Sunday 28 September 2008

Haf bach Mihangel

Yr ydw i wedi cael pythefnos diddorol. Penwythnos yn ôl (19eg o Fedi) aeth y wraig a fi i sesiwn yn nhafarn 'Y Barley Mow' ar gyfer y sesiwn nos Wener.
Roedd hi'n wych efo digon o gerddorion fel arfer gan gynnwys pobl yn chwarea fidl, accordion, Melodeon, gitâr, bodhran a chwibanau. Gweler clip fideo. Yn ystod y nos nesa roedd y wraig a finnau'n perfformio efo ein band dawns gwerin, sef 'Tight Squeeze' mewn parti dathlu
pen-blwydd priodas ffrind yn Attenborough. Yn nol yn y gwaith dw i wedi bod yn teithio o gwmpas cefn gwlad a phentrefi Swydd Derby yn ymweld â gwirfoddolwyr sy'n helpu rhedeg cymdeithasau gwirfoddol bychain sy'n gweithredu yn y trydydd sector, gwaith digon dymunol ar y cyfan. Ar ddydd Gwener yr wythnos yma roeddwn i'n paratoi pob math o beth (arwyddion, ffurflenni cofrestru, bwyd, ac yn y blaen) ar gyfer yr Ysgol Undydd Cymraeg Derby.
Eleni roedden ni'n cynnal yr ysgol am y bedwaredd tro. Fel arfer roedd Elin Merriman yn athrawes i'r dechreuwyr pur, tra roedd Eileen Walker yn arwain y dosbarth canolradd. Roedd y dosbarth profiadol yn cael tri sesiwn gwahanol, sef Viv Harris yn son am idiomau Cymraeg, Beti Potter yn siarad am ardal ei magwraeth hi, sef dyffryn Conwy. Gan gynnwys gwirfoddolwyr ac athrawon roedd 33 ohonon ni'n bresennol. Niferoedd digon iachus faswn i'n dweud. Ar ôl cinio aeth y grŵp profiadol i drafod sut i hybu'r Gymraeg ymhlith dysgwyr a Chymry Cymraeg yr ochr yma i Glawdd Offa. Mae'n ymddangos bod'na sawl peth da ar y gweill. Mae'r dosbarthiadau WEA Cymraeg lleol wedi ailddechrau efo dosbarth i ddechreuwyr ac un arall i bobl ganolradd, mae'na si ar led am grŵp gwerthfawrogi barddoniaeth. Mae Elin Merriman yn gobeithio dechrau gweithdai misol dros benwythnosau ar gyfer dysgwyr yr iaith Cymraeg sy'n dysgu ar eu pennau eu hunan neu sy'n methu mynd i ddosbarth nos yn ystod yr wythnos. Hefyd roedd dipyn o drafod am ddechrau cyfarfod cymdeithasol misol mewn tafarndai yn yr ardal ar gyfer dysgwyr profiadol iawn a'r Cymry Cymraeg alltud.

Heddiw es i i gopa 'Alport Height' i ymlacio dipyn cyn paratoi am wythnos arall yn y gwaith. Roedd hi'n glir iawn i'r gogledd ac roeddwn i'n gallu gweld Kinder Scout ar y gorwel, peth braf iawn yw ymlacio ar ben bryn yng nghanol canolbarth Lloegr ar bnawn braf haf bach Mihangel fel heddiw!

