Sunday, 5 July 2009

Trip bach i Gymru!




Ces i hwyl yn ardal Wrexham y penwythnos yma wrth ymweld â Sesiwn siarad mewn caffi yng Nghanolfan Garddio Holt. Roedd wyth yn bresennol a chawson ni amser braf am dair awr yn siarad am hyn a llall. Wedyn es i ymlaen i Siop Y Siswrn yn y farchnad yn Wrexham cyn troi am adre dros dro, sef Tarporley.
Yno es i i farbeciw'r gymdeithas rhandir, ond och a gwae, mi wnes i fwyta gormod o bethau, felly nes i ddioddefa yn ystod y nos, ond gwell i mi beidio cwyno, dim ond un person sydd ar fai, sef fi! Bellach dw i'n ôl yn Belper ac yn cadw at fara sych a dŵr oer am heddiw o leia’!

Tuesday, 28 April 2009

Ymweliad i Sir Fon





Mi aethon ni draw i Sir Fôn dros y penwythnos diweddar. Ar ôl gadael Belper tua hanner awr wedi naw ddaru ni dorri'r daith yn Tarporley am baned efo fy rhieni fi cyn mynd ymlaen i Landudno lle mi wnaethon ni grwydro’r siopa a thai bwyta. Wnaethon ni gyrraedd ein gwely a brecwast (Bodlawen, Brynsiencyn) am 4 o'r gloch.
Mae'r perchennog Bodlawen (Marion Roberts) wedi ennill y rhuban Glas 30 mlynedd yn ol. Roedd y gwestai'n agos iawn at Afon Menai ac ar ôl iddi hi nosi roeddwn allu gweld golau Caernarfon yn sgleinio yn y dŵr. Ar nos Wener cawson ni ginio ben ei gamp yng Nhy Marianne a Gerry, ein ffrindiau sy'n byw yn y Borth (Porthaethwy) cyn mynd i noson Barddoniaeth ym Manger mewn Caffi. Roedd hi'n Noson 'Stand-Up' a wnaeth nifer ohonon ni berfformio. Mi wnes i ddarllen cerdd rydd fy mod i wedi sgwennu yn ôl yn 2003.
Y bore wedyn mi wnes i ddeffro yn gynnar iawn ac roeddwn i falch i weld codiad yr haul gyda'r wawr. Doedd Marilyn dim yn gallu profi'r olygfa oherwydd roedd hi dal i gysgu.
Mi es i am dro ar hyd glannau'r Afon Menai le mi welais i Egret, Gylfinir, ac adar mor, a golygfeydd gwych o'r Eryri a Penllyn.
Pan es i yn ôl i'r Gwesty mi ges i frecwast da cyn i ni deithio i fyny i Fae Rhosneigr ac yna draw i Oriel ynys Môn i weld yr Oriel newydd sy'n dangos gweithiau’r diweddar Kyffin Williams.
Gyda'r Nos mi wnaethon ni ymuno a Marianne a Gerry ar gyfer lansiad lyfr marianne sef Too Blue For logic yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mi wnaethon ni gyrraedd yn ôl i'r Gwesty ynwyr, felly mi ges i dipyn o 'lie-in' y bore wedyn. Mi wnes i ddim yn codi tan chwech.
Roedd Marilyn yn benderfynol o weld Ynys Lawd a'r Goleudy felly ar ôl gweld Eglwys Santes Fair ar yr ynys yn Afon Menai ger Pont Telford wnaeth Marilyn a finnau a Gerry a Marianne gyrru i fyny i Gaergybi eto i weld y Goleudy. Mi ddaru ni adael Sir Fôn erbyn hanner awr wedi pump, ond roedd problemau ar yr A55 felly nid gyrhaeddon ni adre yn Belper tan bron iawn 11.00 yr hwyr.

Friday, 10 April 2009

Ymweliad i Aberystwyth a Dehongli Cymru 2009

Dydd Gwener y Groglith a dyma fi yn ôl ym Melper ar ôl 4 diwrnod arbennig o dda draw yn Aberystwyth. Roedd digwyddiad o'r enw 'Dehongli Cymru' yn mynd ymlaen yn y brifysgol, ac i ddweud y gwir roedd hi'n wych. Mi ges i hwyl dros ben. Roedd hi'n braf gweld hen ffrindiau fel Maggie (Abermaw) Malcolm (Cwm Caer ), Pamela, Nigel a Mair, Roger a Tina. Roedd y myfyrwyr oedd yn gweithio fel arweinyddion yn groesawgar dros ben. Cawson ni lwyth o wybodaeth a darlithwyr da iawn gan gynnes Mihangel Morgan a Dr Gerald Morgan.
Ar nos Fercher aeth nifer ohonon ni i lawr i'r Cwps, i yfed tipyn bach ac wrth gwrs i siarad ag i roi'r byd yn ei le. Ar nos Iau aeth y grŵp draw i sinema'r Drwm i weld ffilmiau am farddoniaeth Cymraeg.
Y peth gorau am y digwyddiad wrth gwrs yw'r cyfle i siarad a chymdeithasu am 4 nhirnod dryw'r Gymraeg yn unig!
Yr ydw i'n mynd draw i Sir Fôn ar ddiwedd y Mis efo Marilyn i weld ffrind (Marianne) ac ar gyfer lansiad ei llyfr hi (Too Blue For Logic) yng Nghaergybi.

