Thursday, 26 June 2008

Siarad Cymraeg, teithio a Dawnswyr Gwerin

Unwaith eto yr ydw i wedi bod yn brysur. Yr ydw i wedi cael hwyl yn defnyddio meddalwedd Skype i siarad â phobl dros y we. Ar hyn o bryd yr ydw i'n gallu cynnal sgwrs efo Viv yn Nottingham a Peggi yn Abertawe trwy'r Gymraeg. Hefyd yr ydw i'n siarad yn achlysurol efo ffrind Joe yn Alaska. Hoffwn gysylltu â rhagor o bobl sy eisiau siarad Cymraeg trwy defnyddio meddalwedd Skype. (Gwelir http://www.skype.com/intl/en/download/skype/windows/)
Ar fore dydd Mawrth es i draw i gyfarfod y grŵp Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Yr wythnos yma wnaeth yr aelodau trafod beth roedden nhw wedi gwneud dros yr wythnos gynt, wedyn chwarae gem Scrabble yn y Gymraeg a chael paned o de neu goffi.
Roedd digon o amser ar ôl i wneud dau glip fideo. Y cyntaf efo Dr Siriol Colley, y llall efo Allan Child. Gwelir clipiau islaw. Wnaeth pawb mwynhau’r fore. Yn anffodus does dim cyfarfod eto tan Fis Medi.
Ar bnawn dydd Mawrth es i draw i Tarporley i weld fy rhieni, ac wedyn ar fore ddydd Mercher es i draw i Gymru ar gyfer gyfarfod yn Llanrwst cyn dod yn ôl i Belper mewn ychydig dros dair awr a hanner.
Roeddwn blinedig iawn, ond roedd fy ngwraig a ffrind eisiau mynd allan i Glwb Dawnswyr lleol ble mae pobl yn chwarae offerynnau hynafol fel 'Hurdy-Gurdy' ac yn gwneud dawnsfeydd Ffrengig a Llydewig. Yn 2006 roedd grŵp o ddawnswyr o Lydaw yng Nghaernarfon pan o’n i'n teithio i Harlech. Roedden nhw braidd yn swnllyd ond yn wych.
Yr ydw i heb wneud llawer yn yr ardd, mae angen torri’r glaswellt. Hefyd dydy'r llysiau dim yn tyfu'n dda ar hyn o bryd. Diffyg gwres a gormod o wynt cryf yw'r broblem mae arna i ofyn

Dyma'r fideo Allan




Dyma'r fideo Siriol






Dyma'r fideo o'r Clwb Dawns Ochbrook






Dyma dau fideo o dawnswyr o Lydaw yng Nghaernarfon





Tuesday, 17 June 2008

Wythnos brysur iawn.
Yr ydw i wedi bod yn brysur yn gweithio yn yr ardd dros yr wythnos ddiweddar. Yr ydw i wedi plannu Corn Indiad, Courgettes, Ffa Dringo, Ffa Ffrengig, Pumkins, Cennin. Ar ben hynny yr ydw i wedi torri'r perthi, ac wedi torri'r lawnt. Er gwaetha hynny yr ydw i wedi cael digon o amser i fynd i ddigwyddiad ail-greu hanes yn Amgueddfa Genedlaethol Tramiau, Crich , Swydd Derby. Roedd digwyddiad o'r enw'r Blynyddoedd Jazz yn digwydd yno. Roedd criw bach o ffrindiau fi, sef Y Columna, (gwelir safle we http://www.lacolumna.org.uk/ ) yn ail greu golygfeydd o'r Strike Cyffredinol, a'r Frigâd Ryngwladol a'r Rhyfel Cartref Sbaen 1936-1939.
Heddiw yr ydw i wedi cwrdd ag Elin Merriman, athrawes y dosbarth Cymraeg WEA yn Belper i wneud cyfweliad ar gyfer y blog yma. Mae Elin yn dod o Swydd Derby. Mae ei theulu hi'n dod o Gymry yn wreiddiol ond cafodd Elin ei magu yn Milford. Mae ei thad hi yn Gymro di-gymraeg, felly cafodd hi mo'r cyfle i ddysgu'r iaith pan oedd hi'n tyfu. Felly pan oedd hi'n 18, aeth hi i Lanbedr i ddysgu'r iaith Gymraeg ac wedyn i Aberystwyth er mwyn gwneud gradd Cymraeg. Mae Elin hefyd yn helpu'r Ysgol Undydd Cymraeg Derby sy'n digwydd bob Mis Medi. Dyma llun o Elin yn arwain y dosbarth i ddechreuwyr yn Ysgol Undydd Derby 2006. Mae hanes Elin yn diddorol tu hwnt, gwelir fideo yma.