Monday 15 September 2008

Pethau Bychain Dewi Sant

Wel dyna ni yn ol ym Melper am sawl blyddyn. Mae hi'n dref digon dymunol pan dydy hi ddim bwrw glaw. Mae'r amser wedi hedfan ers fy mhennod diweddaf, bron iawn fis cyfan i ddweud y gwir. Does dim esgus, dw i ddim wedi bod i ffordd heb son am fynd i Gymru. Ond pethau bychain Dewi Sant wedi cymryd fy amser i gyd, sef gwaith, gwaith tŷ, gwaith garddio ac yn y blaen. Ond mi ddaw haul i'r bryn cyn bo hir gobeithio achos mae gen i benwythnos hir yng Nghymru wedi trefnu, a dwi'n methu aros. Mi fydd hi'n newid o'r gwaith a'r glaw tragwyddol. Mae'na bethau arall ar y gweill hefyd achos dan ni (y wraig a finnau) wedi derbyn gwahoddiad i ddod a'r hen fand cerddoriaeth gwerin allan am dro arall. Roedd y band wedi ymddeol sawl blwyddyn yn ôl ond mae ffrind i ni wedi erfyn arnon ni i berfformio mewn parti dathlu pen-blwydd priodas. Felly roedd rhaid cytuno am un sioe olaf un, ond dw i'n cydymdeimlo efo’r gynulleidfa druan sy'n mynd i wrando ar y fath band, ond os ydyn nhw i gyd wedi meddwi mi fydd popeth yn iawn!
Yn y cyfamser roedd gen i ddigon o amser i fynd am dro bach yn fy nghar i gopa bryn lleol o'r enw Alport Height ac wedyn i hen safle hanesyddol sef 'Middleton Top Engine House'. Roedd digonedd o olygfeydd braf fel ti'n gallu gweld o'r lluniau. Pan on i'n edrych tuag at y gorllewin roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gallu gweld y 'Long Mynd' a'r Wrekin sy'n bron iawn yng Nghymru fach. Dyna peth braf!

Monday 18 August 2008

Tegeingl 2008


Tegeingl 2008
Uchel bwnt yr wythnos, heb amheuaeth, oedd ein hymweliad i Ŵyl Cerddoriaeth Gwerin Tegeingl 2008. Yr wyddgrug. Cawson ni (Marilyn a finnau) wledd o berfformwyr, artistiaid, grwpiau, sesiynau a chanu.
Aethon ni draw ar y dydd Gwener yn ein car bach glas o Belper i Ashbourne ac wedyn ar draws tir uchel Ardal y Peak i Leek ac ymlaen i Congleton cyn teithio i Tarporley. Roedd golygfeydd gwych o'r bryniau uwchben Leek, sef Y Roches, enw sy'n tarddu o'r gair Ffrengig Normanaidd am greigiau. Roedd golwg braf hefyd dros Swydd Caer, Castell Beston yn sefyll yng nghanol y tir, a thu hwnt ar y gorwel ac yn aneglur yn y niwl, mynyddoedd Cymru fel Moel Famau a'r ucheldir o gwmpas.
Ar ôl cyrraedd Yr Wyddgrug aethon ni yn syth i safle Clwb Rygbi'r Wyddgrug er mwyn ymuno a'r hwyl a sbri. Wnaethon ni fynd yn syth i'r sesiwn offerynnol am awr a hanner. Roedd nifer da o gerddorion lleol a bell yn dod at ei gilydd i fwynhau chwarae amrywiaeth o alawon Cymreig a Phrydeinig. Daeth Jack Shuttleworth delyn binc o Coventry. Mi wnes i ddod a Melodeon, Chwiban D fawr a fach. Syth ar ôl y sesiwn aethon ni draw i'r babell fawr ar gyfer cyngerdd nos Wener efo Fernhill yn serennu. Roedden nhw wych enwedig Ceri Matthews ar y gitâr a'r ffliwt.
Roedd twmpath y noson gyntaf yn dechrau rhy hwyr i ni. Ar ôl taith 40 muned roedden ni yn ein gwelâu erbyn 1.00 o'r gloch.
Felly, trannoeth cawson ni 'lie-in' cyn brecwast mawr ac wedyn cyrraedd y maes erbyn hanner dydd mewn pryd i ymuno a sesiwn offerynnol arall. Er gwaetha tywydd wyntog prynhawn Sadwrn cawson ni hwyl efo grwpiau dawnswyr o Iwerddon, côr lleol Côr Y Pentan ac artistiaid fel Jez Lowe, Siân James a Chyngerdd Nos efo Jez Lowe ac wedyn Crasdant yn serennu. Roedd y twmpath wedyn yn wych. Diolch i bawb a wnaeth trefnu'r Ŵyl. Yn bendant yr ydyn ni eisiau dod yn ôl ar gyfer Gŵyl Tegeingl 2009.

