Friday, 6 April 2012

Y Prosiect Darllen




Er gwaetha’r ffaith fy mod i wedi bod yn eitha' prysur ers y flwyddyn newydd yr ydw i wedi cael digon o amser i barhau efo'r prosiect darllen. Hyd yn hyn eleni dw i wedi gorffen 4 o lyfrau, sef tair nofel gan gynnwys Traed Oer gan Mari Emlyn, Pwll Ynfyd gan Alun Cob a'r Tair Rheol Anhrefn gan Daniel Davies. Y tair nofel yn ddarllenadwy iawn. Yr un cyntaf yn adrodd hanes athrawes piano 40 oed yn cymryd golwg dros eu bywyd hi a hen berthynas a wnaeth farw yn ystod y rhyfel byd cyntaf, y ddwy nofel arall yw rhyw fath o nofel antur/droseddol. Y llyfr arall fy mod i wedi cwblhau darllen yw The Phenomenon of Welshness gan Siôn Jobbins, sy'n gasgliad o erthyglau o'r cylchgrawn The Cambrian. Maen nhw'n ddigon diddorol, ond yr oeddwn i'n anghytuno yn llwyr efo asesiad adain dde braidd o'r maes economaidd le mae'r awdur yn mynnu bod y dyfodol yn Conservative. Twt lol.
Ar hyn o bryd mae gen i 3 o lyfr ar y gweill, sef Kate: cofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd, Atsain y Tonnau gan John Gwynne a'r llyfr diweddaf gan Mihangel Morgan sef Kate Roberts a'r Ystlum. Mi wna i adrodd yn ôl am rheiny nes ymlaen yn y flwyddyn.

Monday, 26 March 2012

Ymweliad i Swydd Caer a Wrecsam

Mi ges i benwythnos brysur iawn y penwythnos yma. Dydd Gwener diweddaf roedd rhaid i fi deithio draw i Tarporley er mwyn ymweld â'n rhieni. Felly, wnes i adael y tŷ yn gynnar sef 8.15 y bore er mwyn cyrraedd mewn pryd i fynd a nhw i Nantwich am ginio a siopau. Bore Sadwrn es i draw i Wrecsam ar gyfer cwrs Enwau Lleoedd efo Siôn Aled Own. Roedd tua 9 o bobl yno gan gynnwys Siôn Aled y tiwtor. Tra oeddwn yn Wrecsam dros amser cinio wnes i fachu ar y cyfle i fynd i Siop Y Siswrn yn Farchnad y Bobl a hefyd i siop llyfr Waterstones. Roeddwn awyddus iawn i wario tocynnau llyfrau ges i fel anrheg Nadolig oddi wrth fy mrawd. Felly brynais i sawl llyfr Cymraeg er mwyn cael diogon o ddefnydd darllen Cymraeg nol yn Belper.
Ar ddydd Sul nes i fynd a'n dad i'w randir cyn dod yn ôl i Belper ar ôl cinio.
Heddiw dw i wedi mynd am dro i fynny Shutingsloe efo fy nghyfaill Martin. Mae Martin wedi bod yn dysgu'r Gymraeg ers 2011 ac yn wneud yn hynod o dda. Felly cawson ni sgwrs yn Gymraeg y rhan mwyaf o'r amser. Ar ol y daith Cerdded aethon ni am baned a chacen yng nghaffi Siop Llyfrau Scarthin yn Cromford.


Friday, 2 March 2012

Cinio Dydd Gŵyl Dewi Cymdeithas Cymry Nottingham 2012

Cynhaliwyd Cinio Dydd Gŵyl Dewi Cymdeithas Cymry Nottingham neithiwr yn stafelloedd Belgrave yng nghanol Nottingham. Roedd 81 o bobl yn bresennol gan gynnwys Cymraes a chafodd ei geni yn Ne America ond sydd wedi byw yn Nottingham ers 1932 ac yn aelod o'r Gymdeithas Cymry am 80 mlynedd! Hefyd roedd Lewis Jones mab ieuangu teulu Ty'n y Baich a'i ferch Bronwen ar ein bwrdd ni. Yn ogystal roedd hi'n braf cael sgwrsio efo Gwynne Davies, ei wraig a'u mab. Roedd y bwyd yn flasus, y cwmni yn ddifyr a chawson ni wledd o ganu gan Gôr y Wawr a Heather Thomas unawdydd ifanc a dawnus lleol.
Cafodd cyfrol o ysgrifau gan wahanol aelodau o'r Gymdeithas eu lansio yn ystod y noson. Mae'r gyfrol wedi cael ei golygu gan Howell Price, cyn Llywydd y Gymdeithas ac aelod selog o'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol. Mae Howell yn cystadlu yn gyson yn yr Eisteddfod ac wedi cael sawl sylw yn y llyfr beirniadai sy'n cael ei gyhoeddi bod blwyddyn ar ôl yr Eisteddfod.
Dyma oedd y tro cyntaf i mi ymweld â Chinio Dydd Gŵyl Dewi'r Gymdeithas ac nid fydd hi'r olaf un dw i'n siŵr. Diolch i bawb a wnaeth cyfrannu i'r noson lwyddiannus.