Saturday, 7 June 2008

Cwffio'r Cyfrifiadur

Wel mi ges i dipyn o hwyl dros y penwythnos diweddar. Mi wnes i weld ffrindiau yn ardal Bradford ar ddydd Llun. Ar fore dydd Mawrth mi es i i gyfarfod Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby sy'n cael ei gynnal yn Nhy Cwrdd y Crynwyr yng nghanol Derby dim yn bell o'r Eglwys Gadeiriol Derby. (gwelir http://www.derbywelshlearnerscircle.fusiveweb.co.uk/ ). Roedd dim ond pump ohonon ni yno'r wythnos yma. Mae'r grŵp wedi bod yn darllen Te yn y Grug gan Kate Roberts. Mae hi'n dipyn o her i'r grŵp gan fod y grŵp wedi dysgu iaith y de pan oedden nhw yn Nosbarth WEA Delyth Neill.Ar ddydd Iau roeddwn i'n dysgu sut i'w roi lluniau fideo ar fy mlog. Felly pan o'n i'n gweld aelodau o'r Gymdeithas Cymry Nottingham mewn Bore Coffi Cymraeg ar fore dydd Gwener ro’n i'n barod i ffilmio'r rhai oedd yno. Mae'r cwbl ar gael i'w weld ar flog newydd o'r enw Cymry'r Canolbarth ( gwelir http://cymryycanolbarth.blogspot.com/ ) ond dyma fideo o Viv Harris,





y dysgwr brwd sy wedi dechrau'r Bore Coffi Cymraeg misol y llynedd
Ar un adeg roeddwn i'n arfer gweithio yng nghanol Nottingham yn rhedeg Clwb Swydd yng Nghapel yr Undodiaid. Roedd hi'n brofiad diddorol, ac yr oeddwn i'n cwrdd â phob math o bobl.Yfory mi fydd y wraig a finnau'n mynd i ymweld â Chronfa Dŵr Carsington, sy wastad yn hwyl. Mae 'na awyrgylch dda yno bob tro dan ni'n mynd efo bobl yn cerdded, canwio, hwylio ac yn mwynhau'r awyr iaich. Wel, dyna'r cwbl am rawn.

Monday, 2 June 2008

Crwydro Caer 31-5-08

Mi aethon ni, y wraig a fi, draw i Tarporley dros y penwythnos i weld fy rhieni, ac i helpu nhw gyda phrosiect ar eu cyfrifiadur nhw, diolch byth roedd hi’n jobyn byr, felly cawson ni’r cyfle i dreulio’r prynhawn yng Nghaer.
Mi ges i fy magu yn Swydd Caer mewn pentref o’r enw Tarvin. Mae’r gair yn dod o’r Gymraeg mae’n debyg sef y gair ‘terfyn’, mae Tarvin yn sefyll dim yn bell o afon o’r enw ‘Gowy’ sy’n debyg iawn i enw'r anfon Gwy yng Nghymru. Mae’na sawl enw arall yn Swydd Caer fel y pentre’ o’r enw Bryn ger Northwich.
Fan hyn yn Swydd Derby mae’na ddigon o enwau sy’n tarddu o’r Gymraeg. Afonydd fel y Derwent, y Dove, y Wye. Hefyd pentrefi fel Crich a Pentrich, mae’na fryn lleol o’r enw ‘the Chevin’ ond eto i gyd mae’r enw yn dod o’r gair Cymraeg sef y gair Cefn.
Mae’na sawl llyfr perthnasol sy’n adrodd yr hanes yma. Geiriadur Enwau Lleoedd Prifysgol Rhydychen yw un, llyfr da arall yw ‘English Places Celtic Voices’ sy’n rhestr 2000 o enwau lle o dras Cymraeg y tu allan i Gymru o fewn y DU. Efallai mai nifer fawr o’r Saeson mewn gwirionedd yw Cymry sy wedi colli’r Iaith 1300 o flwyddnod yn ôl.
Beth bynnag erbyn dau o’r gloch prynhawn dydd Sadwrn roedd Marilyn a finnau yn crwydro strydoedd Caer. Son am brynhawn braf, roedd yr haul wedi tynnu cannoedd o bobl allan. Rhaid i mi ddweud bod cymeriad Caer wedi newid yn fawr ers i mi fynd yno fel bachgen Ysgol yn y saithdegau. Pryd hynny does dim parth di-draffig yng nghanol y dre, ac roedd y bysiau a cherbydau yn mynd ar hyd strydoedd le rŵan dim ond torfeydd o bobl yn hel y bargain diweddaraf.
Pan o’n i’n ifanc doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r Gymraeg, bellach ambell waith dw i’n clywed Cymry yn y ddinas. Dydd Sadwrn roedd ‘na chryn dipyn o ymwelwyr ac roedd dau ddyn yn gwisgo arfwisg Rufeinig, fel dau o filwyr Macsen Wledig sy wedi cael eu gadael ar ôl!
Mi aethon ni i mewn i’r eglwys gadeiriol, i’r Caffi am baned, ac wedyn am dro ar hyd muriau’r dre i siop llyfr le mae’na adran llyfrau Cymraeg a Chymreig ail law. Mi brynais i gopi o hen lyfr sy’n son am hanes bro Maelor. Yn ddiweddar dw i wedi cael anrheg o hen lawlyfr am ddysgu Cymraeg oddi wrth ffrind sy’n gwneud gwaith printiedig efo hen beiriant argraffu llythyr plwm. Gwelir llun yma o’r llyfr, pryd, tybed, cafodd y llyfr ei argraffu?
Wedyn mi aethon draw i dafarn i weld llun arbennig mewn tafarn sy’n dangos Brenin Edgar yn derbyn gwrogaeth oddi wrth wyth o dywysogion Cymreig. Mae’r perthynas rhwng y Cymry a thrigolion dinas Caer yn well y dyddiau yma, does neb bellach yn bygwth saethu’r Cymry efo bwa a saeth os ydyn nhw’n cael eu dal o fewn muriau’r dre ar ôl machlud y haul!