Friday 30 December 2011

Y Prosiect darllen


Bob blwyddyn dw i'n ceisio cadw at amserlen darllen personal, sef darllen o leiaf un llyfr y mis trwy'r flwyddyn. Mae rhai yn llyfrau newydd sbon, eraill wedi cael eu prynu mewn siopau llyfrau ail-law ar draws y Wlad. Mae'r llyfrau newydd sbon yn cael eu prynu ar fy nheithiau o gwmpas Cymru yn yr haf neu trwy godi'r ffôn a siarad â Gwynne yn siop Awen Meirionydd yn y Bala.
Weithiau dw i'n cael'false start' mewn llyfr sy dim yn plesio ond fel arfer dw i'n llwyddo i orffen y dasg. Felly eleni dw i wedi darllen; Not Quite White gan Simon Thirsk, mae'n nofel sy'n son am y perthynas rhwng Cymry Cymraeg, bobl dŵad a dysgwyr Cymraeg. Hefyd dwi wedi darllen y llyfr enwog gan Islwyn Ffowc Elis Cyn Oeri'r Gwaed sy'n gasgliad o ysgrifau byr ond diddorol. Cafodd un ohonyn nhw, sef Y Sais ei defnyddio gan barti adrodd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a wnaeth y gwleidydd Rod Richards codi nyth cacwn thrwy gyhuddo'r darn o fod yn hiliol. Fel Sais fy hunan sy wedi darllen y darn dan sylw, alla i ddim dweud ei fod yn hiliol yn fy marn i. Dw i wedi darllen sawl nofel yn 2011 gan gynnwys: Un o Ble Wyt ti? gan Ioan Kidd a hefyd Yn y Tŷ Hwn gan Siân Northey. Dw i hefyd wedi mwynhau gweithiau gwleidyddol eu naws fel 'The Welsh Extremist', a 'Bydoedd', y ddau gan Ned Tomos, Y Cawr o Rydcymerau gan Gwyr Hywel, Yr Hawl i Oroesi gan Simon Brooks, Gyfral o Dan gan Arwel Vittle. Roeddynt i gyd yn addysg i mi. Eleni dw i hefyd wedi darllen tipyn bach o Gofiannau sef Can Dros Gymru gan Dafydd Iwan, Nesa Peth i Ddim gan Feic Povey ac yn olaf dw i wedi darllen tipyn bach o hiwmor, sef Dyddiadur Ffermwyr Ffowc.
Mae gen i domen bach o lyfrau wrth fy ochr ar ei hanner darllen neu yn aros i gael ei darllen. Mae'r rheiny'r cynnwys Radical Gardening gan George McKay, Pwll Enbyd gan Alun Cob sy wedi derbyn adolygiadau da yn y wasg Cymraeg, a chofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd a Stori Saunders Lewis gan Gwynn ap Gwilym. Digon o waith darllen i gadw fi'n brysur trwy'r gwanwyn.

Monday 12 December 2011

Nadolig Llawen

Efallai ei bod hi'n braidd yn gynnar, ond Nadolig Llawen! Mae'r dosbarth Cymraeg Belper wedi cael ei gyfarfod olaf a'r parti Nadolig, mae'r Cylch Dysgwyr Derby wedi cynnal y gweithdy olaf cyn 'dolig a'r Gymdeithas Cymry Nottingham wedi cael gwasanaeth carolau dwyieithog ar brynhawn Sul 11 o Ragfyr. Yr ydw i wedi derbyn llwyth o gardiau Nadolig Cymraeg, felly dw i wedi bod yn brysur iawn yn sgwennu cyfarchiadau tymhorol i'm cyfeillion pell ag agos. Gobeithio bydd 2012 yn flwyddyn heddychol. Gobeithio hefyd mi fydd y sefydliadau Cymraeg a Chymreig yr ardal yma
parhau i ddarparu ystod eang o weithgareddau diddorol i'n aelodaeth.
Bore dydd Sadwrn 10fed o Ragfyr yr oedd 11 o bobl yn y gweithdy Cymraeg yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yn Derby a chawson ni amser da yn chwarae'r fersiwn Cymraeg o'r gemau bwrdd Monopoli a Scrabble. Wedyn ar fore Dydd Sul wnaeth 5 ohonon ni'n mynd am dro ar hyd glannau'r afon Derwent rodd hi'n braf i ddechrau ond erbyn yr ail hanner o'r daith roedd hi'n bwrw glaw yn drwm iawn. Ond er gwaetha’r tywydd gwlyb roedd hi'n daith bleserus efo golygfeydd da o'r dyffryn. Roedd asyn a'i ebol mewn cae wrth ochr y llwybr, golygfa digon Nadoligaidd.


