooks), ambell sgwrs ddiddorol, panad ac wrth gwrs roedd rhaid i mi brynu’r llyfr.
Ar y nos Fawrth ces i sgwrs efo Aran Jones (un o sylfaenwyr cwmni SSIW) a'i ffrindiau yn Nhafarn y Twnti, Rhydyclafdy. Ar nos Fercher aeth Marilyn a finnau i sesiwn Panad a gemau yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Braf gweld y dysgwyr lleol. Nifer ohonynt wedi symud i'r ardal o rannau gwahanol o Loegr a thu hwnt.
Ar y dydd Gwener ymwelon ni a'r Amgueddfa Forol yn Nefyn. Roedd hi'n arddangosfa benigamp, ac yr oedd y cerrig beddau yn y fynwent hynod o ddiddorol hefyd efo lluniau graffiti o longau hwylio o'r oes a fu.

Monday, 6 April 2015

Pennant Melangell


Dros benwythnos olaf mis Mawrth mi aethon ni draw i Tarporley er mwyn ymweld â'n rhieni. Roedd fy nhad wedi mynegi dymuniad i ymweld â'r eglwys hynafol, ddiarffordd Pennant Melangell. Doeddwn i ddim wedi bod yno o'r blaen, wrth edrych ar fapiau'r Arolwg Ordnans o'n i'n gallu gweld ei fod o'n daith hir ar ffyrdd bychain troellog trwy ardal fynyddig i'r
gorllewin o Groesoswallt a dim yn bell o dref fach Llanrhaeadr-ym-mochnant. Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod o'n daith addas i deithwyr wan (fel fy Mam a'n annwyl wraig Marilyn) felly mi es i yno efo fy nhad yn unig. Yr oedd o wedi bod yno o'r blaen, ond i ddweud y gwir doedd o ddim wir yn cofio'r ardal yn iawn. Rodd hi'n daith hir, roedd hi'n bwrw glaw yn drwm am hanner cyntaf y daith. Roedd rhaid i ni stopio ar y ffordd i gael hoe fach mewn tafarn o'r enw 'The New Inn' ac wedyn ymlaen trwy Lanrhaeadr-ym-mochnant, wedyn Pen-y-bont-fawr hyd at Bennant Melangell. Roedd y ffyrdd yn mynd yn llai ac yn llai wrth i ni ddod yn agos at yr eglwys ac yr oedd dwr ym mhobman ac ar draws y ffordd. Wrth edrych i fyny at y mynyddoedd o amgylch y dyffryn rodd y nentydd yn edrych fel rhaeadrau yn tasgu i lawr.

Doedd neb o gwmpas pan gyrhaeddon ni at y maes parcio wrth ymyl yr eglwys ond yr oedd y drws ar agor ac aethon ni i mewn am 40 munud yn crwydro o amgylch yr addoldy ac yn syllu ar y gweithiau celf megis lluniau, cerfluniau ac yn y man canolig sefyll y Greirfa ac i'r ochr draw cell y bedd. Mae eglwys Pennant Melangell wedi bod yn gyrchfan Pererinion ers canrifoedd, ar un ochr i'r Greirfa man na nifer i ganhwyllau bach yn llosgi ac mi wnes i gynna un arall i gofio am hen ffrindiau ac aelodau o'r teulu sy wedi gadael ni. Roedd yr eglwys yn oer iawn, felly ar ôl 40 wnaethon ni adael a mynd yn ôl i Lanrhaeadr-ym-mochnant i gael panad a brechdan sglodion yng nghaffi 'Y Gegin Fach' (lle braf efo bwyd syml cartrefol blasus, perchnogion a staff croesawgar sy'n medru'r iaith). Aethon ni nol wedyn i Tarporley i gael swper ac i ymlacio o flaen yr hen deledu. Diwrnod da.

 

Tuesday, 17 March 2015

Unwaith eto yng Nghymru annwyl.

