Monday 15 December 2014

Mi ges i amser braf efo Cymry Nottingham ar nos Fercher rhaid bod dros 40 yn bresennol yn y Parti Nadolig. Roedd digon o fwyd a 15 perfformiadau gan wahanol bobl gan gynnwys Côr Wawr yn canu yn arbennig a Beryl yn adrodd rhan o'r gerdd y Pibydd brith. Diolch am noson arbennig. Roedd y Gymdeithas hefyd yn cynnal gwasanaeth carolau dwyieithog prynhawn Sul 14-12-15 drueni doedd dim mwy o ddysgwyr lleol yn bresennol ar gyfer gwasanaeth hyfryd. Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i bawb!

Monday 24 November 2014

Malcolm Bennett 1944-2013

Ces i dipyn o fraw ar nos Iau wrth glywed, yn hwyr las, bod hen gyfaill i mi wedi marw dros ddeunaw mis yn ôl. Doedden ni ddim wedi bod mewn cyswllt am sbel, ond am gyfnod maith roedd Malcolm Bennett yn aelod o'n grŵp Cerddwyr Radicalaidd (Red Rambles) a oedd yn weithredol rhwng 1994 a 2004 yn ardal y Peak. Roedd Malcolm (Malc i'w gyfeillion) wedi symud i Swydd Derby o ardal Reading i fyw mewn Commune yn Milford, nes ymlaen, ar ôl i'r commune chwalu yn gyfeillgar, roedd o a'i deulu yn parhau i fyw yn ardal Belper. Roedd Malc yn 'Hippie' go iawn yn null y chwedegau, hynny yw yn credu mewn bywyd amgen, yn defnyddio tipyn bach o ganabis, ac yn mwynhau byw. Roedd o hefyd yn grefftwr dawnus, yn gerflunwyr ben i gamp ac yn gallu creu a chwarae offerynnau cerddorol. Roedd o'n cadw lotment o fath wrth ochr y gartref teuluol oedd yn gynhyrchiol iawn ond hefyd yn rhyw fath o oriel celf ar gyfer ei weithiau cerflunio. Sawl tro yng nghwmni Malcolm mi wnes i gerdded mewn rhannau gwahanol o ardal y Peak mewn hindda a glaw. Roedd ganddo fo bob tro rhywbeth diddorol i'w dweud hyd yn oed os oedd o'n ymestyn y gwirionedd ar adegau. Ac ar ben y ffaith ei fod o'n gerflunydd da roedd o'n ddyn handi go iawn a dw i'n cofio gweld y gwaith adeiladu wnaeth o yn ei dy ei hunan. Roedd lle tan arbennig o gerrig efo maen glo arbennig yng nghanol y bwa, roedd Malcolm wedi darganfod bricsen leol efo'r gair Belper wedi’i stampio arno, a dyna beth oedd y maen glo perffaith i'r pentan. Gwych. Yn 2008 roedd Malcolm yn hapus i gymryd rhan mewn prosiect ffilmio fideo ar gyfer gwefan 'Anarchist Voices Video Project', (gwelir https://www.youtube.com/watch?v=uP1boeYGr7M&list=UUldSU6_0rW6YMH1_7OT1KTg ) prosiect oedd yn rhoi llwyfan i anarchwyr o wahanol fathau son am eu bywydau, prosiectau a beth oedd anarchiaeth yn golygu iddyn nhw. Roedd ei gyfraniad yn ddiddorol ond wrth edrych arno rŵan dw i'n sicr mi fydda i'n gweld eisiau Malcolm. Malcolm Bennet 1944-2013. Heddwch i'w lwch.

Saturday 27 September 2014

Parti dathlu Siop Llyfrau Scarthin yn 40 oed!

Cawson ni noson hwylus  yng nghwmni perchennog, staff a chwsmeriaid siop llyfr hynotaf yng nghanolbarth Lloegr, Prydain a'r byd sef Siop Llyfrau Scarthin, Cromford, Swydd Derby. Mae'r siop yn dathlu 40 oed eleni. Cafodd y siop ei sefydlu yn 1974 gan Dave Mitchell. Mae o dal wrth y llwy efo cymorth ei deulu a chriw o weithwyr ffyddlon a llu o gwsmeriaid teyrngar.
Mae arwyddair y siop yn ddweud ei fod yno er mwyn darparu ar gyfer 'y mwyafrif o leiafrifoedd'. Mae hi'n wir oherwydd  eu bod chi'n  medru dod o hyd i unrhyw bwnc bron, yn y byd. Mae'r siop yn gwerthu cyfuniad o lyfrau newydd sbon, llyfrau ail-law a llyfrau hynafol. Ar ben hyn mae'na  gaffi yng nghefn y siop sy'n gweini bwydydd a chacenni cartrefol. Bob hyn a hyn mae'r siop yn cynnal digwyddiadau yn y cafe fell llaawsiadau llyfrau ac ambell 'Cafe Pholosophique'. Mae  gwefan y siop yn dangos y cyfan. http://www.scarthinbooks.com
Roedd y parti neithiwr  yn llawn o bobl, nifer ohonynt mewn gwisg o'r saithdegau. Fel pob parti da roedd diodydd a bwydydd bach ond campwaith y noson oedd  y gacen pen-blwydd.
Diolch yn fawr  Dave a'i deulu! Ni fysai bywyd deallusol Swydd Derby yr un heb gyfraniad Siop Scarthin.