Monday 11 August 2008

Hanner Eisteddfod 2008

Mi wnes i ddechrau swydd newydd yn Bakewell ar ddydd Gwener 1af Awst, felly roedd rhaid i mi fod yn fodlon efo gwylio’r digwyddiadau’r penwythnos cyntaf yr Eisteddfod a'r dydd Llun a Dydd Mawrth cyntaf ar S4C. Mi es i i lawr i Gaerdydd ar gyfer ail hanner yr wythnos ar ddydd Mercher. Roedd y daith digon hawdd gan nad oedd gormod o gerbydau ar y brif ffordd. Wnaethon ni, sef Marilyn a finnau, aros mewn gwely a brecwast yn Llanilltud Fawr am bedair noson. Cyn mynd i'r eisteddfod roedd rhaid picio draw i draeth Llanilltud er mwyn cael gweld Mor Hafren. Ar y bore wedyn roedd hi'n digon haws dal trên i Gaerdydd er mwyn cyrraedd maes Yr eisteddfod. Er gwaetha glaw trwm ar y dydd Sadwrn olaf rhaid i mi ddweud taw ar y cyfan cawson ni amser digon braf. Un peth gwych ar ddydd Llun oedd buddugoliaeth Telynau Cwm Dderwent yn y gystadleuaeth Werinol. Gwelir http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2008/sites/canlyniadau/canlyniad1 a http://www.thelittlewelshshop.co.uk/. Mi wnes i gwrdd â llwyth o hen gyfeillion, sef cyn cydweithwyr o Fenter Iaith Abertawe, a ffrindiau di-ri o wahanol cyrsiau Cymraeg dros y blynyddoedd, fel Malcolm o Gwmgaer sy wedi rhannu sawl Cwrs ‘Dehongli-Cymru' yn Aberystwyth, William Thomas ( llun ar y dde, mae William yn sefyll yn y canol) sy'n dod o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol, ond sy wedi byw yn Llundain am dros 40 mlynydd. Beth bynnag roedd safon y canu corawl yn yr Eisteddfod cystal ag erioed. Pan o’n i’n yno ges i air bach efo fy ffrind Padi, gwelir fideo islaw. Wnes i gymryd y gyfle i brynnu sawl crys-t Cymraeg ar stondin Cowbois, gan gynnwys ' Trafferth Mewn Tafarn'. Mi ges i gyfle i wrando ar ddarn o Ddyddiadur y dyn dŵad gan Dafydd Hughes yn y babell Llen, a hefyd i wrando ar ddarlith am grefft y Cyfarwyddwr bore dydd Iau ym Mhabell y Cymdeithasau.
Rŵan ydw i wedi cyrraedd Swydd Derby yn ddiogel ac yn edrych ymlaen yn barod at yr Eisteddfod nesa, sef Y Bala 2009, gan obeithio cael cystal amser yno, ond heb y holl law.
Mae'na un stori bach arall, sef bod Siriol Colley, Llywydd Cymdeithas Cymry Nottingham wedi sgwennu erthygl yn rhif 47 o'r cylchgrawn Golwg. Gwelir http://www.golwg.com/

Friday 25 July 2008

Maen braf yn yr haf

Wel, mae'r haf wedi cyrraedd yr wythnos yma. Roedd rhaid i mi ddyfrhau'r llysiau yn yr ardd. Diolch i'r drefn roedd digon o ddŵr yn y casgenni dŵr wrth ochr y sied a'r Tŷ Gwydr yn yr ardd. Wnes i dynnu chwyn hefyd. Gwaith poeth yn yr haul. Ond heddiw yr ydw i wedi cael seibiant bach, ac wedi picio draw i Nottingham i ymweld â siop Offerynnau Cerddorol, sef Hobgoblin. Mae siop Hobgoblin yn enwog yn y byd canu gwerin, ond yn anffodus does dim siop yng Nghymru fach. Dim eto beth bynnag. ( Gwelir http://www.hobgoblin.com/nottingham/index.php ) Maen nhw werthu pob math o Offerennau Cerddoriaeth Gwerin gan gynnwys pibau o'r Alban ac Iwerddon, ac wrth gwrs y delyn Geltaidd.
Mae gen i dipyn o gasgliad o Offerynnau o'r fath fy hunan. Sef Dau Felodeon un o'r Almaen a'r llall o'r Eidal. Mae gen i lwyth o Chwibanau Ceiniog, ond maen nhw'n costio dipyn yn fwy na cheiniog y dyddiad yma. Mae gen i dair Chwiban fawr ( 'd' isel )sy wedi costio dros £60 yr un. Hefyd mae gennyn ni dri Bhodhran o safonau gwahanol, gitar a fidl.
Y llynedd, ac yn y Gwanwyn eleni pan o'n i'n gweithio i Fenter Iaith yn Abertawe roedd hi'n rhan o'n ddyletswydd fi i drefnu gweithgareddau, felly mi wnes i drefnu sesiynau. . Mi ges i hwyl enfawr yn gwrando ar Gerddorion talentog iawn yn canu ac yn chwarae offerynnau fel y pibgorn, yn enwedig pobl fel Huw Dylan Owen
Heno yr ydyn ni'n mynd i sesiwn yn Nhafarn Y Barley Mow. Ym Mis Awst ar ôl yr Eisteddfod yr ydyn ni'n bwriadu mynd i Ŵyl Cerddoriaeth Gwerin ger Yr Wyddgrug. (Gwelir http://www.mrsackroyd.com/Tegeingl.htm ) Gawn ni weld os bydd y tywydd poeth hafaidd yn parhau neu beidio.