Yr ydw i wedi bod yn brysur ers mis Chwefror. Mae cryn dipyn o bwysau yn y gwaith a hefyd dw i wedi ymweld â Tarporley a Chymry. Roedd y daith i Tarporley yn digwydd yn ystod ail hanner mis Byr er mewn mynd a'n chwaer o Breston i weld Mam a Dad am benwythnos. Roedd hi'n hapus i weld nhw ar ôl colli cyfle i weld nhw yn gynharach yn y flwyddyn oherwydd eira trwm. Tra oedd Anne yn aros efo'n rhieni oeddwn i'n gallu picio draw i Wrecsam ar y dydd Sadwrn i ymweld â Siop y Siswrn a Watersons i wario pres a thocyn llyfr Nadolig. Mi wnes i brynu tri pheth sef Cam i'r Gorffennol gan Rhys Mwyn, Gynnau glan a Beibl budur gan Harri Parri a Chymry'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Gwynne Jenkins. Erbyn hyn dw i wedi gorffen llyfr Harri Parri, yn hanner ffordd trwy lyfr Rhys Mwyn ac yr ydw i wedi dechrau ar lyfr Gwynne Jenkins. Cawson ni dipyn o antur
pythefnos yn ôl pan ddaeth criw teledu Tinopolis o Lanelli i ffilmio eitem ar gyfer Heno a Bore Da: dal ati. Cafodd 4 ohonon ni ein cyfweld ac yr oedd eitem fer ar Heno Nos Fawrth 11 o Fawrth ac eitem 5 muned ar raglen Bore Da. Mae'n braf cael dipyn o sylw ar S4C i'r grŵp. Penwythnos diweddaf (dydd Gwener 13 Mawrth) mi es i draw i ardal Llanrwst am ddwy noon. Mi wnes i weld ffrind yn Llandudno ar y nos Wener am sgwrs a chinio, wedyn ar y dydd Sadwrn mi wnes i ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd i gerdded o Gae'n y Coed ar hyd afon Llugwy i Fetws-y-coed. Roedd hi'n daith fer ond yr oedd y tir dan draed yn arw. Ond roedd hi'n werth yr ymdrech, roedd golygfeydd hyfryd o'r rhaeadr ac afon i'w gweld ac yr oedd y cwmni yn ddiddorol. Ar ôl y daith mi es i ymweld â ffrind newydd sy'n ffarmwraig o ardal Eglwys Fach sy'n byw ar dir uchel uwchben dyffryn Conwy. Roedd copaon y Carneddau i'w gweld o dan hetiau gwyn, yn niwlog yn y pellter. Lle braf ond siŵr o fod yn anodd tu hwnt yn ystod tywydd oer y gaeaf. Ar y dydd Sul roedd digon o amser i bicio draw i Hen Golwyn i weld hen ffrind yno (Dafydd a'i wraig Jane) cyn troi'r car yn ôl tuag at y dwyrain a Chlawdd Offa am y daith adref. Ond dw i ddim yn digalon, dw i'n mynd i ymweld a grwp o ddysgwyr SSIW ym Manceinion penwythnos nesa ac yn mynd i weld eglwys Pennant Melangell cyn bo hir yng nghwmni fy nhad.