Monday 22 September 2014

Taro deg yn Derby!

Cawson ni ddiwrnod llwyddiannus dros ben yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr Derby pan ddaeth 42 o bobl  at ei gilydd ar gyfer y degfed Ysgol Undydd Cymraeg Derby.  Roedd 4 dosbarth yn cael eu cynnal sef dechreuwyr, canolradd-is, canolradd uwch a phrofiadol. Diolch yn fawr iawn i diwtoriaid Elin Merriman ac Eileen Walker a'r 4 gwirfoddolwyr oedd yn arwain sesiynau'r grŵp profiadol. Diolch yn arbennig hefyd i Marilyn Simcock a'i chwaer Shirley Foster am  weithio mor galed yn y gegin i fwydo pawb!
Roedd pobl  wedi dod o bell, sef Huddersfield, Chesterfield, Solihull Newport yn Swydd Amwythig, Nottingham a nifer o leoedd agos megis Belper, Nottingham, Alfreton a Derby.  Mi fydd Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn parhau efo cyfres o weithdy misol  tan Fis Mehefin. Mae'na groeso i ddysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf.
Yn ddiweddar y mis yma mi fydda i'n mynd i weld Cymry Nottingham yn  y Bore Coffi Popeth yn Gymraeg a mis nesa mi fydd taith gerdded Cymraeg ar Sadwrn 25 o Hydref  10.30 y bore o faes parcio Middleton Top Engine House, ger Matlock.
Roedd hi'n braf  cael gweld cymaint o ddysgwyr brwd  fore Sadwrn diweddar a dyn ni'n edrych ymlaen at weld  nifer ohonynt eto! Daliwch ati!

Saturday 20 September 2014

Penwythnos yn ardal Dolgellau

Mi ges i benwythnos hyfryd iawn yn ddiweddar yn mynd a'r rhieni draw i ardal Dolgellau. Cawson ni dwy noson yng Ngwesty Gwernan ar ochr Cader Idris i Ddolgellau. Wnaethon ni adael Tarporley ar fore Gwener yn anelu am Langollen i ddechrau le cawson ni  daith  gerdded hyd y bont hynafol uwchben yr afon Dyfrdwy. Wedyn wnaethon ni yrru i'r Bala i gael coffi yn y caffi drws nesa i siop Awen Meirion ac wedyn ymweliad cyflym i archfarchnad Sbâr i brynu cynhwysion  picnic.  
Cawson ni  bicnic  bach neis ar lan Llyn Tegid cyn cyrraedd Dolgellau yn gynnar yn y prynhawn. Ar ôl gadael ein bagiau yn y gwesty aethon ni am daith car i Benmaen-pwll i weld  Gwesty'r George a'r bont dal. Ac yna ar ôl panad aethon ni ymlaen i  weld  y llynnoedd   islaw Cader Idris. Roedd y golygfeydd yn hydrefol ond hyfryd.
Mi oedd y pryd o fwyd yn y Gwernan gyda'r nos yn flasus ac mi oedden ni wedi plesio efo safon y llety.
Ar y dydd Sadwrn aethon ni am daith car arall i Fairbourne, Dolgellau ac yn ôl i Ddolgellau mewn pryd i gael cinio yn y Sosban. Doedd dim lle i ni ar y llawr is, felly aethon ni lan y grisiau i stafell oedd arfer bod yn Llys i'r Goron. Roedd gwaith plaster ar yn wal yn  cyhoeddi'r dyddiad 1606. Cawson ni ginio swmpus cyn mynd yn ôl ' Westy Gwernan i eistedd  ar fainc  y tu allan i'r  llety yn edrych ar draw'r llyn pysgota.
Ar yr ail noson penderfynon ni mynd i chwilio am  dŷ bwyta lleol ac yn y pendraw cawson ni bryd o fwyd yn y Little Chef lleol.
Ar fore Sul mi es i a'r rhieni i eglwys Gatholig y dref ond yr oedden ni rhy hwyr i dal y gwasanaeth. Roedd y mass am 9.00 o gloch y bore  a doedden ni dim eisiau colli ein brecwast blasus yn y gwesty!
Aethon ni  nol i Tarporley trwy'r Bala ond roedd digon o amser i alw mewn i weld Capel grug ger Corwen ac i ymweld â Siop bwyd Stad Grug.
Roedd hi'n benwythnos neis mewn ardal hyfryd.