Friday 25 November 2011

Dr Siriol Colley



Cawson ni newyddion trist ddoe am gyn aelod o'r Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Bu fawr Siriol ar ddydd Sul diweddaf ar ôl brwydro hir a dewr yn erbyn cancr. Tan ei salwch diweddaf roedd Dr Siriol Colley yn aelod ffyddlon o'r Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Dros y blynyddoedd roedd Siriol yn mynychu cyfarfodydd y cylch yn rheolaidd a hefyd yn cefnogi digwyddiadau megis Yr Ysgol Undydd Flynyddol a hefyd digwyddiadau Cymdeithas Cymry Nottingham sef y bore coffi misol, cyfarfod cyffredin y gymdeithas ac achlysuron arbennig fel y rhaglen Radio Hawl i Holi ym Mis Mai eleni. Yn ystod 2007-2008 hi oedd Llywydd Cymdeithas Cymry Nottingham. Mi fydd colled enfawr ar ei hol hi. Mae teyrnged ar safle newyddion BBC Cymru, gwelir http://www.bbc.co.uk/newyddion/15871399.
Heddwch i'w llwch.


Thursday 3 November 2011

Cyngerdd Côr Dyfnant


Cawson ni noson arbennig Nos Wener diweddaf. Daeth dros 200 o bobl at ei gilydd i wrando ar Gôr Dyfnant o Abertawe mewn cyngerdd yn Eglwys Bedyddwyr Broadway, Derby a chafodd ei drefnu ar y cyd gan Gymdeithas Cymry Derby a Chylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Diben y cyngerdd oedd codi pres at elusen plant Heart Hope a Help sy'n cefnogi hosbis plant yn Belarus. Yn y pen draw wnaeth y cyngerdd codi tua £1000.
Roedd perfformiad y côr yn wych, a hefyd roedd unawdydd ifanc Heather Thomas yn canu am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa. Roedd ei pherfformiad o'r can Sua Gan yn hyfryd iawn.

Saturday 15 October 2011

Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2011


Cafodd dros 30 o bobl amser gwych yn y 7fed Ysgol Undydd Derby. Roedd bobl wedi dod ynghyd o Stoke, Walsall, Chesterfield, Sheffield, Nottingham, Belper a Derby.
Rhaid diolch i'r tiwtoriaid Elin ac Eileen, i wirfoddolwyr Nottingham a hefyd i griw'r gegin.
Mae'r gobaith yw bydd mwy o bobl yn cael eu tynnu at weithgareddau Cymraeg lleol sef y dosbarthiadau yn Derby a Belper a'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol yn Nottingham. Mae'na groeso i bawb!

Friday 7 October 2011

Ymweliad criw teledu Tinopolis



Cawson ni amser hwylus iawn yn ystod cyfarfod Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham heddiw. Roedd'na reswm arbennig am hyn, megis ymweliad criw o Lanelli ar gyfer Wedi 3 / Wedi 7 i recordio darn i'r rhaglen. Roedd llond tŷ o Gymry Nottingham yno i groesawu Rhodri a'r tîm. Cafodd nifer fawr o aelodau eu cyfweld ac ar ddiwedd y bore wnaethon ni ganu'r emyn Calon Lan. Mae'n debyg mi fydd y darn yn cael ei defnyddio yn ystod wythnos nesa (Dydd Mawrth). Siŵr o fod mi fydd nifer o Gymdeithas Nottingham yn gwylio efo mwy o ddiddordeb nag arfer. Diolch i Dawn a'i theulu hi am y croeso arbennig o gynnes a hefyd am y bwyd a chacennau blasus.

Saturday 1 October 2011

Band y cyfle olaf



Cawson ni dipyn o hwyl neithiwr. Roedd Elin, gyfaill agos a thiwtor Cymraeg, ffliwt, piano ac arweinydd côr bechgyn lleol wedi trefnu i'r côr perfformio mewn cyngerdd codi arian dros ganolfan cymunedol Strutt yn Belper. Yn anffodus oherwydd problemau wna i ddim yn son amdano rwan yn y pendraw doedd y côr bechgyn dim ar gael wedi'r cyfan ar y noson, dyna ni felly, yn camu'r bwlch ar fyr rybudd, ond fel band y cyfle olaf yn hytrach na'r Derwentydd ymddangosom.

Monday 26 September 2011

Cythral o Dân

Dyma lyfr gan Arwel Vittle sy'n olrhain hanes Tân Penyberth yn 1936 a hynt a helynt y tri oedd yn bennau cyfrifol sef Lewis Valentine, Saunders Lweis and DJ Williams. Does fawr neb o dras Sais fel fi sy wedi clywed amdanyn nhw pan oeddwn yn yr ysgol. Hanes Brenhinoedd Lloegr a hanes Lloegr oedd prif gynnwys ein gwersi hanes ni. Felly braf yw darllen y llyfr 'ma sy'n cyflwyno cefndir i'r digwyddiadau ac amgylchiadau'r achos llys a chyfnod treuliodd y tri yng Ngharchardy Wormwood Scrubs.
Efallai bod yn deg dweud eich bod chi'n gallu olrhain gwreiddiau dull protestiadau presennol Cymdeithas yr Iaith nol i’r Tân yn Llyn.

