Monday 10 December 2012

Cystadleuaeth Scrabble Cymraeg yn Lloegr!















Mae'r Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby eisiau ymestyn gwahoddiad i holl ddysgwyr Cymraeg yn Lloegr a hefyd i Gymry alltud i gystadlu mewn 'Cystadleuaeth holl Ddysgwyr Cymraeg Lloegr 2013. Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal yn Derby yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar Ddydd Sadwrn 9-2-13 rhwng 10.30 y bore a 4.30 y prynhawn.

Mi fydd croeso cynnes i bawb boed Cymry Cymraeg neu ddysgwyr.

Mae'r manylion cysylltu ar ein gwefan www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com http://www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com   a hefyd ar ein grŵp Facebook gwelir http://www.facebook.com/groups/31395206651/#!/events/473797085996905
Dewch yn llu!

Saturday 8 December 2012

Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham


Cynhaliwyd Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham diweddar yn Nhŷ Howell Price yn West Bridgford ar fore Gwener 8fed o Ragfyr, roedd 10 yn bresennol gan gynnwys chwaer Howell oedd wedi teithio o Sir Gaerhirfryn i aros gyda fe. Cawson ni sgwrs fywiog efo cwmni o bobl groesawgar a brwd dros yr iaith a'r pethe. Diolch yn arbennig i wraig Howell sef Maureen am ddarparu gwledd o gacenni, biscedi a mins peis.

Y diwrnod wedyn roedd hi'n ein tro ni yn Derby i groesawu dau aelod o Gymdeithas Cymry Nottingham i Weithdy Cymraeg Nadoligaidd Cylch Dysgwyr Derby. Roedd neuadd Eglwys y Bedyddwyr yn Littleover yn gynnes ac yn lle addas iawn i'r 13 oedd yn bresennol. Wnaethon ni chwarae Scrabble Cymraeg a chafodd y rhai oedd ar fwrdd Elin digon o amser i fynd ymlaen i ddechrau gem o Fonopoli Cymr
aeg. Mae'na ragor o bethau Nadoligaidd i ddod efo Cymdeithas Cymry Nottingham yn cynnal Parti Nadolig nos Fercher nesa ac wedyn ar bnawn Sul 16 o Ragfyr yn cynnal y gwasanaeth carolau dwyieithog blynyddol. Felly gobeithio mi fydd nifer o ddysgwyr lleol yn gallu bachu ar y cyfle i gael gwledd o garolau Cymraeg!

Mi fydd y gweithdy nesa yn Derby yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar Sadwrn 12 o Ionawr.

Saturday 1 December 2012

Diwrnod oer yn swydd Derby

Mi ges i ddiwrnod braf heddiw. Mi es i am dro efo fy annwyl wraig o amgylch rhan o gronfa dwr Carsington, neu 'Glan y Môr Swydd Derby' fel mae rhai pobl yn ei galw fo. Roedd hi'n uffernol o oer ond yr oedd yr awyr yn las ac roedd nifer o bobl i'w gweld yn hwylio, yn reidio beic neu yn cerdded. Mi wnes i gyfri 15 o gwch hwylio ar y llyn. Roedd nifer go dda o bobl hefyd yn gwylio adar yn un o guddfannau gwylio adar ar lan y llyn. Pan oedden ni'n cerdded heibio coedyn yr oedd Jac a do yn eistedd ymhlith canghennau’r goeden efo ei blu wedi'i phwmpio i fyny yn erbyn yr oerfel.

Ar ôl ein taith cerdded ar hyd yr argae aethon ni am ginio bach blasus yn y tŷ bwyta sy'n rhan o'r canolfan ymwelwyr. Roedden nhw'n gweini cawl pannas a ffa-menyn. Roedd hi'n hyfryd. Mae hi'n bosib gweld golygfeydd godidog o'r tŷ bwyta gan gynnwys golygfa o ynys efo cylch meini a gallu bod yn addas ar gyfer yr eisteddfod Genedlaethol Cymru petai hi'n bosib dwyn perswâd ar aelodau'r orsedd i ddod ar draws Clawdd Offa i Swydd Derby. Ar ôl ein hamser yng Ngharsington wnaethon ni gyrru draw i Gromford i gael tipyn bach o sglodion a peas stwnch o'r siop sglodion lleol. Unwaith eto bwyd derbyniol iawn ar ddiwrnod mor oer.
Fory mi fydden ni'n mynd i weld Gŵyl Bwyd Nadolig Belper ac yn gobeithio am wledd arall. Gawn ni weld.