Friday 15 August 2014

Gwyliau haf yng Nghymru rhan 2

Unwaith eto yng Nghymru annwyl! Wel dyma fi'n ôl yn Lloegr i fod yn fanwl gywir ar ôl pum noson a chwe diwrnod yn ardal Llanelli ar gyfer yr Eisteddfod. Rhaid dweud roedd hi'n dipyn o daith i lawr yn y car ar ddydd Sul penwythnos cyntaf yr Ŵyl. Mi wnaeth y daith para am bum awr a hanner. Hen digon, ac roedd rhaid i mi e'i thorri hi i gysgu ar ôl croesi'r ffin. Mi ges i hwyl ar y nos Sul oherwydd roedd ddrama wedi cael ei llwyfannu gan Gymdeithas yr Iaith  yn y Tomas Arms, sef 'Dynes a hanner gyda Rhian Morgan & Llio Sulyn. Roedd hi'n wych a phawb yn chwerthin yn braf. Wrth gwrs yr oeddwn i wedi paratoi amserlen personnel ar gyfer y pum diwrnod wedyn, ond er fy mod i wedi cynllunio yn ofalus ofer yw'r ymdrech. Bob tro yr wyt ti wedi cyrraedd y maes ti'n sicr i gwrdd â hon a hon a  chael sgwrs hir cyn sylweddoli bod y drysau wedi cau ar gyfer y digwyddiad yr oeddech chi yn anelu amdano.
Y tro'ma  wrth gyrraedd y maes roedd hi'n bwrw glaw yn eithaf  caled ac roedd rhaid i mi aros ym mhabell y fynedfa am dipyn. Pan o'n i yno mi ges i sgwrs  efo'n gyfaill William o Lundain a Blaenau Ffestiniog yn gynt. Chwarae teg i Wiliam, mae o wedi ffonio fi bob yn ail wythnos byth ar ôl  cwrdd â fi  yn ôl yn Eisteddfod  Meifod 2003.
Er gwaetha hyn, mi wnes i lwyddo i weld  ambell gystadleuaeth ar fore dydd Llun yn y Pafiliwn, megis  cystadleuaeth unawd Cerdd Dant ac unawd  canu gwerin cyn  mynd i'r Babell Lên i wrando ar Emyr Davies yn siarad am T H Parry Williams ac wedyn Mererid Hopwood yn sgwrsio am Lyfr Du Caerfyrddin.
Wedyn mi wnes i dreulio'r prynhawn yn crwydro’r maes ac yn  ymweld â maes D. Mi wnes i gwrdd â'n hen fos,  Dai Pryer o Fenter Iaith Abertawe. Mae Dai bellach yn gweithio i'r Urdd yng Nghaerfyrddin.
Bore Dydd Mawrth mi wnes i ddechrau ym Maes D am banad a sgwrs cyn mynd i'r Pafiliwn am dipyn, wedyn ymlaen i'r Cwt Ddrama am un o’r gloch i wylio'r Sgript Slam, sef  tair drama wahanol gan awduron newydd ac wedyn cael clywed barn tri arbenigwr yn  dadansoddi’r dramáu cyn pleidleisio i benderfynu’r enillydd. Roedd safon pob un yn wych. Wedyn cinio ym maes D a mwy byth o grwydro'r maes. Y nos Fawrth  mi wnes i fynd ac Eileen Walker o Fradford i drio cael mynediad i'r ddrama Cymraeg yn y theatr yn Llanelli, ond och a gwae (i ni) doedd dim seddi ar ôl am yr wythnos gyfan!
Bore dydd Mercher mi wnes i dreulio dipyn o amser yn y Pafiliwn a ches i sgwrs efo 'Maureen' sef ffrind i Wiliam. Wedyn ymlaen i'r Babell Lên i wrando ar sgwrs rhwng Beti George a Hywel Gwynfryn ynglŷn â'r Llyfr mae Hywel wedi sgwennu am y ddau gomedïwr. Am 2 o'r gloch roedd rhaid i mi bicio draw i faes D i weld Joella Price yn cystadlu am deitl Dysgwr y Flwyddyn. Roedd Joella yn aelod rheolaidd o gyfarfodydd Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham am y tair blynedd yr oedd hi'n astudio yn Nottingham. Roedd Joella wedi dod a gwisg nyrsio a oedd yn dangos y bathodyn wedi  gwneud yn frodwaith 'Iaith Gwaith'  sy’n dangos i'r cleifion, ei bod hi, fel nyrs, yn medru'r Gymraeg. Mi wnes i weld Howell Price a'i wraig ond dim ond am eiliadau ym Maes D. Wedyn mi wnes i weld digwyddiad ym mhabell ‘Platiad' ar gyfer gwasanaeth gofal  Cymraeg  newydd. Roedd cyn cadeirydd Menter Iaith Abertawe (Hugh Dylan Owen) yn cymryd rhan. Chawson ni sgwrs dros banad am dipyn yn trafod gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth yr iaith.
Yno ymlaen i grwydro'r maes unwaith eto. Mi wnes i weld Noson Lawen Trac yn Nhŷ Gwerin (sef yr Ywrt mawr)  cyn mynd  nôl i'r Stafell yn y Travel Lodge yn  Penllegaer ar gyrion Abertawe, ble oeddwn i'n aros. Llety sylfaenol a dim gwasanaeth S4C ar y teledu. Gwarthus.
Ar fore Iau, roedd y bysiau wedi mynd erbyn i mi gyrraedd  Maes Parcio 3 ac roedd rhaid i mi aros am 40 muned am  y bws nesa. Pan oeddwn i'n aros mi wnes i glywed cyfweliad ar Radio Cymru efo Dylan Owen yn siarad â Joella Price am ei champ yn ennill y gystadleuaeth. Mi wnes i gwrdd â Martin ar y maes. Y peth
cyntaf i ni wneud oedd mynd i mewn i'r Pafiliwn i weld Joella ar y prif lwyfan yn derbyn tlws ennillydd Dysgwyr y Flwyddyn. Llongyfarchiadau mawr iddi hi. Aethon ni ymlaen wedyn i grwydro dipyn cyn mynd i weld yr ail Sgript Slam yn y Cwt Ddram. Unwaith eto yr oedd hi'n wych. Yn hwyr yn y prynhawn mi es i i weld rhan gyntaf o'r Stomp Cerdd Dant. Roedd hi'n wych, er braidd yn 'las' ar ran cynnwys y penillion. Roedd rhaid i mi fynd i weld gig y Gymdeithas wedyn oherwydd roedd gen i docyn ar gyfer gig  Gwenno, ond yr oeddwn i  wedi blino yn fawr iawn ac mi es i yn ôl i'r Travel Lodge cyn iddi hi ddechrau canu.
Ar y diwrnod olaf mi wnes i dreulio'r bore efo Martin yn y Lolfa
Llên yn gwrando ar lenorion, beirdd a chantorion yn trafod eu gwaith nhw.  Wedyn crwydro''r maes yn yr heulwen cyn penderfynu gadael y maes a dechrau'r siwrne hir yn ôl i fynnu’r M5, yr M42, M6 toll a'r A38 i gyrraedd drws ffrynt y tŷ yn Belper erbyn 9.00 o'r gloch y nos.
Yr oeddwn i wedi cael wythnos brysur, ond ar ôl dod adref mae hi wastad  bach yn drist. Mae'na  dueddiad gen i i ddioddef  o'r felyn ar ôl i mi ddod adref o'r Eisteddfod. Ond gwellhad i hyn yw mynd ar y cyfrifiadur i fwcio'r llety ar gyfer Meifod 2015. Do mi wnes i fwcio wythnos mewn bwthyn yn Llanrhaeadr-ym-mochnant. Methu aros.


