Monday 2 December 2013

Defnydd darllen 2013

Mae diwedd y flwyddyn yn agosáu, ac yr ydw i wedi bod yn edrych nôl dros y llyfrau yr ydw wedi darllen eleni. Mae 'r rhestr yn cynnwys nofelau megis Cyw Haul, Cyw Dol, Cracio, Cyw Melyn y Fall, Trafaelog, Tocyn i'r Nefoedd. Llyfrau gwleidyddol megis I'r Gad, Pa Beth aethoch chi allan i'w achub, The Phenomenon of Welshness, a chofiannau megis Cofio Eurig , Hanes Gwanes a Valentine ar ben hynny dw i dal i ddarllen y Cymro yn wythnosol, Barn yn fisol ac ambell gopi o Golwg, Y Pentan a'r Herald Cymraeg diolch i'm ffrind yn y gogledd sy'n hel tudalennau Yr Herald Cymraeg ata i drwy'r post brenhinol. Mae'r Cymro a'r Herald Cymraeg yn cael ei basio ymlaen at ddarllenwyr eraill yn yr ardal yma. Gobeithio bydd yr hen Santa yn dod ac ambell docyn llyfr i mi fel anrheg Nadolig ac mi fydd y prosiect darllen yn mynd yn ei flaen yn ystod 2014!

Wednesday 20 November 2013

Llais Y Derwent: papur bro i ddysgwyr a Chymry alltud canolbarth Lloegr

Mae'r rhifyn Gaeaf Llais y Derwent bellach wedi cael ei gyhoeddi. Cafodd y papur ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2005, ac ers hynny mae nifer go da o rifau wedi ymddangos. I ddechrau dim ond 4 tudalen oedd gan y 'Llais', erbyn hyn mae 'r papur wedi tyfu i 6 o dudalen. Mae'r bobl sy'n ysgrifennu i'r 'Llais' yn byw ar draws canolbarth Lloegr o Norfolk i Sir Henffordd, ac yn cynnwys pobl sy'n byw yn Nottingham, Derby a nifer o'r trefi a phentrefi. Os oes gynnoch chi rywbeth i'w dweud neu rywbeth i hysbysebu gadewch i ni wybod! Mae nifer o'r hen gopïau ar gael ar y we fel ffeiliau 'pdf' ar wefan Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby, gwelir www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com

Sunday 27 October 2013

Gwirfoddolwyr Canolbarth Lloegr dros yr iaith Gymraeg


Dros gyfnod eitha’ hir mae grwpiau dysgwyr canolbarth Lloegr wedi derbyn dipyn o sylw mewn cylchgronau ac ar radio/teledu yng Nghymru. Mae'na nifer o wirfoddolwyr selog tu ôl i'r gwaith sy'n cael ei wneud.
Mae dau ddosbarth Cymraeg wythnosol sy'n cael ei drefnu yn Belper yn ganlyniad i waith caled gan Glen Mulliner. Bore Sul y penwythnos yma roedd Glen yn rhedeg stondin y dosbarth Cymraeg mewn diwrnod agored yng nghanolfan Strutt Belper.

Unwaith y mis mae'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg yn cael ei gynnal yn Nottingham. Mae'r bore coffi yn llwyddiannus iawn efo 10-15 o bobl yn dod fel arfer, ond y gŵr sy tu ôl i ffyniant y digwyddiad misol yw Viv Harris, oherwydd Viv Harris, gynt o Ynys y Bwl, sy'n trefnu rota misol y boreau coffi.
Mae'r grŵp ymarfer wythnosol sy'n cael ei rhedeg yn Derby gan DWLC yn gyfrifoldeb Allan Child, sy'n gofalu bod y canolfan ar agor, bod te/coffi a bisgedi ar gael, a hefyd, pan fo angen bod cyflenwad newydd o lyfrau Cymraeg ar gael i'r grŵp cael darllen.
Unwaith y mis yn Nhafarn the Assembly Rooms, Solihul mae'na nifer o ddysgwyr SSIW yn ymgynnull o dan arweiniad Cymro alltud o Gaerdydd, sef Aled James.
Steve Clement yw'r enw'r gŵr bonheddig sy'n arwain dosbarth Cymraeg yr U3A yn Sheffield, ac Eileen Walker sy tu ôl i Glwb Clebran Bradford. Hir oes i ymdrechion y bobl weithgar yma. Diolch iddynt.

Sunday 20 October 2013

Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2013















Cynhaliwyd Ysgol Cymraeg Undydd Derby ar ddydd Sadwrn 19 o Hydref yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yng nghanol dinas Derby. Daeth 35 o bobl at ei gilydd mewn tri dosbarth i ddysgu, siarad a mwynhau iaith a diwylliant Cymru. Cafodd dosbarth y dysgwyr profiadol a Chymry alltud amrywiol cyflwyniadau