Monday, 5 January 2015

Nadolig a Dydd Calan


Mi ges i amser braf dros fis Rhagfyr a'r Nadolig. Roedd y dathlu yn dechrau yn eithaf cynnar efo cyfarfod Nadolig Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby ar yr 6ed o Ragfyr ac yn fuan wedyn Parti Nadolig Cymdeithas Cymry Nottingham ar nos Fercher 10fed o Ragfyr. Roedd rhestr hir o berfformwyr ar gyfer y parti, mewn gwirionedd yr oedd y parti'n debyg i noson Lawen, a chwarae teg roedd Marilyn a finnau yn wneud tipyn bach wrth chwarae Sua Gân a Migildi Magildi ar gitâr a Melodeon. Roedd sgets Viv Harris a Gwynne Davies a'r criw yn ddoniol iawn, ac roedd Côr Gwawr yn wych.
Pnawn Sul wedyn yr oedd Gwasanaeth Carolau Dwyieithog a pharti te wedyn. Mi aeth Marilyn a fi draw i Tarporley i weld fy rhieni'r penwythnos cyn Nadolig felly eleni am y tro cyntaf ers blynyddoedd yr oedden ni'n treulio'r Ŵyl yma yn Belper. Cawson ni digon o bethau i'w wneud, daeth chwaer a thad Marilyn (sef Shirley a Brian) draw ar ddydd Dolig i ginio, ar ôl bwyta roedd hi'n hyfryd swatio o flaen tan agored a chwarae Scrabl. (Marilyn wnaeth ennill!) Ar ddydd San Steffan aeth Marilyn a fi am dro o amgylch y 'Chevin' sef bryn lleol (sylwir ar yr enw, mae Chevin yn ffurf Seisnig o 'r gair o'r hen Gymraeg 'Cefn') yn y bore, ac wedyn gyda nos aethon ni i weld ffilm Yr Hobbit yn sinema Y Ritz. Wrth i ni gerdded adref roedd hi'n bwrw eira yn drwm. Ar y nos Fawrth rhwng Dolig a Nos Calan aethon ni i sesiwn cerddoriaeth gwerin yn nhafarn The Old Oak yn Horsley Woodhouse, roedd tua 12 o gerddorion yn cymryd rhan, dw i'n hoff iawn o gymryd rhan mewn sesiynau o'r fath. Mi es i am sawl taith gerdded yn ystod yr ŵyl gan gynnwys taith cerdded yn yr eira ar hyd camlas Cromford, taith cerdded efo fy ffrind Colin ar ben rhostir Middleton Top yn yr eira, roedd hi'n oer iawn ar yr ucheldir efo golygfeydd gaeafol iawn.
Ar ddydd Calan roedd grŵp bach (sef fi, Marilyn, Howell, Barrie, Martin a Rebecca) o aelodau Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn mynd am dro o Whatstandwell i High Peak Junction ac yn ôl ar hyd camlas Cromford. Pnawn dydd Calan aethon ni i barti pen-blwydd Gwynne Davies yn Nottingham ac yr oedd tua 25 o bobl yno. Wnaeth Marilyn a fi chwarae cerddoriaeth ar y gitâr a Melodeon ac wedyn roedd Gwynne yn canu unawdydd a chôr Gwawr yn canu ffensiwn o Foliannwn. Roedd hi'n barti hyfryd. Y peth olaf i ni wneud dros dolig oedd mynd i Fore Coffi Popeth yn Gymraeg yn nhŷ Viv Harris yn West Bridgford, roedd 13 o bobl yno yn sgwrsio yn braf ac yn mywnheu lletygarwch Viv. Diolch yn fawr i bawb am Nadolig hwylus dros ben.

Monday, 15 December 2014

Mi ges i amser braf efo Cymry Nottingham ar nos Fercher rhaid bod dros 40 yn bresennol yn y Parti Nadolig. Roedd digon o fwyd a 15 perfformiadau gan wahanol bobl gan gynnwys Côr Wawr yn canu yn arbennig a Beryl yn adrodd rhan o'r gerdd y Pibydd brith. Diolch am noson arbennig. Roedd y Gymdeithas hefyd yn cynnal gwasanaeth carolau dwyieithog prynhawn Sul 14-12-15 drueni doedd dim mwy o ddysgwyr lleol yn bresennol ar gyfer gwasanaeth hyfryd. Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i bawb!