Sunday, 29 March 2009

Ymweliad i Abertawe, Mawrth 2009




Yr ydw i newydd ddod yn ôl i Belper ar ôl treulio’r penwythnos yn Abertawe. Mi wnes i yrru i lawr yr A38, M42, M5 a'r M4 yr holl ffordd, taith hir a blinedig ond roedd hi'n werth yr ymdrech oherwydd ces i amser gwych yn ymweld â hen ffrindiau, bwyta, gweld gig wych, sef Chwibdaith hen Fran a'r Tebot Piws yn y Milkwood Jam. Erbyn diwedd y noson roedd pawb yn morio canu!Mi wnes i gerdded o amgylch Abertawe yn tynnu lluniau o'r anghorfeydd a rhannau eraill o'r ddinas.
Hefyd mi wnes i fwynhau ymweld â'r Amgueddfa'r Glannau efo Peggi. Roedd hi'n braf hefyd gweld hen ffrindiau a chyn cydweithwyr Menter Iaith Abertawe, (gwelir http://www.menterabertawe.org/cymraeg/newyddion.php ) ond rŵan mae hi'n braf bod adre ac yn ymlacio efo paned o de! Does nunle yn debyg i gartref!

Sunday, 22 February 2009

Ymweliad i Nottingham a Chymru




Ymweliad i Nottingham cyn mynd dros y ffin i Gymru
Yr ydw i wedi bod yn brysur yn y gwaith ers sbel, felly doedd dim cyfle i sgwennu dim byd am amser maith ond yn diweddar mi ges i ddigon o amser i bicio draw i Nottingham ar gyfer Cyfarfod Bore Coffi Cymry Nottingham. Cawson ni groeso haul a chynnes yn Nhŷ Dilys a Dafydd yn Wollaton ar fore Dydd Gwener 19 o Chwefror. Yn bresennol oedd Dilys a Dafydd, Gwynne, Gwladys, Howell, Heulwen, Beryl, Beti, Siriol, Audrey, Jonathan, a Viv. Fel arfer roedd dewis eang o ddiodydd, cacennau a bisgedi. Mi fydd y cyfarfod nesa yn Nhŷ Gwynne a Marilyn Davies ar y 6ed o Fawrth.

Yn syth wedyn wnes i yrru draw i Swydd Caer, i Nantwich i ddechrau, ble roeddwn gerdded o amgylch canol y dre i wneud tipyn bach o siopa cyn symud ymlaen i Tarporley. Drannoeth es i draw i ardal bryniau Clwyd i ymuno a changen Gogledd Ddwyrain Cymru Cymdeithas Edward Llwyd ar daith Cerdded 6 milltir. Cafodd y daith ei arwain gan Dafydd ac Alwena Williams, roedd tua 25 o bobl yn bresennol ar y daith, aethon ni i fyny bryniau lleol gan gynnwys bryn efo mast a safle darlledu teledu ar ei ben lle cafodd brotest ei chynnal yn y saithdegau gan Gymdeithas Yr iaith. Roeddwn ddigon lwcus ar Ddydd Sadwrn i gael tywydd sych a heulog. Ces i sawl sgwrs ddiddorol iawn, a roedd nifer o bethau diddorol i'w weld sef cyffylau gwerdd. Roedd sawl allt serth i ddringo ond yr oedd yr ymdrech yn werth ei wneud oherwydd yr oedd golygfeydd bendigedig o'r copa. Ar ôl y daith gyrrais i draw i'r Wyddgrug i ymweld â cherflun Daniel Owen a Siop Y Siswrn cyn troi am Tarporley i aros dros nos yn Nhŷ fy rhieni cyn dychweled dros Glawdd Offa ar y Sul. Mae gen i sawl peth arall ar y gweill, sef ymweliad mis nesa i Abertawe i weld gig Chwibdaith Hen Fran ac yn Mis Ebrill tridiau yn Aberystwyth yn Neuadd Pantycelyn ar gyfer digwyddiad o'r enw Dehongli Cymru. Dw i'n methu aros!