PowerPoint i'w diddani, yn dechrau efo darlith am hen draddodiadau Cymreig megis Y Fari Llwyd gan Aled James o Goventry (gynt o Gaerdydd) ac wedyn cyflwyniad tu hwnt o ddiddorol gan Dr Katie Hemer o Brifysgol Sheffield (gynt o Hen Golwyn). Roedd Dr Hemer yn siarad am ei gwaith fel archeolegydd biomolecwlar. Hoffwn ddiolch hefyd i Martin Coleman am gyflwyniad am waith adran hawliau tramwyfa llwybrau cyhoeddus Cyngor Sir Swydd Derby. Roedd cyflwyniad fi yn son am deithiau Gymdeithas Edward Llwyd. Eileen Walker o
Bradford oedd tiwtor ar gyfer y grŵp canolradd. Cawson nhw amrwymau o gemau ac ymarferion iaith tra oedd Elin Merriman yn gofalu am anghenion dysgu grŵp o ddechreuwyr pur. Diolch yn fawr i'r athrawon, siaradwyr a gwirfoddolwyr a hefyd i 'Criw'r Gegin' a wnaeth gwaith caled yn darparu diodydd a chinio blasus ar gyfer y diwrnod. Mi fydd rhaglen Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby 2013 yn parhau trwy weddill y flwyddyn efo'r cyfarfod wythnosol am 9.30 ar fore Dydd Mawrth a'r gweithdy Dydd Sadwrn misol yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar Stryd Sant Helen, Derby. Mae'na groeso i bawb boed dysgwyr neu Gymry alltud ac ymwelwyr o'r hen wlad. Mae manylion ein grŵp ar gael ar wefan www.derbywelshlearberscircle.blogspot.com

Saturday 5 October 2013

Taith Cerdded a Chymru ar y gorwel

Mi ges i ddiwrnod i'r brenin heddiw pan es i ar daith cerdded o amgylch bryn lleol (Shuttingsloe) yn ardal y Peak efo fy nghyfaill Martin, y dysgwr rhugl o Clay Cross. Wnaethon ni ddechrau o ardal o'r enw Wildboarclough cyn cyrraedd gwaelod y bryn a cherdded i fyny'r allt serth i gyrraedd y copa. Roedd hi'n fore bendigedig ac yr oedd nifer o bobl eraill wedi cyrraedd pen y bryn o'n blaen ni. Er gwaethaf yr holl law sy wedi disgyn yr wythnos yma, roedd yr awyr yn las ac roedd dipyn o awel ffres. Ar ôl cyrraedd y copa roedd 'na wobr hael, sef golygfeydd trawiadol iawn o amgylch y bryn. Yn lleol yr oedden ni'n gallu gweld rhostiroedd Swydd Stafford a Swydd Caer, ond i'r gorllewin roedd hi'n bosib gweld y Wrekin, y Long Mynd, Caer Caradog, bryniau dyffryn Clwyd gan gynnwys Moel Famau. Ond beth oedd hyd yn oed yn well, tu draw i fryniau dyffryn Clwyd roedd hi'n bosib gweld, yn niwlog ar y gorwel, mynyddoedd Yr Eryri, sef y Carneddau. Yn ôl y map arolwg Ordnans, mae hi'n bellter o 70-80 milltir. Dyma dro cyntaf yn fy myw fy mod i weld cyn bell. Fallai bod yr amser wedi dod am ymweliad i ardal Wildboarclough gan aelodau Cymdeithas Edward Llwyd? Mi fydd Martin neu finnau digon hapus i ddangos y gornel fach brydferth o ardal y Peak i'r aelodau.

Monday 30 September 2013

Gwrthod ildio ers Pont Trefechan

Yr ydyn ni newydd ddychwelyd ar ôl treulio’r penwythnos yn Aberystwyth. Yr oeddwn i yno er mwyn mynychu cyfarfod pwyllgor, ond ar wahân i'r ddyletswydd hon mi ges i ddigon o amser i wneud pethau fel pori trwy’r siopau llyfrau a cherdded y traethau ac ymweld â safleoedd y dre megis Constitution Hill a safle

protest cyntaf hanesyddol Cymdeithas yr iaith sef Pont Trefechan. Fel arfer yr oedden ni'n aros yn Yr Hafod, sef sefydliad Gwely a Brecwast sy wedi'i leoli ar South Marine Terrace, dim yn bell o'r harbor. Hoffwn ddiolch i John Evans am ei groeso cynnes arferol, ac yn enwedig am y brecwast enfawr blasus! Mae hi wastad yn braf cael aros yn yr Hafod ac ymlacio wrth edrych dros draeth y de at y môr. Roedd y dref yn brysur iawn efo wythnos y Glas ac roedd sawl parti swnllyd ar y traeth trwy'r nos, ond doedd neb yn camfihafio go iawn. Ar y cyfan cawson ni

amser gwych, a thywydd braf. Ar y noson gyntaf cawson ni bryd o fwyd derbyniol yn Nhŷ Bwyta cadwyn sy wedi lleoli yn yr Hen Orsaf Trên. Roedd fy annwyl gymar yn hapus trwy fore dydd Sadwrn yn siopau am ddillad, felly fel chwedl y Sais cafodd pawb amser da. Ar y Sul yr oedd y daith adref trwy fynyddoedd canolbarth Cymru yn hudolus efo golygfeydd trawiadol o Gadair Idris wrth i ni stopio am seibiant yn Nolgellau, ac wrth i ni deithio ar hyd Llyn Tegid roedd y dŵr cyn glased â'r môr.

Sunday 8 September 2013

Dydd Sul yn ardal y Peak

Cawson ni ddechrau hydrefol i'r diwrnod efo niwl ar draws dyffryn Derwent, ond roedd hi'n ddiwrnod braf er gwaetha hynny. Yn hwyr yn y bore aethon ni draw i Wildboarclough ger Buxton i ddringo bryn o'r enw

'Shuttingsloe' roedd golygfa fendigedig o'r copa, sef bryniau Swydd Amwythig i'r de (Y Wrekin, Long Mynd a Chaer Caradog) a hefyd i'r gorllewin bryniau dyffryn Clwyd gan gynnwys Moel Famau ar y gorwel.