Friday 23 September 2011

Tymor newydd

Mae Mis Medi wedi dod ac mi fydd gweithgareddau’r Cylch y Dysgwyr Cymraeg Derby yn ail ddechrau rŵan, felly mae'r cyfarfod wythnosol yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Strydd Sant Heledd, Derby yn ail dechrau ar fore Dydd Mawrth o hyn ymlaen. Ar ben hynny mi fydd Gweithdy Cymraeg yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar Ddydd Sadwrn bob Mis tan fis Mehefin. Mae'r Ysgol Undydd Cymraeg Derby yn digwydd ar Sadwrn 15 o Hydref. Hefyd mi fydd ambell daith Gerdded Cymraeg yn ardal y Peak.
Hefyd mi fydd Cyfarfod Bore Coffi 'Popeth yn Gymraeg' yn parhau'n Nottingham ar fore Dydd Gwener gyntaf pob mis. Mae'na groeso bob tro i ddarpur dysgwyr a Chymry Cymraeg alltud sy eisiau ein helpu ni.

Saturday 20 August 2011

Wythnos ym Mhenllyn




Dw i newydd gyrraedd yn ôl ar ôl treulio 6 noson yn ardal Tudweiliog yn wersyllfa. Roedd y tywydd yn weddol dda ond yn oer dros nos ar wahân i Nos Mawrth a oedd yn wlyb ac yn wyntog!
Ces i'r cyfle i ymweld â nifer fawr o leoedd. Ar y Dydd Sul mi wnes i ddringo i ben Tre'r Ceiri sef hen Fryn Gaer Geltaidd enfawr. Mae 'na dai crwn ar ei ben ac roedd golygfa odidog ar draws Pen Llyn. Pnawn Sul gyrrais lawr i Nant Gwrtheyrn, doeddwn i ddim wedi bod yno ers 2008 a bellach mae'r lle wedi newid efo caffi mwy o faint, siop, amgueddfa fach a maes parcio newydd sbon. Mae'r ffordd i lawr yn fwy diogel rŵan efo rwystrau diogelwch i arbed chi rhag gyrru dros y diben ar ochr y ffordd!
Dydd Llun es i i ymweld â'm ffrindiau Colin ac Arabella ym Mhwllheli, ces i ginio blasus efo nhw ac wedyn taith cerdded ar hyd y traeth. Ond mae'n newyddion trist, hynny yw eu hen gi nhw (Tich) yn sâl iawn.
Ar y dydd Mawrth i ddechrau mi wnes i ymeld ag Eglwys Beuno Sant ym Mistyll, mae hi'n hen eglwys heb trydan neu pethau modern o gwbl, wedyn mi es i i hen dy Kate Roberts sef Cae'r Gors. Roedd hi'n amgueddfa ddiddorol dros ben efo ffilm dogfen am ei bywyd hi. Yn y prynhawn mi wnes i ymweld â'r amgueddfa llechi yn Llanberis, yn y noswaith wnes i weld machlud yr haul hyfryd dros y môr, ac roedd mynyddoedd Wicklow yn glir ar y gorwel.
Dydd Iau ro’n i'n gobeithio mynd a'm ffrind Marianne i fyny’r Wyddfa ar y trên, ond cawson ni siom pan gyrhaeddon ni i'r orsaf achos roedd pob sedd wedi bwcio am y diwrnod cyfan, felly aethon ni am ginio yn Llanberis cyn mynd mewn cwch rhwyfo ar y llyn. Roedd hi'n brofiad gwahnnol cael gweld yr Wyddfa o ganol Llyn padarn, wedyn aethon ni am dro i Gastell Dolbadarn, doeddwn i ddim wedi bod yno or blaen. Ar y dydd Iau ces i Chwibdaith o gwmpas Sir Fôn yn dechrau efo daith cerdded ar hyd rhan o Afon Menai ger y Sw Mor cyn mynd ymlaen i draeth Llanddwyn ger Niwbwrch, Es i ymlaen i'r Ynys i weld bythynnod y Peilotiaid. Nos Iau es i i Nefyn am lansiad llyfr ac i wrando ar ddarlith am Fenywod oedd yn berchennog Llongau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dydd Gwener ar ôl wythnos flinedig des i adref yn falch o gael byw mewn tŷ unwaith eto!