Friday, 10 February 2012

Taith Cerdded yn yr Eira

Ar ôl dechreuad cymedrol i'r gaeaf yn ôl ym Mis Rhagfyr roedd hi'n dipyn o sioc cael tywydd mor oer ym Mis Chwefror. Er gwaetha hynny aeth Marilyn a finnau am dro heddiw yn ardal Rhostir Middleton. Dechreuon ni o faes parcio Middleton Top engine hose cyn cerdded i fyny i'r rhostir ac wedyn ar draws y bryn i edrych i lawr ar gwm lleol o'r enw'r Via Gellia. Wedyn cerddon ni i lawr trwy hen fuarth fferm at lwybr y High peak Trail. Doedd fawr neb o gwmpas. Erbyn 1 o'r gloch yr oedden ni'n barod am ginio, felly ffordd a ni i gaffi Siop Llyfrau Scarthin yng Nghromford. Cawson ni gawl blasus cyn dod adref.





Wednesday, 25 January 2012

Penwythnos Cymreig


Mi gawson ni benwythnos difyr iawn y penwythnos diweddaf. Yn gyntaf mi wnes i dreulio prynhawn y dydd Gwener yn cwrdd â 4 o gyfeillion yng Nghanolfan Siopau Westfield yn Derby yn trafod datganoli a'r datblygiadau yn yr Alban a Chymry a'r effaith mae hyn yn cael ar agweddau pobl yn Lloegr. Yr oedd yn wneud hyn at gais BBC Cymru ar gyfer y rhaglen radio Taro'r Post a rhaglen Newyddion BBC Cymru ar gyfer S4C. Cawson ni amser da yng nghwmni'r gohebydd Craig Duggan. Er gwaetha’r ffaith ein bod ni wedi treulio tair awr a hanner yn recordio dim ond darnau bach wnaeth cael eu darlledu yn y pen draw
Ar y Sadwrn cawson ni'r Gweithdy Cymraeg misol yn Derby cyn i Marilyn a finnau'n cwrdd â'n gyfaill Martin am ginio yn siop Scarthin, Cromford. Wedyn aethon ni ymlaen i weld lansiad gan gwmni The Little Welsh Shop yn Willersley Castle ger Cromford. Roedd y cwmni yn lansio dwy delyn newydd sy'n cael eu cynhyrchu yn Swydd Derby er mwyn cael eu marchnata yn y D.U. fel rhan o'r lansiad roedd'na gyngerdd gyda 5 o ddisgyblion Helen Naylor Edwards yn canu'r delyn fel côr delyn. Hefyd roedd canu clasurol a ymddangosiad ganu unawdes. Hyn oll efo gwin a diodydd mewn awyrgylch hefryd.
Ar y Sul ymlaciais i o flaen y radio a theledu yn gwrando ar / gwylio rhaglenni Cymraeg eu hiaith. Wedyn ar ddydd Lun wnes i dreulio dwy awr ar ben Alport Height yn gwylio'r golygfeydd gaeafol efo cymylau trawiadol o fy mlaen i wrth i mi wrando ar Radio Cymru ar y radio sydd yn y car, od wir, dw i'n gallu clywed Radio Cymru yng nghanol Lloegr, dyna beth braf ond yw e?

