Wednesday 2 September 2015

Diwedd haf



Dyw hi ddim wedi bod yn boeth iawn yr haf yma ond er gwaethaf hynny yr ydw i wedi cael sawl gŵyl braf draw yng Nghymru.

Ym mis Mehefin treuliais wythnos efo fy annwyl wraig draw yng nghyffiniau Pwllheli, wedyn ar ôl 'mond wythnos nol yn y gwaith yr oeddwn i'n mwynhau wythnos arall yn aros yn Llanfachreth ar fferm Ystum Gwadnaeth efo Krispin a Karen tra oeddwn i'n mynychu Ysgol Haf Cymraeg Dolgellau. Uchel bwnt yr haf wrth gwrs oedd Eisteddfod Meifod.

 Ces i amser gwych yn mynd o stondin i stondin, cyngerdd a chyfarfod, cwrdd â nifer fawr o gyfeillion a phopeth trwy’r Gymraeg. Roedd y ddarpariaeth cerddoriaeth yn wych, yn arbennig y digwyddiadau oedd yn cael ei chynnal yn Nhŷ Gwerin, grwpiau a phobl megis Calan, Bob Delyn a'r Ebillion, Dafydd Iwan, Gwyneth Glyn a pherfformwyr eraill. Roedd noson y stomp Cerdd Dant yn wych, penillion doniol os braidd yn las o ran iaith.

Dw i wedi bod yn Eisteddfodwr brwd byth ers 'Steddfod Dinbych yn 2001.

Dyma un o gyfleoedd gorau i 'foddi' yn y Gymraeg ac i anghofio am siarad Saesneg am wythnos. Trwy fynychu'r 'Steddfod yn flynyddol dw i wedi ymweld ag ardaloedd o Gymru ni faswn i byth wedi gweld oni bai am yr Eisteddfod.

Felly hir oes i'r Brifwyl!

Wrth gwrs mae diwedd yr Haf yn golygu fy mod i'n wynebu misoedd tywyll yr Hydref a Gaeaf yn ôl yn y gwaith, ond ar yr ochr da mi fydd y 'pethe' Cymraeg lleol yn ailddechrau. Pethe megis y bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol yn Nottingham, y gweithdai Cymraeg misol yn Derby, ein hysgol Cymraeg blynyddol ac ambell daith gerdded a digwyddiad cymdeithasol mewn Cymraeg. Unwaith dyn ni wedi cyrraedd dydd Calan mi fyddwn i'n dechrau edrych ymlaen at yr Eisteddfod nesa. Felly ymlaen i'r Fenni.