Sunday 27 October 2013

Gwirfoddolwyr Canolbarth Lloegr dros yr iaith Gymraeg


Dros gyfnod eitha’ hir mae grwpiau dysgwyr canolbarth Lloegr wedi derbyn dipyn o sylw mewn cylchgronau ac ar radio/teledu yng Nghymru. Mae'na nifer o wirfoddolwyr selog tu ôl i'r gwaith sy'n cael ei wneud.
Mae dau ddosbarth Cymraeg wythnosol sy'n cael ei drefnu yn Belper yn ganlyniad i waith caled gan Glen Mulliner. Bore Sul y penwythnos yma roedd Glen yn rhedeg stondin y dosbarth Cymraeg mewn diwrnod agored yng nghanolfan Strutt Belper.

Unwaith y mis mae'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg yn cael ei gynnal yn Nottingham. Mae'r bore coffi yn llwyddiannus iawn efo 10-15 o bobl yn dod fel arfer, ond y gŵr sy tu ôl i ffyniant y digwyddiad misol yw Viv Harris, oherwydd Viv Harris, gynt o Ynys y Bwl, sy'n trefnu rota misol y boreau coffi.
Mae'r grŵp ymarfer wythnosol sy'n cael ei rhedeg yn Derby gan DWLC yn gyfrifoldeb Allan Child, sy'n gofalu bod y canolfan ar agor, bod te/coffi a bisgedi ar gael, a hefyd, pan fo angen bod cyflenwad newydd o lyfrau Cymraeg ar gael i'r grŵp cael darllen.
Unwaith y mis yn Nhafarn the Assembly Rooms, Solihul mae'na nifer o ddysgwyr SSIW yn ymgynnull o dan arweiniad Cymro alltud o Gaerdydd, sef Aled James.
Steve Clement yw'r enw'r gŵr bonheddig sy'n arwain dosbarth Cymraeg yr U3A yn Sheffield, ac Eileen Walker sy tu ôl i Glwb Clebran Bradford. Hir oes i ymdrechion y bobl weithgar yma. Diolch iddynt.

Sunday 20 October 2013

Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2013















Cynhaliwyd Ysgol Cymraeg Undydd Derby ar ddydd Sadwrn 19 o Hydref yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yng nghanol dinas Derby. Daeth 35 o bobl at ei gilydd mewn tri dosbarth i ddysgu, siarad a mwynhau iaith a diwylliant Cymru. Cafodd dosbarth y dysgwyr profiadol a Chymry alltud amrywiol cyflwyniadau

PowerPoint i'w diddani, yn dechrau efo darlith am hen draddodiadau Cymreig megis Y Fari Llwyd gan Aled James o Goventry (gynt o Gaerdydd) ac wedyn cyflwyniad tu hwnt o ddiddorol gan Dr Katie Hemer o Brifysgol Sheffield (gynt o Hen Golwyn). Roedd Dr Hemer yn siarad am ei gwaith fel archeolegydd biomolecwlar. Hoffwn ddiolch hefyd i Martin Coleman am gyflwyniad am waith adran hawliau tramwyfa llwybrau cyhoeddus Cyngor Sir Swydd Derby. Roedd cyflwyniad fi yn son am deithiau Gymdeithas Edward Llwyd. Eileen Walker o
Bradford oedd tiwtor ar gyfer y grŵp canolradd. Cawson nhw amrwymau o gemau ac ymarferion iaith tra oedd Elin Merriman yn gofalu am anghenion dysgu grŵp o ddechreuwyr pur. Diolch yn fawr i'r athrawon, siaradwyr a gwirfoddolwyr a hefyd i 'Criw'r Gegin' a wnaeth gwaith caled yn darparu diodydd a chinio blasus ar gyfer y diwrnod. Mi fydd rhaglen Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby 2013 yn parhau trwy weddill y flwyddyn efo'r cyfarfod wythnosol am 9.30 ar fore Dydd Mawrth a'r gweithdy Dydd Sadwrn misol yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar Stryd Sant Helen, Derby. Mae'na groeso i bawb boed dysgwyr neu Gymry alltud ac ymwelwyr o'r hen wlad. Mae manylion ein grŵp ar gael ar wefan www.derbywelshlearberscircle.blogspot.com

Saturday 5 October 2013

Taith Cerdded a Chymru ar y gorwel

Mi ges i ddiwrnod i'r brenin heddiw pan es i ar daith cerdded o amgylch bryn lleol (Shuttingsloe) yn ardal y Peak efo fy nghyfaill Martin, y dysgwr rhugl o Clay Cross. Wnaethon ni ddechrau o ardal o'r enw Wildboarclough cyn cyrraedd gwaelod y bryn a cherdded i fyny'r allt serth i gyrraedd y copa. Roedd hi'n fore bendigedig ac yr oedd nifer o bobl eraill wedi cyrraedd pen y bryn o'n blaen ni. Er gwaethaf yr holl law sy wedi disgyn yr wythnos yma, roedd yr awyr yn las ac roedd dipyn o awel ffres. Ar ôl cyrraedd y copa roedd 'na wobr hael, sef golygfeydd trawiadol iawn o amgylch y bryn. Yn lleol yr oedden ni'n gallu gweld rhostiroedd Swydd Stafford a Swydd Caer, ond i'r gorllewin roedd hi'n bosib gweld y Wrekin, y Long Mynd, Caer Caradog, bryniau dyffryn Clwyd gan gynnwys Moel Famau. Ond beth oedd hyd yn oed yn well, tu draw i fryniau dyffryn Clwyd roedd hi'n bosib gweld, yn niwlog ar y gorwel, mynyddoedd Yr Eryri, sef y Carneddau. Yn ôl y map arolwg Ordnans, mae hi'n bellter o 70-80 milltir. Dyma dro cyntaf yn fy myw fy mod i weld cyn bell. Fallai bod yr amser wedi dod am ymweliad i ardal Wildboarclough gan aelodau Cymdeithas Edward Llwyd? Mi fydd Martin neu finnau digon hapus i ddangos y gornel fach brydferth o ardal y Peak i'r aelodau.