Friday, 30 December 2011

Y Prosiect darllen


Bob blwyddyn dw i'n ceisio cadw at amserlen darllen personal, sef darllen o leiaf un llyfr y mis trwy'r flwyddyn. Mae rhai yn llyfrau newydd sbon, eraill wedi cael eu prynu mewn siopau llyfrau ail-law ar draws y Wlad. Mae'r llyfrau newydd sbon yn cael eu prynu ar fy nheithiau o gwmpas Cymru yn yr haf neu trwy godi'r ffôn a siarad â Gwynne yn siop Awen Meirionydd yn y Bala.
Weithiau dw i'n cael'false start' mewn llyfr sy dim yn plesio ond fel arfer dw i'n llwyddo i orffen y dasg. Felly eleni dw i wedi darllen; Not Quite White gan Simon Thirsk, mae'n nofel sy'n son am y perthynas rhwng Cymry Cymraeg, bobl dŵad a dysgwyr Cymraeg. Hefyd dwi wedi darllen y llyfr enwog gan Islwyn Ffowc Elis Cyn Oeri'r Gwaed sy'n gasgliad o ysgrifau byr ond diddorol. Cafodd un ohonyn nhw, sef Y Sais ei defnyddio gan barti adrodd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a wnaeth y gwleidydd Rod Richards codi nyth cacwn thrwy gyhuddo'r darn o fod yn hiliol. Fel Sais fy hunan sy wedi darllen y darn dan sylw, alla i ddim dweud ei fod yn hiliol yn fy marn i. Dw i wedi darllen sawl nofel yn 2011 gan gynnwys: Un o Ble Wyt ti? gan Ioan Kidd a hefyd Yn y Tŷ Hwn gan Siân Northey. Dw i hefyd wedi mwynhau gweithiau gwleidyddol eu naws fel 'The Welsh Extremist', a 'Bydoedd', y ddau gan Ned Tomos, Y Cawr o Rydcymerau gan Gwyr Hywel, Yr Hawl i Oroesi gan Simon Brooks, Gyfral o Dan gan Arwel Vittle. Roeddynt i gyd yn addysg i mi. Eleni dw i hefyd wedi darllen tipyn bach o Gofiannau sef Can Dros Gymru gan Dafydd Iwan, Nesa Peth i Ddim gan Feic Povey ac yn olaf dw i wedi darllen tipyn bach o hiwmor, sef Dyddiadur Ffermwyr Ffowc.
Mae gen i domen bach o lyfrau wrth fy ochr ar ei hanner darllen neu yn aros i gael ei darllen. Mae'r rheiny'r cynnwys Radical Gardening gan George McKay, Pwll Enbyd gan Alun Cob sy wedi derbyn adolygiadau da yn y wasg Cymraeg, a chofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd a Stori Saunders Lewis gan Gwynn ap Gwilym. Digon o waith darllen i gadw fi'n brysur trwy'r gwanwyn.

Monday, 12 December 2011

Nadolig Llawen

Efallai ei bod hi'n braidd yn gynnar, ond Nadolig Llawen! Mae'r dosbarth Cymraeg Belper wedi cael ei gyfarfod olaf a'r parti Nadolig, mae'r Cylch Dysgwyr Derby wedi cynnal y gweithdy olaf cyn 'dolig a'r Gymdeithas Cymry Nottingham wedi cael gwasanaeth carolau dwyieithog ar brynhawn Sul 11 o Ragfyr. Yr ydw i wedi derbyn llwyth o gardiau Nadolig Cymraeg, felly dw i wedi bod yn brysur iawn yn sgwennu cyfarchiadau tymhorol i'm cyfeillion pell ag agos. Gobeithio bydd 2012 yn flwyddyn heddychol. Gobeithio hefyd mi fydd y sefydliadau Cymraeg a Chymreig yr ardal yma
parhau i ddarparu ystod eang o weithgareddau diddorol i'n aelodaeth.
Bore dydd Sadwrn 10fed o Ragfyr yr oedd 11 o bobl yn y gweithdy Cymraeg yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yn Derby a chawson ni amser da yn chwarae'r fersiwn Cymraeg o'r gemau bwrdd Monopoli a Scrabble. Wedyn ar fore Dydd Sul wnaeth 5 ohonon ni'n mynd am dro ar hyd glannau'r afon Derwent rodd hi'n braf i ddechrau ond erbyn yr ail hanner o'r daith roedd hi'n bwrw glaw yn drwm iawn. Ond er gwaetha’r tywydd gwlyb roedd hi'n daith bleserus efo golygfeydd da o'r dyffryn. Roedd asyn a'i ebol mewn cae wrth ochr y llwybr, golygfa digon Nadoligaidd.