Monday, 24 November 2014

Malcolm Bennett 1944-2013

Ces i dipyn o fraw ar nos Iau wrth glywed, yn hwyr las, bod hen gyfaill i mi wedi marw dros ddeunaw mis yn ôl. Doedden ni ddim wedi bod mewn cyswllt am sbel, ond am gyfnod maith roedd Malcolm Bennett yn aelod o'n grŵp Cerddwyr Radicalaidd (Red Rambles) a oedd yn weithredol rhwng 1994 a 2004 yn ardal y Peak. Roedd Malcolm (Malc i'w gyfeillion) wedi symud i Swydd Derby o ardal Reading i fyw mewn Commune yn Milford, nes ymlaen, ar ôl i'r commune chwalu yn gyfeillgar, roedd o a'i deulu yn parhau i fyw yn ardal Belper. Roedd Malc yn 'Hippie' go iawn yn null y chwedegau, hynny yw yn credu mewn bywyd amgen, yn defnyddio tipyn bach o ganabis, ac yn mwynhau byw. Roedd o hefyd yn grefftwr dawnus, yn gerflunwyr ben i gamp ac yn gallu creu a chwarae offerynnau cerddorol. Roedd o'n cadw lotment o fath wrth ochr y gartref teuluol oedd yn gynhyrchiol iawn ond hefyd yn rhyw fath o oriel celf ar gyfer ei weithiau cerflunio. Sawl tro yng nghwmni Malcolm mi wnes i gerdded mewn rhannau gwahanol o ardal y Peak mewn hindda a glaw. Roedd ganddo fo bob tro rhywbeth diddorol i'w dweud hyd yn oed os oedd o'n ymestyn y gwirionedd ar adegau. Ac ar ben y ffaith ei fod o'n gerflunydd da roedd o'n ddyn handi go iawn a dw i'n cofio gweld y gwaith adeiladu wnaeth o yn ei dy ei hunan. Roedd lle tan arbennig o gerrig efo maen glo arbennig yng nghanol y bwa, roedd Malcolm wedi darganfod bricsen leol efo'r gair Belper wedi’i stampio arno, a dyna beth oedd y maen glo perffaith i'r pentan. Gwych. Yn 2008 roedd Malcolm yn hapus i gymryd rhan mewn prosiect ffilmio fideo ar gyfer gwefan 'Anarchist Voices Video Project', (gwelir https://www.youtube.com/watch?v=uP1boeYGr7M&list=UUldSU6_0rW6YMH1_7OT1KTg ) prosiect oedd yn rhoi llwyfan i anarchwyr o wahanol fathau son am eu bywydau, prosiectau a beth oedd anarchiaeth yn golygu iddyn nhw. Roedd ei gyfraniad yn ddiddorol ond wrth edrych arno rŵan dw i'n sicr mi fydda i'n gweld eisiau Malcolm. Malcolm Bennet 1944-2013. Heddwch i'w lwch.

Saturday, 27 September 2014

Parti dathlu Siop Llyfrau Scarthin yn 40 oed!

Cawson ni noson hwylus  yng nghwmni perchennog, staff a chwsmeriaid siop llyfr hynotaf yng nghanolbarth Lloegr, Prydain a'r byd sef Siop Llyfrau Scarthin, Cromford, Swydd Derby. Mae'r siop yn dathlu 40 oed eleni. Cafodd y siop ei sefydlu yn 1974 gan Dave Mitchell. Mae o dal wrth y llwy efo cymorth ei deulu a chriw o weithwyr ffyddlon a llu o gwsmeriaid teyrngar.
Mae arwyddair y siop yn ddweud ei fod yno er mwyn darparu ar gyfer 'y mwyafrif o leiafrifoedd'. Mae hi'n wir oherwydd  eu bod chi'n  medru dod o hyd i unrhyw bwnc bron, yn y byd. Mae'r siop yn gwerthu cyfuniad o lyfrau newydd sbon, llyfrau ail-law a llyfrau hynafol. Ar ben hyn mae'na  gaffi yng nghefn y siop sy'n gweini bwydydd a chacenni cartrefol. Bob hyn a hyn mae'r siop yn cynnal digwyddiadau yn y cafe fell llaawsiadau llyfrau ac ambell 'Cafe Pholosophique'. Mae  gwefan y siop yn dangos y cyfan. http://www.scarthinbooks.com
Roedd y parti neithiwr  yn llawn o bobl, nifer ohonynt mewn gwisg o'r saithdegau. Fel pob parti da roedd diodydd a bwydydd bach ond campwaith y noson oedd  y gacen pen-blwydd.
Diolch yn fawr  Dave a'i deulu! Ni fysai bywyd deallusol Swydd Derby yr un heb gyfraniad Siop Scarthin.