Monday 7 July 2014

Gwyliau Haf yng Nghymru rhan 1

Yr ydw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael  sawl wythnos  yn yr hen Wlad yr haf yma. Yn gyntaf mi wnes i dreulio wythnos yn aros yn ardal Pwllheli efo fy annwyl wraig Marilyn. Am y drydedd flwyddyn yn ddilynol dyn ni wedi aros yn Nhŷ Paul ger Rhyd-y-Clafdy. Mi wnaethon ni gyrraedd ar bnawn Sul yr 8fed o Fehefin. Ar ôl dadbacio aethon ni am dro ar hyd y lonydd cul yn yr heulwen at eglwys wledig leol Llanfihangel. Tro diweddaf yr oedden ni yno doedd neb o amgylch y lle. Y tro'ma wrth i ni grwydro yn y fynwent daeth dyn o'r eglwys i ofyn i ni beth yr oedden ni'n gwneud. Roedd o'n defnyddio'r eglwys fel stiwdio celf. Doedd o ddim yn siarad yr hen iaith ond roedd ganddo fo ddiddordeb yn y cerrig beddi a'r eiriau sy wedi cerfio arnynt.
Erbyn bore dydd Llun roedd y tywydd wedi tro ac yr oedd hi'n bwrw glaw. Felly es i i bori yn siopau Pwllheli. Ro'n i'n chwilota am lyfrau Cymraeg ail-law. Pan oeddwn i'n cerdded strydoedd Pwllheli  mi wnaeth Marilyn aros yn nhŷ Paul a darllen. Yn y prynhawn aethon ni i Blas Glyn-y-Weddw i weld y lluniau yno ac i gerdded rhan o lwybrau'r arfordir. Roedd golygfeydd o'r  clogwynau  gerllaw yn drawiadol. Cawson ni baned wedyn yng nghaffi'r Plas cyn mynd  'adref' i'r bwthyn am swper. Ar fore dydd Mawrth aethon ni i siopau ym Mhorthmadog, roedd Marilyn yn hapus iawn i siopa yn 'Kerfoots'  tra yr oeddwn i'n ymweld â’r siop Cymraeg a nifer o siopau elusennol yn chwilota eto am lyfrau Cymraeg. Ar ôl swper mi es i i sesiwn 'plygu'  papur bro leol sef 'Llanw Llyn', roedd tua ugain o bobl yno ac yr oedden ni'n rhoi 2600 o
gopïau at ei gilydd. Roedd Martyn Croydon yno, sef enillydd  cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn  Eisteddfod Genedlaethol 2013. Wnaeth o dynnu llun o ohoni i wrthi yn plygu'r papur.
Roedd hi'n ddiwrnod braf dydd Mercher  felly penderfynon ni fynd i weld canolfan Y Felyn Uchaf ger Aberdaron, mae nifer o dai crwn wedi cael ei adeiladu efo mwd, cerrig lleol a tho gwyllt yn null yr hen Geltiaid. Mae'na un digon mawr i 35 o bobl cael eistedd. Mae'na sesiynau dweud stori yn cael ei gynnal yno. Yn y prynhawn aethon ni ymlaen i Aberdaron. Cawson ni ginio yn y Gegin Fawr, ac wedyn ymweliad i ganolfan o enw Porth y Swnt, sy'n olrhain hanes  yr ardal. Wedyn aethon ni am banad i westy uwchben y traeth a hefyd i weld eglwys  lle oedd R S Thomas yn ficer. Yn y noswaith aethon ni am bryd o fwyd yn nhŷ hen fos Marilyn sy wedi ymddeol o Buxton i fyw yng Nghricieth, roedd hi'n noson hwyr erbyn i ni gyrraedd yn ôl yn Nhŷ Paul.
Roedd hi dal yn  gynnes braf ar y dydd Iau felly aethon ni i gerdded i fyny Tre'r Ceiri'r uwch ben Llithfaen. Roedd hi'n fendigedig ar ben y  fryngaer ac mi wnaethon ni gwrdd â Chymraes leol a'i gwr o  Seland Newydd. Cafodd Marilyn llosg haul ar ei thalcen! Gyda'r nos mi es i am beint  efo Aran Jones SSIW  a'i ffrindia yn nhafarn Y Twnti.
Ar fore  dydd Gwener aethon ni unwaith eto i Borthmadog i siopau unwaith eto, ond hefyd aethon ni i weld oriel celf yno cyn mynd ymlaen i Bwllheli  i weld hen ffrind i mi sy'n byw mewn tŷ  ger y traeth.
Ar ddydd Sadwrn roedd hi'n amser i fynd yn ôl i Loegr ond ar y ffordd adref mi aethon ni i Oriel  Môn yn Llangefni am ginio efo ein ffrindiau Marianne a Gerry a hefyd i  edrych ar y lluniau yn yr oriel. Mae lluniau Cyffin Williams yno'n wych. Wnaethon ni gyrraedd yn ôl yn Belper yn hwyr, blinedig ac yn hiraethu am Gymru!

