Sunday 21 February 2010

Gaeaf yn y bore.

Ces i dipyn o fraw'r bore'ma. Wrth i mi godi i gynnau'r tân yn y lolfa mi sylwais i ar y golau llachar y tu allan. Roeddwn feddwl bod y wawr yn y gynnar y bore'ma, ond wrth edrych allan trwy'r ffenest mi welais i fod storm eira yn chwythu dros Belper. Roedd mantell 4 modfedd o eira dros bopeth gan gynnwys y ffordd, yr ardd cefn, toeau'r dref a'r cefn gwlad o gwmpas hyd at y gorwel.
Roedd rhaid i mi glirio'r drive yn gyntaf a bwyta brecwast, ond erbyn 11.00 y bore dyma fi a'm cyfaill Colin yn cerdded dros y caeau ac yn anelu at ben rhyw fryn bach lleol.
Roedd digon o bobl eraill yn gwneud yr un peth efo eu cŵn, eu plant a'i slediau. O'r copa bryn roedd hi'n bosib gweld i fyny'r dyffryn. Doedd fawr ddim o'r byd natur i'w weld , hyd yn oed yn y coed sy'n tyfu ar ochr y bryn. Mi welais i dim ond un bran yn eistedd ar ben cangen.
Roedd awr o gerdded yn ddigon a cyn bo hir dyna oeddwn yn nol o flaen tân cynnes yn bwyta cawl a thost wrth weld yr eira yn dechrau toddi. Dyna beth braf, Gaeaf yn y bore, Gwanwyn yn y prynhawn.

Sunday 7 February 2010

Popeth yn Gymraeg, Nottingham, Mis Byr

Dyma ni wedi gadael mis Ionawr 2010 yn barod a Mis Byr ar ei ddechrau. Bore dydd Gwener gyntaf y mis felly a dyma fi'n gyrru'r car draw i dŷ Cathryn yn Keyworth ger Nottingham. Ar y ffordd yno mi welais enw lôn cefn gwlad sef Pendock Lane. Yn ôl geiriadur enwau lleoedd Prifysgol Rhydychen gair o'r Gymraeg yw Pendock. Mae Pendock yn ardal Worcester mae'n debyg. Wn i ddim os oes enw o'r math yn Swydd Nottingham. Ond mae'r ystyr yw 'barley field on a hill'. Addas iawn wrth feddwl am y dirwedd o gwmpas Keyworth a hefyd am y ffaith bod sawl un Cymro a Chymraes yn byw gerllaw.
Beth bynnag, roedd hi'n fore cyfarfod Bore Coffi Popeth yn Gymraeg cymdeithas Nottingham ac fel arfer roedd hi'n llwyddiannus dros ben efo 13 ohonon ni'n bresennol (3 oedd wedi dysgu a 10 o Gymry alltud).
Mi wnes i ddod a hen gopïau o'r Cymro i’r cyfarfod, ac roedden nhw'n eithaf poblogaidd. (Gwelir llun uwchben efo Yvonne, Joella a Dafydd yn darllen y Cymro). Mi ges i sgwrs ddiddorol iawn efo'r mab ieuengaf (Lewis) o'r teulu sydd yn cael eu disgrifio yn y nofel a enillodd y fedal rhyddiaith yn ystod Eisteddfod 2002 sef O! tyn y Gorchudd gan Angharad Price. Mae o’n byw yn Bramcote ar ôl ymddeol ond yn aelod o’r Gymdeithas yn Nottingham ac yn hapus iawn i gael dod i’r cyfarfodydd Bore Coffi. Hefyd wnaeth Beti a Beryl adrodd cerdd Cymraeg. (
Syth wedyn es i nôl i Belper i gwrdd â Marilyn (fy annwyl wraig) cyn gyrru draw efo hi i Swydd Caer am y penwythnos. Ar y Bore Sadwrn aeth y ddau ohonon ni i bentref Holt i gwrdd â grŵp Sadwrn Siarad sydd yn cyfarfod yn fisol yn y Canolfan Garddio yno. Roedd hi'n niwlog trwy'r dydd heb fawr o haul i'w weld. Wedyn mi es i draw i Wrexham i grwydro dipyn yn y dre gan gynnwys ymweliad i Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl.
Mi nes i brynu sawl llyfr yn WH Smiths a hefyd cylchgronau Cymraeg cyn gyrru yn ôl trwy’r niwl a oedd heb ddiflannu i gynhesrwydd tŷ fy rhieni yn Tarporley. Daethon ni yn ôl i Belper ar y Sul. Bydd rhaid i Marilyn druan mynd yn ôl i waith yfory, ond mae gen i wythnos o wyliau olaf y flwyddyn ac felly wythnos o ryddid. Tydi bywyd yn braf ond ydy?