Friday 6 September 2013

Bore Coffi Southwell 6ed o Fedi

Mi wnes i deithio draw i Southwell unwaith eto heddiw. Tro diweddaf oedd flwyddyn yn ôl, ond y tro'ma roedd y tywydd yn dra gwahanol. Y llynedd roedd hi'n boeth ac yn heulog, ond cwmwl a glaw cawson ni heddiw. Ond er bod y tywydd yn hydrefol roedd y croeso a gafodd gan Margo Dafis yn wresog a hael. Y tro'ma roedd 16 ohonom gan gynnwys John o Kings Lynn a Martin o Glay Cross. Cawson yr ymgom arferol a hefyd y 'pregeth' bach gan Viv ar ddiwedd y sesiwn. Ar ôl digon o goffi, cacenni a sgwrs aeth Martin, John a finnau am wibdaith o amgylch Southwell Minster cyn cael cinio blasus yng nghaffi'r Minster.

Sunday 18 August 2013

Penwythnos yn Swydd Derby



Penwythnos yn Swydd Derby Er gwaetha rhagolygon y tywydd penderfynais fynd am dro bore dydd Sadwrn. I ddechrau mi es i i ben Alport Hill i edrych i'r gorllewin ac i gerdded o amgylch y safle. Roedd hi'n wyntog iawn wrth feddwl taw mis Awst yw hi, mi ges i gip dros y dyffryn ond doedd hi ddim yn bosib gweld y Wrekin na'r Long Mynd. Pan ddaeth cawod drom o law wnes i gilio i'r gar i wrando ar Radio Cymru ac i ddarllen cylchgronau’r penwythnos. Wedyn mi es i draw i Middleton Top i gerdded ar draws y rhostir yno sy'n edrych allan dros olygfeydd trawiadol i'r gogledd, dwyrain de a gorllewin. Doedd prin enaid byw ar y tir uchel ond diogon o ddefaid. Ar ran y prosiect darllen, ar hyn o bryd dw i hanner ffordd trwy lyfr gan Arwel Little am Lewis Valentine. Cyfrol hynod o ddiddorol. Gyda'r nos mi ges i dipyn o hwyl ar ôl derbyn gwahoddiad yn gynharach yn yr wythnos i siarad fel gŵr gwadd i Glwb Carafán Cymru yn ystod eu hymweliad i ardal Tansley. Roedd 28 yn bresennol yn nhafarn y Royal Oak, Tansley. Ar ôl cinio blasus yr oeddwn i'n gallu rhoi darlun iddyn nhw o'r holl bethau Cymraeg a Chymreig sy'n mynd ymlaen yn Derby a Nottingham, yn enwedig gweithgareddau’r Cylch Dysgwyr Derby. Wrth gwrs mae'r 'byd' Cymraeg yn un fach, ac roedd sawl un o'r criw efo cysylltiadau a Chymry alltud y canolbarth. Yr oedd Dydd Sul lawer lai cyffrous efo gwaith cynnal a chadw yn galw, sef ailbeintio to concrid y sied bricsen allanol.

Sunday 11 August 2013

Plas Penucha, Sodom a'r Eisteddfod

Yr ydw i newydd ddychwelyd ar ôl treulio saith noson yn ardal Caerwys. Oeddwn aros mewn bwthyn ym Mhlas Penucha, Caerwys ac yn teithio o amgylch y gogledd yn ymweld â ffrindiau ac wrth gwrs maes y brifwyl.

Wrth gyrraedd y plas wnaethon ni basio arwydd ffordd a oedd yn anelu at bentref o'r enw Sodom! Diolch byth doedd dim son Gomorah!
Plas Pen Ucha’ oedd cartref un o enwogion yr ardal sef Thomas Jones o Ddinbych 1756 -1820 emynydd, awdur a golygydd Y Drysorfa. Mae perchennog presennol Plas Pen Ucha’ yn ddisgynnydd iddo fo. Ar ôl cyrraedd Caerwys ar y prynhawn Sadwrn aethon ni i weld Dinbych ac i grwydro o amgylch y dref hanesyddol. Roedd yr olygfa o'r lawnt o flaen y castell yn wych ac yr oedd pafiliwn pinc yr Eisteddfod i'w weld ar ochr draw'r dyffryn. Cawson ni gip ar dafarn y Guildhall, lleoliad

sawl un o gigiau Cymdeithas yr iaith.
Ar y Dydd Sul aethon ni draw i Sir Fôn i weld ein ffrindiau Marianne a Jerry am ginio. Roedd hi'n glawio felly ar ôl pryd o fwyd blasus aethon ni i Oriel Môn yn Llangefni i weld arddangosfa am Kyffin Williams yn Fenis. Diddorol oedd gweld llun enfawr o Fenis gan Canaletto a sawl llun arall ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Ar y Dydd Llun aethon ni i oriel Celf a chrefft Rhuthun i weld yr arddangosfa o gelf gyfoes wedi'i ysbrydoli gan Edward Pugh arlunydd ac awdur Cambria Depicta. Roedden ni hefyd yn cwrdd â'n ffrindiau Martin a Rebeca o ardal Chesterfield. Mae Martin wedi pasio ei arholiad canolradd Cymraeg fel ail iaith i oedolion. Llongyfarchiadau mawr iddo

