Thursday 26 November 2009

Y Dref Wen ar y gorwel


Mi wnes i dreulio awr a hanner y bore 'ma yn eistedd yn fy nghar ar ben Alport Heights cyn mynd am dro bach sydyn o gwmpas y copa yn y gwynt oer. Mae'r bryn hwn yn sefyll nepell o Wirksworth, Swydd Derby. Beth sy nodweddiadol am y lle yw'r ffaith eich bod chi'n gallu gweld yn bell, dros dirwedd canolbarth Lloegr i bob cyfeiriad.
I'r gogledd mae'r ardal y Peak yn sefyll, gan gynnwys mynydd sy'n bia enw Cymraeg, sef Mam Tor, i'r dwyrain mae'na afon, unwaith eto efo enw Cymraeg arno, sef Afon Derwent. Yn ardal y Peak mae'na afonydd eraill sef Afon Dove ac Afon Wye efo enwau Celtaidd. Tu hwnt i'r Derwent mae'na bentrefi o enwau Crich a Phentrich, enwau eto sy'n dod o'r hen iaith y Brythoniaid. Dim yn bell i ffordd yn Ne Swydd Efrog mae'na dref o'r enw Peniston, sy'n unwaith eto yn rhannol Cymraeg. Wrth edrych i'r de mae hi'n bosib gweld bryn sy'n sefyll uwchben Belper o'r enw'r Chevin, sy'n ffurf Seisnigaidd o'r gair cefn.
I'r gorllewin yn Swydd Stafford mae'na bentref o'r enw Penkridge. Mae'r enwau Celtaidd, Brythoniaid, Cymraeg yma yn dangos yn glir bod yr hen Gymry wedi gadael eu hol ar yr ardal yma o ganolbarth Lloegr.
Ond beth sydd o wir ddiddordeb i mi yw'r ffaith ei bod hi'n bosib gweld, yn niwlog ar y gorwel, dau fryn yn Swydd Amwythig sef y Long Mynd a'r bryn o'r enw'r Wrekin. Yn ôl rhai ffyhonnellau llenyddol roedd y Dref Wen yn sefyll yn ardal y Long Mynd, felly mewn ffordd yr ydyn ni'n gallu gweld y holl ffordd o ganolbarth Lloegr at y ffin Cymreig adeg hen Frenhiniaeth Powys. Os yr ydych grafu yn ofalus iawn ar y llun yma, mae'n bosibl gweld y ddau fryn sy'n dan sylw.