Friday 6 April 2012

Y Prosiect Darllen




Er gwaetha’r ffaith fy mod i wedi bod yn eitha' prysur ers y flwyddyn newydd yr ydw i wedi cael digon o amser i barhau efo'r prosiect darllen. Hyd yn hyn eleni dw i wedi gorffen 4 o lyfrau, sef tair nofel gan gynnwys Traed Oer gan Mari Emlyn, Pwll Ynfyd gan Alun Cob a'r Tair Rheol Anhrefn gan Daniel Davies. Y tair nofel yn ddarllenadwy iawn. Yr un cyntaf yn adrodd hanes athrawes piano 40 oed yn cymryd golwg dros eu bywyd hi a hen berthynas a wnaeth farw yn ystod y rhyfel byd cyntaf, y ddwy nofel arall yw rhyw fath o nofel antur/droseddol. Y llyfr arall fy mod i wedi cwblhau darllen yw The Phenomenon of Welshness gan Siôn Jobbins, sy'n gasgliad o erthyglau o'r cylchgrawn The Cambrian. Maen nhw'n ddigon diddorol, ond yr oeddwn i'n anghytuno yn llwyr efo asesiad adain dde braidd o'r maes economaidd le mae'r awdur yn mynnu bod y dyfodol yn Conservative. Twt lol.
Ar hyn o bryd mae gen i 3 o lyfr ar y gweill, sef Kate: cofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd, Atsain y Tonnau gan John Gwynne a'r llyfr diweddaf gan Mihangel Morgan sef Kate Roberts a'r Ystlum. Mi wna i adrodd yn ôl am rheiny nes ymlaen yn y flwyddyn.