Sunday, 28 September 2008

Haf bach Mihangel

Yr ydw i wedi cael pythefnos diddorol. Penwythnos yn ôl (19eg o Fedi) aeth y wraig a fi i sesiwn yn nhafarn 'Y Barley Mow' ar gyfer y sesiwn nos Wener.
Roedd hi'n wych efo digon o gerddorion fel arfer gan gynnwys pobl yn chwarea fidl, accordion, Melodeon, gitâr, bodhran a chwibanau. Gweler clip fideo. Yn ystod y nos nesa roedd y wraig a finnau'n perfformio efo ein band dawns gwerin, sef 'Tight Squeeze' mewn parti dathlu


pen-blwydd priodas ffrind yn Attenborough. Yn nol yn y gwaith dw i wedi bod yn teithio o gwmpas cefn gwlad a phentrefi Swydd Derby yn ymweld â gwirfoddolwyr sy'n helpu rhedeg cymdeithasau gwirfoddol bychain sy'n gweithredu yn y trydydd sector, gwaith digon dymunol ar y cyfan. Ar ddydd Gwener yr wythnos yma roeddwn i'n paratoi pob math o beth (arwyddion, ffurflenni cofrestru, bwyd, ac yn y blaen) ar gyfer yr Ysgol Undydd Cymraeg Derby.
Eleni roedden ni'n cynnal yr ysgol am y bedwaredd tro. Fel arfer roedd Elin Merriman yn athrawes i'r dechreuwyr pur, tra roedd Eileen Walker yn arwain y dosbarth canolradd. Roedd y dosbarth profiadol yn cael tri sesiwn gwahanol, sef Viv Harris yn son am idiomau Cymraeg, Beti Potter yn siarad am ardal ei magwraeth hi, sef dyffryn Conwy. Gan gynnwys gwirfoddolwyr ac athrawon roedd 33 ohonon ni'n bresennol. Niferoedd digon iachus faswn i'n dweud. Ar ôl cinio aeth y grŵp profiadol i drafod sut i hybu'r Gymraeg ymhlith dysgwyr a Chymry Cymraeg yr ochr yma i Glawdd Offa. Mae'n ymddangos bod'na sawl peth da ar y gweill. Mae'r dosbarthiadau WEA Cymraeg lleol wedi ailddechrau efo dosbarth i ddechreuwyr ac un arall i bobl ganolradd, mae'na si ar led am grŵp gwerthfawrogi barddoniaeth. Mae Elin Merriman yn gobeithio dechrau gweithdai misol dros benwythnosau ar gyfer dysgwyr yr iaith Cymraeg sy'n dysgu ar eu pennau eu hunan neu sy'n methu mynd i ddosbarth nos yn ystod yr wythnos. Hefyd roedd dipyn o drafod am ddechrau cyfarfod cymdeithasol misol mewn tafarndai yn yr ardal ar gyfer dysgwyr profiadol iawn a'r Cymry Cymraeg alltud.

Heddiw es i i gopa 'Alport Height' i ymlacio dipyn cyn paratoi am wythnos arall yn y gwaith. Roedd hi'n glir iawn i'r gogledd ac roeddwn i'n gallu gweld Kinder Scout ar y gorwel, peth braf iawn yw ymlacio ar ben bryn yng nghanol canolbarth Lloegr ar bnawn braf haf bach Mihangel fel heddiw!

Monday, 15 September 2008

Pethau Bychain Dewi Sant

Wel dyna ni yn ol ym Melper am sawl blyddyn. Mae hi'n dref digon dymunol pan dydy hi ddim bwrw glaw. Mae'r amser wedi hedfan ers fy mhennod diweddaf, bron iawn fis cyfan i ddweud y gwir. Does dim esgus, dw i ddim wedi bod i ffordd heb son am fynd i Gymru. Ond pethau bychain Dewi Sant wedi cymryd fy amser i gyd, sef gwaith, gwaith tŷ, gwaith garddio ac yn y blaen. Ond mi ddaw haul i'r bryn cyn bo hir gobeithio achos mae gen i benwythnos hir yng Nghymru wedi trefnu, a dwi'n methu aros. Mi fydd hi'n newid o'r gwaith a'r glaw tragwyddol. Mae'na bethau arall ar y gweill hefyd achos dan ni (y wraig a finnau) wedi derbyn gwahoddiad i ddod a'r hen fand cerddoriaeth gwerin allan am dro arall. Roedd y band wedi ymddeol sawl blwyddyn yn ôl ond mae ffrind i ni wedi erfyn arnon ni i berfformio mewn parti dathlu pen-blwydd priodas. Felly roedd rhaid cytuno am un sioe olaf un, ond dw i'n cydymdeimlo efo’r gynulleidfa druan sy'n mynd i wrando ar y fath band, ond os ydyn nhw i gyd wedi meddwi mi fydd popeth yn iawn!
Yn y cyfamser roedd gen i ddigon o amser i fynd am dro bach yn fy nghar i gopa bryn lleol o'r enw Alport Height ac wedyn i hen safle hanesyddol sef 'Middleton Top Engine House'. Roedd digonedd o olygfeydd braf fel ti'n gallu gweld o'r lluniau. Pan on i'n edrych tuag at y gorllewin roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gallu gweld y 'Long Mynd' a'r Wrekin sy'n bron iawn yng Nghymru fach. Dyna peth braf!