Monday 2 June 2008

Crwydro Caer 31-5-08

Mi aethon ni, y wraig a fi, draw i Tarporley dros y penwythnos i weld fy rhieni, ac i helpu nhw gyda phrosiect ar eu cyfrifiadur nhw, diolch byth roedd hi’n jobyn byr, felly cawson ni’r cyfle i dreulio’r prynhawn yng Nghaer.
Mi ges i fy magu yn Swydd Caer mewn pentref o’r enw Tarvin. Mae’r gair yn dod o’r Gymraeg mae’n debyg sef y gair ‘terfyn’, mae Tarvin yn sefyll dim yn bell o afon o’r enw ‘Gowy’ sy’n debyg iawn i enw'r anfon Gwy yng Nghymru. Mae’na sawl enw arall yn Swydd Caer fel y pentre’ o’r enw Bryn ger Northwich.
Fan hyn yn Swydd Derby mae’na ddigon o enwau sy’n tarddu o’r Gymraeg. Afonydd fel y Derwent, y Dove, y Wye. Hefyd pentrefi fel Crich a Pentrich, mae’na fryn lleol o’r enw ‘the Chevin’ ond eto i gyd mae’r enw yn dod o’r gair Cymraeg sef y gair Cefn.
Mae’na sawl llyfr perthnasol sy’n adrodd yr hanes yma. Geiriadur Enwau Lleoedd Prifysgol Rhydychen yw un, llyfr da arall yw ‘English Places Celtic Voices’ sy’n rhestr 2000 o enwau lle o dras Cymraeg y tu allan i Gymru o fewn y DU. Efallai mai nifer fawr o’r Saeson mewn gwirionedd yw Cymry sy wedi colli’r Iaith 1300 o flwyddnod yn ôl.
Beth bynnag erbyn dau o’r gloch prynhawn dydd Sadwrn roedd Marilyn a finnau yn crwydro strydoedd Caer. Son am brynhawn braf, roedd yr haul wedi tynnu cannoedd o bobl allan. Rhaid i mi ddweud bod cymeriad Caer wedi newid yn fawr ers i mi fynd yno fel bachgen Ysgol yn y saithdegau. Pryd hynny does dim parth di-draffig yng nghanol y dre, ac roedd y bysiau a cherbydau yn mynd ar hyd strydoedd le rŵan dim ond torfeydd o bobl yn hel y bargain diweddaraf.
Pan o’n i’n ifanc doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r Gymraeg, bellach ambell waith dw i’n clywed Cymry yn y ddinas. Dydd Sadwrn roedd ‘na chryn dipyn o ymwelwyr ac roedd dau ddyn yn gwisgo arfwisg Rufeinig, fel dau o filwyr Macsen Wledig sy wedi cael eu gadael ar ôl!
Mi aethon ni i mewn i’r eglwys gadeiriol, i’r Caffi am baned, ac wedyn am dro ar hyd muriau’r dre i siop llyfr le mae’na adran llyfrau Cymraeg a Chymreig ail law. Mi brynais i gopi o hen lyfr sy’n son am hanes bro Maelor. Yn ddiweddar dw i wedi cael anrheg o hen lawlyfr am ddysgu Cymraeg oddi wrth ffrind sy’n gwneud gwaith printiedig efo hen beiriant argraffu llythyr plwm. Gwelir llun yma o’r llyfr, pryd, tybed, cafodd y llyfr ei argraffu?
Wedyn mi aethon draw i dafarn i weld llun arbennig mewn tafarn sy’n dangos Brenin Edgar yn derbyn gwrogaeth oddi wrth wyth o dywysogion Cymreig. Mae’r perthynas rhwng y Cymry a thrigolion dinas Caer yn well y dyddiau yma, does neb bellach yn bygwth saethu’r Cymry efo bwa a saeth os ydyn nhw’n cael eu dal o fewn muriau’r dre ar ôl machlud y haul!

No comments: