Sunday 23 June 2013

Pori mewn siopau elusennol.



Dw i newydd ddychwelyd i Belper ar ôl treulio wythnos yng Nghymru fach. Ar wahân i fwynhau ambell ymweliad i drefi megis Porthmadog, Pwllheli a Chriccieth, roedd digon o amser i ni ddringo Tre'r Ceiri ac i ymweld â Nant Gwrtheyrn, ac i ymweld â Gwinllan Pant Du ger y Groeslon ar gyfer pryd o fwyd efo Nora Jones o Dalysarn. Diolch Nora!


Ond roedd hi'n braf hefyd i gael y cyfle i bori silffoedd siopau elusennol yn chwilota am lyfrau Cymraeg ail law. Felly wrth ddod adref i Belper roedd fy magiau yn drwm. Roedd ambell lyfr newydd sbon sef y nofel Blasu (wedi prynu o Balas Print, Caernarfon) a 'Rhint y Gelaets a'r Grug' (wedi prynu o siop Llen Llyn, Pwllheli), ond y rhan mwyaf oedd yn ail law megis Cofio Eirug, gol. Emyr Llewelyn Gruffudd, Symudliw gan Annes Glynn, Cymru ar Werth gan Penri Jones, Dim Heddwch gan Lyn Ebenezer, Y llosgi gan Robat Gruffudd, Rhwng Dau Fyd gan Bethan Phillips, Valentine gan Arwel Vittle. Roedd y prisiau yn amrywio o 75c i £2 ar gyfer y llyfrau ail law ac wrth gwrs mi wnes i dalu'r pris llawn ar gyfer y ddau lyfr newydd sbon.

Roedd hi'n braf hefyd cael y cyfle i ddarllen cylchgronau yn boeth o'r wasg wrth iddyn nhw gael ei gyhoeddi. Bellach mae gen i ddigon o ddefnydd darllen am 3 mis!