Thursday 10 July 2008

Ble aeth yr haul?

10 Gorffenaf 2008
Wel, dyma ni, mae'r mis Gorffennaf yn brysio ymlaen a does dim golwg o dywydd hafaidd, beth sy'n digwydd? Dydy'r llysiau yn yr ardd dim yn tyfu fel y dylen nhw chwaith.
Yr ydw i wedi bod yn brysur er gwaetha’r tywydd. Yr ydw i wedi ymweld â Gogledd Cymru er mwyn mynd i gyfweliad, ond yn anffodus ches i mo'r swydd, ond mi ges i well amser yn ardal Bakewell a bellach yr ydw i wedi cael cynnig swydd, felly mi fydda i'n aros yn Lloegr.
Bellach mae'r amser wedi cyrraedd i ddechrau trefnu'r Ysgol Cymraeg Undydd Derby. Mae'r neuadd gymunedol Chester Green wedi cael ei bwcio ar gyfer Dydd Sadwrn 27ain o Fedi. Yr ydw i wedi trefnu'r athrawon, sef Eileen Walker o ardal Bradford, ac Elin Heron sy'n arwain Dosbarth WEA Cymraeg Belper fel arfer. Yr ydw i wedi bwcio gwraig wadd, awdures, personoliaeth teledu sy'n ymddangos yn rheolaidd ar S4C ond mi fydd ei henw hi yn gyfrinachol tan y diwrnod.
Dydw i ddim yn siŵr os ydw i'n hoffi'r newidiadau sy'n mynd i ddigwydd i amserlen Radio Cymru ym Mis Medi. Wrth glywed y nifer o bobl sy'n protestio ar raglen Taro Post ar ddydd Mawrth roedd hi'n amlwg bod golygydd Radio Cymru wedi codi nyth cacwn ar ei phen. Dydy pobl y de-orllewin ddim yn hapus efo colli rhaglen oedd yn cael ei darlledu'n arbennig bob prynhawn iddyn nhw. Mae nifer o bobl yn anhapus efo colli rhaglen Jonsi yn y bore. Mae pobl eraill yn anhapus efo cael tair awr o Jonsi yn y prynhawn. Dydw i ddim yn hapus efo symudiad Taro'r Post i hanner dydd. Mae hi'n rhy gynnar pan yr ydw i ffordd o'r Tŷ.
Nos Wener yr ydw i'n mynd i sesiwn cerddoriaeth Werin yn Nhafarn 'Y Barley Mow' Bonsall, gobeithio bydd digon o gerddorion yno.
Mi fydd ffrind fy ngwraig, sef David yn ymweld dros y penwythnos, mi fydd hynny'n codi'r pwnc beth y dylen ni wneud. Taswn i'n cael dewis mi fyddwn i'n mynd a nhw i weld siop llyfrau Scarthin, Cromford. Mae hi'n siop arbennig o dda efo ddewis eang o lyfrau, caffi a hyd yn oed llyfrau Cymraeg ail law weithiau.