Monday 8 August 2011

Wythnos braf yn y Brifwyl

Mi ges i wythnos braf draw yn Wrecsam yn yr Eisteddfod. Roeddwn i yno o ddydd Llun tan ddiwedd Dydd Gwener. Ces i wlydd o gerddoriaeth, corau, adrodd, ddramâu, llenyddiaeth, cyfarfodydd gwleidyddol a sgwrs ymhlith Cymry Cymraeg a dysgwyr ardal Wrecsam. Roedd gen i ran fach i'w chwarae hefyd, sef gwneud cyflwyniad ar y cyd efo Neil Wyn Jones ar brynhawn dydd Mercher am y rai sy'n dysgu'r Gymraeg y tu allan i Gymru. Daeth tuo 22 o bobl i'r digwyddiad.
Yn ystod yr wythnos mi es i i ddarlith yn y Babell llen am gerddi T H Parry Williams oedd yn ddiddorol iawn.
Wrth gwrs mae'r Eisteddfod yn rhoi'r cyfle i wario llawer iawn o bres ar lyfrau a pob math o beth Cymreig a Chymraeg a des i yn ôl efo llond bag o bethau i'w darllen. Roedd nifer enfawr o stondinau ar y maes efo gwybodaeth am gyrsiau, sefydliadau gwahanol a mudiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac ieithyddol fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Hefyd roedd nifer o brotestiadu'n digwydd dros yr wythnos. Daeth nifer o ddysgwyr Derby i'r maes ar y dydd Mercher gan gynnwys Clive, Allan, Ray ac ar y dydd Gwener daeth criw o Gymdeithas Cymry Nottingham sef Gwynne a'i Wraig Marilyn, ei fab Gareth a'i wraig, Howell a'i wraig. Mi wnes i gymryd y cyfle i ddosbarthu taflenni am ein gweithgareddau ni (sef Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby a Menter Iaith Lloegr ) o gwmpas Maes D. Roedd Maes D yn llawn bwrlwm cystadlu, sgyrsiau a stondinau. Roedd Maes D hefyd yn lle perffaith am baned a chael eistedd i lawr am orffwys ar ôl cerdded o amgylch yr Eisteddfod! Tra oeddwn ar y maes mi wnes i weld nifer fawr o hen ffrindiau o Gymru a hefyd nifer o ffrindiau ymhlith dysgwyr o rannau gwahanol o Gymru. Diolch i chi i gyd am y croeso twymgalon.












Monday 18 July 2011

Parti Priodas Diemwnt

Roedd hi’n amser i’w dathlu'r penwythnos yma. Roedd fy mrawd annwyl i wedi trefnu parti dros fy rhieni. Ar y 7ed o Orffennaf wnaethon nhw’n dathlu eu pen-blwydd priodas diemwnt, sef 60 o flynyddoedd gyda’i gilydd.
Felly aeth Marilyn a finnau draw i Swydd Caer i’r dafarn Nags Head, Haughton ger Tarporley. Roedd nifer fawr o’r teulu yno hefyd sef fy chwiorydd Mary ac Anne, gwr Mary Nigel a’u plant Sam, a Thomas (a’i gariad Emma) hefyd fy mrawd Peter ac Adrienne ei wraig o, Roedd Mam a thad yn mwynhau’r digwyddiad. Ar ôl cinio blasus yn y dafarn aethon ni nol i 6 Bridgedown ar gyfer champaign a chacen a sgwrs.
Yn y noswaith aeth Marilyn a fi draw i Holt Lodge, gwesty cyfoes ble oedden ni’n aros. Yn ôl y derbynnydd mae'r lle cyfan wedi cael ei bwcio gan y BBC ar gyfer wythnos y brifwyl.
Bore dydd Sul aethon ni i Wrecsam i chwilio am safle'r eisteddfod a’r pafiliwn pinc ond methiant oedd yr ymdrech. Wedyn wnaethon ni yrru dros Fwlch Gwyn i ddyffryn Clwyd ac i lawr i Ruthun. Yn Rhuthun mi wnes i ymweld â'r canolfan crefftau gan gynnwys siop Cefyn Burgess ( www.cefynburgess.com), mae o’n creu lluniau o gapeli’r ardal sef Rhos a’r pentrefi cyfagos. Oherwydd glaw trwm wnaethon ni adael Rhuthun heb gerdded o gwmpas canol y dref ond daethon ni’n ôl i Swydd Caer wrth deithio trwy ‘r Wyddgrug. Cawson ni dro o gwmpas canol y dref hon a hefyd y cyfle i edrych i mewn ffenestru’r siopau gwerthu Tŷ. Roedd hi’n pistyllio glaw yno hefyd felly ar ôl dipyn daethon ni yn ôl i Holt i brynu cwrw (Miws Piws Bragdy Porthmadog) yn siop canolfan garddio Hollis cyn galw i mewn i weld rhieni a’n teulu yn Tarporley cyn gyrru yn ôl i Belper. Penwythnos prysur a gwlyb, (diodydd a glaw gyda’i gilydd).

