Doedd dim rhaid i mi aros yn rhy hir cyn dod yn ôl i Gymru. Dydd Sul 29 o Fehefin a dyma fi yn gyrru
unwaith eto tuag at y gorllewin, y tro'ma i Ddolgellau i aros ar  fferm ger Llanfachreth. Roeddwn i aros yno efo ffrind (Martin) o Glay Cross a hefyd  efo'r perchenogion Karen a'i gwr Crispin. Mae'r ddau ohonynt yn dysgu'r Gymraeg. Roedd Martin a Karen yn yr un dosbarth a fi o dan diwtor Rhian Bebb.  Ar y noson  gyntaf aethon ni am dro o amgylch y fferm 100 erw. Mae Karen a Crispin yn magu Alpacod  ar y fferm ac yn marchnata’r gwlân  yn lleol. Mae tua 50 o'r Alpacod ar y fferm.
Wnaethon ni gerdded i ben ucha’r fferm ac yr oedd y golygfeydd yn hyfryd o'r Gadair Idris yn yr heulwen. Roedd yr awyr  tu hwnt i'r mynydd yn las las. Wnaeth Karen gogio i ni bob nos, bwyd blasus cartrefol - diolch o galon iddi!
Roedd 50 o bobl ar y cwrs ac yr oedd y gwersi yn ddiddorol ac yn dysgu pethau newydd i mi.
Nos Lun a dyma Martin, 'Lyn', sef mam yng nghyfraith Karen, a finnau'n ymweld ag Eglwys Llanfachreth. Roedden ni wedi cael yr allwedd oddi wrth Gymraes leol sy'n cadw golwg dros yr eglwys. Mae hi'n eglwys
sy'n mynd yn ôl i amser y Normaniaid, roedd hi'n hen ac yn bert ar holl gerrig beddi yn Gymraeg wrth gwrs.
Dydd Mawrth ar ôl y gwersi aeth Martin a fi i weld Maggie, sy'n ffrind i mi yn yr ardal. Roedd hi'n arfer dod ar y cwrs ond yn bellach yn gweithio mewn ysgol Cymraeg lleol. Roedd hi'n noson hwylus yn y 'Last Inn' yn Abermo yn sgwrsio ac yn gwrando ar  gerddoriaeth byw yn y dafarn.
Ar y nos Fercher aethon ni am dro i fyny’r bryn y tu ôl i'r  fferm.  Sdim enw ar gyfer y bryn ar fap, ond mae'na gaer hynafol yno a thyllau
rhyfedd wedi cerfio yn y graig yno.
Ar y nos  Iau aethon ni i sesiwn sgwrs mewn  tafarn lleol o'r enw  'Ty'n y groes'. Daeth Rhian Bebb  a'i thelyn i ganu ac i arwain  sesiwn canu'n Gymraeg - roedd hi'n wych  a thua 12 ohonon ni'n ganu yno!
Diwrnod olaf y cwrs, sy wastad yn drist, ond cawson ni hwyl  cyn i ni ymgynnull ar gyfer  llun ffoto y cwrs. Mi wnes i aros tan fore Dydd Sadwrn cyn teithio yn ôl i Loegr. Roedd digon o amser i bicio i mewn i siop llyfrau Awen Meirion i brynu copi o 'Raglen y Dydd' ar gyfer Eisteddfod Llanelli ac i gael sgwrs a phanad efo Gwynne, sef rheolwr y siop. Yno ymlaen i ardal Wrecsam i sesiwn sgwrs Cymraeg yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt  efo Ro Ralph a dysgwyr Wrecsam ac wedyn unwaith eto  dyma fi'n gadael Cymru y tu ôl i mi wrth groesi'r ffin am fis arall yn Lloegr.  Mis Awst  yw'r ymweliad nesa i  Eisteddfod  Llanelli. Methu aros.




