Sunday 30 May 2010

Glaw yn Lichfield



Mi aethon ni draw i Lichfield bore Dydd Sadwrn i ymweld â'n ffrind, Vicky. Mae'r canol Lichfield yn lle hefryd, hen strydoedd o amgylch yr Eglwys Gadeiriol canol oesoedd. Mae'na ddewis eang o dai bwyta a nifer o siop Caffi. Hefyd mae'na siop llyfrau ail law ac eraill newydd sbon. Dw i ddim yn credu bod unrhyw le yn war oes does dim siop llyfrau yno! Beth bynnag roedd hi'n fore glawog ac yr oedden ni'n symud o gaffi i gaffi ac o siop i siop. Cyn cael cinio mewn Tŷ bwyta ger y gadeirlan.
Mae'r ystyr gwreiddiol Lichfield yn mynd yn ôl i'r iaith Brythoneg (Gwelir http://www.genuki.org.uk/big/eng/DBY/NamesPersonal/Litchfield.html )Yn ôl yr hanes roedd Lichfield o dan warchae yn ystod rhyfel cartref 1642-1648. Ond i'r Cymry mae'na gysylltiad hen iawn i'r Eglwys Gadeiriol, sef llyfr Efengyl Lichfield. Cafodd Efengyl Lichfield ei greu yn yr un arddull Celtiaid fel llyfr Kells yn yr 8fed canrif ond mae hi wedi bod yn Lichfield ers y 11eg canrif. Cyn hynny mae'n debyg treiliodd y llyfr amser yng Nghymru yn Eglwys blwyf Llandeilo Fawr (gwelir www.llandeilofawr.org.uk/gosp.htm ). Mae'r Efengyl yn bwysig oherwydd mae'na enghraifft o lawysgrifen gynharach yr iaith Gymraeg ar gyrion tudalennau’r llyfr. Bellach mae'na gopi digidol o'r Efengyl ar gael yn Eglwys Blwyf Llandeilo.
Erbyn i ni ddychwelid i Belper roedd y glaw wedi cilio ac roedden ni'n gallu treillio dipyn o amser yn yr ardd cefn yn dyfrhau'r llysiau sy'n aros i gael eu trawsblannu i'r gwely llysiau. Dyna dasg nesa dros y penwythnos. Daw haul ar y bryn!

Sunday 23 May 2010

Heulwen braf Abertawe

Yr ydw i wedi cael wythnos gyfan lawr ymhlith y Jacs (pobl Abertawe) yn Abertawe, cawson ni (Marilyn a finnau) digonedd o heulwen braf a dim ond ambell smotyn o law. I fod yn fanwl cywir roedden ni'n aros ym Mae Caswell ac yn wneud y pethau twristaidd arferol. Felly mi wnaethon ni ymweld â Chaffi Verdis yn y Mwmblws ar fore Dydd Sul a mynd i weld ffilm 'Robin Hood' yn ystod y prynhawn. Ar ddydd Llun aethon ni i Ddinbych y Pysgod, wedyn ar ddydd Mawrth mi wnaethon ni ymweld â'r Gerddi Botaneg Genedlaethol ger Cross Hands, roedd criw o blant Urdd Gobaith Cymru yno er mwyn cyhoeddi neges Ewyllys Da'r Urdd i'r Byd. Wrth i ni fynd i mewn dyna oedd Hywel Gwynfryn yn dod allan a chawson ni sgwrs fer. Ar ddydd Mercher mi wnes i ymweld ag Oriel Glyn Vivian a hefyd Amgueddfa'r Glannau. Hefyd aethon ni am dro o gwmpas Bae Oxwich a hefyd am dro arall ar hyd clogwyni ger 3 Cliffs Bay. Digon i gadw ni'n brysur. Ar ben hynny es i i sawl digwyddiad Cymraeg ar fy mhen fy hun sef cyfarfod Cyd yn Nhŷ Tawe, menter Iaith Abertawe. Hefyd mi wnes i gwrdd â hen bos fi, Dai Pryer a'r cadeirydd Menter Iaith Abertawe (Huw Dylan Owen) sy'n ffrind am beint cyflym. Yn olaf ar nos Wener aethon ni i barti i aelodau Plaid Cymru (na ddw i ddim yn aelod o'r Blaid!). Cafodd y parti ei gynnal i ddathlu gwaith aelodau lleol y blaid yn ystod yr etholiad cyffredinol. Roedd aelodau o'r band gwerinol Cymraeg Yr Alltud yn chwarae, hynny yw Dylan, Chris a Jacob, eu perfformiad nhw ar noson y parti yn lawer gwell na pherfformiad y blaid ar noson yr etholiad!
Ar nos Lun daeth ffrind, sef Pegi, draw am bryd o fwyd yn ein 'fflat' ni, a chawson ni sawl bryd eraill yn y ddinas. Govindas amser cinio Dydd Iau, Il Padrinos ar Wind Street ar nos Wener, mae'na ddigonedd o leoedd bwyta yn Abertawe mae'n siŵr.
Roeddwn aros mewn apartment ym Mae Caswell efo balconi a ffenestri dwbl enfawr. Felly cawson ni olygfa fendigedig dros y bae. Roedd hefyd ogof ar ochr dde i'r bae. Pan oedd hi'n glir roedd hi'n bosib gweld Dyfnaint a Rhostir Exmoor ar y gorwel. Sawl tro gyda'r nos ac yn ystod y prynhawn wnes i weld y fferri newydd yn teithio draw i Iwerddon.
Yn bendant mi fydden ni'n dod yn ôl i Fae Caswell.