Thursday 26 June 2008

Siarad Cymraeg, teithio a Dawnswyr Gwerin

Unwaith eto yr ydw i wedi bod yn brysur. Yr ydw i wedi cael hwyl yn defnyddio meddalwedd Skype i siarad â phobl dros y we. Ar hyn o bryd yr ydw i'n gallu cynnal sgwrs efo Viv yn Nottingham a Peggi yn Abertawe trwy'r Gymraeg. Hefyd yr ydw i'n siarad yn achlysurol efo ffrind Joe yn Alaska. Hoffwn gysylltu â rhagor o bobl sy eisiau siarad Cymraeg trwy defnyddio meddalwedd Skype.
Ar fore dydd Mawrth es i draw i gyfarfod y grŵp Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Yr wythnos yma wnaeth yr aelodau trafod beth roedden nhw wedi gwneud dros yr wythnos gynt, wedyn chwarae gem Scrabble yn y Gymraeg a chael paned o de neu goffi.
Wnaeth pawb mwynhau’r fore. Yn anffodus does dim cyfarfod eto tan Fis Medi.
Ar bnawn dydd Mawrth es i draw i Tarporley i weld fy rhieni, ac wedyn ar fore ddydd Mercher es i draw i Gymru ar gyfer gyfarfod yn Llanrwst cyn dod yn ôl i Belper mewn ychydig dros dair awr a hanner.
Roeddwn blinedig iawn, ond roedd fy ngwraig a ffrind eisiau mynd allan i Glwb Dawnswyr lleol ble mae pobl yn chwarae offerynnau hynafol fel 'Hurdy-Gurdy' ac yn gwneud dawnsfeydd Ffrengig a Llydewig. Yn 2006 roedd grŵp o ddawnswyr o Lydaw yng Nghaernarfon pan o’n i'n teithio i Harlech. Roedden nhw braidd yn swnllyd ond yn wych.
Yr ydw i heb wneud llawer yn yr ardd, mae angen torri’r glaswellt. Hefyd dydy'r llysiau dim yn tyfu'n dda ar hyn o bryd. Diffyg gwres a gormod o wynt cryf yw'r broblem mae arna i ofyn.





Tuesday 17 June 2008

Wythnos brysur iawn.
Yr ydw i wedi bod yn brysur yn gweithio yn yr ardd dros yr wythnos ddiweddar. Yr ydw i wedi plannu Corn Indiad, Courgettes, Ffa Dringo, Ffa Ffrengig, Pumkins, Cennin. Ar ben hynny yr ydw i wedi torri'r perthi, ac wedi torri'r lawnt. Er gwaetha hynny yr ydw i wedi cael digon o amser i fynd i ddigwyddiad ail-greu hanes yn Amgueddfa Genedlaethol Tramiau, Crich , Swydd Derby. Roedd digwyddiad o'r enw'r Blynyddoedd Jazz yn digwydd yno. Roedd criw bach o ffrindiau fi, sef Y Columna, (gwelir safle we http://www.lacolumna.org.uk/ ) yn ail greu golygfeydd o'r Strike Cyffredinol, a'r Frigâd Ryngwladol a'r Rhyfel Cartref Sbaen 1936-1939.
Heddiw yr ydw i wedi cwrdd ag Elin Merriman, athrawes y dosbarth Cymraeg WEA yn Belper i wneud cyfweliad ar gyfer y blog yma. Mae Elin yn dod o Swydd Derby. Mae ei theulu hi'n dod o Gymry yn wreiddiol ond cafodd Elin ei magu yn Milford. Mae ei thad hi yn Gymro di-gymraeg, felly cafodd hi mo'r cyfle i ddysgu'r iaith pan oedd hi'n tyfu. Felly pan oedd hi'n 18, aeth hi i Lanbedr i ddysgu'r iaith Gymraeg ac wedyn i Aberystwyth er mwyn gwneud gradd Cymraeg. Mae Elin hefyd yn helpu'r Ysgol Undydd Cymraeg Derby sy'n digwydd bob Mis Medi.