Monday 2 June 2014

Taith gerdded ar hyd dyffryn Dove


Mi ges i ddiwrnod braf yn cerdded a'n cyfeillion Martin ac Adrian ar hyd rhan o ddyffryn Dove ger Hartington. Mi wnaethon ni ymweld â Chastell Pilsbury  cyn symud ymlaen at gerrig camu sy'n galluogi pobl i groesi afon Dove o ochr Swydd Derby i ochr Swydd Stafford.
Ar hyd y ffordd gwelon ni Boncath yn cael ei phlagio gan Frain, hefyd gwelon ni Glochdar y cerrig, gwenoliaid, y wennol du a gwennol y bondo. Roedd hi'n boeth ac mi wnes i gael tipyn bach o liw haul er fy mod i wedi gwisgo het ac eli haul. Ar ôl y daith aethon ni am banad a chacenni mewn caffi yn Hartington. Diwrnod gwych. Gobeithio  mi fydd mwy o ddysgwyr a Chymry alltud yr ardal yn ymuno a ni ar  y daith nesa. Gwelir gwefan ein grwp am fanylion pellach. www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com

Sunday 11 May 2014

Hwyl ddiniwed neu fygythiad i ieithoedd Ewrop?

Yr oeddwn i'n gwylio rhan helaeth o gystadleuaeth Eurovision neithiwr. Does gen i ddim lawer o amser fel arfer ar gyfer y fath cachi rwtsh. Neithiwr roedd hi'n drawiadol iawn bod y rhan mwyaf o'r cystadleuwyr yn canu yn Saesneg. Wn i ddim os ydy hyn o ganlyniad i ddymuniadau'r grwpiau i fanteisio ar farchnad cerddoriaeth byd eang Eingl-Americanaidd neu ryw reswm arall anhysbys. Ta beth, pan ddaeth hi amser i'r canlyniadau cael eu hadrodd o 36 wledydd gwahanol ar draws Ewrop dim ond cynrychiolydd Ffranc wnaeth adrodd yn ôl yn ei mamiaith. Pawb eraill, ie PAWB! wedi adrodd y canlyniadau trwy'r Saesneg. Efallai dydy hyn dim o bwys mewn cystadleuaeth ffordd a hi fel Eurovision ond yr oeddwn i'n difaru bod y cyfle i glywed ieithoedd gwahanol Ewrop wedi cael ei cholli. Mae hi'n gwestiwn dwys a ydy dylanwad y diwydiant adloniant Eingl-Americanaidd yn mynd i arwain at dranc prif ieithoedd Ewrop heb son am ieithoedd llai a lleiafrifol y byd. Felly ydy Eurovision yn hwyl ddiniwed neu fygythiad go iawn i ieithoedd Ewrop? Mond yn gofyn.

Monday 28 April 2014

Diwrnod i'r brenin

Mi gawson ni ( y wraig a fi) ddiwrnod i'r brenin ddoe. Roedd hi'n ddigon dymunol ar ran y tywydd a phenderfynom fynd i weld coedwig leol ger Ambergate lle mae nifer enfawr o gylchau'r gog mewn blodau a chryn dipyn o 'Ransomes' sef garlic wyllt.
Ar ôl ymweld â'r goedwig aethon ni ar hyd rhan dawel o gamlas Cromford. Yr oedden ni'n gobeithio gweld neidr y gwair ond doedd dim un i'w gweld ond roedd sawl peth arall diddorol. Pethau megis penbyliaid wrth y mil yn nofio o dan y dŵr, adar y dŵr megis Cwtiar ac Iâr Dwr yn adeiladu nythod.
Hefyd welom 2 Ddraenogyn dŵr croyw. Wrth gerdded ar hyd y gamlas welom hen dai oedd wedi cael eu hadeiladu ar yr un pryd a'r gamlas. Mae'r gamlas yn chwarchodfa natur bwysig a noddfa i'r rhai ohonom sy eisiau dianc o'r prysurdeb y byd.
Ar ôl ein taith cerdded aethon ni i fyny i Erddi Rhododendron Lea am banad a chacen a thaith arall o amgylch y gerddi prydferth. Mi fydd diwrnod cerddoriaeth yn y gerddi ym mis Mehefin efo nifer o gerddorion gwerin yn dod i chwarae alawon traddodiadol.
Ac ar ôl dod adref aeth ati i dorri'r lawnt, bellach mae'r ardd cefn yn edrych yn dwt ac yn daclus, y peth nesa i wneud rŵan ydy paratoi'r gwely llysieuol ar gyfer sawl planhigyn courgette ac ambell blanhigyn ffa dringo.