fo. Nos Lun oedd ein hymweliad cyntaf i'r maes. Yr oedden ni wedi prynu tocynnau i weld y Noson Lawen efo nifer fawr o enwogion y byd canu Cymraeg megis Hogia'r Wyddfa, Trebor Edwards a Thara Bethan.
Yr oeddwn i'n awyddus i fynd ar y maes y diwrnod wedyn. Roedd gen i raglen lawn o ddarlithoedd, cystadlaethau a chyfarfodydd yr oeddwn i wedi nodi ar Raglen y Dydd.
Y peth cyntaf oedd sesiwn sgwrs ddiddorol yn y Babell Len yng nghwmni 5 o fardd plant, sef Myrddin Ap Dafydd, Gwyneth Glyn, Dewi Puws, Eirug Salisbury ac Aneirin Caradog. Wedyn mi es i draw i rai o ragbrofion delyn yn y Pagoda. Yn ystod pnawn Lun mi es i i wrando ar sgwrs rhwng Mike Parker, (awdur Neighbours from Hell) a Simon Thirsk (awdur Not Quite white). Roedd Bethan Gwanas yn cadeirio'r sgwrs ddiddorol.
Uchel bwnt dydd llun oedd parti SSIW ger y llwyfan perfformio bach. Roedd tua 20 aelodau a chefnogwyr yn mwynhau diodydd a sgwrs yn yr heulwen. Diolch pawb!
Y diwrnod wedyn, Dydd Mawrth, mi aethon ni i weld sawl cystadleuaeth yn y Pafiliwn megis y Rhuban Glas
Offerynnol ( Delyn, Soddgrwth a phiano). Wedyn cystadleuaeth monolog ac yna Unawd Gymraeg. Yn syth ar ôl cinio ym Maes D mi es i draw i'r Neuadd Dawns i wrando ar sesiwn y Grŵp Gorchwyl a gorffen sy wedi ei sefydlu gan y llywodraeth i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod. Mi ges i gyfle i godi sylw am bwysigrwydd yr Eisteddfod fel modd i gymathu dysgwyr yr iaith i'r byd Cymraeg. Wedyn mi es i ymlaen i weld Lansiad 'Ffrindiaith' sef cynllun i ddod a siaradwyr a dysgwyr at ei gilydd.
Roedd Dydd Iau'r diwrnod llawn olaf i ni ar y maes. Mi wnaethon ni gwrdd â Chymry Nottingham ar y maes, sef Steffan, Gwynne, Viv a Howell a'i wraig a chwaer. Aeth y dynion i weld darlith goffa Hywel Teifi Edwards. Roedd Meredid Hopwood yn trafod Waldo Williams. Gwych o beth.
Pnawn iau mi es i i weld Corau Merched yn y pafiliwn ac wedyn draw i ddigwyddiad sef Derbyniad Undeb Cymru a'r Byd. Roedd Rhian Bebb yn perfformio ar y delyn dair rhes ac roedd lawer o Gymry o bedwar ban byd.
Ces i gyfle i wrando dipyn ar Dafydd Iwan yn perfformio ym Maes D cyn mynd draw i gwrdd â'n wraig, ffrindiau Martin, Rebeca a William 'Co-op' gynt o Flaenau Ffestiniog ond bellach o Lundain. Cawson ni ambell gwydraidd o win coch ac roedd pawb yn mwynhau.
Ar y dydd Gwener cawson dipyn o frêc o'r brifwyl trwy fynd i Ros a Llandudno i weld y môr a'i donnau. Cyn dod yn ôl i'r maes ar gyfer cystadlaethau’r nos. Welon ni gorau cymysg ( Côr CF1, Côrdydd, ac eraill) wedyn corau yn cystadlu yn canu caneuon gwerin a hefyd cystadleuaeth corau adrodd. Wnaethon ni benderfynu gadael y pafiliwn i weld cyngerdd olaf y band enwog Edward H Dafis. Rhaid oedd pum mil o bobl yn gwrando wrth y brif lwyfan perfformio.
Felly cawson ni wythnos wych, ac yr oedden ni'n ddigon hapus i droi am adref bore dydd Sadwrn.

Monday 15 July 2013

Diwrnod braf yn Belper


Cynhaliwyd Gŵyl Bwyd Belper 2013 dros y penwythnos diweddar. Roedd y tywydd yn hyfryd ac roedd nifer o ddigwyddiadau yn digwydd ochr wrth ochr i'r Ŵyl. Ar nos Sadwrn roedd cyngerdd rhad ac am ddim yn Eglwys Iesu Grist. Daeth dau gôr, sef Côr Meibion Chapel-en-le-frith a Chôr Meibion Derwent, at ei gilydd i ddiddani’r gynulleidfa. Wnaeth Côr Chapel-en-le-frith hyd yn oed canu Ar hyd y nos, efo'r bennod gyntaf yn y Gymraeg.


Ar y dydd Sul cafodd Stryd Fawr Belper ei gau, ac roedd y lle yn llawn stondinau bwyd a chynnyrch lleol a sawl mil o bobl.

Roedd y gerddi yng nghanol y dref wedi meddiannu gan stondinau megis siop 'Sound Bites' o Derby sy'n gwerthu bwydydd figan a llysieuol. Hefyd roedd  llwyfan perfformio yng nghanol y gerddi, a llwyfan arall y tu ôl i dafarn Yr Alarch Du.

Felly cawson ni bwyd blasus a hefyd cryn dipyn o flas ar y gerddoriaeth byw a oedd yn cael ei berfformio. Mi faswn i roi marciau deg allan o ddeg i'r grŵp 'Jiggery Folkery' a oedd yn perfformio

cymysgydd o ganeuon gwerin a hen ffefrynnau megis can Iwan MacColl 'Dirty Old Town'.
Diolch i'r trefnydd ac i bawb a oedd yn cynnal stondinau neu yn perfformio am ddiwrnod difyr iawn.

Friday 12 July 2013

Traffig Trwm Dydd Gwener


Traffig trwm dydd Gwener. Mae hi wedi bod yn boeth iawn heddiw, a dim lawer o draffig ar yr heol sy'n arwain i fyny’r allt tuag at ein tŷ ni, ond y bora 'ma welais gwmwl mawr o fwg du yn dod agosâ at ein cartref, a dyna beth oedd yn ei hachosi, sef tri pheiriant ager yn straffaglu i fyny’r bryn.