Wednesday 1 June 2011

Breuddwydion Dwyieithog




I rai ohonon ni sy'n dros ein hanner cant mae nifer o bethau yn dod i gof o dro i dro. Yn ddiweddar ces i freuddwyd am Westy, yma yn Lloegr efo taflen hysbysebu ddwyieithog. Yn fy mreuddwyd roedd y daflen yn disgrifio pob dim am y Gwesty bob yn ail yn y ddwy iaith, wrth gwrs does dim math o Westy fel'na yn Derby mewn gwirionedd, breuddwyd oedd hi, ond weithiau mae'na elfennau o'r hen iaith sy'n ymddangos ar yr ochr 'ma i Glawdd Offa.
Yn y papurau newyddion weithiau mae'na storiâu sy'n codi hwyl ar ben yr iaith. Er enghraifft ar ôl i mi newydd ddechrau dysgu'r iaith nôl yn 1998 roedd 'na hanesyn yn y Ashbourne Telegraph am gwmni trwsio ffordd oedd wedi ennill cytundeb i wneud gwaith ffordd rhwng Ashbourne a Belper. Roedd pencadlys y cwmni yn Swydd Caer ac oherwydd eu bod nhw'n gwneud gwaith ffyrdd dros y ffin roedd ganddyn nhw arwyddion ffyrdd dwyieithog, ond y tro yn y cynffon oedd y ffaith eu bod nhw'n defnyddio'r arwyddion ffordd dwyieithog yma yn Swydd Derby.
Maes arall yw dwyieithrwydd sy'n codi oherwydd dylanwad capeli ac eglwysi, e.e. yng Nghaer, pan o'n i'n ifanc roedd'na hen Gapel ger Maes Parcio'r farchnad Gwartheg, a hyd yn oed rŵan mae'na Eglwys Bresbyteraidd Cymraeg ger yr hen lyfrgell. Ac ar ben hynny mae gan St John's arwein-llyfr yn y Gymraeg.
Ar y donfedd darlledu mae S4C a BBC Radio Cymru ar gael ar draws y Dyrnes Unedig, ond nôl yn 60au, pan ddoedd dim digon o ddefnydd ddarlledu ar gael peth eitha’ cyffredin oedd gweld rhifyn o'r rhaglen Disg a Dawn ar ITV yma yn Lloegr!.
I fynd nôl at arwyddion ffyrdd mae hi'n beth braf cael gweld wrth groesi Pont Hafren yr arwydd 'Croeso i Loegr' ar yr ochr dwyreiniol, ond yn y gogledd wrth groesi'r ffin ar yr A55 does dim arwydd croeso yn y Gymraeg nac ar yr A483 neu wrth groesi'r ffin ger Holt. Mae'r Brifwyl yn dod i'r Wrecsam eleni felly beth am sgwennu i Gyngor Sir CWAC (Chester a West Cheshire) i ofyn am arwydd Croeso i Loegr, ond yn y Gymraeg!
Ac i fynd a'r pwnc dros y ffin i Gymru beth am sgwennu i'r llywodraeth yng Nghaerdydd i ofyn am wir ymrwymiad ddwyieithrwydd trwy newid iaith mewnol cynghorau lleol yn y fro Gymraeg i'r Gymraeg, fel yr hyn sy'n digwydd yng Ngwynedd, dyna freuddwyd dwyieithog go iawn, neu freuddwyd gwrach efallai.

Wednesday 18 May 2011

Noson Lawen a Hawl i Holi o Nottingham



Cawson ni benwythnos Cymreig a Chymraeg iawn yn Nottingham dros y Sul. Yn gyntaf ar Nos Sadwrn daeth tua 50 o bobl Nottingham, Derby a Loughborough ynghyd ar gyfer y Noson Lawen flynyddol efo Gymdeithas Cymry Nottingham. Wedyn ar y Nos Lun daeth BBC Radio Cymru draw i recordio rhifyn o'r rhaglen panel Hawl i Holi yng Ngholeg San Ioan ym Bramcote, roedd 50 o bobl yn y gynulleidfa, efo Dewi Llwyd yn cyflwyno a 4 o bobl ar y panel, sef Dafydd Iwan cyn Llywydd Plaid Cymru, Gareth Davies y gyn seren Rygbi, Sian Foster sy'n athrawes o ardal Coventry, a finnau ar ran Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Roedd hi'n dipyn o fraint cael bod ar y panel ond mi wnes i fywnhau'r profiad. Wnaeth nifer dda o Gymry Nottingham a Derby cyfrannu i'r sgwrs yn ystod y rhaglen, prosiect mawr nesa'r cylch yw trefnu'r sgol Undydd ym Mis Hydref ac wedyn Cyngerdd Côr.

Sunday 27 March 2011

Taith Cerdded Cymdeithas Edward Llwyd

Mi ges i amser diddorol ar Ddydd Sadwrn yng nghwmni aelodau Cymdeithas Edward Llwyd. Roedd y daith Cerdded yn dechrau o'r Brookhouse y tu allan i Ddinbych ar Ffordd Rhuthun. Roedd yr wythnos gynt wedi bod yn braf iawn ac efallai dyna pam roedd 34 o bobl ar y daith. Rhaid dweud doeddwn i ddim yn gyfarwydd iawn efo'r ardal. Roedd y caeau i gyd yn edrych yn debyg ac efallai mai hynny yn esbonio pam aeth y grŵp ar goll yng nghanol y daith! Ond doedd dim ots, roedd y cwmni yn dda. Mi ges nifer o sgyrsiau, ac fel arfer mi wnes i gwrdd â sawl aelod dw i heb weld o'r blaen. Pan o’n i'n yn Ninbych cyn y daith mi wnes i fachu ar y cyfle i ymweld â siop Clwyd, sef y siop Cymraeg lleol er mwyn brynu ambell lyfr a chylchgrawn. Ar y ffordd adre mi wnes i yrru trwy Fwlch Gwyn ac i lawer i Wrecsam cyn croesi'r ffin ger Holt.

