Wednesday 1 June 2011

Breuddwydion Dwyieithog




I rai ohonon ni sy'n dros ein hanner cant mae nifer o bethau yn dod i gof o dro i dro. Yn ddiweddar ces i freuddwyd am Westy, yma yn Lloegr efo taflen hysbysebu ddwyieithog. Yn fy mreuddwyd roedd y daflen yn disgrifio pob dim am y Gwesty bob yn ail yn y ddwy iaith, wrth gwrs does dim math o Westy fel'na yn Derby mewn gwirionedd, breuddwyd oedd hi, ond weithiau mae'na elfennau o'r hen iaith sy'n ymddangos ar yr ochr 'ma i Glawdd Offa.
Yn y papurau newyddion weithiau mae'na storiâu sy'n codi hwyl ar ben yr iaith. Er enghraifft ar ôl i mi newydd ddechrau dysgu'r iaith nôl yn 1998 roedd 'na hanesyn yn y Ashbourne Telegraph am gwmni trwsio ffordd oedd wedi ennill cytundeb i wneud gwaith ffordd rhwng Ashbourne a Belper. Roedd pencadlys y cwmni yn Swydd Caer ac oherwydd eu bod nhw'n gwneud gwaith ffyrdd dros y ffin roedd ganddyn nhw arwyddion ffyrdd dwyieithog, ond y tro yn y cynffon oedd y ffaith eu bod nhw'n defnyddio'r arwyddion ffordd dwyieithog yma yn Swydd Derby.
Maes arall yw dwyieithrwydd sy'n codi oherwydd dylanwad capeli ac eglwysi, e.e. yng Nghaer, pan o'n i'n ifanc roedd'na hen Gapel ger Maes Parcio'r farchnad Gwartheg, a hyd yn oed rŵan mae'na Eglwys Bresbyteraidd Cymraeg ger yr hen lyfrgell. Ac ar ben hynny mae gan St John's arwein-llyfr yn y Gymraeg.
Ar y donfedd darlledu mae S4C a BBC Radio Cymru ar gael ar draws y Dyrnes Unedig, ond nôl yn 60au, pan ddoedd dim digon o ddefnydd ddarlledu ar gael peth eitha’ cyffredin oedd gweld rhifyn o'r rhaglen Disg a Dawn ar ITV yma yn Lloegr!.
I fynd nôl at arwyddion ffyrdd mae hi'n beth braf cael gweld wrth groesi Pont Hafren yr arwydd 'Croeso i Loegr' ar yr ochr dwyreiniol, ond yn y gogledd wrth groesi'r ffin ar yr A55 does dim arwydd croeso yn y Gymraeg nac ar yr A483 neu wrth groesi'r ffin ger Holt. Mae'r Brifwyl yn dod i'r Wrecsam eleni felly beth am sgwennu i Gyngor Sir CWAC (Chester a West Cheshire) i ofyn am arwydd Croeso i Loegr, ond yn y Gymraeg!
Ac i fynd a'r pwnc dros y ffin i Gymru beth am sgwennu i'r llywodraeth yng Nghaerdydd i ofyn am wir ymrwymiad ddwyieithrwydd trwy newid iaith mewnol cynghorau lleol yn y fro Gymraeg i'r Gymraeg, fel yr hyn sy'n digwydd yng Ngwynedd, dyna freuddwyd dwyieithog go iawn, neu freuddwyd gwrach efallai.