Saturday 6 July 2013

Wythnos braf yn yr Ysgol Haf


Yr ydw i newydd ddychwelyd o Gymru ar ôl treulio wythnos mewn wersyllfa ar gyrion Dolgellau.
Yr oeddwn i'n aros yn Nolgellau er mwyn mynd i'r Ysgol Haf yno, sy'n cael ei chynnal yng Ngholeg Meirion Dwyfor.
Roedd tua 50 o bobl ar y cwrs gan gynnwys nifer o wynebau cyfarwydd. Yr oedd dim ond 4 ohonon ni yn y dosbarth Meistroli, ond cawson ni digon i'w wneud efo sgyrsiau, ymarferion a chymorth dawnus oddi wrth y tiwtor Sandra.
Yr oeddwn i'n aros mewn pabell ar wersyllfa Dolgun Uchaf ger y little Chef. Roedd fy nghyfaill Martin wedi cyrraedd ychydig o fy mlaen i, felly ces i help llaw wrth godi fy mhabell pnawn dydd Sul (30 Mehefin) yn y glaw.
Wedyn aethon ni i ymweld â dysgwraig lleol (Karen) yn ei ffermdy Ystumgadnaeth ger Llanfachreth. Cawson ni bryd o fwyd blasus (Chilli a bara cartref), roedd hi'n noson hwylus iawn. Mae gŵr a phlant Karen wedi dysgu'r Gymraeg hefyd ac mae mam-yng-nghyfraith Karen hefyd wrthi yn dysgu'r iaith felly roedd y cwrs yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg.

 Y bore wedyn aethon ni i'r Coleg am ddiwrnod cyntaf y cwrs, ac yn y prynhawn aethon ni am dro o amgylch 'Precipace Walk' efo Karen. Crispin a Sarah Hottle, y ferch o Portsmouth a enillodd ar raglen Cariad at Iaith eleni.
Roedd dydd Mawrth yn wlyb iawn, felly gyda'r nos aeth Martin a fi i dafarn y Cross Foxes ar y ffordd i Fachynlleth er mwyn fanteisio ar gyfleuster y dafarn, sef cadeiriau cyfforddus, gwres a thipyn bach o gwrw.
Dydd Mercher ar ôl diwrnod arall ar y cwrs aeth tri ohonon, Ray, Martin a finnau, draw i glwb Golff y Bala ar gyfer noson Gwylwyr S4C. Roedd tua 100 o bobl yn bresennol a chawson ni noson ddifyr yn trafod rhaglenni S4C, yn gwrando ar berfformiad gwych gan Gôr Merched Bala a chawson ambell banad, brechdan a theisen. Roedd y noson yn brofiad gwych i 'r 3 ohonon ni fel dysgwyr! Diolch yn fawr i S4C am y cyfle!
Ar ddydd Iau aeth Martin a fi draw i'r Abermo i weld y môr ac i siopau. Mi wnes i brynu copi ail-law o'r nofel Tan ar y Comin gan T Llew Jones. Bob dydd yn ystod yr wythnos yr oedd stondin llyfrau yn y Coleg efo Gwynne, Siop llyfrau Awel Meirion. Mi wnes i brynu nofel a llyfr am yr ieithoedd Celtaidd.
Roedd digon o amser sbâr i wneud cryn dipyn o ddarllen gan gynnwys Golwg, y nofel Blasu, ac ambell peth lleol megis papur bro Y Cyfnod.
Yn ystod nos Wener aethon ni draw i Faentwrog i ymweld â'r Oakley Arms ac i gwrdd â Karen a dysgwyr eraill. Cawson ni sgwrs ddifyr efo 4 o bobl o Ben Llyn hefyd.
Bore dydd Sadwrn, ar ôl codi yn gynnar mi wes i adael am 8 o'r gloch. Mi wnes i bicio i mewn i siop Awen Meirion yn y Bala i brynu anrheg i'n wraig annwyl, wedyn mi wnes i ymweld â dysgwyr yn y sesiwn Sadwrn Siarad yng nghanolfan garddio Bellis yn Holt.
Roedd hi'n boeth iawn ar y daith yn ôl i Belper a bellach dwi wedi blino yn llwyr, ond ces i goblyn o wythnos draw yng Nghymru fach! Diolch i Sandra'r tiwtor, ac i'r trefnydd a thiwtoriaid eraill.

Sunday 23 June 2013

Pori mewn siopau elusennol.



Dw i newydd ddychwelyd i Belper ar ôl treulio wythnos yng Nghymru fach. Ar wahân i fwynhau ambell ymweliad i drefi megis Porthmadog, Pwllheli a Chriccieth, roedd digon o amser i ni ddringo Tre'r Ceiri ac i ymweld â Nant Gwrtheyrn, ac i ymweld â Gwinllan Pant Du ger y Groeslon ar gyfer pryd o fwyd efo Nora Jones o Dalysarn. Diolch Nora!


Ond roedd hi'n braf hefyd i gael y cyfle i bori silffoedd siopau elusennol yn chwilota am lyfrau Cymraeg ail law. Felly wrth ddod adref i Belper roedd fy magiau yn drwm. Roedd ambell lyfr newydd sbon sef y nofel Blasu (wedi prynu o Balas Print, Caernarfon) a 'Rhint y Gelaets a'r Grug' (wedi prynu o siop Llen Llyn, Pwllheli), ond y rhan mwyaf oedd yn ail law megis Cofio Eirug, gol. Emyr Llewelyn Gruffudd, Symudliw gan Annes Glynn, Cymru ar Werth gan Penri Jones, Dim Heddwch gan Lyn Ebenezer, Y llosgi gan Robat Gruffudd, Rhwng Dau Fyd gan Bethan Phillips, Valentine gan Arwel Vittle. Roedd y prisiau yn amrywio o 75c i £2 ar gyfer y llyfrau ail law ac wrth gwrs mi wnes i dalu'r pris llawn ar gyfer y ddau lyfr newydd sbon.