Saturday 19 March 2011

Gweithdy llwyddiannus


Cafodd Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby Gweithdy Cymraeg llwyddiannus iawn ar fore Sadwrn 19 o Fawrth.
Daeth 16 o bobl at ei gilydd o dan diwtor Elin Merriman. Roedd rhai o'r grŵp wedi teithio'r holl ffordd o Stafford ac roedd aelod newydd arall wedi teithio o Clay Cross. Diolch yn fawr iawn i Bea Payne am ddod i'n helpu ni'r sesiwn yma, dyn ni'n gobeithio cael rhagor o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ar gyfer sesiynau eraill y tymor yma. Hefyd croeso cynnes i'n aelodau newydd! Mi fydd y Gweithdy nesa ar ddydd Sadwrn 16 o Ebrill.
Mae'r Cylch Derby hefyd yn cydweithio efo cwmni cynhyrchu sy'n rhan o BBC Radio Cymru i geisio trefnu recordio rhifyn o raglen ar gyfer Radio Cymru, felly os ydych chi'n medru'r Gymraeg neu yn ddysgwyr brwd a rhugl cysylltwch â'n gwefan (http://www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/ )

Friday 25 February 2011

Defnydd Darllen 2011

Pob blwyddyn yr ydw i'n gosod prosiect darllen i'm hunan, hynny yw darllen o leiaf un llyfr y mis boed yn Gymraeg neu Saesneg.
Wnes i lwyddo i gyrraedd y nod y llynedd fel dw i'n arfer gwneud. Roedd rhan mwyaf o'r llyfrau yn y Gymraeg efo ambell un yn yr iaith fain, y rhai Cymraeg oedd yn cynnwys Y Dyn Dŵad: Nefar in Ewrop gan Dafydd Huws, Crawiau gan Dewi Prysor, Rhywbeth bob Dydd gan Hafina Clwyd, Hiwmor Llafar Gwlad golg. Myrddin ap Dafydd, Llafnau gan Geraint Evans, Naw Mis gan Caryl Lewis, Er Budd Babis Ballybunion gan Harri Parri, Ar Drywydd y Duwiau gan Emlyn Gomer Roberts, Gwenddydd gan Jerry Hunter ac Annwyl Smotyn Bach gan Lleucu Roberts. Ar y cyfan wnes i fwynhau darllen y rhan mwyaf ohonyn nhw.
Eleni ers 'dolig dw i wedi darllen sawl peth. Mi wnes i ddechrau ym mis Ionawr efo 'Y Cawr o Rydcymerau' sef gofiant am D J Williams, roedd yr iaith tipyn bach mwy llenyddol na'r pethau dw i'n arfer darllen ond roedd hi'n werth yr ymdrech. Yna wnes i ddarllen Awr y Locustiaid gan Fflur Dafydd ac wedi hynny Lladd Duw nofel diweddarach Dewi Prysor. Mae hi'n nofel dywyll iawn er bod rhai cymeriad da ymhlith y drwg a threisgar. Wrth ddarllen Y Cawr o Rydcymerau sylwais i ar bryderon D J Williams am gynnwys defnydd gwleidyddol mewn nofelau, yn sicr yn Lladd Duw mae'na gryn dipyn o sylwebai gwleidyddol adain chwith yn dod o gegau'r cymeriadau. Tybed beth D J Williams yn meddwl am y nofel petai'r hen arwyr Cymraeg dal ar dir y byw? Mi wnes i fwynhau’r nofel a'r sylwebai gwleidyddol ond dw i ar y chwith yn nhermau gwleidyddol ond beth fydd ymateb bobl sy ddim. Wn i ddim.
Rŵan dw i'n darllen hen lyfr gan Islwyn Ffowc Elis sef Cyn Oeri'r Gwaed ac yn poeni fy mod i'n cyd-fynd a'i ddelwedd o'r Sais cyffredin fel mae o'n ysgrifennu yn y bennod Y Sais, mae'n debyg bod fy nghydwladwyr dim yn holi neu wrando digonol ac yn brolio ac yn siarad gormod. Mea maxima culpa.




Saturday 19 February 2011

Gweithdy Cymraeg Derby 19-2-11


Cawson ni Weithdy llwyddiannus iawn yn Nhŷ Cwrdd Y Crynwyr y bore'ma. Roedd 'na griw o 11 ohonon ni gan gynnwys aelod newydd sef Caryl o Swydd Caerlŷr gynt o Borthaethwy, Sir Fon. Teithiau a gwyliau yng Nghymru oedd pwnc sgwrs y grŵp profiadol. Wnaeth pawb yn y grŵp adrodd profiadau teithio o gwmpas y Wlad gan ddefnyddio map. Ar y bwrdd arall dan arweinydd tiwtor Elin Meriman wnaeth grŵp y dechreuwyr chwarae gemau iaith ac wedyn dysgu deialog rhwng dau berson.
Mi fydd y gweithdy nesa yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 19 o Fawrth.