Thursday 20 March 2014

Lotta Continua!

Mewn ffordd mae hi'n fraint, cael mynediad i lenyddiaeth gwlad a diwylliant arall, ond mewn ffordd arall mae hi'n rhywbeth anghyfforddus. Hynny yw cael gweld sut mae pobl eraill yn edrych arnoch a chael clywed eu beirniadaethau o'ch cydwladwyr a diwylliant o safbwynt anghyfarwydd. Pan oeddwn uniaith Saesneg yr oeddwn ddarllen gweithiau am hanes a syniadaeth gwleidyddiaeth asgell chwith, gan gynnwys gweithiau clasurol hen anarchwyr megis Kropotkin a Maletesta ac ysgrifenwyr mwy cyfoes fel Colin Ward. Ar ôl i mi ddod yn siaradwyr Cymraeg ac yn medru darllen yr iaith honno mi wnes i ddechrau ar y daith hir o ddarllen nofelau, a gweithiau hanes a syniadaeth wleidyddol y Cymry. A dyna'r ing. Wrth ddarllen gwaith pobl gyfoes mae'n bosib ymateb, weithiau trwy sgwrsio a thrafod yn uniongyrchol efo'r awduron. Ces i sawl sgwrs efo Colin Ward dros y blynyddoedd wyneb i wyneb ac weithiau trwy lythyr. Ond wrth ddarllen clasuron weddol ddiweddar Cymraeg dw i wedi darganfod fy mod wedi colli'r cyfle i gwrdd â rhai o'r bobl yma. Pe bawn i wedi cael fy magu fel Cymro falle mi fyswn i wedi cael y cyfle i gwrdd â'r bobl yma. Ond mae hi’n rhy hwyr. Dw i'n cael darllen eu geiriau ond does dim modd cael sgwrs efo nhw. Mae'r dialog yn un ffordd, dw i'n gallu clywed, neu yn hytrach darllen eu geiriau, ond 'sdim cyfle ymateb. Dyna'r golled. Er mor werthfawr yw darllen geiriau RS Saunders, DJ Williams, Lewis Valentine, R S Thomas a sawl arall sy bellach wedi gadael y fuchedd yma sdim cyfle ymateb. Sdim cyfle chwaith cael dweud wrthon bod y frwydr dros yr iaith a'r diwylliant yn parhau. Dim cyfle i ddangos iddyn nhw bod eu gwaith nhw wedi dwyn ffrwyth yn y canrif yma, ond er gwaethaf hynny mae'r peryg i'r iaith yn parhau. Ond i ddyfynnu'r Eidalwyr Lotta Continua! I'r Gad!

Saturday 15 March 2014

Chwibdaith i Fanceinion


Mi godais yn gynnar y bore'ma i yrru i fynnyn i Buxton er mwyn dal y trên, hynny yw'r trên i Fanceinion. Dyma ein trefniant parc a rheid answyddogol. Roeddwn ddarllen wrth deithio, hynny yw darllen llyfr bach gan R. S. Thomas sef Flwyddyn yn Llyn a chafodd ei gyhoeddi yn 1990. Diddorol oedd darllen sylwebai craff y bardd am dywydd, tymhorau a bywyd gwyllt Pen Llyn. Wrth i mi edrych ar y dirwedd oedd yn pasio ffenestr y tren roedd ôl effaith y gaeaf gwyntog a garw i'w weld yn glir. Nifer sylweddol o goed wedi cwympo, ac mewn pentrefi roedd ambell lech a phanel ffens wedi cael eu chwythu i ffordd. Wrth adael Buxton welais Foncath yn hedfan, dau ŵydd, digon o ddefaid ac oen newydd y gwanwyn. Hefyd welais sawl asgwrn cefn a sgerbwd defaid a fethodd goroesi'r gaeaf. Mae bywyd yn y bryniau uchel yn gallu bod yn anodd i fywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm gyda'i gilydd. Ar ôl cyrraedd gorsaf tren Picadili roedd hi'n ddigon hawdd cerdded yr hanner milltir i Oriel Celf Manceinion ble oeddwn gwrdd â nifer o ddysgwyr a
Chymry alltud yng nghaffi'r oriel. Roedd 6 ohonom i gyd gan gynnwys Mared sy wedi symud o Aberystwyth yn ddiweddar i dde Swydd Efrog. Cawson ni sgwrs ddifyr am ddwy awr. Ar ôl ffarwelio mi wnes i grwydro o amgylch yr Oriel sy'n cynnwys nifer o luniau olew o wahanol gyfnodau gan gynnwys sawl gan Awgwstws John a Gwen John. Wrth gerdded yn ôl i dal y tren i Buxton roedd arwyddion amlwg o ddinas enfawr fodern sef miloedd o bobl yn siopau ac yn mwynhau mynd ar olwyn fawr fel y London Eye sy wedi cael ei osod dros dro yng nghanol Gerddi Picadili. Rhyfedd o fyd.