Roedd hi'n braf hefyd cael y cyfle i ddarllen cylchgronau yn boeth o'r wasg wrth iddyn nhw gael ei gyhoeddi. Bellach mae gen i ddigon o ddefnydd darllen am 3 mis!

Sunday 12 May 2013

Ymwelydd o China

Cawson ni weithdy diddorol iawn ddoe. Daeth dysgwr newydd sy'n byw yn Leicester. Mae Edward Yi He wedi byw yn dde Cymru am 5 mlynedd yn gweithio ym Mhorth Talbot cyn symud i Leicester. Wnaeth o ddysgu'r Gymraeg pan oedd o'n byw yng Nghymru. Chwarae teg i Edward mae o'n siarad yn dda iawn. Cawson ni sgwrs ddifyr yn ystod y gweithdy am y Wasg Cymraeg.

Ar ôl y Gweithdy mi es i am dro o amgylch Derby efo Martin (dysgwr o Clay Cross) cyn mynd draw i Nottingham ar gyfer y prynhawn. Yr oedden ni wedi cael gwahoddiad i gartref Viv Harris sy'n byw yn West Bridgford i chware Scrabble Cymraeg. Dydd llawn o siarad Cymraeg.


Sunday 14 April 2013

Gŵyl Canu Gwerin Hairpin Hullabaloo


Mi ges i amser braf ddoe, yn y bore cawson ni ein gweithdy Cymraeg misol, ond roedd hi'n dipyn o siom bod dim ond pedwar oedd yno. Mae'n debyg bod un person oedd wedi dod o Sheffield ond wedyn methodd dod o hyd i ni.
    Yn y prynhawn mi aeth Marilyn a fi i Ŵyl Canu Gwerin yng Nghanolfan Celf y Fleet, Belper i weld grwpiau megis 'Mills a Chimneys', 'Pilgrims Progress' a 'Jez Lowe a'r Bad Pennies'.


Roedd Jez Lowe a'i band yn arbennig o dda. Yn perfformio sawl cân o'r 80au fel 'Coal Town Days', cân a oedd yn ymateb i ymosod llwyodraeth Thatcher ar y Glowyr ac undebau. Roedd cytgan y cân yn drawiadol ac yn dweud cyfrolau. 'Away they're liars and they're cheats!' ymateb gonest sy hefyd  yn cael eu mynegi am Thatcher yn y dyddiau ers ei marwolaeth hi.
   Mae Jez Lowe wedi sgwennu nifer fawr o ganeuon gwych yn son am y diwydiant glo, caneuon fel 'Black diamonds' a 'Small Coals'.
   Does gan y papurau Llundeinig, ac arweinyddiaeth y pleidiau Gwleidyddol mawr yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, dim clem sut effaith cafodd newidiadau Llwyodraeth Thatcher ar ardaloedd glo fel y Cymoedd, Swydd Nottingham, Swydd Efrog, Swydd Durham, yr Alban. Hefyd does ganddynt ddim syniad am yr effaith drwg ar gymunedau a chymdeithas oedd cael gwared mor gyflym ar hen ddiwydiannau dur a haearn. Canlyniad eu polisïau twp a hunanol yw tranc y wlad. Does ganddynt ddim syniad a dydyn nhw dim yn malu dim. Rhag eu cywilydd.

Friday 5 April 2013

Gwynt traed y meirw

Mi ges i ( a'r annwyl wraig) daith cerdded bleserus o amgylch cronfa dwr Carsington ar ddydd Gwener y Groglith mewn cwmni ein ffrind Colin. Roedd gwynt traed y meirw yn chwythu o'r dwyrain ond roedd digon o fywyd gwyllt i'w gweld ar y twr a hyd yn oed o dan gwt gwylio'r adar lle oedd llygoden fawr yn m
anteisio ar y bwyd adar i ennill ei bara menyn. Wnaethon ni gerdded ar draw'r argae yn nannedd y gwynt ac roedd digon o olion y gaeaf i'w gweld, hen luwchfeydd, neu fel maen nhw'n cael eu galw fan hyn yn yr iaith fain 'the bones of winter'.

Ar wahân i'r adar ar y dŵr, roedd ambell gwch hwylio, pobl ddewr yn fy marn i.
Heddiw dw i wedi bod draw yn Nottingham yng nghwmni Cymry alltud Nottingham. Diolch i Dawn Parry Sawdon am y croeso. Roedd 9 ohonon ni'n mwynhau sgwrs, clonc a chaffi. Mae
rhaglen Cymry Nottingham y nis yma'n cynnwys darlith am dwf yr iaith yng Nghaerdydd a chymanfa Ganu rhanbarth dwyrain canolbarth Lloegr. Mae manylion i'w gael ar safle we'r gymdeithas. http://www.cymdeithas.org.uk/

Wednesday 3 April 2013

Ian Duncan Smith A.S. a budd daliadau

Mae Ian Duncan Smith AS wedi datgan yn Nhŷ Cyffredin ei fod o'n gallu goroesi ar 53 o bunnau'r wythnos. Gawn ni weld os ydy o'n fodlon cadw at ei air. Hoffwn i weld cystadleuaeth teledu fatha 'I'm an MP get me out of here'. Dw i'n gallu dychmygu Ian a rhai o'i gyd aelodau toriad yn cystadlu am y wobr. Mi fydd hi'n ddiddorol cael gweld sut fasen nhw'n gwario, beth eu bod nhw'n bwyta. Ond efallai taw rhai o'r cathod tewion yn gallu ymdopi heb fwyta o gwbl am gyfnod hir. Fasa hi'n deg rhoi caniatâd i Weinidog Eric Pickles cymryd rhan? Mond yn gofyn.