Monday 14 February 2011

Taith cerdded yn y glaw

Ces i amser braf yng nghwmni fy nghyfaill Colin wrth gerdded ar hyd Camlas Cromford o Orsaf Trên Whatstandwell hyd at dwnnel Camlas Cromford. Rhaid dweud roedd hi'n bwrw glaw yn gyson trwy'r daith ond diolch i gotiau glaw go dda roedden ni'n ddigon sych er gwaetha'r tywydd.
Roedd golwg llym ar y wlad sy heb ei deffro'n iawn eto ar ôl y gaeaf.
Doedd dim grifft i'w weld a doedd dim arwydd eto o'r perthi'n blaguro.
Roedd olion yr hen gamlas o ddiddordeb sef y pwll wrth ochr y twnnel lle'r oedd y cychod yn arfer cael ei droi o'i gwmpas. Hefyd roedd y twnnel yn ddiddorol, roedd 'na lwybr ceffyl trwy'r twnnel er mwyn i'r ceffylau tynnu'r hen gychod trwy'r bryn. Roedd golwg drwg ar un darn o'r wal y tu fewn i'r twnnel a dw i'n amau bod y twnnel yn troi yn beryglus, mae'na dwnnel arall ar y hen gamlas yma sy wedi hen dymchwel.
Ar ôl awr a hanner roeddwn hapus i fynd adre am baned a darn go drwchus o gacen sinsir, cyn ymlacio ar y soffa yn darllen 'Lladd Duw' gan Dewi Prysor, nofel cyn tywyll a thwnnel Camlas Cromford.

Monday 7 February 2011

Trip bach sydyn i Gymru

Mi gawson ni drip bach sydyn i Tarporley a Chymru'r penwythnos yma.
Roedd rhaid i ni deithio ar ôl iddi hi nosi oherwydd doeddwn i ddim yn gallu osgoi gweithio pnawn Dydd Gwener, ond er gwaetha hynny roedden ni wedi cyrraedd Tarporley erbyn hanner awr wedi saith. Roedd hi'n dipyn o daith oherwydd yr holl wynt a glaw. Beth bynnag roedd hi'n braf cael eistedd yn gynnes yn Nhŷ clyd fy rhieni.
Y bore wedyn ar ôl brecwast cynnar wnaethon ni bicio dros y ffin a'r afon Dyfrdwy i Holt. Yno yng Nghaffi Canolfan Garddio Bellis treulion ni dair awr yn sgwrsio efo rhai dysgwyr a Chymry Cymraeg yn y sesiwn Sadwrn Siarad misol.
Wedyn aeth M a fi draw i Wrecsam i Farchnad y Bobl er mwyn ymweld â Siop y Siswrn. Yr oeddwn i'n gobeithio gwneud mwy o siopa wedyn ond roedd hi'n bwrw go ddrwm, felly mi wnes i benderfynu troi am adref.
Ar y Sul, aethon ni am dro yn Tarporley, pentref braf. Roedd'na Sêl Cist Car dan do yn Neuadd y pentref ac mi wnes i brynu pump LP Cymraeg am bunt dyna chi gwerth arian.

Sunday 30 January 2011

Diwrnod i'r Brenin

Cawson ni (Marilyn a finnau) ddiwrnod i'r brenin yn cerdded bryniau a dyffrynnoedd rhostir Swydd Caer ger Leek efo a'n gyfaill Colin. Mae'na ddarn o Swydd Caer, debyg o ran siâp i fraich, sy'n ymestyn i'r ucheldir Ardal y Peak dim yn bell o dafarn Y Gath a'r Ffidl uwchben Buxton, ac o fewn y darn o dir yma mae bryn Shuttingsloe yn sefyll.
Gadawon ni'r car mewn pentref bach o'r enw 'Wildboarclough' yn y dyffryn wrth droed Shuttingsloe' sy'n 1687 troedfeddi uwchben lefel y môr. Dyw hi ddim yn fryn enfawr ond mae hi'n sefyll ar ochr gorllewinol ucheldir ardal y peak, ac felly mae'r golygfeydd ar draws tir gwastad Swydd Caer yn drawiadol. Pan mae'r tywydd yn ddigon clir mae hi'n bosib gweld Moel Famau ar y gorwel a mynyddoedd eraill gogledd Ddwyrain Cymru. Yn anffodus doedd hi ddim digon clir ar Ddydd Sadwrn i weld Cymru ond wnaethon ni weld Jodrell Bank, y telesgop radio enwog ar y tir gwastad tu draw i Macclesfield.
Roedd hi'n waith caled cerdded i fynni’r bryn ond cawson ni seibiant ar y copa a digon o amser i gael paned a rhywbeth i fwyta. Roedd hi'n ddiwrnod oer iawn efo ia ar raeadr y nentydd a phyllau dwr a hyd yn oed pibonwy yn hongian oddi wrth blanhigion rhedyn oedd yn tyfu mewn mannau cysgodol. Wedyn aethon ni ymlaen ar draws rhostir mawnog i goedwig Macclesfield ac wedyn yn ôl lawr y cwm i'r man cychwyn. Wedyn wnaethon ni deithio'n ôl ar draws y Peak i siop llyfrau Scarthin yn Cromford ble cawson ni ginio bach hwyr, sef cawl cartrefol a bara cartrefol hyfryd. Diwrnod gwych.