Saturday 7 June 2008

Cwffio'r Cyfrifiadur

Wel mi ges i dipyn o hwyl dros y penwythnos diweddar. Mi wnes i weld ffrindiau yn ardal Bradford ar ddydd Llun. Ar fore dydd Mawrth mi es i i gyfarfod Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby sy'n cael ei gynnal yn Nhy Cwrdd y Crynwyr yng nghanol Derby dim yn bell o'r Eglwys Gadeiriol Derby. (gwelir www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com ). Roedd dim ond pump ohonon ni yno'r wythnos yma. Mae'r grŵp wedi bod yn darllen Te yn y Grug gan Kate Roberts. Mae hi'n dipyn o her i'r grŵp gan fod y grŵp wedi dysgu iaith y de pan oedden nhw yn Nosbarth WEA Delyth Neill.
Ar un adeg roeddwn i'n arfer gweithio yng nghanol Nottingham yn rhedeg Clwb Swydd yng Nghapel yr Undodiaid. Roedd hi'n brofiad diddorol, ac yr oeddwn i'n cwrdd â phob math o bobl.Yfory mi fydd y wraig a finnau'n mynd i ymweld â Chronfa Dŵr Carsington, sy wastad yn hwyl. Mae 'na awyrgylch dda yno bob tro dan ni'n mynd efo bobl yn cerdded, canwio, hwylio ac yn mwynhau'r awyr iaich. Wel, dyna'r cwbl am rawn.

Monday 2 June 2008

Crwydro Caer 31-5-08

Mi aethon ni, y wraig a fi, draw i Tarporley dros y penwythnos i weld fy rhieni, ac i helpu nhw gyda phrosiect ar eu cyfrifiadur nhw, diolch byth roedd hi’n jobyn byr, felly cawson ni’r cyfle i dreulio’r prynhawn yng Nghaer.
Mi ges i fy magu yn Swydd Caer mewn pentref o’r enw Tarvin. Mae’r gair yn dod o’r Gymraeg mae’n debyg sef y gair ‘terfyn’, mae Tarvin yn sefyll dim yn bell o afon o’r enw ‘Gowy’ sy’n debyg iawn i enw'r anfon Gwy yng Nghymru. Mae’na sawl enw arall yn Swydd Caer fel y pentre’ o’r enw Bryn ger Northwich.
Fan hyn yn Swydd Derby mae’na ddigon o enwau sy’n tarddu o’r Gymraeg. Afonydd fel y Derwent, y Dove, y Wye. Hefyd pentrefi fel Crich a Pentrich, mae’na fryn lleol o’r enw ‘the Chevin’ ond eto i gyd mae’r enw yn dod o’r gair Cymraeg sef y gair Cefn.
Mae’na sawl llyfr perthnasol sy’n adrodd yr hanes yma. Geiriadur Enwau Lleoedd Prifysgol Rhydychen yw un, llyfr da arall yw ‘English Places Celtic Voices’ sy’n rhestr 2000 o enwau lle o dras Cymraeg y tu allan i Gymru o fewn y DU. Efallai mai nifer fawr o’r Saeson mewn gwirionedd yw Cymry sy wedi colli’r Iaith 1300 o flwyddnod yn ôl.
Beth bynnag erbyn dau o’r gloch prynhawn dydd Sadwrn roedd Marilyn a finnau yn crwydro strydoedd Caer. Son am brynhawn braf, roedd yr haul wedi tynnu cannoedd o bobl allan. Rhaid i mi ddweud bod cymeriad Caer wedi newid yn fawr ers i mi fynd yno fel bachgen Ysgol yn y saithdegau. Pryd hynny does dim parth di-draffig yng nghanol y dre, ac roedd y bysiau a cherbydau yn mynd ar hyd strydoedd le rŵan dim ond torfeydd o bobl yn hel y bargain diweddaraf.
Pan o’n i’n ifanc doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r Gymraeg, bellach ambell waith dw i’n clywed Cymry yn y ddinas. Dydd Sadwrn roedd ‘na chryn dipyn o ymwelwyr ac roedd dau ddyn yn gwisgo arfwisg Rufeinig, fel dau o filwyr Macsen Wledig sy wedi cael eu gadael ar ôl!
Mi aethon ni i mewn i’r eglwys gadeiriol, i’r Caffi am baned, ac wedyn am dro ar hyd muriau’r dre i siop llyfr le mae’na adran llyfrau Cymraeg a Chymreig ail law. Mi brynais i gopi o hen lyfr sy’n son am hanes bro Maelor. Yn ddiweddar dw i wedi cael anrheg o hen lawlyfr am ddysgu Cymraeg oddi wrth ffrind sy’n gwneud gwaith printiedig efo hen beiriant argraffu llythyr plwm. Gwelir llun yma o’r llyfr, pryd, tybed, cafodd y llyfr ei argraffu?
Wedyn mi aethon draw i dafarn i weld llun arbennig mewn tafarn sy’n dangos Brenin Edgar yn derbyn gwrogaeth oddi wrth wyth o dywysogion Cymreig. Mae’r perthynas rhwng y Cymry a thrigolion dinas Caer yn well y dyddiau yma, does neb bellach yn bygwth saethu’r Cymry efo bwa a saeth os ydyn nhw’n cael eu dal o fewn muriau’r dre ar ôl machlud y haul!

