Friday 29 October 2010

Cymru fach tu draw i Loegr


Mae'r 'Pethau' yn mynd o nerth i nerth yma yng nghanolbarth Lloegr ar hyn o bryd. Hynny yw mai gyda ni 5 o grwpiau gwahanol sy'n cynnal gweithgareddau, sesiynau ymarfer neu wersi Cymraeg, sef Bore Coffi misol Cymdeithas Cymry Nottingham ( gwelir http://www.devamedia.co.uk/cymdeithas/nottingham/ ), cyfarfod wythnosol Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby ( gwelir http://derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/ ) yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar fore Dydd Mawrth, Gweithdy misol Cymraeg Derby, Dosbarth Cymraeg pythefnosol Belper sy'n cyfarfod yn yr hen Ysgol Gramadeg Herbert Strutt, ( ar un adeg yn y 50au roedd awdur ac academydd Roland Mathias yn brifathro i'r ysgol) a'r gwersi brifet efo Elin Heron. Ar ben hynny mae'na wasanaeth Capel Cymraeg yn rheolaidd yn Nottingham a Derby ( gwelir http://www.derby.synodcymru.org/ ) a hyd yn oed Côr Delyn dan athrawes delyn Helen-Elizabeth Naylor,( gwelir http://www.thelittlewelshshop.co.uk/ ). Y peth ydy nid yr un bobl sy'n mynd i'r digwyddiadau yma ond pobl wahanol ar y mwyaf. Hir oes i'r Gymraeg a'r Cymry Cymraeg ar wasgar!

Monday 4 October 2010

Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2010

Daeth dros 30 o bobl at ei gilydd ar gyfer yr Ysgol Cymraeg Undydd Derby blynyddol sy wedi cael ei gynnal am y 6ed tro eleni yng Nghanolfan Cymunedol Chester Green, Derby. Roedd rhai o'r gwirfoddolwyr wedi teithio o bell fel Brian James o Gaerdydd a'i fab Aled o ardal Solihull. Wnaeth Brian arwain sesiwn arbennig o dda i'r dosbarth profiadol o dan y testun 'Yma o hyd'. Ar ran y myfyrwyr roedd y rhan mwyaf o'r ardal leol sef Derby, Sheffield, Birmingham a threfi arall y rhanbarth ond roedd'na un o Gymru sef Ro Ralph o Wrecsam.
Cawson gymorth helaeth gan Gymry Nottingham efo 3 o'r sesiynau i'r dosbarth Profiadol dan arweiniad aelodau Cymdeithas Cymry Nottingham. Diolch i Beti Potter, Howell Price a Gwynne Davies. Diolch hefyd i'r tiwtor lleol Elin Merriman ac Eileen Walker o Keighley.
Wnaeth Criw'r Gegin gweithio yn galed trwy’r dydd i ddarparu diodydd a chinio blasus. Diolch i Morfydd Benyon , Marilyn Simcock, Brian a Shirley Foster am eu gwaith.
Yr ydyn ni'n mynd ymlaen efo rhaglen lawn o weithgareddau i'r Gylch Dysgwyr Cymraeg Derby ar gyfer 2010-2011. Mi fydd y cyfarfod wythnosol yn Derby yn parhau ond yr ydyn ni'n dechrau rhaglen fisol o Weithdai Cymraeg ar fore Sadwrn 20 o Dachwedd a hefyd mi fydd ambell daith Cerdded yn cael ei drefnu. Hoffwn ddiolch i bawb sy wedi cyfranni at lwyddiant mawr Yr Ysgol Undydd eleni ac yr ydyn ni'n ffyddlon mi fydd Ysgol Undydd arall blwyddyn nesa.