Sunday 23 January 2011

Pererindod i Eglwys Lud

Aeth Marilyn a fi am dro ddoe, sef Bore Dydd Sadwrn, draw i'r Roches, ger Leek er mwyn i ni ymweld ag Eglwys Lud. Dydy Eglwys Lud dim yn Eglwys go iawn ond yn nodwedd yn y dirwedd ger y Roaches. Hollt yn y tir yw Eglwys Lud, rhyw fath o dwll, sef ceunant neu hafn yn y tir, sy wedi cael ei achosi miloedd o flynyddoedd yn ôl , efallai gan ddaeargryn anferthol.


Ond y dyddiau yma, hollt dwfn yn y daer yw hi, tua dau gan lath o hyd a rhwng dwy lath a phump llath ar draws yn dibynnu ble yn union yr ydych chi'n sefyll o fewn yr 'Eglwys'. Mae'r ddwy ochr wedi gorchuddio gan fwsogl, rhedyn, a phlanhigion. Uwchben y cyfan mae coed yn tyfu. Yn y gaeaf mae'r golau yn cyrraedd gwaelod y twll, ond yn ystod yr haf efo dail ar y coed mae hi'n dywyll iawn.
Er mwyn cyrraedd Eglwys Lud roedd rhaid i ni yrru ar hyd lôn gul cefn gwlad er mwyn cyrraedd Roach End. Wedyn wnaethon ni dechrau cerdded ar hyd rhostir ble oedd gwynt main o'r gogledd ddwyrain yn chwythu. Roedd hi'n sych ond yn oer efo niwl trwchus yn cuddio Swydd Caer a Chymru. I'r Gogledd roedd un o dyrau amddiffyniad rhyfel niwclear yn sefyll yng nghanol y niwl yn edrych fel Twr y Dewin Sauron o'r stori Arglwydd y Modrwyau gan Tolkein. Yn aml yn y gorffennol dw i wedi bod yn gallu gweld mynyddoedd Gogledd Ddwyrain Cymru o'r Roaches, Moel Famau er enghraifft, ond ar fore Sadwrn dim ond niwl a chymyl is oedd o fewn golwg. Ar ôl cerdded ar hyn y crib mae rhaid i chi droi i'r dwyrain a disgyn i lawr allt i mewn i goedwig a dilyn llwybr mwdlyd cyn cyrraedd mynediad i'r 'Eglwys'. Wrth i ni ddisgyn i lawr y grisiau roeddwn weld pibonwy uwch ein pennau ar y creigiau a phlanhigion. Yn ôl y sôn roedd 'Eglwys' Lud yn cael ei defnyddio yn y 17eg a 18fed canrif gan yr anghydffurfwyr cynnar er mwyn addoli cyn iddyn nhw gael addoli yn gyfreithlon. Doedd neb yn addoli yno ar ddydd Sadwrn!
Ar ôl ymweld â'r 'Eglwys' cerddon ni'n ôl i'r car ac wedyn i gaffi lleol am ginio poeth i gynhesu ar ôl oerfel y bore!


Sunday 16 January 2011

Gweithgareddau'r penwythnos


Mi ges i benwythnos eitha' da'r penwythnos yma. Ar nos Wener wnaethon ni ymlacio o blaen y teledu i wylio'r ffilm Avatar. Rhaid dweud bod y plot yn debyg i nofel ffuglen gwyddoniaeth 'The Word for world is Forest' gan Ursula Leguin. Hefyd roedd rhai elfennau yn atgoffa fi o ffilmiau megis 'Apocalyps Nawr' a 'Dances with Wolves'. Ar y cyfan roedd hi'n adloniant da ond dim yn ffilm efo ystyr dyfwn iawn.
Ar Fore Sadwrn cawson y cyntaf o'r gweithdy Cymraeg Derby eleni. Roedd 11 o bobl yno gan gynnwys tiwtor Elin Merriman. Mae'n debyg bod digon o alw am weithdy o'r fath, o leiaf unwaith y Mis.
Yn ystod y prynhawn mi wnes i ddefnyddio'r We a safle we Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg i wrando yn fyw i Gyfarfod y Gymdeithas ym Mhlanau Ffestiniog yn erbyn cwtogiadau'r Llywodraeth, roedd 4 o bobl yn siarad ar y llwyfan a wnaeth plant o ysgol leol yn canu. Roedd hi'n ddiddorol cael gweld rhywbeth mor gymdeithasol yn fyw ar y we o Gymru.
Gyda'r Nos aeth Marilyn a fi draw i Gaffi Siop Llyfrau Scarthin yn Cromford er mwyn gwrando ar sgwrs gan Evan Rutherford mewn digwyddiad achlysurol o'r enw Cafe Philosophique. Mae'r rhain wedi dod o Ffrainc yn wreiddiol, yn y bôn maen nhw'n 'seminar' ble mae rhywun yn trafod pwnc i nifer bach o bobl, ac wedyn cael trafodaeth, diodydd a bwyd. Heno dyn ni'n gobeithio mynd i sesiwn alawon gwerin yn Nhafarn 'Y Cliff' yng Nghrich.