Wednesday 5 March 2014

Teithiau a cholledion

Penwythnos diwethaf mi aeth Marilyn a finnau i fyny i Breston i nôl fy chwaer anabl ar gyfer ymweliad i Tarporley i weld ei rhieni. Roedd hynny yn rhoi'r cyfle i mi i bicio draw i Wrecsam bore dydd Sadwrn i brynu cylchgronau a llyfrau o Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl ac wedyn i dreulio dwy awr yn sgwrsio efo'r dysgwyr a Chymry sy'n mynychu'r Sesiwn Siarad yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt.


Roedd tua 15 o bobl yno a chawson ni amser diddorol yn trafod hyn a'r llall. Ond toc wedi hanner dydd roedd rhaid i mi fynd yn ôl dros y ffin. Yn ddiweddar dw i ddim wedi cael digon o amser sbâr i wneud popeth dw i eisiau gwneud ar ran y Gymraeg, pethau megis ymuno a cherddwyr Cymdeithas Edward Llwyd neu dreulio amser yn mynychu digwyddiadau diwylliannol, ond daw haul ar y bryn cyn bo hir. Dw i wedi cynllunio mynd i Gymru sawl tro dros yr haf i gael y 'dos' blynyddol o'r Gymraeg a Chymreictod.

Bu farw fy modryb Margeurite Mills yn Jersey ym mis Chwefror ac wedyn pan oedd yn aros yn Tarporley dros y Sul cyrhaeddodd rhagor o newyddion trist, hynny oedd un arall o'm modrybedd wedi marw yn sydyn, modryb Clare Whittaker a oedd yn byw yn Hwlffordd. Dyma'r ail farwolaeth yn y teulu ers Nadolig. Roeddwn hoff iawn ohoni hi, ond y golled fwyaf yw'r golled i'r teulu agos sef ei gwr a'i phlant. Heddwch i lwch y ddwy ohonyn nhw.

Monday 27 January 2014

Teyrnged i hen gyfaill



Wnes i ddechrau'r flwyddyn efo'r newyddion trist fy mod i wedi colli un o'n hen gyfeillion. Bu farw Mike Hamilton ar fore 31 o Ragfyr yn 65 oed yn dilyn cyfnod hir a chreulon o salwch. Yr oedd y ddau ohonom wedi bod yn gyfeillion ers 1993 pan ddaeth Mike i ymuno a'r grŵp cerddwyr radical 'Red Rambles' yn ardal y Peak. Ar ôl hyn wnaeth y ddau ohonom yn cydweithio ar nifer fawr o brosiectau, digwyddiadau a chyhoeddiadau.


Roedd Red Rambles yn para am y cyfnod rhwng 1993 tan ddiwedd 1999 ac yr oedden ni fel grŵp yn cerdded ar draws Swydd Derby a rhannau o ganolbarth Lloegr gan gynnwys lleoedd megis Kinder Scout, y Roaches, Derwent Edge, Lathkill Dale a llawer mwy. Daeth Mike ar y rhan mwyaf o'r teithiau gerdded misol hyn. Ar ben hynny wnaeth Mike cydweithio efo fi yn cynhyrchu bron iawn 40 rhifyn o gylchlythyr misol EMAB ar gyfer anarchwyr a phobl radical ardal Derby a Nottingham. Roedd Mike yn ddyn ymarferol a llwyddodd creu safle rhandiroedd cymunedol yn Loughborough. Roedd o'n lledaenu'r neges bod hi'n bosib creu byd amgen i'r byd presennol ble mae grym y wladwriaeth a chyfalafiaeth yn rheoli popeth, roedd Mike am greu byd amgen ble mae gwerthoedd megis cyfiawnder cymdeithasol a heddwch yn teyrnasu. Roedd o'n feddylgar, teyrngar a gwir gyfaill. 



Roedd diwrnod angladd Mike yn glir ond yn oer. Roedd awyr las uwchben claddfa naturiol sy'n sefyll ochr Burton on the Wold ger Loughborough. Daeth dros bumdeg o bobl i dalu teyrnged olaf i ddyn oedd yn wir wedi cyfrannu i'w gymuned. Roedd y 'gwasanaeth' yn cofio holl bethau yr oedd Mike wedi gwneud dros y blynyddoedd ar gyfer ei gymuned, ei deulu a'i daliadau anarchydd. Mi fydd colled mawr ar ei ôl o. Heddwch i'w llwch.