Friday 22 March 2013

Gwanwyn gaeafol

Mae hi’n hen ystrydeb bod pobl ym Mhrydain yn hoff iawn o siarad am y tywydd. Mewn gwirionedd does dim syndod am hynny, mae’r tywydd yn yr ynysoedd yma mor gyfnewidiadol. Y llynedd roedd mis Mawrth yn anarferol o gynnes ac eleni mae hi wedi bob yn anarferol o oer.

Y bore ‘ma pan wnes i ddeffro roedd haenen drwchus o eira ar draws y tir ac roedd hi dal i fwrw eira am dipyn o amser. Beth bynnag roedd hi’n ddigon drwg i achosi sefydliadau lleol i ganslo cyfarfodydd di-rif. Felly mi wnes i hefyd aros adref ond diolch i dechnoleg gwybodaeth gyfoes yr o’n i’n gallu gweithio o’m cartref. Mi ges i ddiwrnod digon clyd ond och a gwae does dim math moethusrwydd ar gael i’r bywyd gwyllt ac adar yn yr ardd.

Yn gynnar y bore’ma wnaeth fy annwyl Marilyn llenwi blychau bwyd yr adar yn yr ardd cefn ond erbyn heno mae'r blychau'n hanner wag eto. Mae’r adar wedi bod yn brysur trwy’r dydd yn bwydo a does dim syndod achos maen nhw’n wynebu noson oer, wlyb ac yn angheuol i rai ohonynt. Nid ydw i'r unig un sy’n aros yn eiddgar am y gwanwyn.

Friday 1 March 2013

Hir oes i'r chwyldro


Y bore'ma pan o'n i'n ymweld a Derby wnes i weld dau beth sy wedi tanlinellir holl anghyfiawnder cymdeithasol sy wedi dod yn sgil polisïau llywodraethau’r 35 mlynedd ddiweddaraf.

Yn gyntaf wnes i weld cyn tenant i mi, o'r cyfnod pan o'n i'n gweithio fel Swyddog Tai yn rhoi cymorth i bobl a oedd wedi cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol lleol. Roedd y gŵr bonheddig yma yn dioddef o amwysterau dysgu a ddim wedi ymdopi efo bywyd yn dda iawn nac yn gallu cynnal swydd. Ers i mi ei weld y tro diweddaf, 6 mlynedd yn ôl, mae o bellach wedi colli ei braich de o ganlyniad i gancr. Rŵan mae o'n byw mewn fflat efo cymorth warden preswyl, ond mae'r cyngor lleol ar fin diddymu’r cymorth hyn. Ar ben hynny mae'r gŵr o dan bwysau gan y DWP i fynd yn ôl i'r gwaith. Dyma siampl berffaith o'r gwaith diafoledig sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Codi bwganod am bobl yn cam-drin y gyfundrefn lles ac yn gorfod pobl i drio gweithio sy wir ddim yn gallu gweithio. Yn wir ddyn ni'n ôl i'r gwerthoedd Fictorianaidd oedd y bondigrybwyll Mrs Thatcher yn arddel sef rhagfarnu a cham-drin pobl dlawd, pobl anabl a phobl di-rym pan mae'r cathod tewion yn y ddinas yn Llundain yn bocedi taliadau bonus o filiynau o bunnoedd.

Wedyn wrth i mi gerdded nôl i'm car ar ôl cael fy negeseuon o'r dref mi wnes i weld car efo rhifau plât Cymru arno wedi'i barcio o flaen tŷ digon cyffredin. Wn i ddim os oedd y perchennog yn dod o Gymru neu yn Gymro neu Gymraes Cymraeg ond roedd 'na siawns go dda ei fod o / ei bod hi. Tebyg mae'r car yn berchen i un o filoedd o Gymry sy wedi gorfod gadael Cymru er mwyn cael swyddi. Does dim digon o fuddsoddi mewn ardaloedd tlawd Prydain. Mae'r cymunedau yn edwino a’r iaith yn gadael y fro Cymraeg efo'r bobl ifanc.Dyma agwedd arall o'r anghyfiawnder cymdeithasol sy ar droed ar hyn o bryd. Er gwaethaf holl rethreg am y Gymdeithas Fawr, mae'r rhan fwyaf o'r cyfoeth Brydain yn cael ei ganoli yn Llundain a'r de-ddwyrain o Loegr. Wfft i weddill y wlad, wfft i'r hen ardaloedd diwydiannol boed yng Ngogledd a chanolbarth Lloegr, yr Alban neu Gymru. Dw i'n diogon hen i gofio'r Llwyodraeth Thatcher wrthi yn dinistrio (yn ddi-angen!) yr holl byllau glo a'r diwydiannau trwm. Y cyfiawnhad ar y pryd oedd gwasgu chwyddiant allan o'r system economaidd,  roedd hyn yn bropaganda ac yn gelwydd noeth. Y gwir reswm oedd dial ar y NUM a hefyd i ddinistrio grym economaidd pob rhan arall o'r DU er mwyn rhoi'r holl rym economaidd yn nwylo'r crachach, y ddinas a'r Blaid Tori. Pan ddaeth Tony Blair i rym, roedd y dasg wedi'i wneud ac roedd gormod o ofyn ar y Blaid Llafur i wrth wneud y newidiadau hyn. Roedd cyflogaeth yn dod yn ôl, ond dim ond trwy dyfu maint gwasanaethau a'r biwrocrataidd. Felly nôl at Lywodraeth Tori diafoledig arall efo Cameron ac unwaith eto pobl gyffredin yn cael eu targedu efo polisïau'r toriadau.

