Saturday 10 April 2010

Ysgol Basg Trewern

Mi ges i wythnos braf draw yn ardal y Trallwng yr wythnos hon. Roeddwn fynychu Ysgol basg yng Nghanolfan Cymunedol Trewern a Butterton. Roedd yn braf o ran cwmni yn y dosbarth a hefyd o ran y tywydd y tu allan. Awyr glas yn ymestyn i'r gorwel a dim golwg o law yn nunlle. Roedd aelodau'r dosbarth yn gymysgydd o ddysgwyr profiadol a lai profiadol. Roedd hyd yn oed rai Cymry yno er mwyn gwella eu Cymraeg rhydlyd.
Roedd y gwesty bach yn gysgod bryn lleol ac roedd golygfeydd gwych o'm cwmpas.
Ar ôl y dosbarth roedd digon o amser i bicio draw i'r Trallwng er mwyn ymweld â'r siop Cymraeg lleol sef 'Pethau Powys'. Mae'r Trallwng yn hen dref farchnad weledig ond mae'ma arwyddion bod'na dipyn o bres a buddsoddiadau yn digwydd efo adeilad Marchnad da-byw newydd ac ambell siop a chaffi newydd yn y dref.
Y penwythnos gynt mi wnes i ymweld â chronfa dwr Carsington efo fy ngwraig a'm ffrind. Roedd hi'n oer ond yn braf. Wrth gwrs mae Carsington yn lle addas i ddigwyddiadau awyr agored efo digon o le i'r Genedlaethol hyd yn oed. Beth sy'n ddiddorol yw'r faith bod'na Gylch Meini Modern ar safle Carsington. Mae'r cylch yn cynnwys maen mawr yn y canol efo arwydd yr Orsedd. Felly beth amdani? Dyma gyfle euraidd i'r brifwyl cymreigio canolbarth Lloegr!