Friday 7 September 2012

Haf Bach Mihangel Southwell

Mi ges i ddiwrnod braf  iawn yn ymweld â Southwell ar gyfer cyfarfod Mis Medi Bore Coffi Popeth yn Gymraeg mewn cwmni Cymry Nottingham. Roedd 13 yn bresennol ac roedd hi'n bleserus iawn cael eistedd yn yr awyr agored yn mwynhau’r heulwen. Mae hi'n braf cael rhyw haf bach Mihangel ar ôl yr haf siomedig eleni. Roedd gardd Margot yn brydferth iawn ac roedd y seddi yn llygad yr haul. Cawson ni wledd o gacenni a digon i'w yfed.


Ar ôl y clebran, coffi a chacennau aeth Martin a finnau am sbec o amgylch y Minster. Mae hi'n adeilad hardd nid annhebyg o ran maint i Dŷ Dewi ac fel y gadeirlan hon wedi'i lleoli yng nghanol cefn gwlad yn hytrach na ddinas. Mae hi'n lle hanesyddol efo digon o gerfluniau gwreiddiol wedi ail osod mewn lleoliadau diddorol. Mae'na gaffi derbyniol iawn ar y safle ac ar ôl grwydro am dipyn cawson ni ginio blasus iawn.
Mae hi'n dipyn o daith i Southwell o Belper ac roeddwn ddiolchgar iawn am gael defnyddio'r teclyn bach satnav i ddarganfod y ffordd adref. Diolch yn fawr iawn i Margot Davies am ei lletygarwch.