Mae Bancwyr wedi achosi'r crisis economaidd ond pobl gyffredin a phobl ar fudd daliadau yn talu'r gost. Mae Cameron yn dweud does dim arian ar ôl. Celwydd noeth eto. Mae digon i hel y fyddin allan i Afghanistan, mae digon i wario 25 billion ar Drident. Beth ddylai'r llywodraeth wneud yn tynnu mas o Drident, tynnu mas o ryfeloedd drud dramor a defnyddio’r pres i gynnal a chadw'r gwasanaethau lles a'r budd daliadau i bobl anabl.

Mi fydd yr hen ddynes Thatcher yn gadael y byd yma cyn bo hir. Piti garw ni fydd ei syniadau hunllefus yn mynd gyda hi.

Monday 18 February 2013

Taith Cerdded yn ardal Caergwrle

Mi ges i benwythnos hir, blinedig ond hwylus draw yn Swydd Caer a Chymru. Pan oeddwn i i ffordd mi ges i'r cyfle i ymuno a'r aelodau Cymdeithas Edward Llwyd ar daith cerdded yn
ardal Caergwrle. Roedd tua 25 o bobl ar y daith ac mi ges i groeso cyfeillgar. Oherwydd yr holl law sy wedidisgyn yr wythnos flaenorol doedd hi ddim yn bosib mynd ar hyd glannau'r afon Alyn fel oedd y cynllun gwreiddiol. Yn lle hynny aethon ni i fyny Castell Caergwrle i ddechrau, ac wedyn ar hyd y bryniau  cyfagos. Roedd hi'n peth dringo ond yr oedd hi'n werth yr ymdrych. Roedd golygfeydd hyfryd o'r ardal a hefyd golygfeydd dros Swydd Caer a Swydd Amwythig i'r de. Roedd hi'n bosib gweld Castell Beeston, a bryniau Peckforton yn Swydd Caer, a hefyd y Wrekin a'r Long Mynd yn Swydd Amwythig. Cawson ni amser cinio ar ben y bryniau ac
wedyn aethon ni yn ôl lawr i'r dyffryn ac ar draws Pont Pynfarch hynafol ar gyfer hen lwybrau masnachol
a oedd yn mynd o Gaergwrle i Gaer. Roedd'na fronfraith yn canu uwchben yr afon ac yn gynharach ar y daith clywon ni cnocell y coed wrth ei waith ond welon ni mohono fo.   Yn anffodus does dim llawer o bobl  erbyn hyn yn ardal Caergwrle sy'n siarad yr hen iaith ond mae'na ambell carrig efo geiriau cymraeg.
Ar y Sul yr oedd digon o amser sbâr er mwyn i mi ymuno a'r Sesiwn Siarad sy'n digwydd bob mis yn lolfa Gwesty Ramada yn Wrecsam. Roedd 12 o bobl y rhan mwyaf yn ddysgwyr lleol efo ambell diwtor a Chymraes. Cawson ni sgwrs difyr a mi fydda i'n mynd yn ôl yn bendant!



Saturday 9 February 2013

Cystadleuaeth Scrabble Dysgwyr Cymraeg Lloegr

Cynhaliwyd Cystadleuaeth Scrabble Dysgwyr Cymraeg a Chymry alltud Cymry yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Derby ar Sadwrn 9 o Chwefror. Daeth timau o de Cymru, Stratford upon Avon, Nottingham, Belper, Derby, Chesterfield ac Alfreton at ei gilydd ar gyfer rownd cyn derfynol â rownd derfynol. Roedd y cystadlu yn frwd ond yn gyfeillgar ac yn y pen draw tîm Cymry Nottingham enillodd. Viv Harris a Dafydd Hughes wnaeth derbyn y wobr gyntaf sef tlws a llyfr am dir ac arfordir Cymru. Aeth yr ail wobr i Sue Davies o Stratford ac aeth y drydedd wobr i Martin Coleman o ardal Chesterfield. Roedd hi'n braf cael bobl o'r canolbarth a De Cymru yma heddiw ac yr ydyn ni'n bwriadu cynnal y gystadleuaeth unwaith eto blwyddyn nesa. Diolch i'r timau am gymryd rhan ac i Bob Neill am greu'r tlws celfydd iawn.
Mae Bob Neill yn arlunydd dawnus iawn sy'n creu lluniau gan ddefnyddio'r dull 'pyrography'. Cafodd Bob ei addysg ym Mangor yn y Coleg Normal cyn gweithio fel athro yn Lloegr. Erbyn hyn mae Bob wedi ymddeol ac yn gweithio fel arlunydd.

Friday 4 January 2013

Blwyddyn Newydd i chi ac i bawb sydd yn y Tŷ!


Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bore Coffi Popeth yn Gymraeg 2013 eu cynnal yn Nhŷ Viv Harris yn West Bridgford, Nottingham bore dydd Gwener 4 o Ionawr. Roedd 9 ohonon ni'n bresennol, nifer parchus wrth feddwl ei bod hi'n mor gynnar yn y flwyddyn. Cawson ni sgwrs fywiog a chyflenwad hael o gacenni a bisgedi. Roedd sawl un yn absennol gwaetha modd, ond gobeithio bydd y niferoedd yn ôl at lefelau arferol tro nesa. Yn y cyfamser diolch yn fawr i Viv am ei groeso mawr.