Friday 30 May 2008

Mwydro

Rhaid i mi ddweud paid a disgwyl iaith ysgrifenedig perffaith o'r blog yma. Sais ydw i, sy wedi dysgu'r hen iaith. Wrth gwrs mae gen i uchelgais i fod yn berffaith ond dyma fo, uchelgais yw uchelgais. Yn y cyfamser dan ni i gyd yn byw yn y byd go iawn. Felly mi fydd camgymeriadau yn digwydd yn aml.
Ar hyn o bryd dw i ddi-waith, neu fel chwedal y sais, "rhwng swyddi", felly mae gen i digon o amser i bethau fel y blog yma. Hefyd mae gen i ddigon o amser er mwyn ymweld a chyfarfodydd y Cymry alltud sy'n byw yn yr ardal. Er engraifft, mis diweddar, es i draw i Nottingham i'r Bore Coffi, sy wedi cael ei drefnu ar gfyer aelodau Cymraeg eu iaith Cymdeithas Cymry Nottingham. Roedd hi'n cyfle wych i ddysgwyr fel fi i ymarfer.
Fel rhan mwya o'r cymdeithasau debyg, mae'r aelodaeth yn heneiddio, ond maen nhw'n brwd ac yn gyfnogi eu gilydd trwy pob math o weithgareddau ar hyd y flwyddyn. Gwelir http://www.holtonline.org.uk/cymdeithas/nottingham/ .
Efallai mi fydd hi'n syndod i rai, ond mae'na gryn dipyn o bobl sy'n byw yn Lloegr sy'n dysgu'r iaith. Dw i wedi dod ar draws bobl yn Swydd Efrog sy'n cynnal Clwb Clebran bob mis yn ardal Keighley, gwelir Clwb Clebran Bradford
http://www.communigate.co.uk/brad/welshclwbclebran/ , dydyn nhw ddim yr unig grwp chwaith. Mae'na grwp sy'n cwrdd yn wythnosol yn Derby, sef Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby, trefnydd presennol yw Allan Child, ond mae'na grwpiau yn hob man, y Chilterns, Llundain, Leicester, Coventry, Birmingham, Stockport. Mae wefan y grwp yn Derby yn rhestr grwpiau dysgywr a Chymry Cymraeg fel
Chelmsford and District Welsh Society
http://www.geocities.com/cdwelshsociety/A-index.html
Loughborough Welsh Society
http://infolinx.leics.gov.uk/infolinx/infolinx.infolinx_out.getres?id=10764&template=details
Canolfan Cymry Llundain
http://www.londonwelsh.org/
Cymdeithas Cymreig Birmingham
http://www.birminghamwelsh.org.uk/
Cymrodorion Maesbedr
http:///www.users.global.net.co.uk/~scrol/pws/mapysafle.html
Northwich Welsh Society
http://freespace.virgin.net/usedto.be/index.html
Deepings Welsh Society
http://www.deepingsonline.co.uk/pp/club/detail.asp?id=1663
Clwb Clebran Bradford
http://www.communigate.co.uk/brad/welshclwbclebran/
Clwb Cymraeg Y Chilterns
http://freespace.virgin.net/d.griffiths/ardal1.htm
The Little Welsh Shop
http://www.thelittlewelshshop.co.uk/
Wel, dyna digon am rwan. Hwyl tan tro nesa. Jon Sais.



Site Meter